English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mawddach - Ardal 15 Llethrau coediog, uwchben Arthog (PRN 18345)

 

Cefndir hanesyddol

Agorwyd dwy chwarel lechi yn Nyffryn Panteinion yn y 19eg ganrif. Dechreuwyd Henddol ar ddechrau’r 1860au, ac roedd yn cynhyrchu erbyn 1865, ond daeth y cynhyrchu i ben ym 1871 wedi cwymp creigiau. Roedd chwarel Goleuwern wedi'i hagor ym 1867, a phan ailagorwyd Henddol ym 1892, bu'r ddwy yn masnachu ar y cyd dan yr enw Cambrian Estates Cyf. Daeth hyn i ben ym 1920 (Richards, 1991). Roedd oes chwarel arall, sef Bryngwyn, hyd yn oed yn fyrrach ac yn fwy di-drefn. Roedd y ddwy chwarel yn rhannu cyfleusterau ar y cyd (melin, gefail ac ati) ac yn dibynnu ar geffyl a chert i gludo'r llechi oddi yno. Tua'r dwyrain, uwchben Arthog, agorwyd chwarel Ty'n-y-coed ar ganol y 1860au. Cludwyd ei deunyddiau hithau ar dramffordd ar draws y morfa i lanfa fechan ar yr aber islaw ac yna i Abermaw. Byddai fferi Abermaw, oedd yn croesi o bwynt Penrhyn ar Forfa Mawddach (ardal 10), yn cludo'r llechi dros yr aber i Abermaw (ardal 01), a byddent yn cael eu cludo oddi yno ynghyd â phlwm, arian, copr a manganîs o Gyfannedd Fawr. (Gellir gweld gweddillion y cloddfeydd a'r ceuffyrdd a agorwyd yn wreiddiol ym 1827 ond a weithiwyd yn bennaf rhwng 1851-63, i'r gogledd o'r fferm o'r un enw ym mhen uchaf yr ardal hon). Roedd y mwynglawdd arian hwn, yr unig un yn y cyffiniau, yn cynhyrchu tua 40 owns o arian o bob tunnell o fwyn, ar ei anterth. Morus Jones oedd yn byw yng Nghyfannedd Fawr ym 1748. Roedd yn fardd adnabyddus ac enillodd sawl cadair farddol.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ffermdai 17eg ganrif, gweddillion mwyngloddio, coetiroedd

Ym mhen uchaf yr ardal, mae The Blue Lake', sef pwll chwarel 40 troedfedd o ddyfnder a lanwyd â dr yn fwriadol ym 1901 gan beiriannydd McDougall (gweler ardal 11) i greu cronfa mewn cynllun fyddai’n darparu golau trydan i Fairbourne. Gosodwyd pibelli i lawr i’r pentref, ond ni wireddwyd y syniad.

Mae yna nifer o adeiladau rhestredig yng nghymuned Arthog, sy'n tystio i bwysigrwydd yr ardal dros tua'r tri chan mlynedd diwethaf. Plasty yw Neuadd Arthog, wedi'i adeiladu mewn arddull castellaidd, pictiwrésg, ym 1833 ar safle'r Pwll-arthog canoloesol. Fe'i hadeiladwyd ar gyfer Reginald Fourden, sef perchennog melin gotwm yn Swydd Gaerhirfryn. Mae gan y bwthyn a fferm y plas gerllaw (y ddau ohonynt yn radd II hefyd) gasgliad o dai allan amaethyddol, yn cynnwys certws, rhes o stablau ac ysgubor gwair. Mae'r Old Lodge' (adeiladwyd ym 1835 i wasanaethu'r neuadd) hefyd yn rhestredig. Ffermdy brodorol deulawr bychan, wedi'i adeiladu o rwbel, sy'n dyddio o 1796 yw Garth y Fog (gradd II*). Cynhaliwyd gwarchae drwg-enwog ym 1780 yn ffermdy Hen-ddol (ffermdy ger y chwarel sy'n dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif / dechrau'r 18fed ganrif). Aeth beilïau yno i restio'r perchennog am smyglo; (mae yno hefyd gasgliad diddorol o adeiladau allan o'r 19eg ganrif). Mae plasty bychan o oes Fictoria, sef Ty'n-y-coed, yn un arall o'r adeiladau o'r 19eg ganrif sydd ar lan yr aber. Adeiladwyd hwn mewn arddull Gothig eclectig yn y 1860au gan David Davies oedd newydd brynu'r stad a chychwyn y chwarel o'r un enw.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Mawddach

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol