Roedd Goronwy, mab
Ednyfed Fychan, yn dal Trecastell, Penmynydd ac Erddreiniog, a
oedd i gyd yng nghwmwd Dindaethwy, yn y 13eg ganrif. Bu ei wyr,
Goronwy ap Tudur, hefyd yn dal y trefgorddau hynny, ynghyd â threfgordd
Tregaian. Trosglwyddwyd y rhain i Tudur Fychan, y tybir iddo gadw
Trecastell fel ei brif drigfa, a dilynwyd ef gan Ednyfed Fychan
ap Tudur yn niwedd y 14eg ganrif. Priododd merch Ednyfed, Angharad,
aeres Trecastell, ag Ieuan ap Adda ap Iorwerth Du o Bengwern yn
niwedd y 14eg ganrif, a phriododd eu mab hwy, Ieuan Fychan, â merch
arall o'r enw Angharad, sef merch Hywel ap Tudur. Daeth yr Angharad
hon, a oedd yn aeres Mostyn, â Threcastell i frenhinlin Mostyn
yn hanner cyntaf y 15fed ganrif.
Saif ffermdy Trecastell yn agos at y draethlin,
i gyfeiriad pen deheuol yr ardal gymeriad. Ailadeiladwyd y ty
yn ddiweddarach ond mae lle tân bwa pantiog o'r 16eg ganrif wedi
goroesi.
Safai castell Aberlleiniog yr ochr arall i geunant
Lleiniog, 3.2km i'r gogledd o Fiwmares. Roedd y gwrthglawdd yn
560 oed ar ddechrau'r rhyfel cartref, ond roedd ganddo ran i'w
chwarae o hyd. Ni wyddom i sicrwydd faint yw oed y waliau cerrig
a'r tyrau cornel crwn ond mae'n debyg eu bod yn bodoli erbyn
yr 16eg ganrif pan benderfynodd Thomas Cheadle atgyfnerthu'r
safle. Roedd Cheadle wedi dod yn ddirprwy gwnstabl Castell Biwmares,
y maer i bob pwrpas, a daeth yn siryf yn ddiweddarach, ym 1642.
Nid oedd yn boblogaidd ac roedd llawer o'r bobl leol yn credu
bod a wnelo'r hyn yr oedd yn ei wneud yn Aberlleiniog fwy â gwleidyddiaeth
leol nag amddiffyn yr ynys. Ymateb carfan Bulkeley oedd codi
gwrthgloddiau ar Bryn Britain ym mhen deheuol y dref, uwchben
yr harbwr. Roedd castell Biwmares ei hun yn bell o fod yn barod.
Tua diwedd y Rhyfel Cartref cyntaf, ymddengys
bod Cheadle wedi ymuno â'r Seneddwyr. Credai Pennant, gan ddyfynnu
llawysgrif Plas Gwyn, sydd ar goll erbyn heddiw, fod Syr Thomas
Cheadle, ym 1645-6, yn dal Aberlleiniog i'r Senedd. Roedd Caer
wedi ildio ac roedd y ffordd yn agored i ogledd Cymru. Ceisiodd
nifer o wyr blaenllaw yn yr ardal lunio telerau. Ym Mehefin 1649
daeth gwr o'r enw Capten Rich, ar y Rebecca i Ffordd Fryars,
gan ddod â gwyr ac arfau i'r lan liw nos, yn Lleiniog. Yr wythnos
ganlynol roedd Comisiynwyr Seneddol ym Miwmares i sicrhau telerau
ond synhwyrasant elyniaeth a dychwelasant i Dy'r Fonesig Cheadle
ac ymgasglu yno. Er hynny, daethpwyd i gytundeb yr un diwrnod.
Roedd gan y Cheadles nifer o dai ac roedd Lleiniog
yn un ohonynt. Yn niwedd yr 17eg ganrif, trosglwyddwyd Lleiniog
i William Bold o Dre'r Ddol drwy bryniant. Yn hanner cyntaf y
18fed ganrif roedd Lleiniog yn nwylo'r teulu Hughes, yn nwylo
Rowland Williams yn ddiweddarach, ac yn y 1780au, yn nwylo'r
Parch. Edward Hughes. Roedd Lleiniog yn ymestyn dros oddeutu
100 acer o dir a hi oedd â'r asesiad uchaf ar gyfer treth dir
yn yr ardal gymeriad hon. Dim ond Tros yr Afon a Threcastell
oedd yn dod yn agos ati. Bu'r Arglwydd Dinorben, mab y Parch.
Hughes, yn dal yr eiddo yn nechrau'r 19eg ganrif.
Roedd Tros yr Afon yn nwylo Rowland Hughes yn
nhrydydd chwarter y 18fed ganrif a daeth i feddiant Henry Paget,
Iarll Uxbridge, yn y 1780au.
Roedd Trecastell yn 167 o aceri ac roedd ei
asesiad Treth Dir rhwng 17s (ym 1752) a £1. 3. 0d. (ym 1789).
Roedd William Hughes yn dal yr eiddo yn y 1750au a daeth i feddiant
Richard Broadhead ym 1756. Richard Owen oedd y perchennog yn
y 1780au. Roedd Trecastell yn eiddo i Henry Williams ym 1847
pan luniwyd asesiad y Degwm.
Mae Trecastell yn edrych yn debyg i ffermdy
o'r 19eg o'r tu allan. Mae'r blaenolwg a'r cefnolwg o rwbel calchfaen
mewn bras gyrsiau â rhywfaint o gerrig grut. Mae adain ymestynnol
yn y cefn, yn y gornel dde-orllewinol. Mae'r blaenolwg deheuol,
sy'n cynnwys talcen deheuol y prif dy ac ochr ddeheuol yr adain,
wedi ei rendro â sment a thywod ac mae'r talcen gogleddol wedi
ei rendro'n rhannol. Blociau mawr wedi eu naddu yw'r conglfeini
gweladwy ar y prif dy. Mae'r ffasâd yn cynnwys drws canolog modern
â ffenestri sengl mawr bob ochr iddo. Mae tair ffenestr ar y
llawr cyntaf, wedi eu gosod yn gymesur uwchben agoriadau'r llawr
gwaelod. Blociau o feini bwa yw linteri'r drws a'r ffenestri;
blociau wedi eu sgwario yw'r ystlysbyst. Mae'r simneiau wedi
eu hadeiladu o fewn trwch y waliau pen ac mae'r cyrn hyn ychydig
yn warrog uwchben y talcen. Mae'r adain, fodd bynnag, yn cynnwys
corn sy'n ymestyn allan ar y wal ddeheuol ochrol, yn warrog ar
lefel y llawr cyntaf ac yn dalcennog wrth y bondo. Mae'r corn
yn parhau fel siafft hir a chul uwchben crib y to. Roedd y corn
ar un adeg yn gwasanaethu deilliad pedwar canolbwynt llydan neu,
yn fwy cywir, le tân bwa eliptigol o arddull yr 16eg ganrif.
Mae'r lle tân wedi goroesi ond mae wedi ei gau erbyn hyn. Ym
1810 gwelodd Colt Hoare fwy o'r hen dy: 'there are remains
of some little consequence in the arches of two fireplaces, very
similar to that of Gloddaeth... an inscription over one... now
quite obliterated' (Colt Hoare, 257).
Cymeriad Hanesyddol y Dirwedd
Mae tiroedd amaethyddol helaeth yn Nhrecastell a Lleiniog, a rhwng y
ddau ddaliad maent yn cynnwys y rhan fwyaf o'r ardal gymeriad. Mae'r
caeau'n fawr a gwrychoedd unionsyth yw'r rhan fwyaf o'r terfynau. Ar
diroedd Trecastell, i'r de, gadawyd i ambell goeden dyfu o'r gwrychoedd
a cheir ambell glwstwr o goed, yng nghyffiniau tai gan amlaf.
Mae patrwm tebyg o gaeau mawr â gwrychoedd syth
yn derfynau iddynt yn nodweddiadol o ddaliad Lleiniog. Gadawyd
i lawer o wrychoedd, llawer mwy nag yn Nhrecastell, dyfu'n wyllt
i ffurfio llwyni a choed dros ran helaeth o'r ardal. Mae ceunant
Lleiniog yn llwybr i nant sy'n llifo o'r gorllewin i'r dwyrain,
gan ymuno â'r môr ym mhen gogleddol Afon Menai. Mae ochrau serth
y ceunant wedi eu gorchuddio â choed a llwyni.
Mae'r castell tomen a beili ar ochr ogleddol
y ceunant yn nodwedd bwysig yn y dirwedd. Dyma'r unig amddiffynfa
Normanaidd ymwthiol adnabyddadwy ym Môn, wedi ei hadeiladu ar
adeg pan oedd y Normaniaid yn credu eu bod wedi sicrhau rheolaeth
yng Ngwynedd. Mae'r domen hefyd wedi bod yn ganolbwynt gweithgaredd
yn ystod y Rhyfel Cartref pan gafodd ei hatgyfnerthu a'i harfogi
i'r Senedd yn erbyn y Brenin, un o'r ychydig ddigwyddiadau yn
gysylltiedig â'r rhyfel a gyffyrddodd Ynys Môn.
Mae trefgordd ganoloesol Trecastell, y gellir
ei hystyried mae'n debyg fel yr ardal gymeriad yn ei chyfanrwydd,
gan gynnwys Lleiniog, yn lluniad pwysig ar adeg pan oedd Tywysogion
Gwynedd yn sefydlu gwladwriaeth ffiwdal gydlynol. Roedd Trecastell
yn nwylo'r brenin o'r adeg pan heliwyd y Normaniaid o Wynedd.
Rhoddwyd y drefgordd, ynghyd â nifer o drefgorddau eraill, i
ddisgynyddion Ednyfed Fychan, prif weinyddwr Llywelyn ap Iorwerth,
ar delerau eithriadol o rydd, i gydnabod gwasanaeth a roddwyd
yn y gorffennol, a gwasanaeth y disgwylid ei gael yn y dyfodol.
Roedd pysgodfeydd Afon Menai yn adnodd pwysig.
Ceir tystiolaeth o bysgota â rhwydi o gychod yn Afon Menai yn
yr 11eg ganrif. Mae'r lleoliad yn debygol o fod rhwng Penmon
a Threcastell. Yn fwy penodol, mae crynodiad eithriadol o faglau
pysgod mawr ar y draethlin i'r gogledd ac i'r de o all-lif afon
Lleiniog. Ni wyddom i sicrwydd beth oedd dyddiad y coredau hyn,
ond mae'n debyg eu bod yn tarddu o'r canol oesoedd. Ceir tystiolaeth
glir o waith atgyweirio ac adlinio.
Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Penmon |