English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mawddach - Ardal 2 Ucheldir creigiog Dinas Oleu (PRN 18332)

 

Cefndir hanesyddol

Cyflwynodd Mrs Fanny Talbot, cymwynaswraig hael oedd yn byw yn Abermaw, y bedair erw a hanner o bentir gwyllt o'r enw Dinas Oleu i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, (yn wir, dyma diroedd cyntaf yr Ymddiriedolaeth), ym 1895. Byddai mamau yn mynd â phlant oedd yn dioddef o'r pas i fyny i Ddinas Oleu i gael budd o aer y môr. Yn ôl y sôn, mae yna loc amddiffynnol cynhanesyddol hwyr yma (a arweiniodd at yr enw), ond anodd iawn yw olrhain ei weddillion.


Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Pentir creigiog, eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae'r ardal nodwedd hon yn cyd-fynd ymron yn union â SoDdGA (cyf. CCGC SoDdGA llethrau Abermaw' 31WMP), a ddynodwyd gyntaf ym 1953 ac sydd wedi'i hadolygu'n ddiweddarach. Mae'n ymestyn dros 66ha ac mae'n safle daearegol o bwys cenedlaethol. Gwelir adran greigiog, bron yn ddi-dor, o ran uwch Grutiau Rhinog, trwy Ffurfiant Hafoty, Grutiau Abermaw ac i mewn i Ffurfiant y Gamlan, sydd oll yn greigiau sy'n perthyn i Grwpiau Grutiau Harlech, ac yn dyddio o'r cyfnod Cambriaidd is-ganol.

Mae'r ardal o ddiddordeb arbennig oherwydd ei bod yn enghraifft eglur o'r dilyniant clastig trwchus uchod. Coetir sy'n gorchuddio tua thraean o'r ardal, gan gynnwys ardal o dderw digoes ar yr arfordir gorllewinol.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Mawddach

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol