English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 4 Rhiw a Phenarfynydd


Rhiw


Mynydd y Garreg


Bwth, Mynydd Rhiw


Mynydd y Graig


Plas Rhiw

Cefndir hanesyddol

Mae arwyddion o anheddu, neu weithgaredd o leiaf yn y bryniau hyn o gyfnodau cynnar iawn yn y gorffennol. Yn y 1950au dynodwyd tyllau cloddio bas ym mhen gogleddol Mynydd y Rhiw fel canlyniad cloddio am siâl graen mân i gynhyrchu bwyeill cerrig Neolithig (PRN 1232). Yn 2005-2006 lleolwyd rhagor o chwareli, dros arwynebedd o tua 400m wrth 30m ar hyd y gefnen. Mae dyddiadau radiocarbon yn gosod y gweithgaredd hwn yn y trydydd a’r pedwerydd mileniwm CC. Yr un pellter islaw’r gefnen ar yr ochr ddwyreiniol, saif carnedd siambr, yn cynnwys dwy siambr, neu dair efallai, ger Tan y Muriau, 120m uwchlaw’r seilnod ordnans. Mae ail feddrod, sydd â chryn dipyn o ddifrod iddi, ar lethr dwyreiniol bwlch y Rhiw ar yr un uchder fwy neu lai (PRN 1219, 1220). Mae’r beddrodau hyn yn cydoesi’n gyffredinol iawn â’r gweithgaredd diwydiannol ar y copa. Ceir carneddi o’r Oes Efydd efallai ar y gefnen ei hun a meini hirion islaw llethrau gogleddol Mynydd y Graig (PRN 1217, 1233, 3298, 3299, 3300; 1218, 5052).

Mae anheddiad gwirioneddol yn fwy amlwg yn ystod y cyfnod cynhanesyddol diweddar. Mae lloc waliau cerrig deuglawdd, er nad oes llawer o’r cerrig ar ôl erbyn heddiw, ym mhen gogleddol Mynydd y Rhiw lle mae’r tir caeëdig a’r tir heb ei drin yn cyfarfod, tua 200m uwchlaw’r seilnod ordnans (PRN 1234). Mae amddiffynfa wedi’i dinoethi’n ddifrifol ar gopa Mynydd y Graig yng Nghreigiau Gwinau (PRN 1206), mewn lleoliad dramatig iawn, ac yn cael ei hamddiffyn gan y brigiad gabro fertigol ar yr ochr ogleddol a wal gerrig ar yr ochr dde-ddwyreiniol. Ceir caer fechan arall, yng Nghonion, yng nghanol rhesi o gaeau islaw ochr ddwyreiniol cefnen y Rhiw tua 200m uwchlaw’r seilnod ordnans (PRN 1207). Mae nifer o gylchoedd cytiau a rhesi o gaeau o’r Oes Haearn ddiweddar a’r cyfnod Brythonig-Rufeinig mae’n debyg ar y llethrau isaf, o dan 200m uwchlaw’r seilnod ordnans, ar wynebau deheuol a de-ddwyreiniol Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig (PRN 1205, 1208, 1210, 1215, 1231, 3304, 3311, 3312, 3314, 5053). Mae bodolaeth terasau amaethu o gymeriad Canoloesol ym Mynydd Penarfynydd a llociau a llwyfannau tai petryal o’r Canol Oesoedd diweddar neu’r cyfnod ar ôl y Canol Oesoedd yn tystio bod yr ardal hon wedi dal i gael ei hanheddu.

Er bod gan gefnennau creigiog yr ardal gymeriad hon dopograffeg a defnydd tir cydlynol, cyffyrddir y Rhiw, Mynydd y Graig a Mynydd Penarfynydd gan dair trefgordd Ganoloesol a dau bentrefan, sef Meillionydd a Bodwyddog, a oedd yn wreiddiol o bosibl yn rhan o drefgordd rydd Bodrydd. Mae’r naill a’r llall yn cyrraedd llethrau’r bryniau a byddai gan bob un fynediad wedi’i reoli i’r tir pori uchel. Mae gan y trefgorddau eu hunain rinweddau a chymeriadau gwahanol. Yn oes y Tywysogion roedd Dindywydd yn daeogdref i Arglwydd Cymydmaen, a Dafydd ap Gruffydd, brawd Llywelyn, oedd hwnnw ar un adeg. Roedd Dindywydd a’i bentrefan ar wahân, Crugeran, yn gweithredu dan fath cyfyngol iawn o ddaliadaeth gaeth, sef trefgyfrif, sy’n arwydd o gysylltiad uniongyrchol â’r demên brenhinol yn Neigwl. Roedd ym mhen gogleddol pellaf Mynydd y Rhiw yng Nghastell Caeron. Mae’n bosibl bod y ‘Din’ yn enw’r drefgordd yn adlewyrchu agosrwydd yr amddiffynfa hynafol.

Goroesodd yr enw i’r 19eg ganrif fel Tredindywydd, clwstwr clytwaith o leiniau unionlin bach iawn, yn bennaf o amgylch eiddo Bron Dywydd erbyn heddiw, tua 175m uwchlaw’r seilnod ordnans.

Ar ffin dde-orllewinol yr ardal gymeriad roedd taeogdref neu drefgyfrif Ganoloesol fechan Penarfynydd. Mae fferm o’r enw Penarfynydd i’w gweld heddiw lle mae’r tir y gellir ei drin a phorfa fras y mynydd yn cyfarfod. Erbyn heddiw mae’r caeau’n fawr a cheir waliau cerrig ar gwr y mynydd heb lawer o arwyddion o’r gwreiddiau Canoloesol.

Roedd y Rhiw yn drefgordd rydd, yn cael ei dal gan ddisgynyddion dau dylwyth, gwely Heilin a gwely Gwrgenau. Roedd gan y rhydd-ddeiliaid hyn, er hynny, ymrwymiadau i’r arglwydd a oedd, yn y 14eg ganrif, yn y Rhiw yn cynnwys taliadau cymudol ar gyfer cynnal a chadw ceffylau’r arglwydd a’i gwn hela dyfrgwn. Roedd yn ddyletswydd ar y rhan fwyaf o’r tenantiaid i fynd â’u hyd i’w falu ym melin yr arglwydd yn Neigwl. Serch hynny, roedd gan ddau deulu gyfrannau yn eu melin eu hunain, Melin y Rhiw, ac roeddent yn malu eu blawd eu hunain.



Mae’n debyg mai pen gorllewinol y Rhiw oedd cefn deuddwr y bwlch rhwng Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig. Roedd Bodwyddog a Phenarfynydd ar y llethrau gorllewinol sy’n agored i wyntoedd de-orllewinol yr Iwerydd. Roedd y Rhiw yn ymestyn dros y llethrau dwyreiniol mwy cysgodol a heulog, gan barhau â phatrwm anheddu oedd wedi bodoli ers cyn hanes. Mae’n debyg mai craidd trefgordd y Rhiw yn y Canol Oesoedd oedd yr ardal lle saif Plas yn Rhiw heddiw, neu rywle yn y cyffiniau o bosibl, ac nid ar y safle ei hun fel y tybir yn aml. Arferai Ty’n y Muriau, ar esgair uwch yn yr ardal, 300m i’r de o’r Plas, gael ei adwaen fel Henblas. Cyfunwyd a darniwyd ystâd y Rhiw dro ar ôl tro dros gyfnod maith. Ym 1718 roedd yr ystâd yn cynnwys plasty’r Rhiw, a oedd eisoes yn adeilad sefydledig, wedi’i adeiladu ganrif yn gynharach, a phopeth a berthynai iddo, caeau âr, ar erddi mwy hynafol, dolydd gwair, perllannau, ysguboriau a beudai. Bryd hyn, roedd adeiladau Ty’n y Muriau, Ty Bleiddyn (a adwaenir hefyd fel Ty’n y Graig) a’r felin ddwr, Melin y Rhiw â daliadau perthynol yn Nhy yn y Borth a Thy yn y Sarn, hefyd yn eiddo i’r teulu Lewis. Safai Melin y Rhiw, a adwaenid fel Hen Felin, yn agos at draeth Porth Neigwl yn y Borth ac mae’n debyg mai hwn oedd safle’r felin hynafol y cyfeirir ati yn arolwg y Goron ym 1352. Roedd y felin hon, a melin arall uwchben Plas yn Rhiw, yn cael ei bwydo gan dair nant a oedd yn tarddu ar Fynydd y Rhiw. Roedd un o’r rhain, Ffynnon Aelrhiw, ffynnon sanctaidd, ger yr eglwys, yn bwydo’r felin uchaf.

Er bod y daliadau hyn yn perthyn i denantiaethau ar wahân maent yn ffurfio uned gryno sy’n cydgyffwrdd, a chyda’i gilydd, mae’n fwy na thebyg, yn cynrychioli cydran gydlynol o’r drefgordd wreiddiol. Heb fod ymhell mae Treheilin (neu Treheilir, 1840) ac mae’n bosibl bod yr enw’n cyfeirio at un o ddau wely Canoloesol y Rhiw, sef gwely Heilin. Cofir bod Melin y Rhiw, yn y 14eg ganrif, yn nwylo is-set o dylwyth Heilin.

Erbyn dechrau’r 19eg ganrif gwelwn fod y daliadau a oedd yn perthyn i’r ystâd wedi’u rhannu eto. Roedd Ty Bleiddyn, ar y llethrau uwchben y Plas wedi’i leihau i ddaliad y Graig, gyda’r gweddill yn cael ei osod ar wahân. Roedd Ty’n y Muriau wedi mynd yn ddau ddaliad, Ty’n y Muriau a Than y Muriau gyda Gwern y Saer gerllaw. Ym 1718 roedd gan Blas yn Rhiw Laethdy (hynny yw, hafod) ar dir comin Mynydd y Rhiw. Hwn yw’r Ty’n y Mynydd yn arolwg degwm 1840. Am ba bynnag reswm, mae caeau o’r enw ‘Cae Newydd’ yn agos at gwr tir sydd heb ei drin yn yr hen Dy Bleiddyn, yn arwydd da o lechfeddiannu cynnar a chreu ffriddoedd o’r tiroedd pori uchel, cyn gynhared â c.1700 o leiaf.

Ehangodd yr anheddiad ar draws y bwlch yn ystod y 19eg ganrif. Gwelir enghreifftiau hwyr o lechfeddiannu tir heb ei drin ar Fynydd y Rhiw a Mynydd y Graig, yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, yn y Bwth, ger Clip y Gylfinir, yn Syntir ym mhen dwyreiniol Mynydd y Graig ac ym Mhen yr Ogof a Thu Hwnt i’r Mynydd.

Ym 1811, caewyd 790 acer o dir comin ym Mynydd y Rhiw a 260 acer o Fynydd y Graig drwy Ddeddf Seneddol. Roedd amgaeadau hynafol a mwy diweddar eisoes wedi meddiannu rhannau o’r tir comin, ac yn ôl tystiolaeth caeau creiriol roedd rhai wedi eu gadael yn barod.

Ym 1827 darganfuwyd manganîs. Arweiniodd gwaith archwilio at gloddio yn y Nant ym Mhenarfynydd ac yn Benallt islaw Clip y Gylfinir. Roedd y gwaith cynhyrchu’n ysbeidiol yn ystod y cyfnod cynnar hwn. Roedd mulod yn cludo’r mwyn i Borth Cadlan o fwynglawdd y Nant ac o Benallt i’r arfordir ym Mhorth Neigwl. Yn ystod y ddau ryfel byd, fodd bynnag, roedd galw mawr am fanganîs i gryfhau dur. Roedd rhaffordd awyr yn cario mwyn Benallt a’r Rhiw bron yn union uwchben y pentref a oedd yn tyfu yn y bwlch i lanfa ar lan y môr. Yn y Nant, cludid y mwyn ar system o incleins. Mae tystiolaeth o’r diwydiant hwn wedi gadael ei ôl ar dirwedd y Rhiw.

Yn niwedd y 19eg ganrif ac yn yr 20fed ganrif codwyd adeiladau newydd ar gyfer gweithwyr diwydiannol a galwedigaethau eraill ochr yn ochr ag adeiladau fferm traddodiadol. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain ar hyd y ffordd sy’n mynd drwy’r bwlch o Aberdaron i Neigwl ac i’r gogledd o’r groesffordd yn y man uchaf yn y bwlch. Mae’r ffordd ogleddol hon, a’r tai a adeiladwyd ar ei hyd, mewn coridor cul o dir comin caeëdig rhwng llociau mawr Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig. Moderneiddiwyd adeiladau’r ffermydd. Adeiladwyd y capel Anghydffurfiol cyntaf, Capel Nebo, ym 1813 ar ddarn o dir a oedd yn arfer bod yn rhan o’r tir comin. Yn dilyn hynny adeiladwyd capel y Wesleaid (Pisgah) a chapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhan y Foel ac yn y 1870au ailadeiladwyd pob un o’r tri chapel. Roedd eglwys Anglicanaidd Aelrhiw Sant wedi’i hadeiladu ym 1860 ar sylfeini mwy hynafol. Roedd siop, ysgol a thafarn, Penboncyn, yno erbyn y 1880au.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Tirwedd sy’n cael ei nodweddu gan diroedd caeëdig â waliau cerrig, ffermydd bychain a bythynnod unllawr.
• Tystiolaeth weladwy yn y dirwedd o weithgaredd diwydiannol a defodol o’r cyfnod Cynhanesyddol cynnar ar gopa a llethrau dwyreiniol Mynydd y Rhiw.
• Tystiolaeth weladwy o anheddiad o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar fel llociau amddiffynnol ar y tir uwch ac anheddiad cylch cytiau ar lethrau deheuol a dwyreiniol Mynydd y Rhiw a Phenarfynydd.
• Patrwm o ddosbarthiad anheddol ôl-Ganoloesol sy’n adlewyrchu bodolaeth trefgorddau Canoloesol y ceir dogfennaeth hanesyddol amdanynt.
• Llechfeddiannu tir agored heb ei drin o’r 17eg ganrif ymlaen o leiaf.
• Ymddangosiad cymuned pentref cnewyllol yn y 19eg a’r 20fed ganrif, yn cael ei hwyluso gan amgaead Seneddol a gweithgaredd diwydiannol ysbeidiol.
• Mae Plas yn Rhiw yn adeilad arwyddocaol iawn yn yr ardal gymeriad.

Rhes hir o greigiau igneaidd â chribau serth yn ymestyn o’r ardal i’r de o Fryncroes am bellter o 5km i’r môr yn Nhrwyn Talfarach yw Mynydd y Rhiw, Mynydd y Graig a Mynydd Penarfynydd. Maent yn un o’r tirnodau amlycaf yn ne Llyn. Mynydd y Rhiw yng ngogledd yr ardal gymeriad yw’r mwyaf o’r tair cefnen, yn codi i 300m. Yn y pen deheuol, mae brigiad Clip y Gylfinir ar byramid naturiol amlwg sydd i’w weld o bobman. Mae mastiau radio ar y ddau godiad tir , neu heb fod yn bell. Islaw Clip y Gylfinir mae bwlch ar uchder o tua 180m sy’n darparu llwybr gorllewin-dwyrain ar draws y tir uchel, ac yn gwahanu Mynydd y Graig i’r de. Ar gopa’r gefnen hon mae ‘crib’ gabro caled ar uchder o 240m sy’n creu proffil dramatig ar y gorwel. Mae’r llethrau de-ddwyreiniol yn disgyn yn serth tuag at y môr. Mae Mynydd Penarfynydd yn estyniad o Fynydd y Graig yn y pentir. Mae gan Benarfynydd broffil trawiadol, ac mae hefyd yn un o’r enghreifftiau gorau o graig igneaidd fewnwthiol, haenog yn Ynysoedd Prydain. Mae’r tir sydd dros 200m a’r llethrau de-ddwyreiniol sy’n wynebu’r môr, gan mwyaf, yn dir garw sydd heb ei drin.

Mae’r dirwedd hon yn cynnwys tystiolaeth weledol o weithgaredd diwydiannol a defodol o’r cyfnod Cynhanesyddol cynnar ar gopa a llethrau dwyreiniol Mynydd y Rhiw. Mae anheddu o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar, ar ffurf llociau amddiffynnol, yn amlwg ar y tir uwch a cheir aneddiadau cylchoedd cytiau ar lethrau deheuol a dwyreiniol Mynydd y Rhiw a Phenarfynydd, o fewn patrwm dosbarthiad anheddau o’r cyfnod ôl-Ganoloesol sy’n adlewyrchu bodolaeth trefgorddau Canoloesol y ceir cofnod hanesyddol ohonynt.

Ceir cofnod o lechfeddiannu tir agored, heb ei drin o’r 17eg ganrif o leiaf, a pharhaodd yr arferiad tan ddechrau’r 19eg ganrif. Cadwodd y ffriddoedd a’r tyddynnod hynny a oedd yn dal i fodoli eu tenementau. Mae bythynnod unllawr, rhai â chroglofftydd o hyd, yn rhoi cryn gymeriad i dirwedd y Rhiw, ac o’r pedwar ar bymtheg o anheddau â statws adeilad rhestredig sydd yn yr ardal, mae un ar bymtheg ohonynt yn fythynnod unllawr. Hwyluswyd ymddangosiad cymuned pentref cnewyllol yn y 19eg a’r 20fed ganrif gan Amgaead Seneddol a gweithgaredd diwydiannol ysbeidiol, y ceir tystiolaeth ohono o hyd ar y ddaear.

Mewn gwrthgyferbyniad i diroedd gwastad isel Aberdaron a Neigwl, mae’r Rhiw gan mwyaf yn dirwedd o waliau cerrig, yn hytrach na chloddiau. Roedd y graig galed yn darparu digon o ddeunydd crai. Nodweddir y dirwedd bresennol gan lociau waliau cerrig, ffermydd bychain a bythynnod unllawr.

Mae Plas yn Rhiw yn adeilad pwysig yn nhirwedd y Rhiw, er ei fod o’r golwg yng nghanol y coed. Cafodd y Plas ei ailwampio’n sylweddol ym 1820. Codwyd y waliau’n uwch er mwyn cael trydydd llawr i’r ty deulawr gwreiddiol, ychwanegwyd asgell ar gyfer grisiau yn y cefn ac amlygwyd yr wynebau allanol fel ffasâd o ddiwedd y cyfnod Sioraidd â ffenestri dalennog un cwarel ar bymtheg uwchben feranda llawr gwaelod.

Ychwanegwyd asgell ar gyfer cegin yng nghanol y 19eg ganrif. Er gwaetha’r addasiadau, mae llawer o nodweddion y ty gwreiddiol o ddechrau’r 17eg ganrif wedi goroesi, gan gynnwys trawstiau siamffrog, sy’n arwyddion o raniadau pren blaenorol, a grisiau tro wedi’u gwneud o gerrig ger y lle tân yn y talcen deheuol. Mae llinell wreiddiol y to i’w gweld o’r tu allan.

Ym 1939 prynwyd y ty gan y chwiorydd Keating, a adferodd yr adeilad â chyngor a chymorth gan y pensaer, Clough Williams-Ellis. Roeddent yn ymgyrchwyr penderfynol dros ddiogelu’r amgylchedd lleol ac mae eu hagweddau cadwraethol, yn enwedig mewn perthynas ag eiddo a oedd yn eu meddiant, yn sicr wedi cyfrannu at gymeriad y dirwedd bresennol

Nodyn ar y gerddi ym Mhlas yn Rhiw gan Margaret Mason

Nid oes parc fel y cyfryw ym Mhlas yn Rhiw, ond mae’n bosibl bod y coetir islaw’r ty, sy’n ymddangos yn lled-naturiol erbyn hyn, wedi’i blannu yn nechrau’r 19eg ganrif. Mae’n bosibl bod y coetir bychan uwchlaw’r ty yn weddillion gwaith plannu o’r un dyddiad. Mae’r ardd islaw ac o flaen y ty, ac mae wedi ei gosod mewn terasau ar y llethr, a’i rhannu gan wrychoedd yn nifer o adrannau bach. Mae’n bosibl bod y gwrychoedd wedi’u bwriadu’n rhannol er mwyn cysgodi planhigion bychain rhag y gwyntoedd sy’n ysgubo i fyny o Borth Neigwl. Mae llawer o’r planhigion coediog bellach wedi tyfu’n llawer talach na’r gwrychoedd, ac mae’r ardd yn teimlo braidd yn llawn a chyfyng; ond mae hyn yn rhan o’i chyfaredd.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol