English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 7 Llaniestyn


Carn Fadryn


Llaniestyn


Tai , Llaniestyn

Cefndir hanesyddol

Dangosir anheddiad a gweithgaredd cynnar yn ardal Llaniestyn gan feddrod siambr Neolithig bosibl a chrug yn Nhregarnedd (PRN 428), a gofnodwyd gan Richard Fermington yn niwedd y 18fed ganrif, a chan gladdiadau mewn cist yn Ffridd Cefn y Gaer (PRN 4023). Canfuwyd pen picell efydd gerllaw (PRN 4022). Cofnodwyd arwyddion eraill o weithgaredd o’r Oes Efydd ar Garn Fadryn a thrafodir hwy dan yr ardal gymeriad honno. Gwyddys am aneddiadau cylch cytiau cnewyllol yng nghyffiniau Pen Bodlas ar ystlys ddwyreiniol esgair uwchlaw ceunant afon Horon (PRN 418, PRN 4017) sy’n dyddio o’r Oes Haearn ddiweddar neu’r cyfnod Brythonig-Rufeinig. Yn haf 2006 dangosodd lluniau a dynnwyd o’r awyr gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru loc ôl cnwd ar ystlys ogledd-orllewinol esgair isel uwchlaw blaenddyfroedd afon Soch ym Mhenybryn (225030 334470). Ychwanegwyd mwy o fanylion gan arolwg geoffisegol a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, a nodwyd o leiaf un ty crwn yn y lloc 0.7ha.

Mae eglwys Llaniestyn yn sefydliad hynafol. Mae’r cofnod cyntaf ohoni yn dyddio o 1254 pan oedd yr adnoddau a oedd yn dod iddi’n werth 40s., ynghyd â Llangian a Llannor. Dim ond Nefyn (60s.) ac Aberdaron (£6) oedd yn werth mwy. Mae’n bosibl bod gwreiddiau eglwys Llaniestyn yn dyddio o’r Canol Oesoedd cynnar. Ym 1306 cofnodir Llaniestyn fel un o drefgorddau rhydd Esgob Bangor. Mae natur rydd-ddaliadol y ddaliadaeth, cyrhaeddiad eang ei thenantiaid a’r gwahaniaethu rhwng lleygwyr a’r rhai nad oeddent yn lleygwyr, yn awgrymu’r posibilrwydd bod Llaniestyn ar un adeg wedi bod yn gymuned ‘glas’ neu led-fynachaidd, yn cael ei threfnu er budd yr eglwys ac er mwyn cynnal a chadw’r eglwys. Erbyn dechrau’r 13eg ganrif roedd sefydliadau o’r fath yn cael eu hystyried yn hen ffasiwn ac angen eu diwygio. Disodlwyd rhai eglwysi o’r fath gan gymunedau o ganonau Awstinaidd. Daeth eraill, fel Llaniestyn efallai, yn eglwysi plwyf.

Mae’n bosibl bod arwydd arall o darddiad cynnar, neu o leiaf o ganolbwynt crefyddol cynnar yn Llaniestyn, yn yr enw Myfyr yn ffermydd Myfyr Mawr a Myfyr Bach. Mae Myfyr yn hen air sy’n dynodi safle cofeb neu gysegr (Lladin: memoria; Cymraeg: myfyr) neu, yn fwy llafar, fedd, a gellir ei gysylltu â chapeli beddi a phresenoldeb cynnar eglwys (Roberts, T., 1992, ‘Welsh Ecclesiastical Place-names and Archaeology’ yn The Early Church in Wales and the West, gol. Edwards, N., 41-44. Oxbow).

 

Mae’r gwaith maen cynharaf sydd i’w weld yn eglwys Llaniestyn yn dyddio o ganol y 13eg ganrif. Roedd canol yr eglwys a’r gangell yn un uned adeileddol ddi-dor, ond byddai ardal y gangell wedi’i diffinio rywsut; rhyw wahaniaeth yng nghyplau’r to neu yn addurniad agoriadau’r ffenestri. Roedd yr eglwys wedi ei hymestyn ymhellach tua’r dwyrain erbyn tua 1300, ac yn y talcen dwyreiniol ceir ffenestr lansed driphlyg o’r dyddiad hwnnw. Bryd hynny, roedd tenantiaid rhydd yr Esgob, yn Llaniestyn, yn cynnwys bron i 100 o deuluoedd yn y drefgordd gyfan, wedi eu trefnu mewn chwe gwely yn gysylltiedig â thylwyth, a oedd yn ffermio cyfanswm o 40 bufedd neu tua 320 acer o dir âr. Ddwy ganrif yn ddiweddarach ychwanegwyd ail eil ar yr ochr ddeheuol, yn gywastad â’r talcen dwyreiniol cynharach yn y pen dwyreiniol ond ddwy gilfach yn fyr yn y pen gorllewinol. Mae’r eil ddeheuol yn cysylltu â’r eil ogleddol drwy arcêd o bum bwa pedwar canolbwynt sy’n cael eu cynnal gan golofnau wythonglog. Ceir bedyddfaen wythonglog o ddechrau’r 16eg ganrif â phatrymau cilannog, sy’n adlewyrchu ffenestri’r eglwys, ynghyd â chynllun sy’n cynnwys ffenestriad sythlin.

Ym 1399, tua’r adeg pan ychwanegwyd yr eil ddeheuol, dioddefodd eglwysi esgobaeth Bangor drethiad arall. Roedd Llaniestyn yn werth 12 marc a 10s. (£8.10s.), a hi oedd yr eglwys gyfoethocaf ond un yn Neoniaeth Llyn. Ym 1535 roedd rheithoriaeth Llaniestyn yn cwmpasu capeli Penllech tua’r gorllewin a Llandegwning tua’r de ac roedd yn werth £21.3s.11d.

Yn ystod yr 16eg, yr 17eg a’r 18fed ganrif caewyd caeau âr agored, rhannwyd hwy’n ddarnau llai ac unwyd lleiniau gan roi cyfle i greu daliadau mwy. Un o nodweddion tirwedd Llaniestyn ar ddechrau’r 19eg ganrif oedd y clytwaith o nifer fawr o gaeau bychain, ond yn ystod y 19eg ganrif chwalwyd cloddiau i greu caeau mwy eto, llawer ohonynt â therfynau unionsyth. Mae plwyf Llaniestyn, ardal lawer mwy na’r ardal gymeriad, yn ymestyn dros 3387 acer. Erbyn 1840, roedd pum deg pedwar y cant o’r aceri hynny yn nwylo tri thirfeddiannwr unigol ac roedd wedi dod yn rhan o ystâd Cefn Amwlch yn y gorllewin, Nanhoron yn y de-ddwyrain a Madryn yn y gogledd. Yn y 1840au roedd tirfeddianwyr diwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, a oedd yn gwella’u hystadau, yn aredig 2300 o aceri yn y plwyf.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Terfynau caeau’n diffinio llociau bychain yn bennaf, â waliau cerrig yn agos at y mynydd a chloddiau â rhedyn ar eu pennau ar y prif lwyfandir. Yng nghyffiniau pentref Llaniestyn ei hun, mae modd adnabod terfynau caeëdig cyn erddi troellog mewn meysydd âr agored o hyd.
• Mae bythynnod traddodiadol yn brin ond mae ambell un wedi goroesi i roi cymeriad i’r dirwedd.
• Mae eglwys Llaniestyn yn eglwys bwysig iawn â gwreiddiau o bosibl yn y cyfnod Canoloesol Cynnar ac mae wedi cadw ei chymeriad fel eglwys sy’n dyddio o’r 13eg ganrif i ddiwedd y 15fed ganrif yng nghanol pentref bychan. Yn ymyl yr eglwys saif dau fwthyn sylweddol, Ty’n Llan a Thy’n Llan Bach sy’n dyddio mae’n debyg o’r 18fed ganrif.


Mae Llaniestyn yn blwyf mawr ac yn y Canol Oesoedd roedd yn drefgordd helaeth yn cael ei phoblogi gan denantiaid rhydd Esgob Bangor. Ffin orllewinol ardal gymeriad Llaniestyn yw cwm cul blaenddyfroedd afon Soch a’r ffin dde-ddwyreiniol yw ceunant afon Horon. I’r gogledd-ddwyrain saif mewnwthiad folcanig amlwg iawn Carn Fadryn, sy’n codi i 350m uwchlaw’r seilnod ordnans. Diffinnir terfyn deheuol yr ardal gymeriad hon hefyd gan afon Soch, sy’n troi i’r de-ddwyrain yn Sarn Mellteyrn i gyfeiriad Botwnnog.

Mae’r ardal rhwng Carn Fadryn ac afon Soch yn Sarn Mellteyrn yn llwyfandir tonnog rhwng 110m a 140m uwchlaw’r seilnod ordnans, ac yn codi uwchben gwastadedd arfordirol Tudweiliog yn y gogledd a Neigwl yn y de. Mae’r llwyfandir yn ffurfio cyfrwy rhwng Carn Fadryn a Mynydd Cefnamwlch, i’r gorllewin, ar uchder o 180m. Mae’r draeniad tua’r de gan mwyaf, ac yn bwydo afon Soch ar ei thaith hir ar draws llwyfandir Neigwl. Mae’r ceunentydd i’r gorllewin a’r dwyrain yn cyd-fynd â’r dyffryn, Nant Llaniestyn, sy’n trawsdorri’r ardal ar ei lwybr troellog i afon Soch ym Motwnnog. Mae terfynau’r caeau’n diffinio llociau bach ar y cyfan, â waliau cerrig yn agos at y mynydd a chloddiau â rhedyn ar eu pen ar y prif lwyfandir. Er eu bod yn fach o gymharu â’r llociau presennol sydd ar y gwastadedd arfordirol cyfagos, gellir dangos bod hyd yn oed y caeau mawr, y mae canran ohonynt yn cael eu haredig, yn llawer llai ar ddechrau’r 19eg ganrif, a bod terfynau caeau wedi eu chwalu. Er hynny, ger pentref Llaniestyn, mae modd adnabod terfynau caeëdig cyn erddi troellog mewn meysydd âr agored o hyd. Mae enghreifftiau arbennig o dda wedi goroesi ar fferm Trefaes hefyd.

Nid oes angen i bob un o’r parseli o leiniau bach iawn, a ddisgrifiwyd yn yr adran flaenorol, fod yn gynnyrch y broses honno, fodd bynnag, ac mewn rhai lleoliadau, er enghraifft Rhos Llandinwael, y cymhelliad cyn 1840 fyddai adennill tir gwael. Ceir cadarnhad defnyddiol yn enw’r fferm gyfagos, Ffridd (Ffridd Cefn Gaer o’r blaen; ffridd = tir diffaith, heb ei drin).

Mae’r aneddiadau’n wasgaredig ac yn cynnwys ffermydd a thyddynnod. Yr unig bentref â rhywfaint o gnewyllyn yw Llaniestyn ei hun. Mae pentrefi mwy ar derfyn yr ardal yn Sarn Mellteyrn a Botwnnog. Mae tyddynnod yma ac acw ar ochr dde-orllewinol Carn Fadryn, sy’n cael eu nodweddu gan leiniau unionlinellog bach iawn, yn dangos patrwm anheddu ar ôl cau’r tir comin yn Llaniestyn yn y 19eg ganrif. Mae gan y daliadau hyn a’r dirwedd y maent ynddi gymeriad nodedig ac ymdrinnir â hwy ar wahân.

Prin yw’r bythynnod traddodiadol ond mae ambell un wedi goroesi ac yn rhoi cymeriad i’r dirwedd. Yng Nghae Mur ceir bwthyn unllawr â chroglofft debygol ac adeiladau fferm ynghlwm wrtho ar yr un echelin. Mae gan un o’r adeiladau cyfagos wal bridd. Mae Penrhos yn ffermdy mwy tua’r de, ond mae wedi ei restru oherwydd ei gymeriad gwerinol. Mae cymeriad gwerinol hefyd i Fwlch Groes tua’r gogledd, sy’n adeilad deulawr.

Mae eglwys Llaniestyn yn eglwys bwysig iawn â’i gwreiddiau o bosibl yn y Canol Oesoedd. Mae wedi cadw ei chymeriad fel eglwys yn dyddio o’r 13eg ganrif i ddiwedd y 15fed ganrif sy’n ganolbwynt pentref bychan. Mae troad llydan yn y ffordd drwy’r pentref ar yr ochr ogleddol, ac yna’r ochr ddwyreiniol, ac mae hyn yn awgrymu y gallai’r lloc eglwysig fod wedi bod yn fwy ar un adeg nag ydyw ar hyn o bryd. Mae llwybr hynafol yn arwain i’r eglwys o’r de-orllewin.

Yn ymyl yr eglwys yng nghornel ogledd-orllewinol y fynwent, mae dau fwthyn sylweddol, Ty’n Llan a Thy’n Llan Bach, sy’n dyddio mae’n debyg o’r 18fed ganrif.

Ni fu llawer o ddatblygiadau yn Llaniestyn yn ystod y 19eg ganrif. Ym 1840, roedd dau fwthyn Ty’n Llan i’r gogledd-orllewin o’r eglwys. Roedd adeilad bychan ar draws y ffordd tua’r gogledd a chlwstwr bychan o dair neu bedair annedd ar yr ochr ddwyreiniol ac yng nghornel dde-ddwyreiniol y fynwent. Bedwar can metr i’r gorllewin roedd rheithordy mawr o’r 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif a adeiladwyd gan y Parchedig Owen, ficer y plwyf tua 1750. Erbyn y 1890au roedd y clwstwr hwnnw wedi tyfu rhywfaint. Adeiladwyd swyddfa bost a siop tua chanol y ganrif, sef yr Hen Siop erbyn heddiw, ac adeiladwyd ysgol ar draws y ffordd ar yr ochr ddwyreiniol. Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif, roedd adeiladau wedi eu codi mewn bylchau, rywfaint i’r dwyrain o’r eglwys a'r tu ôl iddi, i’r de o Dy’n Llan. Mae rhes o dai pâr modern wedi cael ei hadeiladu i’r de o’r rheithordy, yn berpendicwlar i’r ffordd, ym Mhant y Celyn.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol