English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 20 Nefyn a Morfa Nefyn


Nefyn


Hen ganol, Nefyn


Morfa Nefyn


Morfa Nefyn

Cefndir hanesyddol

Yr arwydd cynharaf o weithgaredd dynol yn yr ardal hon yw dwy gofeb angladdol o’r Oes Efydd; crug crwn posibl o’r Oes Efydd Gynnar mewn cae ger Ty Mawr yn ehangder dwyreiniol Morfa Nefyn ac yrngladdiadau o’r un cyfnod fwy neu lai 100m i’r gorllewin (PRN 2340, 17211). Mae amddiffynfeydd pwysig o’r Oes Haearn yn union i’r gorllewin ac i’r dwyrain o’r ardal ond nid yn yr ardal ei hun.

Ailadeiladwyd eglwys bresennol Nefyn yn gyfan gwbl ym 1825-7. Ni wyddom lawer am bensaernïaeth yr eglwys gynharach. Er hynny, mae ei chysylltiadau hanesyddol yn bwysig. Cofnodwyd yr eglwys hynafol am y tro cyntaf, yn ôl y cofnodion sydd wedi goroesi, yng nghanol y 12fed ganrif. Rhoddodd Cadwaladr, mab Gruffudd ap Cynan a brawd Owain Gwynedd, eglwys Nefyn a phopeth a berthynai iddi a’r holl dir lle safai’r eglwys, rhwng dwy nant fechan sy’n diffinio’r ffiniau, i Abaty Awstinaidd Haughmond. Rhoddodd hefyd dir y tu allan i Nefyn ar lethrau de-ddwyreiniol Mynydd Nefyn.

Rhoddwyd tir yn Nefyn yn rhodd i Abaty Haugmond dair gwaith ar ôl hyn, gan Dafydd ab Owain, ddwywaith rhwng 1177 a 1190, a chan Lywelyn ap Iorwerth, ym 1230. Mae’n bosibl ein bod, yn y siarteri a’r grantiau hyn, yn gweld enghraifft gynnar, yng Ngogledd Cymru, o’r trawsnewidiad o eglwys glas hynafol i un o’r urddau pan-Ewropeaidd ‘modern’; yn yr achos hwn, priordy Awstinaidd. Ym 1301 gwrthododd David ap Madoc, un o gaplaniaid Nefyn, unrhyw hawliad i eglwys Nefyn a datganodd ei fod wedi ei fagu yn y priordy Awstinaidd gyda’r canonau a’i fod wedi bod yn gweinyddu o fewn yr eglwys ers amser maith. Yr unig eglurhad dros feddwl y gallai sefyllfa o’r fath fodoli yw bod rhywfaint o’r hen glas yn parhau, mewn rhyw ffordd, i wasanaethu’r eglwys. Mae’n bosibl bod un aelod seciwlar o gymuned Nefyn, Madoc Clericus (a oedd yn galw ei hun yn farsiandwr) yn berthynas i David ap Madoc. Ym 1252 roedd William, Prior Nefyn, yn dyst i gytundeb ynglyn â threfniadau deiliadol yn Aberdaron. Ym 1535 roedd gan yr eglwys statws ficerdy’r Abaty, ar drothwy’r diddymiad. Parhaodd eglwys y Santes Fair, Nefyn, fel eglwys blwyfol. Erbyn hyn mae’n amgueddfa forwrol, a chodwyd eglwys newydd Dewi Sant yn ei lle ger Twr Pen y Bryn.

Ni wyddom beth oedd maint na statws Nefyn yn niwedd yr 11eg ganrif dyweder, pan ddaeth Gruffudd ap Cynan â’i gwch i Borth Nefyn, ond byddai’n rhesymol tybio ei fod eisoes yn lle sylweddol neu nodedig o leiaf. Mae’n bosibl bod presenoldeb castell gwrthglawdd yn Nefyn, yn dyddio o ddiwedd yr 11eg mae’n debyg, yn arwydd o ddyfodiad y Normaniaid i Wynedd ac mae’n arwydd arall, o leiaf, o bwysigrwydd strategol y lleoliad. Un o nodweddion urdd Sant Awstin yw bod ei aelodau’n mynd allan i’r byd, yn wahanol i urddau caeëdig, ac yn cyflawni swyddogaethau offeiriadol amrywiol, gan gynnwys gofalu am blwyfi. Gallem ddisgwyl, ac mae’r grantiau i Haugmond yn awgrymu hynny, bod pentref wedi tyfu yng nghyffiniau’r eglwys. Yn Ebrill, 1188, ar noswyl Sul y Blodau, arhosodd Gerallt Gymro a’r Archesgob Baldwyn yn Nefyn, ar eu pererindod i gefnogi’r Groesgad.

Erbyn y 13eg ganrif gellir nodi trefgordd Nefyn fel maerdref frenhinol, ystâd faenorol yn nwylo’r Tywysog a’r canolbwynt ar gyfer rheoli’r gwaith o gasglu rhenti ac arian a oedd yn ddyledus gan denantiaid caeth y Tywysog a hefyd y symiau hynny a oedd yn ddyledus gan y rhydd-ddeiliaid yng nghwmwd Dinllaen. Ym 1293, ddeng mlynedd ar ôl concwest Gwynedd, cododd Edward I dreth ar nwyddau symudol i helpu i dalu am ei ryfel yn yr Alban.

Mae’r ddogfen yn rhoi cipolwg ar adnoddau economaidd a gallu cynhyrchiol Nefyn. Roedd Nefyn, a Phwllheli wedi cael statws bwrdeistref yn ystod y 13eg ganrif, cyn y goncwest. Roedd Nefyn, yn y cyfnod hwn, yn gymuned lawer mwy. Roedd yno 93 o drethdalwyr. Roedd yno offeiriad, meibion gof neu ofaint (mae’n debyg eu bod yn dilyn galwedigaeth eu tadau), porthmon, tafarnwr a’i blant, eurof a llawer mwy. Roedd gan y rhai cyfoethocaf 14 neu 15 o wartheg, 2 neu 3 ceffyl, ychydig o ddefaid a 6 neu 7 crynnog o flawd a grawn. Roedd chwe unigolyn yn disgrifio eu hunain fel marsiandwyr. Roedd gan ddeugain ag un o unigolion rwydi pysgota. Roedd gan rai 2, 3 neu 4 rhwyd ac roedd gan bedwar unigolyn gychod. Roedd dau aelod o’r gymuned, Ieuan ap Madoc a Dafydd ap Thum heb lawer o anifeiliaid, ond roedd ganddynt 2 gwch a 7 rhwyd rhyngddynt. Roedd gan gymuned Nefyn gyfanswm o 264 o wartheg, 49 ceffyl, 205 dafad a 41 anifail gwedd a gallai gynhyrchu 138 crynnog o flawd a grawn, ceirch gan mwyaf, a rhywfaint o haidd.

Er bod rhai agweddau ar isadeiledd y faerdref yn amherthnasol ar ôl y goncwest, parhaodd arolygon a chofnodion swyddwyr i gyfeirio at dollau arferol a oedd, efallai, yn fwy priodol i’r faerdref yn Oes y Tywysogion. Telid y rhenti mewn arian parod a dyna oedd yn cyfrif. Fodd bynnag, mae’r gwasanaethau llafur cymudol yn rhoi cipolwg ar weithrediad y Faerdref draddodiadol.

Roedd gan Nefyn, yn y 13eg ganrif, 120 acer o dir demên a gardd. Roedd gan y faenor hefyd fawnog gynhyrchiol, ffynhonnell danwydd werthfawr, a ddaeth yn achos cynnen ganrifoedd yn ddiweddarach. Roedd tâl o bedair crynnog o flawd rhyg a haidd yn ofynnol. Roedd yn rhaid i’r tenantiaid ddarparu gwasanaethau llafur penodol fel rhan o’u rhent. Roedd yn rhaid iddynt wella cyflwr y faenor, atgyweirio to’r neuadd a gweithio ar y tai. Roedd yn rhaid iddynt dorri mawn a dod â thanwydd i mewn ar gyfer y tân a’i gynnau. Roedd yn rhaid iddynt hefyd gyflenwi cig moch ar gyfer y bwrdd a chywion ieir.

Roedd gwaith amaethyddol i’w wneud hefyd, gan gynnwys ymwneud â’r cynhaeaf yn yr hydref. Roedd gan Nefyn dair melin, ond nid oedd pob un yn y drefgordd ei hun.

Ym 1349 rhoddwyd Nefyn i Nigel Loryng, siambrlen y Tywysog Du. Ym 1355 cynghorodd Loryng y Tywysog Du i ryddfreinio Nefyn (a Phwllheli) a chreu bwrdeistref rydd yno. I gydnabod ei wasanaeth yn Poitiers, ym 1356, rhoddwyd y ddwy fwrdeistref i Nigel Loryng am byth am rent blynyddol o un rhosyn (T Jones Pierce,1972, 151).

Galwodd Pennant Nefyn yn dref fechan yn y 1770au. Credai’r Parch. Bingley, ym 1814, mai lle bach a di-nod ydoedd … wedi ei amgylchynu gan fynyddoedd ac yn ymddangos fel pe bai wedi ei wahanu’n llwyr oddi wrth y byd. Cymerodd Hyde Hall, bedair blynedd yn gynharach, olwg fanylach ar y dref. Credai fod y casgliad o brif dai ychydig yn fwy na’r rhai a welid fel rheol yn y rhanbarth, ac er bod y tai’n wasgaredig, yr argraff a gafodd ef oedd bod yma boblogaeth â chanolbwynt cnewyllol. Roedd y tai diweddaraf wedi eu toi â llechi, ond to gwellt oedd gan y mwyafrif o hyd. Er hynny, gwelodd Hyde Hall rywfaint o le i fod yn optimistaidd gan fod llechi’n cael eu defnyddio, ac roedd hynny iddo ef yn arwydd o ‘welliant’.

Mae’r morlin o Benrhyn Bodeilias i Benrhyn Nefyn yn fae hir ac eang. Yn y pen gorllewinol, mae Penrhyn Nefyn yn darparu harbwr cysgodol da ar y trwyn. Yn y Canol Oesoedd roedd gan gymuned Nefyn nifer o rwydi a chychod a pharhaodd pysgota i fod yn bwysig. Cyfeiriodd Hyde Hall at y cytiau cochi penwaig yn y bae. Roedd tua 40 o gychod yn Nefyn ar adeg ymweliad Hyde Hall ym 1810. Roedd pob un yn eiddo i nifer o unigolion, a gallai cynifer â saith fod â chyfrannau mewn cwch. Roedd pysgota penwaig yn dymhorol ac roedd gan lawer o’r pysgotwyr alwedigaethau eraill. Roedd y rhan fwyaf yn gweithio ar y fferm. Dyma’r patrwm cyffredin ar arfordir Llyn. Roedd Nefyn hefyd yn dref adeiladu llongau. Ni allai gystadlu â Phorthmadog a Phwllheli, ond adeiladwyd tua 100 o longau yno rhwng diwedd y 18fed ganrif a diwedd y 19eg ganrif. Roedd gan Nefyn rafflan ym mhen deheuol y dref, a oedd, wrth gwrs, yn gysylltiedig â natur forwrol y gymuned.

Ar droiad y 18fed/19eg ganrif roedd y rhan fwyaf o adeiladau’r fwrdeistref wedi eu crynhoi yn yr ardal o amgylch y groes; ar gyffordd Stryd y Ffynnon, Stryd y Plas a’r Stryd Fawr; ac i’r gogledd ar hyd Stryd y Ffynnon. Roedd ychydig o adeiladau gwasgaredig i’r de o’r eglwys ar hyd Stryd y Llan ac i’r gogledd o’r eglwys. Mae’r ddwy stryd, Stryd y Plas a’r Stryd Fawr, yn dargyfeirio i’r de a’r de-orllewin o’r Groes, gan greu lle gwag o fewn y triongl hwnnw lle’r oedd y Maes. Roedd y ffynnon ym mhen deheuol Stryd y Ffynnon ac roedd y ffrwd a ddeuai ohoni yn llifo fwy neu lai i lawr canol y stryd.

Mae arwyddion clir o bresenoldeb blaenorol meysydd agored Canoloesol, i’r gogledd-orllewin, i’r de-orllewin ac i’r dwyrain o’r dref. Mae’r arwyddion cliriaf i’w gweld rhwng Nefyn a’r môr. Gellir eu hadnabod drwy’r ffordd y maent wedi eu cau o fewn cloddiau parseli o erddi agored, sy’n cadw cromlinau troellog tiroedd âr yn eu terfynau. Mae map o ystâd Glynllifon o’r flwyddyn 1815 a’r map Degwm sy’n dyddio o tua 1839 ill dau’n dangos nifer o erddi hir, main o fewn y cloddiau sy’n ffurfio terfynau. Nid yw’r gerddi eu hunain wedi eu ffensio ac mae’n anghyffredin i ddwy ardd sy’n eiddo i’r un tenant fod wedi eu cyfosod, sy’n adlewyrchu traddodiad hynafol o rannu’r tir. Yn ôl tystiolaeth y mapiau hyn byddai’n ymddangos bod ardaloedd helaeth o erddi yn dal heb eu cau, bron iawn tan ganol y 19eg ganrif.

Yn union yn ymyl Nefyn roedd trefgordd rydd Morfa, ar hyd y morlin rhwng Penrhyn Nefyn a Bwlch Bridin ac i mewn i’r tir cyn belled â chwr gogleddol y Gors Geirch. Ym 1806 adeiladwyd ffordd dyrpeg newydd ar draws Llyn o’r Traeth Mawr i Borthdinllaen. Roedd y ffordd newydd hon yn darparu canolbwynt ar gyfer anheddu i’r gorllewin o Nefyn ym Morfa Nefyn. Mae’n hawdd adnabod y ffordd oherwydd ei rhannau unionsyth. Mae’n croesi’r hen ffordd o Nefyn tua’r gorllewin ar hyd y llwybr arfordirol, drwy Edern a Thudweiliog ac ymlaen i Aberdaron. Roedd rhywfaint o anheddu wedi digwydd yn barod ar hyd yr hen ffordd. Canolbwynt y datblygiadau bellach oedd y groesffordd.

O ganlyniad i ehangu’r anheddiad yn y 19eg ganrif crëwyd patrwm braidd yn wasgaredig, yn cynnwys tua 100 eiddo yn ymestyn ar hyd y ddwy ffordd ym Morfa Nefyn. Mae’r adeiladau’n cynnwys tai sengl mawr, tai teras, ficerdy, gorsaf yr heddlu, capel y Methodistiaid Calfinaidd, capel yr Annibynwyr, capel y Bedyddwyr, capel Cenhadaeth y Santes Fair a thafarn ar y groesffordd, ynghyd â bythynnod brodorol cynnar megis Caer Pwll, ar ffordd Aberdaron. Yn ystod yr ugeinfed ganrif cynyddodd cyfanswm yr adeiladau i dros 400. Adeiladwyd llawer o’r rhain ar ddechrau’r ugeinfed ganrif fel filâu glan môr, ond datblygwyd ystadau hefyd yn fwy diweddar yn y pen gorllewinol.

Mae’r caeau i’r gogledd ac i’r de o’r ardal ddatblygedig ym Morfa Nefyn yn dangos mwy o olion gerddi meysydd agored creiriol, wedi eu ffosileiddio drwy gael eu cau o fewn cloddiau, na’r rhai hynny sy’n nes at Nefyn ei hun. Ni ellir camgymryd patrwm ysgubol y cyn diroedd âr canoloesol.

Ar ochr ogledd-orllewinol Nefyn, 300m o’r dref roedd datblygiad bychan wedi ymddangos gydag ochr Ffordd Aberdaron, ger fferm Cae Rhug. Roedd trac yn arwain i lawr i lan y môr yma drwy un o’r ceunentydd sy’n hollti’r clogwyni uchel. Mae clwstwr o dai a bythynnod ychydig uwchben y draethlin ond nid oes dim wedi ei gofnodi cyn diwedd y 19eg ganrif. Roedd y datblygiad i’r gogledd o Gae Rhug, fodd bynnag, yn cynnwys teras bychan, ysgol, pedwar ty sengl a mynwent y dref. Cyn bo hir dechreuodd y dref ehangu ar hyd Ffordd Aberdaron a thuag at y gelltydd môr, â mynediad i’r traeth. Ym 1903 adeiladwyd eglwys Dewi Sant heb fod ymhell o Dwr Pen y Bryn (ffordd Aberdaron) ar gwr y dref. Ym 1914 adeiladwyd y Nanhoron Arms ar draws y ffordd ac yn ystod yr ugeinfed ganrif, ehangodd filâu gwyliau, tai a gwestai bron iawn hyd at ymyl y clogwyni.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Mae Nefyn yn gymuned hynafol ac roedd yn faerdref frenhinol yn y 13eg ganrif. Mae llawer o gydrannau’r dirwedd gynharach wedi eu cadw yn ei chynllun strydoedd.
• Tirwedd lle mae patrwm gerddi âr mewn meysydd agored canoloesol i’w weld o hyd, wedi eu diffinio a’u cau â chloddiau erbyn heddiw.
• Y Traeth Mawr – Roedd ffordd dyrpeg Porthdinllaen a llwybr arfordirol cynharach y pererinion yn croesi ei gilydd ym Morfa Nefyn, ac arweiniodd hyn at dwf pentref ochr ffordd yn y 19eg ganrif.
• Ehangu o dref Nefyn, tua’r morlin, yn cael ei sbarduno gan dwristiaeth ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Mae’r ardal gymeriad hon yn cynnwys tref fwrdeistrefol Nefyn a chymuned fwy diweddar Morfa Nefyn. Terfyn gogleddol yr ardal yw’r môr; mae’n ymestyn i’r gorllewin i ffin Morfa Nefyn ac ehangder mwyaf gorllewinol systemau caeau Canoloesol creiriol; i’r de at ffin ogleddol y Gors Geirch ac i’r dwyrain at fewnwthiadau igneaidd Garn Boduan, Mynydd Nefyn a mynydd y Gwylwyr.

Mae Nefyn yn gymuned hynafol ac mae wedi cadw nifer o gydrannau tirwedd gynharach yn ei chynllun strydoedd a nodweddion eraill sydd wedi goroesi. Mae gan Nefyn hefyd ddogfennau manwl yn ymwneud â phresenoldeb blaenorol llys brenhinol tywysogion Cymru, yng nghyd-destun maerdref gymydol bwysig. Mae’r nodweddion sydd wedi goroesi ac sy’n dynodi cydrannau tirwedd ganoloesol yn cynnwys:

• Cynllun y strydoedd, yn fforchio ym mhen deheuol Stryd y Ffynnon i’r Stryd Fawr a Stryd y Plas, gan ddiffinio ardal drionglog y Maes a’r Groes yn y pig.
• Safle’r eglwys a’r fynwent a oedd yn nwylo ty Awstinaidd Haughmond erbyn ail hanner y 12fed ganrif â gwreiddiau mwy hynafol o bosibl.
• Castell gwrthglawdd o ddiwedd yr 11eg ganrif i’r gorllewin o’r Groes.
• Y posibilrwydd o ddynodi tiroedd bwrdais bwrdeistref Nefyn, o’r 13eg ganrif, sydd fwyaf tebygol o gael eu gweld wedi eu crynhoi ar ddwy ochr Stryd y Ffynnon, ochr orllewinol y Stryd Fawr ac o amgylch y Maes.
• Gerddi maes agored creiriol helaeth o darddiad canoloesol i’r gogledd-orllewin a’r de-orllewin o’r dref ac, yn fwy fyth, ar dir Morfa, neu Morfa Nefyn erbyn heddiw.

I’r gorllewin o Nefyn mae dwy ffordd hir, y ffordd orllewinol a llwybr y pererinion o Gaernarfon a Chlynnog i Enlli a ffordd dyrpeg dechrau’r 19eg ganrif o’r Traeth Mawr i Borthdinllaen, yn croesi ei gilydd ym Morfa Nefyn. Roedd rhywfaint o adeiladau gwasgaredig wedi eu codi ar ffordd Aberdaron ond darparodd cyffordd y ddwy ffordd ganolbwynt ar gyfer anheddiad a oedd yn ymestyn ar hyd y ddwy ffordd mewn modd sy’n nodweddiadol iawn o ddatblygiad ochr stryd.

Mae’n sicr bod yr arfer ffasiynol i fynd am wyliau i lan y môr yn ystod yr ugeinfed ganrif wedi bod yn hwb i ddatblygu’r ardal o amgylch Ffordd Dewi Sant a Rhodfa’r Môr. Ymhlith yr adeiladau cyntaf a godwyd yn y cyfnod datblygu hwn y mae eglwys newydd y plwyf, Eglwys Dewi Sant, ym 1903, a adeiladwyd mewn arddull Othig Fictoraidd gymedrol, a Gwesty Nanhoron Arms, a godwyd ym 1914. Mae nifer o adeiladau cynharaf y cyfnod hwn yn adeiladau deulawr neu ddeulawr ac atig, mewn arddull fila. Mae’r rhan fwyaf o’r tai yn dai sengl neu’n dai pâr, ond tua’r gorllewin gwelir byngalos modern di-nod ac ystâd o dai pâr iwtilitaraidd.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol