English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Penmon - Ardal 1 Llanfaes


Safle Mynachlog Llanfaes, y ty diweddarach a gwaith peirianyddol yr 20fed ganrif


Pentref Llanfaes a'r eglwys newydd


Neuadd Henllys, 2007


Fryars a chylch cwmpawd Catalina

Prif nodweddion a phrosesau'r dirwedd hanesyddol

. Tirwedd sy'n mapio nifer o gydrannau maerdref frenhinol yn ystod oes y Tywysogion.
. Tirwedd ganoloesol anghyfannedd yn fuan ar ôl concwest Gwynedd ar ddiwedd y 13eg ganrif.
. Safle mynachlog y Brodyr Llwyd a man claddu Joan, gwraig Llywelyn ap Iorwerth, a nifer o enwogion eraill.
. Trawsnewidiad o briordy canoloesol, i ystâd breifat fechan, i waith peirianyddol, yn fwyaf arbennig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ffiniau'r ardal gymeriad hon yw llethrau serth Coed Cadw i'r gorllewin, tref a chastell Biwmares i'r de, terfynau Llangoed a Threcastell i'r gogledd a'r gogledd-orllewin a Bae Llanfaes i'r dwyrain.

Hanes

Llanfaes oedd maerdref cwmwd Dindaethwy yn ystod y 12fed ganrif a'r 13eg ganrif. Roedd y faerdref yn drefgordd frenhinol a oedd yn cael ei dal gan y tywysog ac roedd yn cael ei gweithredu'n debyg i faenor. Yng nghanol y faerdref byddai'r neuaddau brenhinol ac adeiladau eraill, gan gynnwys y llys. Roedd llawer iawn o diroedd demên yn Llanfaes, ac roeddent yn cynnwys tua 780 acer o dir âr ynghyd â dolydd, gardd a choetir ar lethrau gogledd-orllewinol Llanfaes, o'r enw Coed Cadw neu 'goed Llanfaes', a oedd yn adnodd pwysig iawn. Roedd nant o'r sgarp yn troi'r felin ddwr a oedd yn malu yd yno ac roedd Llanfaes yn rheoli'r fferi fwyaf gogleddol o'r fferis pwysig a oedd yn croesi Afon Menai. Roedd fferi Llanfaes ar derfyn deheuol y drefgordd ar safle yr hyn a ddaeth i fod yn Grîn Castell Biwmares ac roedd yn cael ei gweithredu gan bump o denantiaid caeth y tywysog a oedd yn dal tenementau yn y lleoliad hwnnw. Roedd y fferi'n bwysig iawn gan ei bod yn caniatáu mynediad i'r ynys o arfordir gogledd Gwynedd, o Aber i aber afon Conwy. I'r gogledd o'r drefgordd, ger yr arfordir, roedd ty gwahangleifion neu glafdy, a oedd yn cael ei gynnal gan y tywysog ar y cyd â nifer o faerdrefi brenhinol eraill.

Yn ystod y 12fed ganrif a dechrau'r 13eg ganrif roedd y tenantiaid caeth, a oedd yn dal eu tenementau dan ddaliadaeth demên gyfyngol, y tir cyfrif, yn cyflawni gwasanaethau llafur a gwaith amaethyddol ar y tiroedd demên hyn. Roedd natur y ddaliadaeth hon yn arwain at greu anheddiad cnewyllol, felly byddai daliadau'r tenantiaid hyn yn ymddangos yn debyg i bentref.

Yn nechrau'r 13eg ganrif, roedd lleoliad ffafriol Llanfaes ar gyfer cyfathrebu, yn enwedig o ran y fferi a oedd yn croesi'r afon, a hefyd o ran yr angorfa ddiogel ym Mae Llanfaes ar gyfer masnachwyr a oedd yn teithio'n bellach, yn rhoi cyfle i'r Tywysog gymudo gwaith arferol ei denantiaid am refeniw arian parod. Roedd ffeiriau a marchnadoedd Llanfaes yn ffynnu ac mae cyfeiriadau diweddarach yn cyfeirio at fath newydd o denantiaeth, sef 'gwyr y farchnad'. Roedd bragwyr, cigyddion, pobwyr, teilwriaid a chryddion yn cario eu nwyddau ac yn cael eu trethu. Codid tollau am gario nwyddau o'r lan ac ar y cychod fferi. Yr arwydd pendant bod Llanfaes yn dod yn dref oedd sefydlu mynachlog yn Llanfaes. Byddai ar fynachod, fel urdd cardod, angen mynediad at gnewyllyn o boblogaeth er mwyn goroesi. Ym 1237, bu farw Joan, gwraig Llywelyn ap Iorwerth, yn Aber. Yn ôl Brut y Tywysogion, claddwyd Joan ar dir cysegredig ar lannau Môn, ac yno yn dilyn hynny sefydlwyd mynachlog y Brodyr Troednoeth (y Brodyr Llwyd) er anrhydedd i'r Fendigaid Fair, ac adeiladodd y Tywysog y cyfan ar ei gost ei hun er mwyn enaid yr arglwyddes.

Ym 1254 eglwys Llanfaes oedd yr eglwys gyfoethocaf ym Môn. Amcangyfrifwyd bod Llanfaes, tua diwedd y ganrif, yn gyfrifol am oddeutu saith deg y cant o holl refeniw masnachu Gwynedd. Ym 1283 daeth y rhyfel rhwng Llywelyn ap Gruffydd ac Edward I i ben â marwolaeth Llywelyn a'i frawd Dafydd a choncwest Gwynedd. Arweiniodd anghyfiawnder yn y weinyddiaeth newydd at wrthryfel, dan arweiniad Madog ap Llywelyn. Achoswyd difrod yn Llanfaes ac ni lwyddodd y dref i adfer ei sefyllfa.

Ymateb Edward I oedd adeiladu castell newydd ar dir trefgordd Cerrig y Gwyddyl ar derfyn deheuol Llanfaes. Galwyd y castell hwn a'r dref drawsblanedig berthynol yn Beaumaris. Os oedd y dref yn mynd i ffynnu yna byddai angen darostwng Llanfaes a'i masnach. Gwnaeth Edward ddarpariaeth ar gyfer symud bwrdeiswyr cyndyn Llanfaes i leoliad newydd yn Rhosyr, maerdref cwmwd Menai.

 Llanfaes wedi ei diboblogi, neu bron â chael ei diboblogi, cymerwyd cysylltiadau masnachu blaenorol Llanfaes a'r fferi drosodd gan dref newydd Biwmares.

 

Roedd yr eglwys yn dal yno, ond mewn amgylchiadau cyfyngedig â'i phlwyfolion wedi mynd. Daliodd y fynachlog i fodoli hefyd er gwaethaf argyfwng yng nghyfnod Glyndwr ac roedd yn dal i fod yn weithredol ar adeg y diddymu. Yn ogystal â Joan, merch y Brenin John a gwraig Llywelyn ap Iorwerth, daliodd mynachlog Llanfaes i fod yn fan claddu i lawer o wroniaid lleol eraill. Mae rhestr a luniwyd ar adeg y diddymu ym 1538 yn rhoi rhyw syniad o'r hyn a berthynai i'r fynachlog. Mae'r rhain yn cynnwys eglwys y fynachlog, côr a festri, bragdy â ffwrnais a chafn bragu, iard â throliau ac adeiladau amrywiol gan gynnwys un â silffoedd ar gyfer caws; un arall â gwelyau, gobenyddion a bolsteri; cegin; neuadd â bwrdd a threstlau a stordy; cynnyrch amaethyddol, grawn, gwartheg a defaid.

Ym 1539 rhoddwyd prydles tiroedd y fynachlog i Thomas Bulkeley o Fiwmares ac aeth ati i ddymchwel yr adeiladau. Cariwyd llond cychod o gerrig da oddi yno, ar gyfer gwaith adeiladu ym Miwmares mae'n debyg. Er hyn, roedd John Speed, ym 1610, yn gallu gwneud braslun o safle'r fynachlog, gan ddangos wal gyffin o'i chwmpas. Ym 1991 datgelodd a chadarnhaodd gwaith cloddio archaeolegol gyrsiau isaf y wal ar yr ochr dde-orllewinol.

Ym 1563, trosglwyddwyd y brydles i Ellis Wynne (White). Yn ddiweddarach, ym 1623, adeiladodd Rowland Whyte y ty seciwlar cyntaf yn Fryars.

Yn ystod y 15fed ganrif a'r 16eg ganrif daeth teuluoedd Hampton a Bulkeley i'r amlwg fel tirfeddianwyr pwysig yn yr ardal. Roedd y teulu Hampton yn dal tir yn lleol cyn gynhared â 1414 ac erbyn 1584 roedd Henllys a'i ddemên, eiddo pwysig yn Llanfaes, ym meddiant William Hampton. Erbyn 1630 mae'n amlwg bod rhan helaeth o gyn drefgordd Llanfaes wedi dod i feddiant y teulu Hampton, gan gynnwys pentrefan Bodgylched. Tua'r un adeg, roedd y teulu Bulkeley yn dal gweddill Llanfaes, gan gynnwys tir yr hen fynachlog. Roedd y Bulkeleys a'r Hamptons yn gymdogion ac mae'n rhaid bod llawer o achosion o ddadlau a chymodi wedi bod ynglyn â mynediad. Yn niwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif adeiladwyd nifer o ffyrdd newydd a sythwyd llawer o ffyrdd ar dir y naill a'r llall. Mae Lôn Henllys yn llwybr hen iawn, sy'n dal i gael ei ddefnyddio, ac a oedd ar un adeg yn dod â theithwyr o fferi Llanfaes, yn y 13eg ganrif, o'r lan yn Grîn Biwmares i leoliad tebygol iawn llys y tywysog yn Henllys. Yn yr un modd, roedd trac yn arwain o'r lan ym mhorth Llanfaes, heibio wal y fynachlog at y groesffordd ger Eglwys Santes Catrin. Ar ddiwedd y 18fed ganrif cyfnewidiwyd lleiniau o dir rhwng y ddau landlord ac agorwyd ffordd goetsys newydd, lydan o ben gogleddol Lôn Henllys, tua'r dwyrain, heibio terfyn deheuol Henllys i gyrraedd yr eglwys a chnewyllyn y pentref heb i deithwyr orfod croesi libart Henllys. Yr un pryd dargyfeiriwyd y ffordd heibio'r hen fynachlog, a oedd bellach yn naliadaeth y teulu Bulkeley, tua thrigain metr i ddarparu lle preifat y tu blaen i'r ty.

Y Dirwedd Gymdeithasol
Yng nghanol y 19eg ganrif roedd gwahaniaethau cymdeithasol sylweddol o hyd mewn cymunedau. Mae hyn yn amlwg iawn yn Llanfaes ac mae'n cael ei adlewyrchu yn y stoc dai a'r bensaernïaeth. Plasty Henllys oedd cartref y teulu Hampton ym Môn o'r 16eg ganrif ymlaen. Ar garreg drws Henllys, un cilomedr i'r de, safai Baron Hill, plasty'r teulu Bulkeley er 1612. Mae Baron Hill ar yr un llinell â Biwmares ac mae'n cael ei ystyried yn yr ardal gymeriad honno, er bod y plasty ym mhlwyf Llanfaes. Ym 1861, pan gynhaliwyd y cyfrifiad, a phan oedd Syr Richard Williams Bulkeley a'i wraig yn byw yno, roedd yno hefyd fwtler, is-fwtler, gwas stabl, pedwar gwas, cogydd, saith morwyn, morwyn olchi, dwy forwyn ddomestig, morwyn laeth a morwyn cegin ganol. Ar y noson honno hefyd roedd John Lewis Hampton Lewis a'i wraig, Fanny, a'u merch, yn Henllys. Roedd bwtler, gwas lifrai, cogyddes, ac is-gogyddes, morwyn bersonol a dwy forwyn ty yn y ty hefyd ar y noson honno.

Adeiladwyd Henllys, neu ei olynydd, ar safle llys y Tywysogion Cymreig ym maerdref Llanfaes, neu'n agos at y safle. Roedd gardd â wal o'i chwmpas, ger y plasty, yn un o nodweddion y cyfadeiladau ar ddiwedd y 18fed ganrif ac erbyn dechrau'r 19eg ganrif mae'n debyg bod nifer o adeiladau eraill wedi eu codi rhwng yr ardd a'r hen dy. Roedd un ffordd, Lôn Henllys, yn rhedeg yn syth i'r de tua hen fferi Llanfaes (Biwmares yn ddiweddarach), ac roedd un arall yn arwain i'r gogledd-ddwyrain tua'r eglwys. Yn y 1850au codwyd plasty newydd dau lawr ac atig o gerrig nadd llwyd, yn union ar ben cynllun siâp L y ty blaenorol. Mae dwy res gyfochrog yn tarddu o'r prif dy ar yr ochr ogledd-orllewinol. Mae ffenestri petryal y prif dy yn ffenestri myliynog neu fyliynog a chroeslathog (y rhan fwyaf ar y llawr gwaelod). Mae'r cyrn simnai tal niferus, wedi eu grwpio mewn parau neu dripledi wythonglog. Mae'r ffenestri dormer yn yr atig sy'n wynebu'r llwybr sy'n arwain at y prif ddrws yn taflu allan ychydig ac mae un ffenestr llawr cyntaf ar y ffasâd de-ddwyreiniol yn ffenestr oriel. Ceir mynediad at y prif ddrws drwy gyntedd ymestynnol sy'n codi i uchder llawn y ffasâd â balconi ar y llawr cyntaf. Mae'r arddull yn arddull Fictoraidd-Elisabethaidd cymedrol.

Tan ganol y 19eg ganrif, roedd y patrwm anheddu yn ardal gymeriad Llanfaes yn cynnwys nifer o ddaliadau hynafol a sylweddol. Henllys oedd y prif dirfeddiannwr. Roedd yn berchen ar 100 acer yn Llanfaes, gan gynnwys 40 acer o ddemên. Roedd y teulu Hampton wedi bod yn dal Henllys ers tair canrif. Adlewyrchir eu statws yn y Plasty a'r hyn sy'n perthyn iddo.

Roedd tiroedd cyfagos Cichley (57 acer yn y 1840au) yn rhan o ystâd fwy a ddatblygodd yn y 14eg ganrif a'r 15fed ganrif (Carr, 1982,25).

Datblygodd Fryars, ar y glannau, yn nwylo'r teulu Whyte a'r teulu Bulkeley yn ddiweddarach, ar safle hen fynachlog y Brodyr Llwyd a'i thiroedd, o'r 16eg ganrif ymlaen. Ym 1800 darluniodd Moses Griffith yr hen dy ac eglwys y fynachlog gerllaw, yn dal i sefyll yn rhannol, ac yn cael ei defnyddio fel ysgubor. Roedd yn dal i sefyll ym 1855 ond un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach roedd wedi mynd. Ym 1868 tynnwyd hen dy Rowland Whyte i lawr a chodwyd plasty Fictoraidd newydd yn ei le ar yr un safle.

Mae'r cofnod cyntaf o fferm Tyddyn y Gwynt (47 acer ym 1851) yn nodi ei bod yn nwylo William Hampton ym 1638. Roedd llond dwrn o leoedd llai hefyd - Pen y Wal, ger yr hen fynachlog (mae'r 'Wal' yn cyfeirio at wal y fynachlog) a Nant, a gofnodwyd cyn gynhared â 1712 o leiaf. Mae'n rhaid bod clwstwr o denementau wedi bod yng nghyffiniau'r eglwys yn y 13eg ganrif, cyn y diboblogi a'r trosglwyddo i Niwbwrch.

Erbyn y 1770au, safai nifer bach o fythynnod unllawr ger yr eglwys ac ar hyd y ffordd tua thir uwch Rhos Llaniestyn. Mae'r rhain yn cynnwys Ty Uchaf a bwthyn yn agos at gornel ogledd-orllewinol y fynwent. Ychwanegwyd Swn y Gloch, gerllaw, ar draws y ffordd cyn 1830 ac, ym 1810, roedd gefail wedi ei hadeiladu, 50 m i'r gorllewin o'r eglwys ar gyffordd y pedair ffordd sy'n dod at ei gilydd o Henllys ei hun; o Fryars ac o'r lan; o Ros Llaniestyn ac ar hyd y ffordd gefn o Langoed.

Ar hyd y ffyrdd a oedd yn arwain at Henllys, o'r eglwys yn y dwyrain a Lôn Henllys yn y de, safai dau denement bach sy'n cael eu disgrifio ym 1830 fel bwthyn a gardd William Owen a bwthyn a gardd flodau yn y drefn honno. Codwyd East Lodge (Llanfaes) yn lle gardd William Owen. Cyfnewidiwyd tir â Baron Hill i ffafrio Henllys yn niwedd y 19eg ganrif, er mwyn gallu sefydlu'r porthdy. I gyd-fynd â'r cyfnewid tir hwn, agorwyd ffordd goetsys newydd, o Lôn Henllys i ymuno â ffordd Fryars i'r de o'r eglwys a rhan ddeheuol y ffordd i'r gorllewin o Friars i ddarparu rhywfaint o breifatrwydd rhwng y ffordd a'r ty. Sefydlodd Baron Hill hefyd East Lodge a oedd yn ymuno â Lôn Henllys o'r ffordd i'r gogledd-ddwyrain o blasty Baron Hill. Ty uncorn yw Porthdy Henllys (ty unllawr â simnai yn y canol) â bondoeau sy'n ymestyn yn eang yn cael eu cynnal gan bileri i ddarparu feranda ar yr ochr ogleddol.

Yn y 1830au adeiladwyd rhes o 10 bwthyn ar dir tenement tair acer bychan, Ty'n y Lôn, ar ochr y ffordd ogleddol o Fryars i Langoed. Mae'r bythynnod yn fythynnod unllawr, wedi eu hadeiladu â rwbel calchfaen heb fod mewn cyrsiau, yn ôl tystiolaeth y gwaith maen sydd yn y golwg. Mae'r rhan fwyaf wedi eu paentio, neu wedi eu rendro erbyn hyn, neu wedi cael eu cuddio gan gynteddau ac estyniadau tu blaen gwydr. Mae'r cyrn simnai'n hir, ac wedi eu gwneud â blociau calchfaen. Ychwanegiadau diweddarach yw'r cynteddau presennol.

Mae gwrthgyferbyniad cymdeithasol enfawr rhwng y ffermydd sylweddol yn Llanfaes a bythynnod y llafurwyr, yn enwedig yr adeiladau helaeth, hierarchaeth isadeileddol y gweision, y garddwyr, y gweithwyr stablau a'r llafurwyr a chynllun pensaernïol yr adeiladau, plasty Henllys a phlasty cyfagos Baron Hill, yn y 19eg ganrif. Ym 1851 roedd pob un o denantiaid Bythynnod Ty'n y Lôn yn llafurwr ar wahân i Richard Roberts, pensiynwr Chelsea, 78 oed. Roedd y tenementau unllawr dwy ystafell, mewn rhai achosion, yn gartref i deuluoedd o bedwar, pump neu chwech. Roedd Robert Owen, 55 oed, yn llafurwr amaethyddol. Roedd yn byw gyda'i wraig, ei ferch briod, nith a lletywr ifanc mewn un ty dwy ystafell.

Gellid gweld rhywfaint o amrywiaeth yn y galwedigaethau yn y pentref. Roedd pedwar llafurwr, pum gwniadwraig neu wniyddes, dau grydd, dwy lanhawraig, morwyn laeth, beili tir, gof a morwr. Yn ehangach na hynny, roedd llafurwyr amaethyddol yn byw yn rhai o adeiladau'r ffermydd llai. Yn Gyfynys, ym 1841, roedd pedwar llafurwr amaethyddol dibriod, rhwng 14 a 25 oed ac un forwyn fenywaidd. Yn ystod yr ail ryfel byd sefydlwyd gwaith peirianyddol yng nghyffiniau'r hen fynachlog gan Saunders-Roe. Adeiladwyd cychod hedegog yno a hedfanwyd tua phedwar cant o gatalinas i Afon Menai mewn cyfnod o dair blynedd, er mwyn addasu a chalibro eu hoffer. Tan yn ddiweddar, roedd llawer o gydrannau'r gosodiadau rhyfel hyn i'w gweld o hyd, gan gynnwys y llithrfa a oedd yn tynnu'r cychod hedegog o'r dwr i bad concrid y cylch cwmpawd.

Defnyddiwyd safle tebygol y llys brenhinol yn Henllys gan Frodyr Llwyd mwy diweddar yn y 1950au. Yn ddiweddarach daeth yn westy â chwrs golff, ac mae bellach yn ddatblygiad Bond Eiddo Gwyliau.

Cymeriad Hanesyddol y Dirwedd

Er gwaethaf newidiadau mawr iawn mewn defnydd tir, mae tirwedd Llanfaes yn bwysig o safbwynt hanesyddol gan ei bod yn adlewyrchu cyfosodiad nifer o gydrannau maerdref frenhinol o oes y Tywysogion. Mae'r plasty Fictoraidd neo-Gothig sydd ar safle Henllys heddiw, yn disodli adeilad cynharach a allai, yn ei dro, fod wedi ei leoli ar safle llys y 13eg ganrif. Mae'r lôn i'r de, yn llwybr hynafol rhwng glanfa'r fferi a Henllys. Gellir nodi lleoliad y fferi, ar Grîn Castell Biwmares, yn hyderus fel safle fferi Llanfaes cyn iddi gael ei chymryd drosodd gan Fiwmares ar ddiwedd y 13eg ganrif. Adeiladwyd y ty presennol, Fryers, a ddefnyddiwyd yn ddiweddar fel swyddfeydd i'r gwaith peirianyddol, yn lle ty Rowland Whyte o'r 17eg ganrif yn y 1860au. Nododd gwaith cloddio archaeolegol cyn gwneud gwaith trin carthion ar ochr ddeheuol yr eiddo wal derfyn ddeheuol Mynachlog y Brodyr Llwyd a dadorchuddiwyd beddau dan waith tirlunio gerddi'r canrifoedd yn dilyn y diddymu a gwaith lefelu diweddarach yn gysylltiedig â'r gwaith peirianyddol yn ystod y rhyfel.

Daeth clostir cysegredig ar y draethlin yn fan claddu i Joan, gwraig Llywelyn ap Iorwerth ym 1237 a chladdwyd nifer o enwogion eraill o fewn cyffiniau'r fynachlog dros gyfnod o dri chan mlynedd. Mae'r sarcoffagws, os yw'r priodoliad yn gywir, i'w weld bellach yng nghyntedd Eglwys Biwmares. Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Santes Catrin, sy'n gysegriad anarferol yng ngogledd-orllewin Cymru, er bod cofnod o eglwys arall iddi yng Nghricieth, trefgordd frenhinol arall yng Ngwynedd. Cafodd yr eglwys bresennol ei hailadeiladu ar y safle hynafol gan Matthew Ellison Hadfield ym 1845. Mae clwstwr bach o fythynnod o'r 19eg ganrif ar gyffordd lonydd ger yr eglwys. Mae'r rhain, sy'n cynnwys gefail, a phorthdy Henllys Hall ar draws y ffordd, yn rhoi cymeriad i'r hyn sydd mae'n debyg wedi bod yn gnewyllyn y gymuned erioed.

Ar ddiwedd y rhyfel, roedd adeiladau parod wedi eu codi, yn union i'r gogledd-orllewin o gyfadeiladau Fryars i ddarparu ar gyfer gweithwyr y gwaith peirianyddol. Erbyn y 1980au roedd y rhain wedi cael eu hadnewyddu ac mae pentref bychan wedi tyfu ar ochr y ffordd tuag at yr eglwys.

Mae'r ardal rhwng Biwmares a Henllys yn laswelltog a cheir coed aeddfed yma ac acw. Roedd llawer mwy ganrif neu fwy yn ôl. Mae'r coed hyn wedi tyfu o gyn wrychoedd ac ar fapiau manwl cynnar mae'n bosibl gweld ffurf lleiniau bychain sy'n fwy nodweddiadol o'r 18fed ganrif na chaeau agored mawr y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Mae'r terfynau hyn yn eu tro, sydd wedi eu chwalu ers talwm iawn, yn adlewyrchu patrwm troellog gerddi meysydd agored canoloesol.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Penmon

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol