English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 8 Tiroedd caeëdig Mynydd Anelog, Mynydd Mawr, Mynydd Gwyddel a Mynydd Bychestyn


Ffynnon Fair ac Ynys Enlli


Capel y Santes Fair

Cefndir hanesyddol

Mae gweithgaredd wedi bod ar bentiroedd creigiog Mynydd Anelog a Mynydd Mawr ac ymlaen i Ben y Cil ers miloedd o flynyddoedd. Canfuwyd fflintiau a chreiddiau mesolithig ar y pentir uwchben Ffynnon Fair ac yn ymyl olion capel y Santes Fair islaw Mynydd Gwyddel. Canfuwyd arfau fflint a naddion wedi eu trin hefyd ar Fynydd Bychestyn (PRN 1225, 4350, 7063, 1224, 1667) ac ym Mhorth Meudwy. Cofnodwyd bwyell garreg Neolithig ger copa Mynydd Mawr, yn yr ardal a oedd yn cael ei hamaethu yn y Canol Oesoedd (PRN6613).

Mae aneddiadau cylchoedd cytiau a llwyfannau tai i’w gweld ar ochr ogleddol Mynydd Anelog, rhwng y copa a’r môr (PRN 769, 2969), ar ochr ddeheuol Mynydd Mawr (PRN 777, 1671) ac ar Fynydd Bychestyn (PRN 1227, 1663). Mae’n debyg bod y cylchoedd cytiau hyn o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar neu’r cyfnod canoloesol cynnar. Cofnodwyd llwyfannau tai petryal canoloesol neu ddiweddarach hefyd yn yr un ardaloedd (PRN 771, 780, 1228). Gwnaethpwyd darganfyddiad prin iawn yn y môr ger pentir Mynydd Bychestyn pan ganfuwyd croesfar angor Rhufeinig.

Ar bentir creigiog bychan Trwyn Maen Melyn mae cilfach ac amfae o’r enw Ogof Aber-gath-wen. Yma mae nant yn disgyn i’r glannau creigiog islaw, i Ffynnon Fair, sy’n gysylltiedig â chapel canoloesol y Santes Fair ar y llwyfandir uwchben. Mae capel y Santes Fair yn adfeilion erbyn hyn ond mae modd adnabod ei sylfeini a’i loc o hyd. Capel y Santes Fair oedd yr olaf o gyfres o gapeli ar y bererindod i Enlli. Mae’n rhaid bod ei swyddogaeth yn cynnwys darpariaeth ar gyfer morwyr a oedd yn erfyn am ddiogelwch cyn cychwyn ar y daith beryglus yn aml i groesi Swnt Enlli (Pennant, cyfrol 2, 373).


Mae tystiolaeth o gaeau a therfynau canoloesol neu ôl-ganoloesol i’w gweld ar y tir comin ond mae’n anodd dyddio’r dystiolaeth. Er hynny, bu rhywfaint o lechfeddiannu tir, a byddai’n syndod pe na bai wedi digwydd. Mae’r dystiolaeth orau yn ddiweddar, lle’r oedd o leiaf chwe bwthyn o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif, pedwar ohonynt â chroglofftydd adnabyddadwy, wedi meddiannu darnau o dir comin Mynydd Anelog. Ceir tystiolaeth map hefyd ar gyfer proses debyg ym Mhen y Cil. Lluniwyd Deddf Amgaead ym 1811 ond ni ddaeth i rym am rai blynyddoedd (gweler y cyflwyniad hanesyddol i’r broses o gau tiroedd).

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Mae tystiolaeth o gaeau a therfynau canoloesol neu ôl-ganoloesol i’w gweld ar y tir comin.
• Tyddynwyr yn llechfeddiannu tir o fewn terfynau’r tir comin.
• Ar ôl yr Amgaead Seneddol, pennwyd terfynau newydd, syth ac mae tystiolaeth o amaethu âr o fewn y terfynau hyn i’w weld yn amlwg.
• Capel y Santes Fair oedd yr olaf o nifer o gapeli ar y bererindod i Enlli. Nid yw’r capel yn bodoli heddiw ond mae modd adnabod ei sylfeini a’i loc o hyd.
• Mae Ffynnon Fair i’w gweld ar y glannau creigiog ac mae’n gysylltiedig â chapel y Santes Fair ar y llwyfandir uwch.

Mae’r ardal gymeriad hon yn disgrifio’r pentir creigiog ar godiad tir ym mhen deheuol y rhan fwyaf gorllewinol o benrhyn Llyn yn Uwchmynydd. Mae Bae Aberdaron tua’r dwyrain ac mae’r pentir yn wynebu Ynys Enlli, sydd 3km i’r de-orllewin. Mae pedwar copa amlwg yn codi uwchben y glannau creigiog o’r gogledd-orllewin i’r de-ddwyrain, sef Mynydd Anelog (190m uwchlaw’r seilnod ordnans), Mynydd Mawr (150m uwchlaw’r seilnod ordnans), Mynydd Gwyddel (90m uwchlaw’r seilnod ordnans) a Mynydd Bychestyn (100m uwchlaw’r seilnod ordnans). Mae’r pellter rhwng y môr a’r caeau sydd wedi bod yn cael eu trin yn y gorffennol yn Uwchmynydd yn llai rhwng Mynydd Gwyddel a Mynydd Bychestyn (tua 100m), ac yn fwy ym Mynydd Anelog (700m) a Mynydd Mawr (tua 500m). Mae coridor o dir heb ei drin yn ymestyn o Fynydd Bychestyn a Phen y Cil i harbwr Porth Meudwy.

Mae hon yn dirwedd sydd wedi cael ei defnyddio fel porfa arw uchel ers amser maith. Mae’r ardal yn cynnwys nifer o nodweddion defnydd tir. Mae’r dopograffeg yn donnog a chreigiog, a cheir gelltydd môr serth a pheryglus. Er hynny, roedd anheddu yma yn ystod y cyfnod cynhanesyddol diweddar a thrwy ganrifoedd y Rhufeiniaid o bosibl. Mae’r defnydd diweddarach o’r dirwedd hon wedi sicrhau bod yr olion anheddu cynnar hyn wedi goroesi yn hytrach na chael eu dinistrio gan brosesau amaethyddol dwysach.

Mae’r cymhelliant i adeiladu capel ar y tir hwn yn gwbl wahanol i ofynion anheddiad. Mae’r llwyfandir yn Nhrwyn Maen Melyn yn hygyrch, mae Ynys Enlli i’w gweld yn glir oddi yno dros y Swnt ac mae gan y capel a adeiladwyd yno gysylltiad tirweddol â ffynnon naturiol a oedd â chysylltiad dwyfol, neu a ddatblygodd gysylltiad dwyfol. Roedd y capel mewn man delfrydol i atgoffa morwyr o beryglon y Swnt a rhoi amddiffyniad dwyfol iddynt yr un pryd.

Erbyn diwedd y 18fed ganrif (ac yn gynharach mae’n siwr) o ganlyniad i bwysau ar dir, neu’r ffaith fod tir ar gael a bod cyfle i adeiladu tyddyn, llechfeddiannwyd tir a oedd o fewn terfynau’r tir comin. Mae tystiolaeth o’r broses hon wedi goroesi, yn ddieithriad, ar derfyn y tir comin neu’n agos ato. Ar ôl cau’r tir comin, pennwyd terfynau newydd syth ac mae tystiolaeth o amaethu âr o fewn y terfynau hynny i’w gweld yn glir.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol