English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 5 Neigwl


Porth Neigwl


Neigwl Plain

Cefndir hanesyddol

Mae arwyddion anheddiad cynhanesyddol crwn, consentrig posibl o nifer o gyfnodau yn ardal Bodgyri, islaw pen gogledd-ddwyreiniol Mynydd y Rhiw, yn agos at afon Soch a lloc anheddu arall, heb ei ddyddio, yn y Faerdre, Botwnnog, 1km i’r de-ddwyrain o Fodgyri (PRN 4376). Mae crugiau ffosog wedi eu haredig o’r Oes Efydd gynnar wedi eu cofnodi o’r awyr ger Bodnithoedd (PRN 4372), crug posibl wedi ei aredig yn Llawr y Dref (PRN 4377) a ffos gron a lloc posibl o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar yn Nhowyn (PRN 4379). Darganfuwyd ‘twmpath llosg’ a chafn berwi dwr o’r Oes Efydd ar y traeth yn ddiweddar, wedi dod i’r golwg yn sgîl erydiad arfordirol yn y Nant.

Yn ystod y Canol Oesoedd, Neigwl oedd y faerdref, canolfan weinyddol frenhinol a demên arglwydd cwmwd Cymydmaen. Ar ôl marwolaeth Owain Gwynedd ym 1170, dywed Gerallt Gymro fod Llyn yn nwylo meibion Owain, sef Dafydd a Rhodri. Ymddengys bod Maredudd ap Cynan ab Owain Gwynedd wedi dal Llyn am ychydig tua’r flwyddyn 1200. Ym 1252 Dafydd ap Gruffydd, brawd iau Llywelyn ap Gruffydd oedd arglwydd Cymydmaen. Byddai’r tiroedd a fyddai’n rhan o’i arglwyddiaeth yn cynnwys trefgyfrif gaeth Towyn, ar yr arfordir ger Llanengan, dau bentrefan caeth Neigwl ei hun, Trygarn a Threfollwyn, trefgyfrif gaeth Dindywydd ym mhen gogleddol Mynydd y Rhiw â’i bentrefan, Crugeran a Phenarfynydd, ar ochr orllewinol Mynydd Penarfynydd (ar gyfer Dindywydd a Phenarfynydd, gweler ardal gymeriad y Rhiw a Phenarfynydd). Saif Trefollwyn, un o bentrefannau Neigwl, ar yr arfordir i’r gorllewin o Dowyn. Mae Trygarn i’r dwyrain o Ddindywydd. Ac eithrio trefgordd bellennig Penarfynydd gallwn ddechrau diffinio lleoliad a maint y faerdref.

Ni wyddom union leoliad y llys neu’r ‘palas’ ond mae nifer o enwau ‘Neigwl’, Neigwl Uchaf, Neigwl Ganol, Neigwl Plas, yn arwydd o ddatgymalu trefgordd Ganoloesol yn ddiweddarach yn nifer bach o eiddo helaeth, â’r un enw’n aml. Ceir hefyd enwau daearyddol a thopograffig sy’n arwydd o agosrwydd lleoliad penodol, megis Rhosneigwl a Phenrallt Neigwl. Ni all yr enw Faerdre ar fferm o fewn y clwstwr hwn ond golygu cysylltiad â thiriogaeth y drefgordd ac, yn yr un modd, mae dwy fferm â’r enw Llawrdref, y naill â gwreiddiau cynnar a’r llall yn dyddio o’r 19eg ganrif, yn arwydd o anheddiad neu ganolbwynt tiriogaethol. Yn Aberffraw ym Môn, er enghraifft, roedd Maerdref yn y Canol Oesoedd wedi troi’n Llawr y Dref erbyn y ddeunawfed ganrif. Yn olaf, gellir adnabod dau bentrefan Neigwl yng nghyrion deheuol a gogledd-orllewinol y clwstwr hwn o enwau lleoedd ac, yn yr un modd, mae dwy o’r tair trefgyfrif (demên) yn agos iawn. Ceir rhywfaint o gadarnhad o’r cysylltiad ym mhrydlesau William a Mary, ac Elizabeth, sy’n cyfeirio at Faenor Neigwl, mesiweisiau, tenementau ac atodion ym Maerdref. Yn ychwanegol at hyn, mae gohebiaeth ym mhapurau Wynn o Wydir sy’n dyddio o tua 1620 yn cyfeirio at Trefgarne (Trygarn), Trefollwyn, Crugeran, Neigwl, Towyn a Maerdref fel tiroedd y Goron. Y casgliad y deuir iddo yw bod yr ardal gymeriad gyfan bron, sy’n cael ei disgrifio yma fel gwastadedd Neigwl, yn cynnwys maerdref frenhinol Neigwl. Yn niwedd y 15fed ganrif, roedd Abaty Cymer yn dal tir yn Neigwl, ac yn gweithredu fel maenor. Mae lonydd yn croesi nentydd a thiroedd gwlyb yn gyffredin yn yr ardal gyfan.

Mae pontydd cerrig bychain a sarnau’n nodwedd reolaidd yn yr ardal gymeriad.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Tirwedd wastad, isel yn cael ei thrawslunio gan afonydd a nentydd troellog; tir wedi ei adennill o’r gors; sarnau a phontydd cerrig i hwyluso cyfathrebu.
• Tystiolaeth gydlynol o enwau lleoedd ar gyfer lleoliad a maint maerdref frenhinol cwmwd Canoloesol Cymydmaen.
• Ffermdai mawr wedi’u lleoli mewn patrwm o gaeau mawr o’r 19eg ganrif wedi’u cau â chloddiau mewn gwrthgyferbyniad â’r tir uwch tua’r gorllewin a’r dwyrain.

Mae Neigwl yn llwyfandir isel helaeth, 20m - 30m uwchlaw’r seilnod ordnans gan mwyaf, yn ffinio ar godiad tir serth Mynydd y Rhiw tua’r gorllewin a sgarp Llangian/Llanengan tua’r dwyrain. Cyfyngir yr ardal gan fae tywodlyd llydan Porth Neigwl tua’r de a thir uwch Botwnnog a Nanhoron tua’r gogledd. Mae’r tir isel yn cael ei ddraenio gan afon Soch, sy’n cael ei bwydo gan lednentydd di-rif sy’n codi ar odre Mynydd y Rhiw a’r tir uwch tua’r gogledd, ac sy’n dolennu ei ffordd o Fryncroes i’r dwyrain ar draws y gwastadedd, heibio sgarp Llangian/Llanengan i gyrraedd y môr ar yr arfordir dwyreiniol ar y penrhyn yn Abersoch. Mae nentydd llai o Lanengan a thir corsiog Rhosneigwl yn draenio tua’r de ym Mhorth Neigwl. Mae clogwyni clai 20m o uchder sy’n erydu o hyd ar hyd y rhan fwyaf o’r bae ei hun yn enwedig yn y pen gorllewinol.

Mae enwau lleoedd yn dystiolaeth gydlynol ar gyfer lleoliad a maint maerdref frenhinol cwmwd Canoloesol Cymydmaen sy’n ymestyn drwy’r ardal gymeriad gyfan bron, sy’n cael ei disgrifio yma fel gwastadedd Neigwl.

Mae’r dirwedd yn isel a gwastad, gydag afonydd a nentydd troellog yn llifo drwy dir sydd wedi ei adennill o’r gors. Lleolir ffermdai mawr mewn patrwm o gaeau mawr o’r 19eg ganrif wedi eu cau â chloddiau mewn gwrthgyferbyniad â’r tir uwch tua’r gorllewin a’r dwyrain. Mae sarnau a phontydd cerrig i hwyluso cyfathrebu’n nodwedd bwysig o’r dirwedd. Nodweddir rhan ddwyreiniol yr ardal gan nifer bach o ffermydd mawr wedi eu lleoli ymhlith caeau mawr â chloddiau syth yn eu hanfod o’r 19eg ganrif yn derfynau iddynt. Mae gwrychoedd eithin ar y cloddiau. Tua’r gorllewin mae’r tir yn codi’n raddol, ac mae’r caeau’n llai o ran maint ac yn llai rheolaidd, yn enwedig yn yr ardal ger y ffermydd a’r tai llai yng nghyffiniau Rhosneigwl. Yma, ceir tir corsiog gwlyb, pyllau dwr a nifer o ffosydd a nentydd. Mae’r cloddiau wedi gordyfu. Ym 1800 roedd gan denantiaid Llawr y Dref a Deuglawdd, ger Afon Soch, ‘a great number of large banks scattered and the soil mixed with lime, new fences made and gorse seeds sown in them’ (Llawr y Dref) a ‘the old banks have been erased and new hedges made with gorse seeds’ (Deuglawdd).

Mae eglwys Llandygwnning yn rhan o’r ardal gymeriad. Mae’r cysegriad yn hynafol. Mae’r eglwys wedi ei chofnodi yn yr 16eg ganrif fel capel i Laniestyn. Cafodd ei hailadeiladu ym 1840 ac mae’r cynllun yn un anarferol. Mae gan yr eglwys bresennol dwr gorllewinol wythochrog gyda llawr uchaf silindraidd, a thwr conigol wedi ei rendro ar ei ben. Yr unig adeiladau eraill o bwys yw ffermdy Llawrdref ger Llangian, sy’n cynnwys cyplau to o’r 16eg ganrif a thrawstiau siamffrog; a phlasty Gelliwig, o’r 18fed ganrif, sydd wedi’i ailfodelu gan mwyaf yn y 19eg ganrif.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol