English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Penmon - Ardal 2 Biwmares


Eglwys y Santes Fair


Stryd Wexham (yn wrieddiol Stryd Wrexham)

Prif nodweddion a phrosesau’r dirwedd hanesyddol

• Tref drawsblanedig wedi ei sefydlu wrth ymyl y castell. Mae amlinelliad datblygiad y dref yn amlwg ym mhatrwm ei strydoedd.
• Enghraifft glasurol o gastell consentrig a safle Treftadaeth y Byd, yr olaf o gestyll Edward I yng Ngogledd Cymru.
• Datblygiad tref fasnach fel bwrdeistref â nifer o adeiladau ag arwyddocâd hanesyddol neu bensaernïol o’r 15fed ganrif i’r 19eg ganrif.
• Lleoliad arfordirol, porthladd canoloesol, mynediad at groesfannau fferi pwysig a physgodfeydd ar y draethlin.
• Eglwys arddull Seisnig hardd iawn â nifer o gofebion pwysig.


Hanes
Ar ddiwedd rhyfel Edward I a Llywelyn ap Gruffydd ym 1283, meddiannodd Edward Wynedd, gan adeiladu cestyll cryf mewn lleoliadau strategol a sefydlu cyffindrefi caerog gerllaw, fel ffynhonnell forâl a chefnogaeth fasnachol. Roedd patrwm y weinyddiaeth frenhinol yn siwr o newid. Sefydlwyd tair sir dros y cymydau niferus. Roedd gan y cymydau ran i’w chwarae o hyd ond y prif swyddog, a oedd yn gyfrifol am drethiant a chyfiawnder, oedd y siryf sirol. Ym Môn yn union ar ôl y rhyfel y siryf oedd Roger Pulesdon. Pa un ai oherwydd camddealltwriaeth neu anallu neu amharodrwydd i ddeall, dechreuodd rhwystredigaeth ac anfodlonrwydd gyniwair ymhlith poblogaeth frodorol Gwynedd. Ym 1294 dechreuodd gwrthdaro, dan arweiniad Madog ap Llywelyn ym Môn. Gostegwyd y gwrthryfel ond roedd Edward, a oedd eisoes yn Llanfaes erbyn Ebrill 1295, yn benderfynol o adeiladu castell newydd ar lannau Môn, ym mynedfa ogleddol Afon Menai.

Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu’r castell ym 1295 ar dir gwastad â mynediad i’r môr. Meistr y gwaith oedd James o St. George a weithredodd enghraifft glasurol o gynllun consentrig, gyda’r waliau’n codi’n uwch ac yn uwch mewn perthynas â chanolfannau nerfol y castell, dwy res fawr y porthdai. Daliwyd y gwaith o gwblhau’r amddiffynfeydd yn ôl o ganlyniad i’r rhyfeloedd yn yr Alban a’r pwysau ar adnoddau, ac ni chafodd y lloriau uchaf erioed eu gorffen. Roedd y castell wedi ei amgylchynu gan ffos wlyb ac roedd doc wedi ei amddiffyn yn caniatáu i gychod gweddol fawr ddod i fyny at waliau’r castell. Mae’n rhaid bod sianel ar draws y Grîn presennol, ond nid yw i’w gweld heddiw.

Adeiladwyd y castell ar derfyn deheuol trefgordd Llanfaes, cyn faerdref cwmwd Dindaethwy. Cynlluniwyd y dref yn ofalus yn ymyl y castell ar dir cyn drefgordd Cerrig y Gwyddyl. Digolledwyd y tenantiaid, y bu’n rhaid iddynt symud oherwydd y gwaith adeiladu, â thir mewn rhannau eraill o’r cwmwd. Ni chafodd wal y dref ei hadeiladu tan y 15fed ganrif, ar ôl i’r castell fod ym meddiant cefnogwyr Owain Glyndwr am ddwy flynedd.


Datblygiad cynnar y dref
Derbyniodd tref Biwmares ei siarter ym 1296. Roedd Llanfaes, heb fod ymhell, wedi bod yn gymuned ffyniannus dan y tywysogion, ond cafodd ei difrodi’n ddifrifol yn ystod gwrthryfel Madog ym 1295. Roedd yn rhaid i dref newydd Biwmares ffynnu ac, er mwyn hybu ei datblygiad a’i thwf, roedd yn ofynnol i gymuned Llanfaes symud i leoliad newydd yn Rhosyr yng nghwmwd Menai, gan ganiatáu i Fiwmares feddiannu ei busnes fferi a’i masnach forol. Mater arall yr un mor bwysig yr oedd angen rhoi sylw iddo ar unwaith oedd poblogeiddio’r dref newydd â phobl a fyddai’n fodlon derbyn tenantiaeth ym Miwmares. Un cymhelliant oedd y cynnig o dir yn ddi-rent am ddeng mlynedd cyntaf y dref a oedd yn datblygu a swllt y flwyddyn o rent wedyn am bob bwrdeisiaeth. Nid yw’n syndod bod y rhan fwyaf o’r tenantiaid wedi dod o ogledd-orllewin Lloegr ac, ymhen amser, byddai’r fintai o Swydd Gaerhirfryn a Swydd Gaer yn dod yn ddylanwad mawr yn y dref. Yn ystod chwarter cyntaf y 14eg ganrif, roedd dros 150 o fwrdeisiaethau wedi eu cymryd ym Miwmares, ac roedd rhai tenantiaid yn dal mwy nag un bwrdeisiaeth. Er mai’r bwriad oedd gwneud Biwmares yn fwrdeistref gyfan gwbl Seisnig ymddengys bod rhai Cymry yn y dref o hyd, a bod rhai’n dal swyddi pwysig a dylanwadol. Adeiladwyd yr eglwys yn nechrau’r 14eg ganrif. Roedd Biwmares ym mhlwyf Llandegfan ac er mai dim ond milltir oedd i eglwys Llanfaes, roedd cymuned Biwmares yn gorfod teithio bron i dair milltir bob ffordd i gyrraedd Llandegfan. Mewn tywydd gwael honnir nad oedd modd defnyddio’r llwybrau ar y tir na’r fferi.

Adeiladwyd canol yr eglwys â dwy eil, i’r gogledd ac i’r de, mewn arddull nodedig o Seisnig ag arcedau pedwar bwa dau ganolbwynt bob ochr. Mae’r twr hefyd yn dyddio o’r 14eg ganrif gyda gwaith o’r 19eg ganrif ar y llawr uchaf. Ailadeiladwyd y gangell yn y 15fed ganrif â ffenestri bwaog mawr pedwar canolbwynt yn y waliau gogleddol a deheuol. Mae’r ffenestr ddwyreiniol mewn arddull unionlin wedi cael ei hadfer yn rhannol, ynghyd â’r ffenestri ochr.

Cyfosodiad Biwmares
Byddai cynllun yr anheddiad wedi ei bennu o’r dechrau, wedi ei drefnu o amgylch croesfan y ddwy brif stryd, Castle Street a Church Street, â’r estyniad deheuol, Wall Street, tua glan yr afon. Mae’n bosibl bod Rotten Row, yn ongl ogleddol y prif strydoedd, wedi bod yn rhan o’r cynllun ond, efallai ei bod yn fwy tebygol ei fod yn ehangiad o stryd wreiddiol gorllewin-dwyrain, oddi ar Church Street ac yn gyfochrog â Castle Street. Dangosir hon ar fap 1610 Speed fel stryd lawer lletach na’r Little Lane bresennol. Sut bynnag, os oedd gan y strydoedd craidd hyn fwrdeisiaethau 80tr wrth 40tr wrth eu hochr (tua 24.4m wrth 12.2m neu 300 m2) ac o ystyried y tair ar ddeg neu ragor o fwrdeisiaethau a gollwyd i’r storm a’r môr yn y 14eg ganrif a’r deg ar hugain o fwrdeisiaethau a ddinistriwyd wrth gloddio ac adeiladu ffos a wal y dref ar ddechrau’r 15fed ganrif, byddai cyfanswm yr arwynebedd yn cyfateb yn agos iawn i 45,000 m2 y cant a hanner o fwrdeisiaethau oedd wedi cael tenant yng nghanol y 14eg ganrif. Erbyn dechrau’r 17eg ganrif, roedd yr anheddiad wedi ehangu i’r gogledd-orllewin ar hyd Wexham Street, heibio Lôn Henllys ac i’r de-ddwyrain i Townsend. Roedd lôn, yn union y tu allan i waliau’r dref ar yr ochr orllewinol, yn arwain at lan yr afon yn Watergate.

 

Datblygiad diweddarach y dref
Daeth Biwmares drwy’r Rhyfel Cartref yn un darn, yn adeileddol, os nad yn ariannol, a heb golli’r enw da a oedd ganddi mewn rhai meysydd.

Mae Biwmares yn cynnwys nifer o adeiladau sydd wedi goroesi o’r 16eg ganrif a’r 17eg ganrif, er bod rhai wedi eu cuddio’n rhannol dan driniaethau diweddarach. Mae Biwmares yn un o’r ychydig drefi pren yng ngogledd-orllewin Cymru a gellid disgwyl dod o hyd i adeileddau fframwaith pren neu dystiolaeth ohonynt, ym Miwmares.

Mae rhif 32 Castle Street, y Tudor Rose, yn un enghraifft. Tybir bod y Tudor Rose yn deillio o neuadd adeiniog o ddechrau’r 15fed a bod rhan o’r neuadd a’r adain ddeheuol wedi goroesi. Mae’r nodweddion diagnostig yn cynnwys cyplau trawstiau croes bwa cleddog ag ategion gwynt a dyrnau addurnedig wedi eu mowldio o dan y trawstiau, yn cynnwys motiff y Rhosyn Tuduraidd.

Yn rhif 8 Castle Street, cofnodwyd ffenestri pen sgwâr ag ystlysbyst a myliynau siamffrog ynghyd â thrawstiau stop-siamffrog, y tybir eu bod o’r 16eg ganrif. Yn fwyaf diweddar, nodwyd nodweddion adeiledd pren pwysig a thebyg iawn o’r 16eg ganrif mewn eiddo ar gornel Church Street a Castle Street. Mae’r George and Dragon, ar Church Street, yn darparu rhagor o dystiolaeth o fframwaith pren â manylion diweddarach o ddiwedd yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif. Mae Hafoty, bellter byr o Fiwmares ym mhlwyf Llansadwrn, yn fan diddorol iawn i’w gymharu. Mae’r neuadd a’r adain ddwyreiniol wedi cadw elfennau o’u gwreiddiau fframwaith pren yn y pyst waliau sydd wedi goroesi, ar ôl cael eu gorchuddio a heb gael eu symud oddi yno, pan gafodd y ty ei ailfodelu mewn cerrig yn ystod ail hanner y 15fed ganrif. Mae’r cyplau yn y neuadd a’r adain ddwyreiniol, yr elfennau hynny o’r adeiladwaith sy’n amlwg yn gynharach, yn frenhinbyst â chleddau bwaog a mowldin chwarter crwn ar ochr isaf tynlath. Awgrymwyd bod manylion y mowldin yn arddangos dylanwad ardal De Swydd Gaerhirfryn/Swydd Gaer, sy’n briodol yng nghyd-destun cynifer o newydd-ddyfodiad i’r ardal o’r siroedd hynny.

Roedd Henblas ar Church Street, cyn iddo gael ei ddymchwel ym 1869, yn ddigon tebyg i Hafoty ar sawl ystyr ond yn fwy. Yn ei graidd gwreiddiol roedd neuadd agored, gyda dwy adain o bobtu iddi ar ddau lawr ac roedd yn cynnwys llawer iawn o fframweithiau pren. Hwn, am dipyn o amser, oedd trigfa’r teulu Bulkeley ym Miwmares. Cyn diwedd yr 16eg ganrif, roedd ail dy wedi ei adeiladu, yn union yn ei ymyl, â dau lawr ac atig. Mae ffenestri’r ail dy hwn yn ymddangos fel pe baent yn ffenestri o fath myliynau cerrig a chroeslathog â phennau pedimentog.

Yn y 1580au, roedd Owen Holland, o Blas Berw, a briododd Elizabeth, merch yr ail Syr Richard Bulkeley, ym 1578, yn brysur yn ehangu ei ystâd, a throdd ei sylw hefyd at ei dy, ty neuadd o ddiwedd y 15fed ganrif. Tua’r adeg hon, adeiladodd Owen Holland, dwr grisiau anferth yn erbyn y wal dde-orllewinol ym mhen solar neu breifat y neuadd. Yr un pryd gosododd lawr uwch yn y neuadd ac ychwanegodd le tân at y corn ochrol, allanol a oedd yn bodoli’n barod. Mae gan y ffenestri yn llawr cyntaf ac atig y twr fyliynau ac ystlysbyst mowldin ofolo. Mae nodwedd debyg i’r ffenestr fyliynau cerrig wedi goroesi yng nghyntedd Llys Biwmares a gellir ei dyddio i 1614. Mae darnau treuliedig eraill wedi goroesi yng nghyntedd Ysgol David Hughes, Biwmares, a sefydlwyd ym 1603. Geir nodwedd debycach eto yn rhif 10 Castle Street, ty sy’n dal yn nhraddodiad y canol oesoedd diweddar neu’r is-ganol-oesoedd. Mae’r drysau gwrthwynebol a’r arwydd o ddefnyddio gofod wrth drin a gosod y trawstiau’n awgrymu hyn. Mae llefydd tân bwaog pedwar canolbwynt ffug ar y llawr cyntaf mewn arddull sy’n gyson â chanol i ddiwedd yr 16eg ganrif. Mae’r cyneilyddion corbelog llyfngrwn ar gyfer pen y lle tân yn wal ddwyreiniol y llawr gwaelod o arddull sy’n rhedeg drwy ystafelloedd Plas Mawr. Mae arddull fwy llyfngrwn y bwa pedwar canolbwynt yn wal ogleddol y llawr gwaelod yn debyg i leoedd tân o’r 16eg ganrif ar yr ynys yn Nhrefeilir (Trefdraeth) a Threcastell (Penmon). Mae’n debyg mai cydran eilaidd yw’r twr grisiau enfawr ger corn ochrol allanol yn rhif 10. Mae gan hwn hefyd ffenestri mowldin ofolo yn y twr. Mae dimensiynau’r ddau dwr yn debyg iawn, er y gwahaniaeth ym maint y prif adeiladau. Roedd cysylltiadau teuluol rhwng y teulu Bulkeley (landlord ar rif 10 ar un adeg) a Hampton Plas Berw yn debygol o sicrhau bod y naill a’r llall yn ymwybodol o ddatblygiadau cyfredol.

Ar ôl 1600 gallem ddisgwyl mwy o naws y Dadeni os oedd unrhyw waith mawr i gael ei wneud mewn eiddo a oedd eisoes yn nwylo’r teulu Bulkeley. Bu farw Syr Richard ym 1572 a chafodd ei olynu gan y trydydd Syr Richard a adeiladodd Baron Hill ym 1618.

Ailadeiladwyd y ty cyntaf yn Baron Hill yn gyfan gwbl yn nechrau’r 19eg ganrif. Fodd bynnag, mae’n debyg mai’r trydydd Syr Richard Bulkeley a ychwanegodd dy arddull y Dadeni yn niwedd yr 16eg ganrif, yn agos, ac ar ongl sgwâr, i Henblas, cartref y teulu Bulkeley ym Miwmares.

Mae cynrychiolaeth dda o adeiladau o’r 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Nodweddir Wexham Street gan fythynnod unllawr neu un llawr a hanner â ffenestri math dormer o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif ar ddwy ochr y ffordd sy’n arwain o Fiwmares i gyfeiriad Llansadwrn. Roedd llai o bobl na’r disgwyl yn byw yn Rotten Row yn y cyfnod hwn, ond er hynny mae’n cynnwys rhes o fythynnod o ddechrau’r 19eg ganrif, ar yr ochr ogleddol. Church Street a Castle Street oedd canolbwynt gweithgaredd Biwmares. Safai dau adeilad pwysig iawn i’r gogledd ac i’r de o eglwys y plwyf ar yr ochr orllewinol. Roedd Plas Coch i’r gogledd o’r eglwys, yn eiddo mawr, wedi ei rannu yn ei flynyddoedd diweddaraf yn wyth rhandy. I’r de o’r eglwys safai Hen Blas, cartref y teulu Bulkeley ym Miwmares am gyfnod maith. Dymchwelwyd y ty neuadd adeiniog hwn o’r 15fed ganrif a oedd â fframwaith pren mewn rhannau ohono ym 1869. Bryd hynny roedd gan yr hen dy bymtheg rhandy dan ei do. Mae elfennau o ddau dy pren, neu rannol bren arall wedi goroesi yn agos at safle Hen Blas ar yr un ochr i’r stryd, ger y gornel â Castle Street a chyfeirir atynt uchod.

Roedd Castle Street, a Watergate Street gynt, yn ffordd echelinol, gyfochrog ag Afon Menai ac yn ymochri â gatiau’r castell. Roedd nifer o dafarnau a gwestai ar Castle Street a Watergate Street yn nechrau’r 19eg ganrif, a’r un yn y blaen oedd y Bull’s Head â’i iard stablau. Safai neuadd y dref gyferbyn â’r gyffordd â Church Street, gyda’r Crown Inn a’r stablau gerllaw. Ar hyd glan y môr roedd ystafell newyddion a biliards yn Green Edge ger y Llys a baddondai preifat a chyhoeddus ar y lan. Yn y 1830au cafodd Biwmares hwb â datblygiad Joseph Hansom o adeilad clasurol trawiadol Victoria Terrace a’r Williams Bulkeley Arms Hotel, a oedd yn cyflwyno ffasâd enfawr yn fwriadol tuag at Afon Menai.

Yn ystod canol y 19eg ganrif gosodwyd strydoedd newydd tuag at Afon Menai ac Alma Street a Raglan Street, yn cael eu huno ar hyd Castle Street gan Bulkeley Terrace.


Cymeriad Hanesyddol y Dirwedd

Mae cysylltiad annatod rhwng y cymeriad hanesyddol a’r dirwedd ym Miwmares. Mae’r castell yn rhan o safle Treftadaeth y Byd ac mae’n bwysig oherwydd ei gynllun clasurol ac amgylchiadau ei adeiladu. Hwn oedd yr olaf o gestyll Edward I yng Ngogledd Cymru, wedi ei adeiladu ar ôl i’r rhyfel ddod i ben, i ddarparu cymar i Gaernarfon ym mhen gogleddol Afon Menai, ar Ynys Môn. Anfodlonrwydd y Cymry yn dilyn y trefniadau gweinyddol newydd, ar ôl concwest Gwynedd a chanlyniad hynny oedd y catalydd a arweiniodd at adeiladu’r castell. Gwelodd cyfosodiad a datblygiad Biwmares dref fasnachol gyfagos, a chyn faerdref frenhinol Llanfaes, yn cael ei hysgubo ymaith er mwyn i Fiwmares gael tyfu. Yn hyn o beth, mae Biwmares a’i thref yn symbol o’r trawsnewid o un dref i’r nesaf.

Mae cyfosodiad y dref drawsblanedig i’w weld o hyd yn y strydoedd presennol. Bwriedid i’r dref fod yn drefedigaeth Seisnig ond, mewn gwirionedd, roedd y boblogaeth yn fwy cosmopolitan na hynny. Er hynny, llwyddodd newydd-ddyfodiaid o ogledd-orllewin Lloegr, a thu hwnt, i wneud eu marc yn y dref a chyflwyno dylanwadau newydd a gyfrannodd yn helaeth at gymeriad y dref. Mae’r eglwys o arddull Seisnig ac â’i chofebion mae’n adeilad hardd yng nghanol y dref.

Mae nifer o adeiladau cynharach wedi goroesi, y rhan fwyaf wedi eu cau o fewn waliau, ac wedi eu cadw gan driniaethau, fel rhan o arddulliau diweddarach. Mae yna hefyd adeiladau trawiadol iawn o ddechrau’r 19eg ganrif sydd wedi eu cynllunio’n fwriadol er mwyn rhoi cymeriad arbennig i’r dref.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Penmon

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol