English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 6 Cilan


Cilan


Cilan: caeau caeëdig troellog

Cefndir hanesyddol

Y dystiolaeth gynharaf o weithgaredd dynol ar drwyn Cilan yw mannau darganfod olion trin fflint Mesolithig ar ochr orllewinol Pen-cilan ac yn ymyl Bwlchtocyn (PRN 4005, 4007). Canfuwyd offer fflint hefyd ym Mhorth Ceiriad (PRN 5046, 5047). Y dystiolaeth weladwy o gymunedau dynol, fodd bynnag, yw dwy feddrod siambr o’r cyfnod Neolithig, tua 3000-4000 CC, yn Nhrwyn Llech y Ddôl a safle un arall yn Cim, Penrhyn Du (PRN 1238, 4003). Mae tystiolaeth o anheddu yn ystod y cyfnod cynhanesyddol diweddar i’w gweld ar ymyl y clogwyn uwchben Porth Ceiriad ar safle bychan ond trawiadol Castell Pared Mawr (pared = wal) (PRN 1235).

Yn ystod y canrifoedd Canoloesol roedd tair trefgordd yn ymestyn dros y pentir cyfan i’r de o Lanengan a Chors Lleferin. Y trefgorddau hyn oedd Cilan yn y de-orllewin, Bryn Celyn tua’r canol a Marchros ar y pentir yn union i’r de o Gors Lleferin. Roedd Cilan a Bryn Celyn yn dal eu tir dan ddaliadaeth gaeth etifeddol, trefwelyog. Roedd Marchros yn cynnwys dau wely rhydd a thair bufedd o dir caeth yn nwylo’r Tywysog. Mae cymeriad hynod o rydd y rhan honno o Farchros yn awgrymu bod cyfran o’r drefgordd wedi ei rhyddfreinio ac mae’n bosibl ei bod wedi bod yn gaeth cyn hynny mewn patrwm tebyg i weddill yr ardal.

Ym 1293, brin ddeng mlynedd ar ôl y Goncwest, roedd wyth teulu o denantiaid ym Mryn Celyn ac un ar bymtheg arall yng Nghilan. Marchros, fodd bynnag, oedd y gymuned fwyaf, ac roedd yn cynnal ugain o dyddynnod. Roedd magu defaid yn bwysig ar y pentir. Roedd gan y tair trefgordd, gyda’i gilydd, bron i ddau gant o ddefaid, y dwysedd mwyaf yn y rhan honno o Lyn bryd hynny.

Gellid tybio bod defaid yn fwy addas i dirwedd agored, ddiamddiffyn Cilan, ond, mewn gwirionedd, roedd y tyddynwyr, rhyngddynt yn cadw 132 o wartheg ac 83 o deirw, ych ac anifeiliaid gwedd, ac yn cynhyrchu 133 crynog o rawn ac yn malu blawd o’u caeau âr (tua 530 bwysel). Roedd gan un o denantiaid Bryn Celyn gwch a rhwyd bysgota. Gwyddid bod plwm ar bentir Penrhyn Du ers dechrau’r 18fed ganrif o leiaf. Mae siartiau Lewis Morris, a luniwyd rhwng 1737 a 1748, yn dangos lleoliad y gwaith plwm, ac yn cofnodi enw cilfach gyfagos, sef Porth y Plwm. Tua diwedd y 18fed ganrif, mapiodd Evans glwstwr bychan o dai ger y mwyngloddiau, i’r dwyrain o Farchros. Roedd Lewis Morris wedi nodi cyn hynny bod y gwaith plwm yn gwneud elw da ar un adeg, ond ‘now lies under water, … recoverable with proper engines’. Aethpwyd ati unwaith eto yn y 1770au, gan ddefnyddio injan stêm Boulton a Watt i ddraenio’r mwyngloddiau ond, yng ngeiriau Pennant ‘the expenses proved superior to the profits’. Roedd llawer o enwau caeau yn yr ardal yn atgof o’r mwyngloddiau. Dyma a ddywedodd un o syrfewyr Ystâd y Faenol ym 1880 am Hen Dy, Tyddyn Talgoch, daliad ar drwyn Penrhyn Du: ‘the lands have suffered very much by the Mine Company of Penrhyn Du who sank several shafts in it and left them open, and the heaps of rubbish delved therefrom not trimmed or levelled’. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd gan yr un fferm, Hendy, gae o’r enw ‘Cae Hen Chwimse’ (chwimsi = peiriant i godi dwr o waith mwyn).

Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif roedd y mwyngloddiau ar waith eto. Gosodwyd injan o Gernyw yno yn y 1860au a chodwyd cwt injan. Ym 1861 dim ond tri mwyngloddiwr plwm oedd ar drwyn Cilan. Erbyn 1881 roedd yno 109. Yn y plwyf cyfan roedd cyfanswm o 212 o fwynwyr, naddwyr, golchwyr a gyrwyr injans yn gweithio ym mwyngloddiau plwm Penrhyn Du, Bwlchtocyn, Tan y Bwlch a nifer o weithfeydd llai. Roedd yno hefyd 31 o fwynwyr yn byw ac yn lletya ar gyrion y plwyf ac ar lan ogleddol afon Soch. Byddai pob un o’r rhain wedi bod yn gweithio ym mwyngloddiau Llanengan ac mae’n debyg mai’r gweithfeydd mwyaf cynhyrchiol oedd Penrhyn Du a Than y Bwlch.

Roedd y gwrthgyferbyniad rhwng y diwydiant mwyngloddio a galwedigaethau traddodiadol yn amlwg a daeth goblygiadau cymdeithasol yn ei sgîl. Roedd angen tai a llety i’r gweithwyr, yn enwedig y llafurwyr diwydiannol a symudodd i’r ardal yn ystod y cyfnod hwn. Cyrhaeddodd cant a hanner o ddynion, merched a phlant o Ddyfnaint a Chernyw yn unig. Daeth eraill o Cumbria, Dolgellau ac ardaloedd mwyngloddio eraill. Yn union yn ymyl y ty injan o Gernyw ym Mhenrhyn Du roedd rhes o ddeg o fythynnod, Cornish Row, ac roedd chwech o’r rhain yn gartref i chwe theulu o Gernyw a thri lletywr, sef cyfanswm o 16 yn gweithio yn y mwynglawdd. Roedd 21 o weithwyr mwynglawdd yn y rhes gyfan.

Yn nechrau’r 19eg ganrif, caewyd rhan helaeth o Drwyn Cilan drwy ddeddf seneddol. Gellir adnabod yr amgaeadau seneddol a’r hen dir comin o hyd drwy’r caeau mawr a’r terfynau unionlin.

Yn ystod yr 20fed ganrif ehangodd Marchros yn sylweddol yn y man a oedd mae’n rhaid yn graidd i’r anheddiad cynnar gwreiddiol. Mae rhai bythynnod isel o’r 18fed ganrif a thai mwy sylweddol o’r 19eg ganrif wedi goroesi, ond mae cymeriad y pentrefan wedi newid wrth i glystyrau o stadau tai modern gael eu hadeiladu ac wrth i nifer y meysydd carafanau gynyddu, oherwydd y traeth tywodlyd cyfagos a’r ffaith fod rhywfaint o amddiffyniad rhag y tywydd ar arfordir dwyreiniol mwy poblogaidd y pentir.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Tirwedd pentir agored yn cael ei nodweddu gan gloddiau a ffermydd bychain gwasgaredig.
• Nifer o ardaloedd â chaeau caeëdig troellog sy’n adlewyrchu bodolaeth flaenorol gerddi âr mewn meysydd agored.
• Tystiolaeth weladwy yn y dirwedd o ddarnio trefgorddau Canoloesol y ceir manylion amdanynt a chyfuno daliadau yn dilyn hynny i greu ffermydd unigol.
• Trawsnewid Bwlchtocyn a Machroes o ffermydd yn y 18fed ganrif i bentref mawr sydd bron â bod yn cydgyffwrdd, i ddechrau o ganlyniad i agor y gweithfeydd plwm ym Mhenrhyn Du yn niwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, ac yn dilyn hynny o ganlyniad i ddatblygu’n gyrchfannau gwyliau.
• Goroesiad bythynnod unllawr ochr yn ochr â thai Fictoraidd a thai o ddiwedd yr ugeinfed ganrif ym Mwlchtocyn a Marchros.

Pentir agored moel yn y rhan fwyaf deheuol o Lyn yw trwyn Cilan. Mae’r tir wedi ei rannu gan gloddiau. Nid oes gorchudd coed yno, ac nid oes dim i amddiffyn y tir rhag y gwyntoedd de-orllewinol. Mae dau bigyn i’r pentir, Trwyn Cilan yn y de-orllewin a Phenrhyn Du yn y de-ddwyrain. Rhyngddynt mae traeth tywodlyd Porth Ceiriad. Rhed nentydd i’r môr drwy geunentydd cul ger Nant y Big a Phant.

Mae trwyn Cilan yn codi i ychydig dros 100m â gelltydd serth iawn i’r môr ar y pentir gorllewinol. Yr ochr ogleddol i’r pentir mae’r tir yn disgyn yn raddol ac yna’n codi drachefn i’r sgarp uwchlaw Llanengan. Mae’r morlinau i’r gogledd-ddwyrain ac i’r gorllewin yn ymestyn mewn baeau bwaog yn y Borth Fawr, Cors Lleferin a Phorth Neigwl yn y drefn honno.

Pentir agored yw ardal dirwedd Cilan a’r nodweddion amlwg yw’r cloddiau a’r ffermydd bychain gwasgaredig. Mae tystiolaeth weladwy ar ôl yn y dirwedd o ddarnio trefgorddau Canoloesol sydd wedi eu cofnodi ac uno daliadau yn dilyn hynny i greu ffermydd unigol. Mae caeau caeëdig troellog mewn llawer ardal yn dal i adlewyrchu bodolaeth flaenorol gerddi âr mewn meysydd agored.

Mae effaith y gwaith plwm yn niwedd y 19eg ganrif ym Mhenrhyn Du i’w weld mewn gwrthgyferbyniad amlwg â’r system ffermio draddodiadol yng ngweddill trwyn Cilan, ac mae ôl y mwyngloddiau i’w weld o hyd ar y rhan honno o’r dirwedd. Trawsnewidiwyd Penrhyn Du, Bwlchtocyn a Marchros, o fod yn ffermydd yn y 18fed ganrif, i fod bron iawn yn un pentref mawr gyda’r anheddau’n cydgyffwrdd yn y 19eg ganrif, ac yn dilyn hynny’n gyrchfannau gwyliau. Mae goroesiad bythynnod unllawr ochr yn ochr â thai Fictoraidd a thai o ddiwedd yr ugeinfed ganrif ym Mwlchtocyn a Marchros yn rhoi cymeriad hanesyddol i’r ardal dirwedd.

Mae Bwlchtocyn a Marchros bron â mynd yn un wrth i nifer y tai newydd gynyddu, gan greu cnewyllyn sylweddol o boblogaeth ar y pentir. Y tu draw i’r ddau bentref ac ar draws y tiroedd amaethyddol mae’r dirwedd ar ffurf clytwaith o gaeau a phadogau bychain tua un neu ddwy acer o faint, yn enwedig o amgylch y ffermdai. Canlyniad darnio trefgorddau a phentrefannau Canoloesol yn y cyfnod ôl-Ganoloesol yw hyn ac, yn fwyaf arbennig, prydlesu tiroedd caeth blaenorol a’u his-osod mewn lleiniau ar ôl hynny. Er hynny, mae crymedd troellog ym mhatrwm y caeau mewn llawer ardal, sy’n adlewyrchu’r aceri hir o erddi agored ar draws y rhandiroedd âr.

Mae enwau’r hen drefgorddau wedi goroesi ond mae’r broses o ddarnio ac uno daliadaethau fel daliadau personol unigol yn amlwg. Cofnodir Marchros fel pedair fferm denant ar wahân, rhannau o Dyddyn Talgoch, ym 1800, lle’r oedd ugain o denantiaid ym 1293. Roedd cant tri deg a thri o aceri o Fryn Celyn hefyd wedi mynd yn bedair fferm fawr o’r un enw. Cofir am yr un ar bymtheg o denantiaethau yng Nghilan ym 1293 yn nwy fferm Cilan Fawr a Chilan Uchaf, ond rhyngddynt, yn fwy diweddar, ymddangosodd ffermydd Ysgubor Hen, Muriau, Murpoeth, Bryn Odyn a Chastell, o hen diroedd y drefgordd.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol