English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 9 Rhoshirwaun a Bryncroes


Rhydlios, Rhoshirwaun


Bryncroes


Fferm, Rhoshirwaun

Cefndir hanesyddol

Mae’r arfau cerrig a ddarganfuwyd yn arwyddion o weithgaredd cynhanesyddol cynnar: crafwr fflint ger Bryncroes; bwyell forthwyl garreg o Gae Wern, Trygarn, i’r de o Sarn Mellteyrn; bwyell garreg yng Nghae Llyn Gelod, Rhoshirwaun, a meini hirion, neu gofnod o feini hirion yn Llangwnnadl ac ym Maen Hir, Pen-y-groeslon.

Ceir arwyddion o anheddu yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar, sef y llociau a’r nodweddion crwn y daethpwyd o hyd iddynt yng Nghwm Ci, Rhoshirwaun; y nodweddion yn Rhydlios a’r lloc gwrthglawdd consentrig ar odre llethrau gorllewinol Mynydd y Rhiw ym Meillionydd. Mae mwy o sicrwydd ynglyn â’r aneddiadau cylchoedd cytiau cnewyllol a nodwyd ym Mhant y Gwril, Pen-y-groeslon (PRN 5215, 5216) a’r lloc amlonglog yng Ngorffwysfa, i’r gogledd o Ben-y-groeslon (PRN 4371).

Mae ffynhonnau sanctaidd yng ngogledd-ddwyrain yr ardal gymeriad, sef Ffynnon Lleuddad, a Ffynnon Fair, sydd ar ochr ddeheuol pentref Bryncroes. Mae eglwys Bryncroes yn eglwys hynafol. Gwnaethpwyd gwaith sylweddol i’w hadnewyddu ym 1906 gan y pensaer Harold Hughes. Yn ôl Hyde-Hall, ym 1810, nid oedd yr eglwys ‘prin yn haeddu cael ei disgrifio’. Er hynny, mae’n bosibl bod y drysau pen crwn yn rhai gwreiddiol, ac roedd yr eglwys yn sicr mewn bodolaeth yn y 13eg ganrif, gan fod cofnod ym Mhrisiad Norwich, 1254, ei bod yn derbyn gwerth 10s o ddegymau ac offrymau. Mae’r Valor Ecclesiasticus, ym 1535, yn nodi Bryncroes fel un o gapeli Mynachlog Enlli, ynghyd â Thudweiliog a Llangwnnadl. Roedd y capel yn derbyn gwlân, wyn, cynnyrch llaeth a grawn yn ddegwm gan ei blwyf.

O ran gweinyddiaeth, cyn 1283, byddai cysylltiad agos rhwng yr ardal i’r dwyrain o eglwys Bryncroes â maerdref frenhinol Neigwl. Roedd canolbwynt trefgordd tir cyfrif Dindywydd, sy’n cael ei disgrifio yn yr astudiaeth hon fel rhan o ardal gymeriad y Rhiw, ar lethrau gogleddol Mynydd y Rhiw. Fodd bynnag, roedd ei heiddo’n ymestyn ar draws y tir llethrog tuag at afon Soch i bentrefan Crugeran. Yn yr un modd, roedd Trygarn, i’r dwyrain o Fryncroes, wedi bod yn bentrefan yng nghanolfan y demên yn Neigwl. Mae cofebion i aelodau o deulu Trygarn, yn dyddio o ganol yr 17eg ganrif, i’w gweld yn yr eglwys. Mae ty Trygarn yn dy deulawr pwysig sydd wedi goroesi o’r 18fed ganrif.

Roedd Rhoshirwaun, i’r gorllewin o Fryncroes, yn weundir gwlyb ar un adeg. Roedd yn darparu tanwydd o’r mawn, a phorfa i anifeiliaid, ym misoedd yr haf o leiaf. Roedd sgwatwyr, pysgotwyr yn fwyaf arbennig, wedi llechfeddiannu darnau o’r tir comin, ac mae’n debyg bod y gymuned wedi derbyn hynny’n dawel.

Lluniwyd Deddf Cau Tiroedd ym 1802, a’r bwriad oedd troi’r sgwatwyr a oedd wedi bod ar y tir am lai nag 20 mlynedd oddi yno. Roedd gwrthwynebiad cryf i’r bwriad i droi pobl o’u cartrefi, ac i golli’r hawliau torri mawn, a bu’n rhaid i fintai o filwyr ddod yno i gadw trefn. Roedd cryn gydymdeimlad â sefyllfa’r sgwatwyr. Yn ôl Hyde-Hall, sylwedydd o’r cyfnod hwnnw, ‘of some hardship … the cottagers perhaps have a right to complain, if the illegality of their settlement has not in the first instance been most clearly and formally made manifest to them; but with considerations of wrong or right, the community has nothing to do when any of its members resort to force as their argument’.

Cymhwyswyd y Ddeddf Cau Tiroedd ym 1814. Adeiladwyd ffyrdd newydd ar draws y waun, sefydlwyd terfynau, dyrannwyd rhandiroedd ac adenillwyd bron i ddwy fil o aceri o dir gwlyb (ceir manylion am y broses cau tiroedd yn y cyflwyniad hanesyddol). Daeth y ffordd o Nefyn a Thudweiliog i Aberdaron i gael ei defnyddio fel y brif ffordd i’r de i’r rhan honno o’r penrhyn. Cyn hynny roedd ffordd heb unrhyw ochrau iddi yn croesi’r gors, ac yn ystod cyfnodau gwlyb roedd yn well gan bobl deithio ar hyd ffordd yr arfordir.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Cors fawr ar un adeg, wedi ei hadennill a’i chau drwy Ddeddf Seneddol.
• Tystiolaeth o diroedd caeëdig hynafol a bythynnod ar dir wedi ei lechfeddiannu.
• Tirwedd sy’n cael ei nodweddu gan nifer o fythynnod unllawr, llawer ohonynt â chroglofftydd wedi goroesi, a rhai ohonynt yn dangos tystiolaeth o adeiladwaith waliau mwd.
• Patrymau caeau gwrthgyferbyniol yn adlewyrchu’r clystyrau bychain, cywasgedig o gaeau o amgylch aneddiadau ar gwr y gors gaeëdig.
• Gwella ffyrdd a chreu llwybrau unionsyth o ganlyniad i’r Ddeddf Cau Tiroedd.
• Mae parseli hir troellog o erddi creiriol a arferai fod yn rhan o’r hen gaeau âr agored i’w gweld yng nghyffiniau Bryncroes.

Mae Rhoshirwaun yn ardal wastad ar y cyfan, tua 80m uwchlaw’r Seilnod Ordnans. Mae’r tir yn gostwng yn raddol o odre Mynydd y Rhiw a Meillionydd, tua’r gorllewin i lwyfandir Bodferin a Llangwnnadl a’r môr. Mae’r ardal gymeriad ym rhan o blwyfi Bryncroes a gogledd Aberdaron ac mae’n ffinio â Llangwnnadl tua’r gogledd a’r gogledd-orllewin, Mynydd Cefnamwlch a blaenddyfroedd Afon Fawr ger Ffynnon Lleuddad tua’r gogledd, godre Mynydd y Rhiw a llednentydd afon Soch ym Mryncroes tua’r dwyrain, llwyfandir Aberdaron ym mhentref Rhoshirwaun a blaenddyfroedd afon Cyll-y-felin tua’r de a’r de-orllewin.

Rhostir gwlyb, cymharol wastad yw tir comin Rhoshirwaun. Mae’n cael ei ddraenio tua’r gogledd-orllewin gan Afon Fawr i Draeth Penllech; tua’r gogledd-ddwyrain, drwy Fryncroes i ymuno ag afon Soch yn Sarn Mellteyrn; tua’r gorllewin ym Mhorth Ty Mawr a thua’r de-orllewin i Fae Aberdaron. Mae dyddodion mawn wedi crynhoi ar y llwyfandir isel hwn ers canrifoedd. Y cymeriad presennol yw tir gwlyb wedi ei adennill a thir caeëdig cymharol ddiweddar. Mae’r nodweddion yn cynnwys ffosydd draenio rheolaidd, ffyrdd unionsyth a therfynau pridd unionlin isel, neu gerrig ambell waith, sy’n adlewyrchiad o’r Amgaead Seneddol. Mae nodweddion y tiroedd caeëdig afreolaidd a lechfeddiannwyd cyn y 19eg ganrif i’w gweld yma ac acw hefyd. Mae llawer o’r tiroedd a lechfeddiannwyd, yn enwedig yn yr ardal i’r de-ddwyrain ac i’r de o Gyfelan a Llangwnnadl, wedi eu nodi gan John Evans ar ei fap o’r 1790au. Mae rhaniad y dirwedd hon ar ddechrau’r 19eg ganrif yn cynnwys nifer o badogau mwy a chlystyrau o leiniau llai yn gysylltiedig ag adeiladau newydd ar yr hen dir comin. Mae clystyrau o aneddiadau i’w gweld yn yr Amgaead Seneddol wrth y groesffordd ym Mhen-y-groeslon, yn Rhydlios ac ar hyd y ffordd i Aberdaron yn Rhoshirwaun.

Y bwthyn traddodiadol yn ardaloedd Rhoshirwaun a Bryncroes yn niwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif oedd y bwthyn unllawr, a hwnnw’n aml â chroglofft. Bythynnod fel hyn fyddai’r rhan fwyaf o’r tai yn yr ardal cau tiroedd, ond mae llawer ohonynt wedi eu addasu neu wedi eu dymchwel er mwyn codi tai newydd yn eu lle, ac maent mynd yn brinnach o hyd. Rwbel ar hap yw deunydd adeiladu traddodiadol y bythynnod hyn, ond mae cyfran sylweddol hefyd yn rhai â waliau mwd. Mae ugain o’r bythynnod waliau mwd hyn wedi cael eu cofnodi o fewn yr Amgaead Seneddol neu ar ei gyrion. Mae enghreifftiau da o fythynnod unllawr yn yr ardal, rhai â chroglofft wedi goroesi, a rhai sydd â waliau â chraidd pridd o hyd, i’w gweld yn Ardd Las ac Efail Rhos, Rhoshirwaun; dwy enghraifft ym Mhenrhos; ym Mhencruga, Groeslon a Chilyradwy, i’r gogledd o Rydlios.

Roedd llechi’n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer tai sylweddol, ond mae lle da i gredu bod toeau gwellt yn gyffredin. ‘As a covering for houses, thatch is chiefly in use, a practice which is robbing the land of straw cannot be to much countenanced. For Supplies of slate, nature has afforded the necessary facilities by the neighbouring sea, and no very distant quarries, but to avail ourselves of these, even when held out in the greatest degree, some previous strength and ability are in course necessary’, (Hyde Hall, ym mhlwyf Bryncroes, 1810).

Byddai problemau draenio tebyg i’w cael i’r dwyrain o Roshirwaun, ond y tu allan i’r Amgaead Seneddol, nes cyrraedd y codiad tir ym Meillionydd a godre Mynydd y Rhiw. Er gwaethaf newidiadau mewn defnydd tir, yn yr ardal cau tiroedd, a gwneud caeau’n fwy a chwalu terfynau caeau a oedd yn cael eu ffermio, mae modd adnabod siapiau hir troellog parseli o erddi creiriol yn yr hen gaeau âr agored. Mae’r rhain i’w gweld yng nghyffiniau Bryncroes, ym Melin Trygarn ac yn y Pant.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol