Cefndir hanesyddol
Mae'r llociau bychan ar fap degwm 1839 Llangelynnin
fwy neu lai yr un fath ag a welir heddiw. Y darn olaf o Reilffordd
y Cambrian i'w gwblhau, ym 1867, oedd y darn rheilffordd sy'n
rhedeg ar hyd gwaelod y clogwyni yma, (hwn oedd y gamp beirianyddol
fwyaf anodd yn dechnegol).
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Rheilffordd, waliau sychion
Dynodwyd darn arfordirol 11 cilomedr o hyd, o bwynt i'r de o Forfa
Mawddach (ardal 10) sy'n cynnwys rhannau o Allt Ffynnon yr Hydd (ardal
21), y darn arfordirol i'r de (ardal 13) a Llwyngwril (ardal 22) yn
SoDdGA (CCGC cyf. SoDdGA Glannau Tonfanau i Friog' 31 WVV) ym 1999.
Cafodd ei ddynodi oherwydd ei ddiddordeb daearegol a'i ddiddordeb biolegol
morol. Y tu ôl i'r lan sy'n wynebu'r gogledd-orllewin, mae clogwyni
creigiog uchel (ardal 21). Clogwyni gwaddod meddal, sy'n erydu, yw'r
rhan fwyaf o'r arfordir. Mae'r ardal hon yn bwysig oherwydd ei nodweddion
daearegol a mwynyddol sy'n darparu tystiolaeth bwysig ynghylch oed
Llain Aur Dolgellau. Creigiau gwaddod yn goleddu i'r de-ddwyrain, wedi'u
plygu a'u ffawtio, ac yn dyddio o ganol y Cyfnod Cambriaidd hyd y Cyfnod
Is-ordofigaidd yw'r clogwyni a'r parth rhynglanwol. Maent ar ben de-orllewinol
Llain Aur Dolgellau ac yn cynnwys cerrig llaid, lleidfeini a thywodfeini
ymwthiol. Gwelir yma greigiau Cambriaidd sy'n debyg, yn geogemegol,
i'r gwythiennau yn Llain Aur Dolgellau ymhellach i'r gogledd.
Yn ôl i Nodweddion
Tirwedd Hanesyddol Mawddach