Cefndir hanesyddol
Diffyg anheddu modern sy'n nodweddu'r ardal
hon ond, er hynny, mae yna dystiolaeth sylweddol o weithgarwch
cynhanesyddol yma. Mae maes carneddi helaeth, a gofnodwyd yn
wreiddiol gan Bowen a Gresham (1967), yn ymestyn ar hyd dwy ochr
y trac (llwybr o bwys yn flaenorol) sy'n arwain i'r dwyrain o
Hafod-y-dywyll (ardal 19) ac i lawr o'r diwedd i Ddolgellau (rhagflaenydd
y ffordd bresennol, mae'n debyg gweler hefyd ardal 16): mae'n
cynnwys amrywiaeth o wahanol fathau o garneddi, gan gynnwys carneddi
ymylfaen, ac roedd yn amlwg yn ardal o bwys yn y cyfnod cynhanesyddol
cynharach.
Mae yna ddwy fryngaer yma hefyd, a Chraig y Castell yw'r enw ar y ddwy,
er dryswch. Mae un ym mhen gogleddol yr ardal a'r llall, sy'n rhestredig,
yn y pen deheuol. I'r dwyrain o'r ail, mae gweddillion mwyngloddio
yn y 19eg ganrif. Ar wahân i'r rhain, dim ond cyfres o waliau
caeau o'r 18fed/19eg ganrif sydd yma, yn rhannu'r ardal yn gyfres o
lociau mawr afreolaidd.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Archeoleg gynhanesyddol greiriol, waliau
caeau, mynydd agored
Soniwyd uchod am gyfoeth sylweddol nodweddion
archeolegol creiriol a'r waliau caeau sy'n nodweddu'r ardal hon.
Gellir cymharu'r dirwedd â'r creigiau folcanig sy'n dod
i'r wyneb ar Gadair Idris (ardal 17) a Phared-y-cefn-hir (ardal
16), ond ni ddynodwyd hon yn SoDdGA.
Yn ôl i Nodweddion
Tirwedd Hanesyddol Mawddach