English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mawddach - Ardal 14 Llynnau Cregennen (PRN 18344)

 

Cefndir hanesyddol

Llwybr hynafol dros y mynydd o Lwyngwril i Ddolgellau yw Ffordd-ddu. Dywed rhai ei fod yn dyddio o'r cyfnod neolithig (gweler adran 8.3 uchod). Bu'r ffordd fach sy'n rhedeg dros y copa heddiw yn brif lwybr ar draws yr ardal ar un adeg. Mae'n hn na’r briffordd bresennol sy’n dilyn gwaelod y clogwyn ac roedd yn gwasanaethu nifer o ffermydd sydd nawr ynteu’n adfeilion neu’n gartrefi ‘ymddeol’.

Mae dwsinau, yn llythrennol, o safleoedd archeolegol creiriol (gweler adran 8.3 uchod) yn rhan ddwyreiniol yr ardal o gwmpas Llynnau Cregennen eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys meini hirion, carneddau, cylchoedd cytiau a nodweddion eraill mwy darfodedig o'r cyfnod cynhanesyddol. Mae hefyd olion sylweddol safleoedd aneddiadau gwledig gwag o gyfnodau diweddarach; (cofnodir bod Cregennen yn drefgordd rydd yn y cyfnod canoloesol). Tystia'r safleoedd hyn, llawer ohonynt yn henebion rhestredig, i gyfnod hir o ddefnyddio'r tir, sy'n ymestyn dros rai miloedd o flynyddoedd. Gorwedda'r rhan fwyaf o'r safleoedd hyn yn yr ardal sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fe'u cofnodwyd yn ystod arolwg archeolegol yr Ymddiriedolaeth o'r ardal. Yn ddiddorol, gwelir bod y safleoedd a gofnodwyd ar y CSH rhanbarthol yn dod i ben ger y ffordd fach sy'n hollti'r ardal o'r gogledd i'r de, o Gregennen i fyny i gyfeiriad Braich Ddu.

Mae yna nifer o ffermydd bychain yma o'r 17eg ganrif 19eg ganrif, dwy ohonynt yn gofrestredig, gan gynnwys Cefn-hir-uchaf (gradd II bwthyn brodorol unllawr o rwbel o ddiwedd yr 17eg ganrif) a Phant-Phylip, ffermdy brodorol unllawr a hanner wedi'i adeiladu o rwbel ac yn dyddio o 1731, ond nid yw'r rhain yn cymharu â'r rhai yn ardal 18, tua'r dwyrain. Dengys map degwm 1839 Llangelynnin bod y rhan fwyaf o'r ardal yn cynnwys lociau mawr, afreolaidd eu siâp, yn debyg iawn i heddiw.


Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Safleoedd archeolegol creiriol, llociau afreolaidd eu siâp, ffermydd, traciau

Ardal fawr o batrymau caeau cymhleth, ffermydd wedi'u gwasgaru'n eang (rhai ohonynt ag enwau trefgorddau canoloesol) a thirwedd o safleoedd cynhanesyddol creiriol sydd ymysg y mwyaf arwyddocaol yn y rhanbarth, fel y disgrifiwyd uchod, yw'r prif nodweddion o ddiddordeb yn yr ardal. Mae ansawdd y tir yn wael ac mae clytiau o gors a chaeau pori rhwng y bryncynnau creigiog. Nodweddir rhan ddwyreiniol yr ardal, sy'n cynnwys y tir gwell, gan ddwsinau o safleoedd archeolegol creiriol, tra bo'r rhan orllewinol, mwy creigiog, yn llymach a dim ond dau d sydd yno.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Mawddach

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol