English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 22 Cefnamwlch, Brynodol a Llandudwen

 


Cefnamwlch


Sarn Meyllteyrn


Sarn Meyllteyrn


Cefn Leisiog

Cefndir hanesyddol

Mae beddrod siambr Neolithig â maen capan a thri maen unionsyth sydd wedi goroesi yn arwydd o weithgaredd o’r cyfnod cynhanesyddol cynnar yn yr ardal hon. Y lleoliad yw llethrau isaf ochr ogledd-ddwyreiniol Mynydd Cefnamwlch (PRN 1258). Cofnodwyd carnedd ac yrngladdiadau o’r Oes Efydd Gynnar ar ochr orllewinol Foel Mellteyrn ac mae maen hir ym mynwent eglwys Sant Pedr, Mellteyrn (PRN 1797, 1258). Credir bod grwp heb ei gadarnhau o gylchoedd cytiau o gyfnod cynhanesyddol diweddarach mae’n debyg yn bodoli ar gopa Mynydd Cefnamwlch ac mae lloc na ellir bod yn sicr ynglyn â’i ddyddiad ar y bryncyn dwyreiniol gyferbyn. Cofnodwyd lloc ôl cnwd crwn ger Ffridd-wen ar lethr yn wynebu’r dwyrain ym mhen ceunant Mellteyrn a lloc nad oes dyddiad wedi ei briodoli iddo ar ochr ddwyreiniol Foel Mellteyrn, 500m o eglwys Sant Pedr.

Arweiniodd ôl cnwd a ddarganfuwyd ym 1988-9, ar yr un llethr, 950m uwchlaw’r seilnod ordnans at gloddiad pwysig ar y safle ym 1991-3 (PRN 1695). Datgelodd y cloddiad hwn loc consentrig dwbl o ddau is-gyfnod, yn ymestyn dros ddiwedd yr ail fileniwm CC a rhan gyntaf y mileniwm cyntaf CC. Mae’r safle ar bentir bychan yn edrych dros afon Soch, 300m i’r gogledd-orllewin o eglwys Sant Pedr.

Gallai’r cylchoedd cytiau a’r llociau posibl hyn fod yn arwydd o anheddiad dwys rhwng ceunant Mellteyrn a thir uwch Mynydd Cefnamwlch a Foel Mellteyrn ond ni ellir priodoli’r mwyafrif â sicrwydd ar hyn o bryd (PRN 3481, 5485, 1257, 1695).

Roedd Mellteyrn, yng nghwmwd Cymydmaen, yn gymuned glas yn wreiddiol, yn dal daliadaeth gan Feuno Sant, hynny yw, fel cangen o Glynnog Fawr. Roedd yr eglwys wedi ei chysegru i Sant Pedr yn ei Gadwynau. Mae’r safle’n hynafol ond mae’r eglwys bresennol, a ailadeiladwyd gan Henry Kennedy ym 1846, wedi cau erbyn heddiw ac yn adfail dan reolaeth.

Roedd Brynodol yn un o drefgorddau caeth Tywysogion Gwynedd yn y Canol Oesoedd. Yn y 1350au rhoddwyd y drefgordd i Thomas Brereley gan y Tywysog Du. Yng nghanol yr 16eg ganrif cafodd Hugh ap Gruffydd, mab iau i deulu Cefnamwlch, adeilad cyfagos Brynodol, gan y Goron. Mae’n debyg bod Hugh wedi adeiladu’r ty ym Mrynodol bryd hynny, ond ni wyddom i sicrwydd. Ailadeiladwyd y ty yn sylweddol yng nghanol y 18fed ganrif ond mae’n bosibl bod craidd y rhes ogleddol yn cynnwys gwaith cynnar. Cefnogir y posibilrwydd hwn gan ffenestri â physt cerrig yn y seler ym mhen gorllewinol y rhes ogleddol sy’n dyddio o tua 1600.

Olynwyd Hugh ym Mrynodol gan ei fab, Robert. Bu ef farw ym 1630. Etifeddwyd yr ystâd gan or-wyres Hugh, Mary, a gwerthodd hi i’w chefnder, John Griffith o Gaernarfon, ym 1719. Fodd bynnag, ym 1724 priododd mab John Griffith, sef Hugh, â Mary Wynn o Daltreuddyn a Llanfairisgaer. Roedd y teulu hwn bellach yn rheoli tair ystâd, sef Brynodol, Taltreuddyn a Llanfair. Hugh a Mary fu’n gyfrifol am newid arddull yr hen dy yn y 1740au ac ar ôl hynny. Cafodd y rhes ogleddol weddnewidiad Sioraidd ac ychwanegwyd adain frics ar gyfer grisiau â chegin gyfagos gerllaw, yn y cefn, tua’r adeg honno. Bu farw Hugh Griffith ym 1795 a Mary ym 1797. Trosglwyddwyd ystâd Brynodol i’w mab ac, ym 1830 i John Watkins, clerigwr, a chymerodd ei fab ef, John arall, yr enw Griffiths Watkins drwy gysylltiad â’r ty. Pan ymwelodd Hyde Hall â Brynodol ym 1810 gwelodd mai tenant oedd yn byw yn y ty.

Saif Cefnamwlch gerllaw, 2km i’r de-orllewin. Mae teulu Gruffydd Cefnamwlch yn deulu hynafol. Maent yn honni eu bod yn ddisgynyddion i Rhys ap Tewdwr a’r Arglwydd Rhys o deyrnas Deheubarth, yn y 12fed ganrif ac Arglwyddi Cymydmaen, yn Llyn, ar ddechrau’r 14eg ganrif. Ceir y cyfeiriad cyntaf at Gefnamwlch yn nhrefgordd Penllech yn y 1480au. Roedd David Fychan o Gefnamwlch yn briod â Janet o deulu Castellmarch bryd hynny a’i frawd, John, oedd ym Modwrdda. Yn ystod yr 16eg ganrif cynhaliwyd priodasau â theulu Clenennau, Meyricks Bodeon (Boduan), Bodfel, Mostyn ac, yn niwedd yr 16eg ganrif, priododd Griffith John Griffith â Catherine, merch Syr Richard Bulkeley o Baron Hill ym Môn.

Mae’r adeiladau cynharaf sydd wedi eu cofnodi yng Nghefnamwlch, o’r 15fed ganrif a’r 16eg ganrif, yn cynnwys yr hyn a fyddai mae’n debyg wedi bod yn neuadd llawr cyntaf â ffenestr oriel. Nid oes tystiolaeth o hyn wedi goroesi. Yr adeilad hynaf sydd i’w weld heddiw yw’r porthdy cerrig, wedi ei alinio i gyfeiriad safle’r ty cynnar, yn dyddio o 1607, ac a adeiladwyd mae’n debyg gan John Griffith, Uchel Siryf Caernarfon ym 1604.



Rhwng y porthdy a’r ty cynharach, ac i’r de o’r echelin sy’n eu cysylltu, roedd adeiladau domestig wedi eu trefnu ar ffurf cwrt ond heb ei gwblhau. Roedd gan un adeilad, yn agos at yr hen adeiladau, a oedd yn dal i sefyll, le tân mawr a chorn ymestynnol yn y cefn sy’n awgrymu dyddiad yn yr 17eg ganrif. Gosodwyd ffenestri dormer yn llawr uchaf yr adeilad hwn y tybir ei fod unwaith eto’n dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif yn hytrach na chyfnod diweddarach. Mae trawstiau siamffrog a thrawstiau cau yn yr adain orllewinol yn cefnogi’r awgrym bod y cyfadeiladau hyn yn dyddio o’r 17eg ganrif. Gallai’r adeiladau domestig tua’r de, felly, fod o’r un cyfnod fwy neu lai â’r porthdy newydd, â’r hen dy yn sefyll tua’r gogledd-ddwyrain.

Yn nechrau’r 19eg ganrif tynnwyd yr hen dy i lawr. Cwblhawyd y bloc cwrt deheuol, os nad oedd wedi ei gwblhau cyn hynny, a gwnaethpwyd addasiadau i adeiladau a oedd yn bodoli’n barod. Yn yr adeilad â’r cyrn simnai ymestynnol a’r ffenestri dormer ar y llawr uchaf newidiwyd y ffenestri dormer a chodwyd yr adeilad i’w wneud yn adeilad tri llawr. Daeth rhes ogledd-ddwyreiniol cyfadeiladau’r cwrt yn brif dy. Roedd feranda, a godwyd yn ddiweddarach mae’n debyg, wedi ei osod ar du blaen yr ochr ogleddol, ar hyd y rhes gyfan at y wal derfyn, ac am bellter byr ar hyd yr ochr ddwyreiniol.

Mae’r porthdy’n darparu mynediad drwy’r wal derfyn ar hyd lôn fer, sy’n mynd gydag ochr y prif gyfadeiladau. Mae’r porthdy’n adeilad deulawr ag agoriad bwa gwastad a ffenestri ffrâm cerrig canolog ar yr ail lawr. Mae gan y ffenestri byst siamffrog canolog. Mae simnai wedi ei gosod yn sgwâr ar yr ochr ddeheuol.

Mae gerddi Cefnamwlch wedi eu rhestru yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru fel gerddi Gradd II oherwydd yr ardd â wal o’i chwmpas, sy’n dyddio o’r 1820au mae’n debyg ac sydd wedi ei chadw’n dda. Mae’r ardd wedi ei threfnu’n anffurfiol, ac mae’n cynnwys planhigfeydd da gydag ochr y lôn ac o amgylch y ty (PGW (Gd) 23 (GWY)).

Daeth Cefnamwlch yn lle pwysig iawn yn Llyn dan yr ail John Griffith o hanner cyntaf yr 17eg ganrif, a dechreuodd herio pwer Wynniaid Gwydir. Roedd ef yn frenhinwr ar ddechrau’r Rhyfel Cartref ac ymunodd â’r Brenin Siarl yn Rhydychen lle bu farw, ym 1643, o’r pla. Bu farw’r John Griffith olaf o Gefnamwlch ym 1794. Trosglwyddwyd y ty i’w gyfnither, Jane Wynne o’r Foelas a’i gwr hi, Charles Finch. Olynwyd eu mab hwy, Charles Wynne Griffith-Wynne ym 1865 gan Charles Wynne Finch, a adeiladodd y ty presennol yn y Foelas.

Sarn Mellteyrn
Pentref ar groesffordd yw Sarn Mellteyrn. Mae llwybrau o wahanol gyfeiriadau’n cyfarfod yno; o Fotwnnog yn y de-ddwyrain; o Laniestyn yn y dwyrain a’r gogledd-ddwyrain; o Gefnamwlch yn y gogledd ac o Roshirwaun a Bryncroes yn y de-orllewin. Roedd ffair wartheg a cheffylau bwysig hefyd yn Sarn Mellteyrn ar ddechrau’r 19eg ganrif, a chyn hynny, ac roedd yn fan ymgynnull ar gyfer porthmyn a oedd yn dod â gwartheg o diroedd pori’r de a’r de-orllewin ar ddechrau eu taith hir i farchnadoedd Lloegr. Yn y 1860au roedd dyn a oedd yn prynu a gwerthu ceffylau yn Sarn, ac roedd yr Efail yn cael ei rhedeg gan Theophilus Evans a’i frawd-yng-nghyfraith, Ellis Roberts. Roedd yno hefyd gyfrwywr a phrentis 15 oed i’r cyfrwywr. Ar ochr ddwyreiniol fferm Mellteyrn roedd tarddell, 200m o’r afon, a lle i anifeiliaid gael dwr.

Mae blaenddyfroedd afon Soch yn llifo i lawr ceunant Mellteyrn a thrwy’r pentref. Safai Melin Mellteyrn, melin ddwr i falu yd, ar yr ochr ogleddol. Roedd cyfran sylweddol, tri deg a saith y cant, o’r boblogaeth weithio, yn ffermwyr neu lafurwyr amaethyddol ar y 24 fferm ym mhlwyf Mellteyrn. Roedd seiri maen a thorwyr cerrig hefyd yn gweithio ar y graig ar ochr ogledd-orllewinol y pentref; roedd yno deilwriaid, cryddion a gwniyddesau, a oedd i’w gweld bob amser mewn cymunedau yn ystod y cyfnod hwn; saer, yn lletya yn nhy un o’r teilwriaid, tyrchwr ac wrth gwrs y llafurwyr cyffredinol (20%) a’r gweision a’r morynion teuluol.

Ym 1840 roedd ty tafarn yn Sarn, ar ôl croesi’r bont dros afon Soch ar yr ochr orllewinol. Tafarn Ty Newydd oedd hon. Ugain mlynedd yn ddiweddarach roedd tafarnau Sarn Fawr a Phen y Bont wedi agor ar ochr ddwyreiniol y bont, ar y ffordd i Fotwnnog. Erbyn y 1880au roedd pedair tafarn yno, sef Penrhyn Arms, Pen y Bont, Ty Newydd a’r Wellington, a sefydlwyd Capel y Methodistiaid Calfinaidd, Salem, ym 1879, ar gyrion y pentref ar ochr orllewinol yr afon.

Ar ddechrau’r 19eg ganrif roedd clwstwr bach o adeiladau y ddwy ochr i’r bont dros afon Soch. Nid oedd mwy na phedwar neu bump adeilad bob ochr i’r bont. Roedd y tair fferm, Mellteyrn, Mellteyrn Ucha a Mellteyrn Isaf, yn agos at ei gilydd, 370m i’r gogledd-orllewin o’r bont. Safai’r felin 150m i’r gogledd o’r bont ac roedd fferm Crugeran wedi ei lleoli 500m i’r de-orllewin. Erbyn diwedd yr 20fed ganrif a dechrau’r 21ain ganrif mae Sarn wedi ehangu’n araf i fod yn gymuned o tua 50 o adeiladau preswyl, cyhoeddus a masnachol, ar hyd y ffordd i gyfeiriad Capel Salem, ac yn yr ongl rhwng ffordd Botwnnog a’r ffordd sy’n arwain tua thiroedd amaethyddol Llaniestyn. Mae safle eglwys hynafol Sant Pedr, a ailadeiladwyd yn y 19eg ganrif ac sydd wedi ei dymchwel gan mwyaf erbyn hyn, 420m i’r gogledd o ganol Sarn.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Tirwedd â dwy ystâd bwysig, Cefnamwlch a Brynodol, y naill a’r llall â tharddiad hynafol.
• Mae Cefnamwlch wedi ei rhestru yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Dirweddau, Parciau a Gerddi.
• Mae Sarn Mellteyrn yn bentref ar groesffordd, a thyfodd fel safle ffair wartheg a cheffylau yn nechrau’r 19eg ganrif.
• Mae Llandudwen a’i ffynnon sanctaidd yn rhoi cymeriad i ran ogleddol yr ardal hon, yng nghysgod Carn Fadryn.
• Mae safleoedd gorsaf radio Chain Home o’r Ail Ryfel Byd wedi goroesi yng Nghefn Leisiog.

Terfyn gogleddol a gorllewinol yr ardal gymeriad hon yw terfyn y gwastadedd arfordirol, lle mae’r tir yn dechrau codi i gyfeiriad Llandudwen, tua llethrau Carn Fadryn; yng Nghefnamwlch tuag at godiad tir Llaniestyn ac yn serth ym Mynydd Cefnamwlch. Ceunant Mellteyrn yw terfyn de-ddwyreiniol yr ardal.

Mae’r dirwedd hon yn cynnwys dwy ystâd bwysig sydd wedi eu lleoli rhwng y gwastadedd arfordirol a thir uwch Llaniestyn a llethrau gogledd-orllewinol Carn Fadryn. Roedd cysylltiad teuluol rhwng Cefnamwlch a Brynodol a gwelwyd gwaith adeiladu sylweddol yn y naill dy a’r llall yn yr 16eg ganrif a dechrau’r 17eg ganrif. Ychydig o fanylion yr adeiladau cynnar hyn sydd wedi goroesi, ar wahân i’r porthdy cerrig yng Nghefnamwlch, a adeiladwyd ym 1607 a ffenestri pyst cerrig yn seler Brynodol a osodwyd tua’r un cyfnod. Cafodd y ddau dy eu hailfodelu mewn arddull Sioraidd yn ddiweddarach. Byddai’r ty cynnar yng Nghefnamwlch, y codwyd un arall yn ei le yn ddiweddarach, wedi bod yn eithriadol o bwysig pe bai wedi goroesi. Mae lluniau o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif yn awgrymu ei fod yn dy neuadd llawr cyntaf â ffenestr oriel. Cyfnod mwyaf dylanwadol Cefnamwlch oedd yr 17eg ganrif, pan oedd teulu Griffith Cefnamwlch yn herio Wynniaid Gwydir am oruchafiaeth wleidyddol. Roedd cael cyn diroedd caeth y Goron ar brydles, a chael eu prynu yn y pen draw, yn sbardun twf ym Mrynodol ac, er nad yw gwreiddiau Cefnamwlch mor amlwg, mae’n bosibl nad oeddent yn rhy annhebyg. Mae hwn yn batrwm sydd i’w weld mewn nifer o ardaloedd eraill yn Llyn ac yn gatalydd pwysig yn nhwf boneddigion Llyn. Mae gerddi Cefnamwlch wedi eu rhestru yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru fel gerddi Gradd II. Mae planhigfeydd coed o amgylch Brynodol a Chefnamwlch yn nodweddiadol o reolaeth ystâd, yn enwedig yn niwedd y 18fed ganrif pan ddisgrifiwyd yr ardal gan Thomas Pennant fel ‘flat and woodless tract’. Wrth ddisgrifio Brynodol ym 1808, cyfeiriodd Hyde Hall at ‘some show of wood and plantation which strongly presents itself to sight amidst the general bareness of the view’. Yn ei gyfeiriad at Gefnamwlch, sylwadau Hyde Hall oedd: ‘here only in the parish (Penllech) are trees to be seen… in perfection …. They rear their heads with good effect amidst the general nakedness of the prospect’ (Hyde Hall, 282, 308).

Yn ne’r ardal gymeriad, mae Sarn Mellteyrn wedi tyfu rhywfaint o bentref bychan dechrau’r 19eg ganrif, â thai teras deulawr yn cael eu hadeiladu â cherrig yn Oes Fictoria ger y bont ar lan ddwyreiniol afon Soch, a byngalos mawr wedi eu chwipio â gro a thai deulawr a deulawr a hanner yn cael eu codi mewn llefydd gwag yn yr ugeinfed ganrif, ar hyd y ffordd i’r de, ar lan ochr orllewinol yr afon, rhwng teras o dri thy Fictoraidd wedi eu hadeiladu â cherrig a Chapel Salem. Mae Sarn yn rhoi cymeriad hanesyddol i’r dirwedd hon oherwydd ei leoliad ar bont dros afon Soch a chyffordd bwysig yn y 18fed ganrif, ac oherwydd y ffair anifeiliaid a’r man ymgynnull ar gyfer porthmyn a oedd yn gyrru eu gwartheg tua’r gogledd a’r dwyrain i farchnadoedd Lloegr.

Saif eglwys Llandudwen ar ffin ogledd-ddwyreiniol yr ardal gymeriad hon, dan lethrau isaf Carn Fadryn, ar yr ochr ogleddol. Mae wedi ei hamgáu gan fynwent betryal. Mae’r ffynnon sanctaidd, Ffynnon Dudwen, yn ffynnon iachaol. Roedd yn cael ei defnyddio’n aml ar un adeg ond mae’n anodd mynd ati erbyn heddiw. Mae’r lleoliad yn darddell mewn llecyn gwastad sydd wedi tyfu’n wyllt 75m i’r de o’r eglwys. Cynigid pinnau ac arian yn offrwm yno ar un adeg, gweinyddid priodasau cyfrinachol a defnyddid y dwr i fedyddio (Jones, 1954, 149; PRN 3638).

Mae eglwys Llandudwen wedi goroesi fel adeilad o’r 16eg ganrif a dechrau’r 17eg ganrif, ac mae’n bosibl bod canol yr eglwys wedi ei adeiladu ar sylfeini eglwys gynharach. Mae cynllun yr eglwys yn seiliedig ar siâp T â thranseptau yn ymestyn i’r gogledd ac i’r de o’r gangell. Roedd cangell gynharach ar un adeg yn ymestyn ymhellach i’r dwyrain na’r un bresennol ond un ffasâd di-dor yw’r wal ddwyreiniol erbyn heddiw. Mae ffenestri petryal gwreiddiol o ddechrau’r 17eg ganrif, â linteli, siliau, ystlysbyst a myliynau cerrig â mowldinau ofolo i’w gweld yn y transept deheuol. Mae lleoliad yr eglwys, yn edrych dros y gwastadedd arfordirol i gyfeiriad Cefn Leisiog ac Edern, â Charn Fadryn y tu ôl iddi yn drawiadol.

Yng Nghefn Leisiog, mae’r adeiladau a godwyd i amddiffyn morlin Môr Iwerddon yn adlais o’r Ail Ryfel Byd, a gwelir olion y rhwydwaith radar yn y bynceri a’r llwyfannau mastiau sydd wedi goroesi. Er bod y gwaith brics a’r concrid yn gallu ymddangos yn ymwthiol mewn tirwedd hardd, mae’r olion yn elfen bwysig o’r dirwedd hanesyddol ac yn rhan o gadwyn sy’n ymestyn o Aberdaugleddau i arfordir Gogledd Cymru.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol