English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mawddach - Ardal 22 Llwyngwril (PRN 18352)

 

Cefndir hanesyddol

Roedd Llwyngwril yn un o'r chwe threfgordd ganoloesol yn ardal y prosiect, ac ym mhapurau Nannau (LlGC A2, dyddiedig 1436) cyfeirir at release by Llywelyn ap Evan ap Owain of Llwyngwril to Mourning bychan ap Howell Self of a tenement called Tyddyn yn y Fron Goch in the township of Llwyngwril''. Yn anffodus, ni ellir olrhain yr enw lle hwn. Nid yw map degwm 1839 Llangelynnin yn dangos adeiladau nac, yn bendant, anheddiad cnewyllol yma.

Anheddiad hirgul sy'n ymestyn ar hyd y briffordd yw'r pentref, yn deillio'n bennaf o'r cyfnod wedi dyfodiad y rheilffordd (1867), pan ddatblygodd yn gyrchfan wyliau. Dengys yr adeiladau ystod eang o arddulliau ac adeiledd, gan ddatblygu tuag allan (a thros amser) o gnewyllyn canolog o gwmpas y bont sy'n cludo'r ffordd dros Afon Gwril, (gweler y ffotograff). Yma, mae terasau solet wedi'u hadeiladu o garreg, gyda dau a thri llawr a llawer ohonynt yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif. Hefyd, ceir t tafarn a siopau, yn enwedig tua’r gogledd, lle saif filas ar wahân ac yn dai pâr, wedi’u hadeiladu o garreg ac o frics, yn eu tiroedd eu hunain. Saif gorsaf y rheilffordd y tu allan i’r anheddiad ei hun (ac i’r gorllewin ohono). Mae hyn yn nodweddiadol o lawer o'r aneddiadau diweddar ar arfordir gorllewinol Cymru (er mai'r rheilffordd oedd y rheswm dros ddatblygu'r aneddiadau fel arfer).

Un o nodweddion amlwg y pentref, ac un sy'n peri syndod, yw mynwent y Crynwyr yn y pen deheuol ym Mryn Tallwyn. Roedd llawer o deuluoedd yn yr ardal yn Grynwyr erbyn diwedd yr 17eg ganrif, er bod y pentref hwn yn dyddio'n bennaf o'r 19eg a'r 20fed ganrif. Un o'r bobl leol amlwg a gladdwyd yma oedd y Dr George Walker (1887-84), a ddatblygodd y chwareli yn nyffryn Panteinion (ardal 15).

 

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Datblygiad hirgul 19eg ganrif, mynwent y Crynwyr

Datblygiad hirgul o ddiwedd y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif yn bennaf yw Llwyngwril, wedi'i osod ar hyd priffordd yr A493. Mae'r ffordd yn croesi Afon Gwril ym mhen deheuol y pentref, sef y rhan gynharaf lle mae cnewyllyn yr anheddiad. Tai teras sydd yn y pen deheuol ar y cyfan. Ymhellach i'r gogledd, gwelir filas mawr ar wahân a filas pâr o oes Fictoria, a adeiladwyd mewn amrywiaeth o arddulliau. Mae mynwent y Crynwyr yma yn nodwedd hanesyddol neilltuol.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Mawddach

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol