
Aberdaron

Pentref Aberdaron
|
Cefndir hanesyddol
Mae Aberdaron yn bentref hynafol a hanesyddol.
Er hynny, mae’n dal yn bentref bach. Mae’r ffyrdd
yn dal yn gul a throellog ac mae’r ddwy bont gerrig, Pont
Fawr a Phont Fach, a adeiladwyd ym 1823 yn gyfyng iawn. Yr ochr
draw i’r pontydd mae’r ffordd yn lledu ychydig i
ffurfio sgwâr marchnad. Ym 1773, disgrifiodd Pennant Aberdaron
fel pentref tlawd ym mhen draw sir Gaernarfon.
Mae oes aur Aberdaron wedi hen fod ond mae’r etifeddiaeth hanesyddol
i’w gweld o hyd. Roedd Aberdaron yn gymuned glas â’i
gwreiddiau yn y Canol Oesoedd cynnar. Sefydliad lled-fynachaidd oedd
y clas, yn gweithredu’n debyg i drefgordd seciwlar mewn sawl
ffordd, ond y gwahaniaeth mawr oedd bod aelodau’r gymuned wedi
rhoi’r tir yr oeddent yn ei ddal yn rhydd yn y gorffennol er
mwyn adeiladu a chynnal eglwys ar y tir hwnnw, neu fel arall wedi cael
tir yn rhodd i’r diben hwnnw. Gyda threigl amser, daeth rhai
gweithdrefnau, megis clerigwyr priod ag etifeddion yn rhannu eiddo
etifeddol yn nhir y drefgordd, i ymddangos yn hen ffasiwn ac roedd
galw am eu diwygio, yn enwedig wrth i’r urddau mynachaidd newydd
ymledu ar draws Ewrop. Hyn fyddai diwedd oes aur Aberdaron. Er hynny,
ym 1094, roedd Gruffudd ap Cynan, a oedd yng nghanol rhyfel gerila
yn erbyn y Normaniaid, yn falch o gael lloches gan y gymuned fynachaidd
yn Aberdaron, a dihangodd i Iwerddon yn eu cwch. Ugain mlynedd yn ddiweddarach
gofynnodd Gruffudd ap Rhys Tewdwr am loches yn eglwys Aberdaron rhag
yr un Gruffudd ap Cynan, a rhoddwyd noddfa iddo. Ar ei wely angau ym
1137 gadawodd Gruffudd ap Cynan arian yn ei ewyllys i Enlli.
|
Roedd cysylltiad agos
yn ystod y cyfnod hwn rhwng Enlli ac Aberdaron, canolbwynt y gymuned
glas ar y tir mawr. Mae bron yn sicr nad yr adeilad a welwn yn
Aberdaron heddiw oedd yr eglwys y cymerodd Gruffudd ap Cynan loches
ynddi, ond mae’n ddigon posibl y byddai Gruffudd, neu ei
fab, Owain, wedi adnabod elfennau o’r darn a ailadeiladwyd
yn y 12fed ganrif sydd wedi goroesi ac sy’n ffurfio rhan
o’r eil ogleddol bresennol.
Tua’r flwyddyn 1200 darostyngwyd y gymuned glas er mwyn sefydlu
cymuned o ganonau Awstinaidd ar Enlli. Roedd canolbwynt clas Aberdaron
yn nhrefgordd Is Sely, y gefnwlad agosaf at bentrefan ac eglwys Aberdaron.
Parhaodd yr eglwys i gael ei chynnal gan y cyn glaswyr a chafodd gwpan
cymun, urddwisgoedd a llyfr offeren gan y canonau i’r diben hwnnw.
Ym 1537 darostyngwyd abaty Enlli a phob mynachdy arall a throsglwyddwyd
hwy i ddwylo preifat. Gorfodogwyd eiddo’r canonau yn nhrefgorddau’r
tir mawr hefyd, gan gynnwys Is Sely. Goroesodd eglwys blwyfol Aberdaron
fodd bynnag.
Gwelodd Hyde Hall, ym 1811, ‘fymryn o
fythynnod to gwellt yng ngwaelod y bae’, ychydig bach o
fwydydd a glo’n cael eu mewnforio, ond dim yn cael ei allforio.
Addefodd fod pysgota am fecryll yn broffidiol, yn eu tymor, a
bod potensial i’r tair melin yd a’r ddau bandy ar
afon Daron. Ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif roedd y pentref,
yn ei hanfod, yn glwstwr o dai o amgylch man cyfarfod dwy nant.
Yr unig dyddynnod arwyddocaol ar hyd y ffyrdd sy’n cydgyfeirio
o’r gogledd oedd Deunant, fferm ddeunaw acer, 400m i’r gogledd-orllewin,
a Chefn Ona (un acer ar ddeg) a Phendref (pum deg a thri acer), 500m
i’r gogledd-ddwyrain. Y tu hwnt i’r rhain, o fewn radiws
o gilomedr, roedd daliadau Dwyros, Gwythrian, Deuglawdd, Bodernabwy ac
Anhegraig, pob un yn gyn bentrefan i glaswyr Canoloesol Aberdaron, yng
nghraidd trefgordd Is Sely. Cynrychiolir pob un yn awr gan un fferm,
neu yn achos Bodernabwy ac Anhegraig, gan bentref bychan.
Yn y 1840au nid oedd mwy nag ugain o dai, Capel Annibynwyr Cephas a melin
yd yn Aberdaron. Roedd eglwys newydd mewn arddull neo-Romanésg
wedi cael ei hadeiladu ym Modernabwy ym 1841, i wasanaethu’r plwyf
gan fod eglwys Hywyn Sant wedi mynd â’i phen iddi. Roedd
y pontydd cerrig dros afonydd Cyll-y-felin a Daron wedi’u hadeiladu
ugain mlynedd yn gynharach. Erbyn y 1880au nid oedd llawer wedi newid;
efallai fod yr anheddiad wedi ehangu ychydig i’r gorllewin ar y
ffordd i Ddwyros a bod rhes o fythynnod wedi’u codi ar ochr y ffordd
i’r gogledd o’r eglwys. Roedd dwy odyn galch ar fin y traeth,
ond nid oeddent yn cael eu defnyddio. Erbyn 1906, fodd bynnag, roedd
yr hen eglwys wedi’i hadnewyddu drwy garedigrwydd teulu Carreg
ac mae’n dal i gael ei defnyddio.
Erbyn heddiw mae dros gant o dai preswyl yn Aberdaron, y rhan fwyaf yn
fyngalos newydd, sylweddol, wedi’u hadeiladu yn niwedd yr ugeinfed
ganrif, ar hyd y ddwy ffordd o’r gogledd cyn belled â fferm
Caerau a Deunant. Mae craidd y pentref wedi cadw ei gymeriad arfordirol,
fodd bynnag. Roedd y Ship, y Gegin Fawr a Thy Newydd yn darparu lluniaeth
a llety i bobl leol a theithwyr yn y 19eg ganrif ac mae’r sefydliadau
hyn, yn agos at yr eglwys, yn parhau â’r swyddogaethau hynny.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
•Pentref arfordirol sydd wedi cadw ei
gymeriad traddodiadol yn ei graidd.
• Eglwys bwysig â nodweddion o’r 12fed ganrif a chyfnod diweddarach,
sydd â chysylltiad ag Ynys Enlli a dogfennau da yn ymwneud â’r
gymuned glas yn Aberdaron a’i chyd-destun yn y dirwedd ehangach.
• Mae eglwys Hywyn Sant yn adeilad arwyddocaol iawn yn Aberdaron.
Mae pentref Aberdaron ar fin traeth tywodlyd
Bae Aberdaron rhwng pentir Uwchmynydd i’r gorllewin a Thrwyn
y Penrhyn i’r dwyrain. Mae dwy afon fechan, Daron a Chyll-y-felin,
y naill a’r llall mewn hafnau dyfnion, yn cyfarfod ger
canol y pentref ac yn llifo i’r bae tua 200m i’r
dwyrain o’r man lle maent yn cydgyfarfod. Mae dwy ffordd
yn mynd i’r de tuag Aberdaron ac mae’r rhain, fel
y nentydd, yn cydgyfarfod yn y pentref. Erbyn hyn mae datblygiad
preswyl yn ymestyn o’r traeth, ar hyd y ddwy ffordd am
tua 600m. Mae’r nant fwyaf gorllewinol o’r ddwy,
Cyll-y-felin, yn llifo rhwng y ddwy ffordd ac yn atal mewnlenwi.
Mae’r eglwys yn elfen bwysig iawn o dirwedd
hanesyddol Aberdaron, yn enwedig gan fod cysylltiad rhyngddi
ag Ynys Enlli a chan fod manylion da ar gael am y gymuned glas
yn Aberdaron a’i chyd-destun yn y dirwedd ehangach. Mae’r
dystiolaeth adeileddol gynharaf sydd wedi goroesi am yr eglwys
yn dyddio o’r 12fed ganrif ac adlewyrchir hyn yn ei drws
gorllewinol Romanésg enfawr. Ymestynnwyd canol gwreiddiol
yr eglwys yn y 14eg ganrif ac ychwanegwyd eil ddeheuol yn yr
16eg ganrif ag arcêd pum rhaniad i gysylltu’r ddwy.
Mae’r to wedi’i godi. Mae cyplau adferedig yr eil
ddeheuol yn dyddio o’r 16eg ganrif; mae to’r eil
ogleddol yn fodern. Yn yr eglwys bellach y mae cerrig coffa arysgrifedig
Senacus a Veracius o’r bumed neu’r chweched ganrif,
a ganfuwyd yn wreiddiol yn Anelog.
Mae pentref arfordirol Aberdaron wedi cadw’i gymeriad traddodiadol.
Mae’r pontydd a’r bythynnod traddodiadol, er nad ydynt yn
gynharach na’r 19eg ganrif, yn cyfrannu at gymeriad y pentref.
Yr adeiladau mwyaf arwyddocaol yw eglwys Hywyn Sant, y Gegin Fawr, ty
ffenestri dormer sy’n tarddu o’r 17eg ganrif, ac adeilad
atyniadol yr Hen Swyddfa Bost o ganol yr ugeinfed ganrif.
Yn ôl i Nodweddion
Tirwedd Hanesyddol Llŷn |