English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Penmon - Ardal 4 Penmon ac Ynys Lannog


Croes y Transept Deheuol


Pentir a Chaim: Coed yr Hendy, rhan uchaf, ar y chwith; y Parc Ceirw/Noddfa, ar y dde


Teras Pen y Fron

Prif nodweddion a phrosesau'r dirwedd hanesyddol


. Tirwedd galchfaen o lethrau sgarp serth a therasau grisiog llydan yn gostwng i arfordir gogleddol Môr Iwerddon.
. Tirwedd fynachaidd o'r canol oesoedd cynnar yn cynnwys noddfa, croesau dynodi, eglwys hynafol a ffynnon sanctaidd.
. Mae eglwys Penmon yn bwysig oherwydd y croesau sydd wedi goroesi o'r 10fed ganrif a'r 11eg ganrif a'r dylanwadau eclectig yn eu cynllun; ac oherwydd yr addurniadau ar dwr yr eglwys sy'n dyddio o'r 12fed ganrif.
. Mae gan Ynys Seiriol/Ynys Lannog, sy'n gysylltiedig â Phenmon, eglwys o'r 12fed ganrif â chynllun tebyg i eglwys Seiriol Sant ar y tir mawr.
. Ategir y cyd-destun morol gan y goleudy o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, yr Orsaf Delegraff ar yr ynys, a bythynnod y peilotiaid.

Mae'r ardal gymeriad hon yn cynrychioli estyniad dwyreiniol y gefnen galchfaen ogleddol. Y môr yw ei therfynau ar yr ochrau gogleddol, dwyreiniol a deheuol. Diffinnir y terfyn gorllewinol, sy'n torri ar draws gwddf y pentir, gan geunant Coed yr Hendy yng nghwr gogleddol a gorllewinol pentrefi Caim a Phentir, yn troi am Drwyn y Pentir yn y de, ar derfyn trefgordd hynafol Trecastell. Diffinnir topograffeg yr ardal gymeriad gan gyfres o sgarpiau calchfaen sy'n ymestyn fel cefnennau gwastad i'r Trwyn Du. Mae wyneb y sgarp ar yr ochr ddeheuol; mae'r cefnennau'n disgyn yn raddol tua'r môr yn y gogledd.

Hanes
Mae Penmon yn drefgordd eglwysig neu fynachaidd hynafol ac mae ei natur wedi diffinio'i gymeriad dros gannoedd o flynyddoedd.

Cynrychiolir y dystiolaeth gynharaf o weithgaredd dynol ar y pentir gan arfau fflint, yn y Parc Ceirw i'r gogledd o'r eglwys ac ar y pentir, ger bythynnod y peilotiaid (PRN 5073; 2568; 18399). Honnir bod caer bentir yn Nhrwyn Du ond nid oes tystiolaeth wedi goroesi. Mae nifer o aneddiadau cylchoedd cytiau a chloddiau caeau creiriol o'r Oes Haearn a'r cyfnod Brythonig-Rufeinig ar hyd pwyntiau uchel y gefnen o Dyddyn Rheinallt i Dinmor a Thrwyn Du a chanfuwyd crochenwaith Brythonig-Rufeinig 250 m i'r gorllewin o Dyddyn Rheinallt, ym mhentref Pentir. Cofnodwyd mwy o aneddiadau cylchoedd cytiau a therfynau caeau cynnar ar dir isel, gwlyb ger Trwyn y Penrhyn ac ar y tir uwch ger Pen y Fron (PRN 2544; 2555; 2551; 2563; 2564; 2565; 2588; a 7360 (crochenwaith).

Mae gwreiddiau cynnar yr eglwys ym Mhenmon yn aneglur. Er hynny, mae Penmon yn un o'r ychydig eglwysi yng ngogledd-orllewin Cymru sydd â thystiolaeth ddiriaethol, yn hytrach na dogfennol, o'i phresenoldeb yn ystod canrifoedd y canol oesoedd cynnar. Roedd gan Benmon gysylltiad maith ag ail sefydliad eglwysig ar Ynys Lannog, 750 m o'r tir mawr, i'r gogledd-ddwyrain; i'r fath raddau fel y gallai tir a roddwyd i'r eglwys ar ddechrau'r 13eg ganrif gyfeirio at abadaeth Penmon a chanonau Ynys Lannog, yn ddiwahân mae'n debyg. Ynys Lannog oedd yr enw a ddefnyddid amlaf ar gyfer yr ynys, yn hytrach nag Ynys Seiriol (neu Priestholm), tan ar ôl y goncwest.

Cyfeirir at Ynys Lannog cyn gynhared â'r 630au pan mae Blwyddnodion Cymru'n cofnodi gwarchae ar yr ynys gan Edwin, Brenin Northumbria. Roedd Cadwallon Brenin Gwynedd wedi ceisio lloches yno ac mae'n bosibl mai noddfa sefydliad mynachaidd a oedd yn bodoli'n barod oedd yn diogelu Cadwallon, yn hytrach na photensial amddiffynnol yr ynys ei hun. Awgrymwyd gan rai y gallai bodolaeth ffynnon sanctaidd, yn agos at yr eglwys ar y tir mawr, fod wedi dylanwadu ar ei sefydliad. Mae hyn yn bosibl. Fodd bynnag, ni ellir cefnogi'r adeiledd, yr arweiniodd ei sefydliad at yr awgrym bod cylch cytiau caerog hynafol gerllaw. Os bu to drosti ar ryw adeg, mae'n fwy na thebyg bod y sylfeini'n gydran sy'n deillio o'r 18fed ganrif o gyfadeiladau'r ffynnon.

Ceir tystiolaeth fwy pendant o fodolaeth gynnar yr eglwys ar y tir mawr yng ngoroesiad dwy groes addurnedig eithriadol o bwysig a'r cofnod o un arall, os nad dwy efallai, sydd wedi eu colli erbyn heddiw.

Mae'r ddwy groes sydd wedi goroesi yn dyddio o'r 10fed ganrif neu'r 11eg ganrif ac maent yn yr eglwys heddiw. Yn wreiddiol, fodd bynnag, roeddent yn yr awyr agored. Roedd y groes y cyfeirir ati fel croes y Parc Ceirw (neu Groes Sant Antwn) yn sefyll yn uchel ar y gefnen, 420 m i'r gorllewin o'r eglwys, yn agos at wal Parc Ceirw helaeth Syr Richard Bulkeley, a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar dir yr hen briordy. Mae'n debygol iawn bod wal y parc wedi ei hadeiladu ar linell noddfa hynafol Penmon. Roedd lleoliad y groes ar un adeg yn dangos y ffordd i'r noddfa, mewn man mynediad pwysig o gnewyllyn aneddiadau y tu allan i'r ffin. Safai'r groes, sydd bellach yn nhransept deheuol yr eglwys, neu un debyg iawn iddi, a gofnodwyd gan Edward Lhuyd, ar esgair ychydig yn uwch o dir mewn cae y cyfeirir ato yn ddiweddarach fel Cae'r Groes, yn nhenement Bryn Mawr, ac roedd hefyd yn nodi ffin ac, mae'n debygol iawn, yn dangos terfynau cynnar yr abadaeth. Mae'r abadaeth yn cynrychioli eiddo tiriog cymuned sy'n gwasanaethu ac yn cynnal yr eglwys a'i seilwaith. Mae'r terfyn dan sylw'n cyd-daro â chyffordd Penmon a threfgorddau Llangoed a Threcastell.

Y 'Clas'
Roedd Penmon yn gymuned 'glas' neu led-fynachaidd. Gallai sefydliadau o'r fath ddod i fodolaeth mewn nifer o ffyrdd. Un ffordd fyddai drwy drosglwyddo tir cymuned rydd-ddaliadol tuag at adeiladu a chynnal eglwys. Ffordd arall fyddai drwy dir a roddid gan y brenin neu arglwydd arall a allai sefydlu aelod iau o'r ty brenhinol neu berthynas fel clerigwr mewn bywoliaeth. Ni fyddai pob aelod o gymuned glas yn glerigwr, ac nid oedd angen mwy nag un offeiriad i fyw yno. Byddai pennaeth y gymuned yn cael ei ystyried yn Abad. Idwal, mab Gruffudd ap Cynan y brenin, oedd Abad Penmon yn y 12fed ganrif a rhaid i ni gymryd yn ganiataol bod yr eglwys yn cael ei chefnogi gan grantiau brenhinol.

Yn ystod y 12fed ganrif, ailadeiladwyd eglwys Seiriol Sant ym Mhenmon â cherrig ac addurnwyd hi â rhai o'r addurniadau Romanésg harddaf yn nheyrnas Gwynedd. Roedd yr eglwys yn y 12fed ganrif yn cynnwys cangell yn y dwyrain (a ddisodlwyd ar nifer o leoliadau diweddarach) twr sgwâr canolog sy'n codi uwchben canol yr eglwys a'r transpetau, canol yr eglwys, a adeiladwyd ynghlwm wrth y twr, a thranseptau sy'n pwyso ar gorneli canol yr eglwys, yn hytrach na'r twr.

Y nodwedd fwyaf addurniadol yw'r bwa uchel sy'n caniatáu mynediad o ganol yr eglwys i'r twr. Roedd yr agoriadau o'r twr i'r transeptau hefyd wedi eu haddurno ond mae'r agoriad i'r gangell yn blaen. Ailadeiladwyd y transept gogleddol ym 1853. Mae arcêd ffug ar ddwy wal yn y transept deheuol. Mae'r cyfansoddiad cyfan yn awgrymu ailddyluniad o'r gofod litwrgïaidd. Cadarnheir yr awgrym hwn gan gamlinelliad bychan yn y canol a'r twr, y twr anghymesur o gul o'i gymharu â'r canol a'r transeptau, y dilyniant adeiladu anarferol a diffyg addurniadau ar fwa'r gangell. Mae'n bosibl bod eglwys gerrig gynharach yn sefyll ar safle'r gangell bresennol a bod y twr wedi ei ychwanegu yn gyntaf yn y pen gorllewinol. Ceir rhagor o gefnogaeth i'r ddamcaniaeth hon yn yr hyn sy'n ymddangos fel tympanwm addurnedig mewnosodedig, yn hytrach na gwreiddiol, uwchben drws deheuol canol presennol yr eglwys.

Mae gan yr eglwys ar Ynys Lannog hefyd dwr o'r 12fed ganrif, a dilyniant adeiladu a allai fod yn ddigon tebyg i'r dilyniant adeiladu ar y tir mawr.

Diwygio
Yn ystod y 12fed ganrif a'r 13eg ganrif datblygodd mudiad diwygiadau mynachaidd drwy Gymru a Lloegr. Yn nheyrnas Gwynedd, ystyrid bod yr hen gymunedau clas a'u sefydliadau, a oedd yn cynnwys budd etifeddadwy yn asedau'r clas, yn hen-ffasiwn ac yn anghysain â'r urddau mynachaidd Ewropeaidd newydd a oedd wedi dechrau cael eu sefydlu. Arweiniodd y datrysiad, a oedd yn cael ei gefnogi gan y brenin, at sefydlu cymuned o ganonau Awstinaidd yn lle'r clas ym Mhenmon. Ategwyd y trefniant newydd drwy dir a ganiatawyd a thrwy raglen hynod o waith adeiladu newydd. Roedd hyn yn cynnwys adeiladu cangell, fwy na'r canol presennol, rhes debygol yn ymestyn i'r de o'r transept deheuol ac, efallai, addasu ty'r prior. Y gydran fwyaf trawiadol i'r llygad oedd bloc ffreutur a hundy ar yr ochr ddeheuol, yn diffinio gofod clwystrol rhwng y ffreutur a'r gangell.

 

 

Yn ystod diwedd y 15fed ganrif neu ddechrau'r 16eg ganrif, ychwanegwyd bloc ty twymo at ben dwyreiniol y ffreutur, a thua'r un adeg ailadeiladwyd y gangell a chodwyd to'r canol, ac mae'n bosibl mai dyma pryd yr adeiladwyd y priordy presennol. O fewn cenhedlaeth, fodd bynnag, atafaelwyd tiroedd ac adeiladau Priordy Penmon, a phob mynachdy arall yng Nghymru a Lloegr, a darostyngwyd y sefydliad.

Pan ddarostyngwyd y sefydliad, rhoddwyd y tir a oedd ar gael ar brydles. Roedd Syr Richard Bulkeley yn awyddus i gael y brydles ond ni chafodd hi ar unwaith. Rhoddwyd hi i Richard Starkey, aelod o'r brenhindy, yna i John Dudley, Iarll Warwick ac, ar rifersiwn, i John Moore. Y flwyddyn ganlynol, 1565, roedd tir ac adeiladau Penmon yn nwylo'r teulu Bulkeley, gan gynnwys yr ynys. Parhaodd yr eglwys yn eithriad a daliodd i wasanaethu'r gymuned fel eglwys y plwyf. Mae'n debyg mai'r trydydd Syr Richard Bulkeley a adeiladodd y colomendy, i'r dwyrain o'r cyfadeiladau, ac a wnaeth addasiadau i dy'r prior, gan gynnwys yr ail gorn simnai gogleddol ar wal gefn y ty. Yn ddiweddarach, cynlluniwyd y Parc Ceirw ac adeiladwyd y waliau dros ran helaeth iawn o ddaliad Penmon.

Aneddiadau
Ym 1374 arolygwyd priordy Ynys Lannog ('Priory of Priestholme') er mwyn asesu gwerth ei eiddo bydol. Nodir dau bentrefan, sef Pentere (Pentir) a Llane.

Ym Mhentir roedd tair gafael yn ymestyn dros bedwar carwgad o dir âr (tua 240 acer), yn ogystal ag unrhyw ddolydd neu dir pori y gallent fod â mynediad iddo. Roedd dwy afael mewn lle o'r enw Llanne. Ni wyddom i sicrwydd lle'r oedd y pentrefan neu'r lleoliad hwn. Efallai ei fod yn Lleiniau Gwynion, i'r de-orllewin o Bentir. Gafaelion Llanne yw Gafael Wion ap Elidir a Gafael Hwfa ap Philip. Ceir chwe gafael arall hefyd, ac ni wyddom ddim am eu lleoliad ac eithrio eu bod yn y drefgordd. Y daliadau hyn yw: Gafael Arthen; Gafael Gronw ap Purwyn; Gafael Madog Hen; Gafael Wion Goch a Gafael David ap Madog ap David; Gwely Ieuan Lace; Gwely Meilir ap David a hanner Gwely Cynddelw.

Roedd y prif ardaloedd anheddu, nifer o dyddynnod tenantiaid, i'r gorllewin o'r Priordy, rhwng llinell wal y Parc Ceirw diweddarach (a therfyn posibl noddfa) a therfyn y drefgordd i'r gorllewin, sy'n cyfateb, fwy neu lai i derfyn diweddarach y plwyf eglwysig.

Gellir adnabod pentrefan Pentir yn rhwydd. Mae'n uchel ar y gefnen galchfaen, lle mae'r tir yn gostwng yn raddol i gyfeiriad llethr ogleddol y pentir, gyda wal y Parc Ceirw tua'r dwyrain a dyffryn dwfn y nant, a adwaenid yn yr 16eg ganrif fel Nant Gwion, tua'r gorllewin, yn arwain o Gaim i arfordir y gogledd ac yn rhedeg drwy'r ardal sy'n cael ei hadnabod heddiw fel Coed yr Hendy. Cofnodir eiddo ym Mhentir cyn gynhared â 1415 pan ofynnodd Gwenllian, ferch Angharad, ferch Madog a'i mab, Hywel, am gydsyniad Thomas Trentham y Prior, i drafodiad. Gwnaethpwyd llawer o drafodion eiddo ym Mhentir yn ystod yr 16eg ganrif. Ym 1583 disgrifir Pentir Isaf rhwng tiroedd Hugh ap John ap William a wal gerrig ac ardal magu ysgyfarnogod Penmon (y Parc Ceirw yn ddiweddarach).

Roedd y teulu Bulkeley yn ymwneud cryn dipyn â thrafodion tir yn ystod yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif ac erbyn y 18fed ganrif roeddent yn dal y rhan fwyaf o'r eiddo yn nhrefgordd Penmon. Mae'n debygol iawn bod y patrwm anheddu a fapiwyd yn y 1770au ac, na ellir ei olrhain mor glir drwy weithredoedd a throsglwyddiadau'r 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, yn cynrychioli'r ardaloedd anheddu canoloesol o ddifrif. Yr ardaloedd craidd, â'u henwau modern, yw Pentir, Caim, pentref Penmon a Bryn Mawr, ac mae ffiniau'r anheddiad yn cyrraedd at y Parc Ceirw neu'r noddfa debygol yn y dwyrain a therfyn y plwyf neu'r drefgordd yn y gorllewin. Nid yw'n debygol iawn bod y prif lwybrau a'r pwyntiau mynediad i'r eglwys ar hyd y ffordd bresennol ar hyd yr arfordir. Maent yn fwy tebygol o gael eu cynrychioli gan y lonydd troellog cul i'r dwyrain o Langoed ac o Landdona. Mae'r isaf o ddau lwybr o Langoed yn mynd o amgylch gwaelod y sgarp calchfaen ac roedd y groes a oedd yn sefyll ar ei phen ei hun yng Nghae'r Groes, Bryn Mawr yn gweithredu fel arwyddbost. Mae'r ffordd uchaf o Landdona yn mynd drwy Caim, ym mhen Nant Gwion/Coed yr Hendy, gan fynd i'r Parc Ceirw yn Nhyddyn Rheinallt. Yma mae'r trac ar draws y Parc Ceirw'n mynd heibio safle croes arall a oedd yn sefyll ar ei phen ei hun, sef croes Sant Antwn.

Y Demên
Defnyddid y demen hefyd. Cofnodir tenantiaid caeth, sef Ieuan Chwith, meibion David Gwta a meibion Gwassanffraid, a gallent fod yn weithwyr ystâd ar ddemên y Prior er nad oes cyfeiriad penodol at y tiroedd demên yn yr arolwg. Roedd yr ardal o fewn waliau diweddarach y Parc Ceirw'n ymestyn dros 400 o 700 acer y drefgordd. Mae cydrannau o'r demên, a gofnodwyd ym 1534 gan arolygwyr Harri'r VIII, yn cynnwys Maes y Neuadd (Maes Ynyeth), magl bysgod (gurgitum), porfa neu fesobr o un goedwig, llain o dir o'r enw Maes y Borth, llain o'r enw y Ddôl (Ytholl), dôl, a thiroedd ac asedau eraill y tu allan i'r drefgordd. Mae'n debyg bod y Ddôl i'r de-ddwyrain o'r eglwys. Cofnodir dau ddarn o dir dan yr enw 'Dol Deer Park' yn atodlen degwm y 1840au ar gyfer Penmon. Nid yw'r map cysylltiedig, fodd bynnag, yn cynnwys manylion o fewn y Parc. Cyfeirir at Barc Pentir, Parc Dinmor, Parc Trwyn Du a Pharc Ceirw ('Deer' Park) hefyd ar yr atodlen, gan adael y caeau i'r de-ddwyrain o'r eglwys fel y lleoliad tebygol. Mae'n debyg bod Maes y Borth yn union i'r de o'r eglwys, uwchben bae Porth Penmon. Mae'r fagl bysgod (Lladin: gurgitum; Cymraeg: gorad) ychydig i'r de-orllewin o'r Trwyn Du, yn union yn ymyl llithrfa gorsaf y bad achub heddiw. Mae dwy fagl ochr yn ochr ac mae'n bosibl bod trydedd fagl ychydig i'r de, ger hen lanfa chwarel Flagstaff. Roedd gan y prior hefyd dir âr, gwartheg, defaid a chrwyn cwningod a mêl gan wenyn.

Mae Pentir a Chaim, ar y gefnen, yn dal yn aneddiadau gwasgaredig yn yr unfed ganrif ar hugain a phrin bod dim wedi aflonyddu ar y parth anheddu traddodiadol a oedd yn bodoli yn y canol oesoedd diweddar. Ceir rhesi o dai teras deulawr, sef Pen y Fron Terrace, o ddiwedd y 19eg ganrif, a Coedwig Terrace, o ddechrau'r 20fed ganrif, ar gwr y sgarp, adeilad Ysgol Genedlaethol islaw Bryn Mawr a rhes fechan o'r 20fed ganrif ger yr ysgol a nifer o glystyrau bach o dai o'r 20fed ganrif ar y tir is ger Trwyn y Penrhyn.

Cymeriad Hanesyddol y Dirwedd
Mae hon yn dirwedd galchfaen â llethrau sgarp serth, mewn terasau o frigiadau calchfaen tua'r de a llethrau sy'n disgyn yn raddol tua'r gogledd. O ran golwg, gellir rhannu'r dirwedd yn dair ardal. Tua'r Trwyn Du, i gyfeiriad y dwyrain, mae parth o brysg heb ei drin ag ardaloedd helaeth o chwareli calch, yn Ninmor tua'r gogledd a chwarel Flagstaff tua'r de. Terfyn y rhan ganol yw wal Parc Ceirw Syr Richard Bulkeley, sy'n ymestyn o'r gogledd i'r de, lle ceir glaswelltir pori heb lawer o derfynau artiffisial. I'r gorllewin mae parth o aneddiadau gyda chaeau petryal yma ac acw â gwrychoedd, ffensys a waliau cerrig o'u cwmpas.

Mae eglwys Penmon yn bwysig gan ei bod yn un o'r ychydig eglwysi yng ngogledd-orllewin Cymru sydd â thystiolaeth uniongyrchol a sylweddol o wreiddiau cynnar. Ym Mhenmon hefyd mae potensial ar gyfer deall tirwedd fynachaidd cymuned glas sy'n cynnwys nid yn unig yr eglwys ond y diffiniad o derfyn y noddfa a'r croesau sy'n arwyddbyst iddi; a chysylltiad craidd eglwysig y clas â chymuned y tenantiaid.

Wrth edrych ar yr eglwys, mae'n bosibl gweld, yn yr adeiledd sydd wedi goroesi, y newidiadau amrywiol sydd wedi digwydd, nid yn unig o ran pensaernïaeth ond hefyd o ran y newid o glas yn y canol oesoedd cynnar i Briordy Awstinaidd ac ar ôl darostwng y gymuned yn yr 16eg ganrif i ddatblygiad a chyfosodiad cynllun ystâd. Mae ei nodweddion adeileddol i'w gweld yn y colomendy mawr ac yn waliau helaeth y Parc Ceirw.

Mae'n debyg mai eglwys Penmon sydd â'r enghreifftiau pwysicaf o bensaernïaeth ac addurniadau Romanésg o'r 12fed ganrif yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae yno hefyd groesau pwysig iawn o'r 10fed/11eg ganrif. Mae'r croesau'n arwyddocaol nid yn unig oherwydd ansawdd esthetig y deunydd ond hefyd oherwydd y cynlluniau eclectig sy'n dwyn ynghyd y dylanwadau amrywiol o wahanol rannau o arfordir môr Iwerddon

Ym mhen dwyreiniol Penmon mae'r goleudy rhwng y Trwyn ac Ynys Lannog yn rhoi cymeriad ac yn ein hatgoffa o leoliad Penmon ar arfordir Môr Iwerddon. Mae bythynnod y peilotiaid o ddechrau'r 19eg ganrif hefyd yn cadarnhau'r cysylltiad â'r môr, ynghyd â'r Orsaf Delegraff a adeiladwyd o frics ym mhen gogledd-ddwyreiniol Ynys Lannog ac a ddefnyddiwyd o 1841 hyd y 1860au fel llwyfan yn y system Delegraff rhwng Caergybi a Lerpwl.

 

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Penmon

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol