English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 2 Cefnwlad Aberdaron


Uwchmynydd


Bodwrdda


Cefndir hanesyddol

Ceir tystiolaeth o weithgaredd cynnar o’r cyfnod Neolithig 300m islaw Mynydd Ystum (PRN 1798) ac o anheddiad yn y mileniwm cyntaf CC yng Nghastell Odo, bryngaer ddeuglawdd fechan, ar gopa Mynydd Ystum (PRN 767). Gwyddys am olion cylchoedd cytiau yn Rhydlios, ac mae nifer o gylchoedd cytiau eraill wedi’u dynodi ar dir ymylol. Mae’r ddwy ardal y tu allan i ffiniau’r ardal gymeriad hon. Nid oes rhai wedi’u cofnodi’n gadarnhaol yn yr ardal gymeriad hon. Mae’n debyg bod system amaethyddol ddwysach dros gyfnod maith wedi dinistrio’r dystiolaeth arwynebol. Gallai olion cnydau a phridd ac arolwg geoffisegol ddarparu mwy o dystiolaeth o’r cyfnodau cynhanesyddol cynnar hyn.

Ceir cofnod o bresenoldeb mynachaidd, yn ystod cyfnod cynnar iawn, ar gerrig coffa arysgrifedig a ganfuwyd yn Anelog. Ar y clogfeini hyn sydd wedi’u treulio gan ddwr gwelir arysgrifiadau, yn Lladin, i goffáu Senacus, offeiriad a gladdwyd gyda thyrfa o’i frodyr (cum multitudinem fratrum) a Veracius, a oedd hefyd yn offeiriad. Mae’r cerrig hyn yn dyddio o ddiwedd y bumed ganrif neu ddechrau’r chweched ganrif OC.

Roedd y rhan fwyaf o’r tiroedd o amgylch Aberdaron, yn y Canol Oesoedd, ond nid y cyfan, yn gysylltiedig ag eglwys glas, led-fynachaidd Aberdaron. Mae’r rhain yn cynnwys pum trefgordd Ganoloesol. Ar bentir Uwchmynydd i’r de-orllewin o Aberdaron roedd Uwch Sely ac i’r gogledd-orllewin roedd Is Sely, gydag afon Saint yn eu gwahanu. Roedd trefgordd Uwch Daron yn ymestyn ar hyd arfordir Bae Aberdaron o Aberdaron ei hun i Lanfaelrhys. Roedd nifer o bentrefannau ar y tiroedd hyn, pob un yn cynnal nifer o denantiaid mân-ddaliadau. Mae enwau llawer ohonynt wedi goroesi, fel daliadau unigol neu, lle rhannwyd tiroedd pentrefan yn ddarnau llai, mae’n bosibl bod dwy neu dair o ffermydd, neu fwy, yn dwyn yr un enw. Enghreifftiau o’r rhain yw Penrhyn Mawr, Penrhyn Bach a Phenrhyn Canol yn Uwch Daron, a Bodermid Isaf a Bodermid Uchaf yn Is Sely.

Is ac Uwch Sely oedd craidd gwreiddiol yr abadaeth, gwaddol tiriog ac eiddo tiriog etifeddadwy claswyr (cymuned fynachaidd) eglwys Aberdaron. Roedd sefydliad y clas yn sicr yn hynafol. Rywbryd yn ddiweddarach, ond cyn 1200, gwaddolwyd tiroedd eraill, ym Mryncroes. Roedd taeogion y claswyr yn dal y tiroedd hyn fel tenantiaid. Yn gynnar iawn yn y 13eg ganrif perswadiwyd y claswyr (yn ôl pob golwg) i ymwrthod â’u habadaeth er mwyn sefydlu cymuned o ganonau Awstinaidd, wedi’u lleoli ar Enlli, a oedd yn rhan o glas Aberdaron yn wreiddiol. Trosglwyddwyd llawer o’r tiroedd hyn wedyn, gan gynnwys gwaddolion ychwanegol yn Nhremorfa (i’r gogledd o Roshirwaun) ac Uwch Daron, i ganonau Enlli, gan adael claswyr Aberdaron yn graidd cyfyngedig yn Is Sely ond â hawliau daliadaeth ffafriol. Roedd yr abaty ar yr ynys yn cynhyrchu pysgod, porfa ar gyfer gwartheg, rhywfaint o dir âr a chwningod a chrwyn cwningod. Fodd bynnag, roedd prif adnoddau’r canonau ar y tir mawr. Roedd ganddynt faenor dair acer ym Mryncroes, gwartheg, defaid a phedair melin, ac roedd y trefgorddau’n cyflenwi yd wedi’i falu, haidd a gwlân. Roedd y gwaith o reoli’r adnoddau hyn wedi’i ganoli mewn eiddo 1km i’r de-orllewin o Aberdaron. Roedd y cwrt a’r siecr hwn (Cwrt a Secar yn ddiweddarach), a elwid yn ‘Gwrt Enlli’, â’i dy, perllannau a gerddi, yn cynnwys dros ddwy acer o dir yn yr 16eg ganrif, ac roedd 157 acer o ddemên gerllaw. Mae Cwrt bellach yn fferm fawr. Yn y 19eg ganrif roedd yn ymestyn dros 215 acer. Daeth Secar yn eiddo ar wahân o chwe acer. Mae’n debygol iawn bod y daliadau modern presennol ar safle canolfan yr abaty ar y tir mawr.

Pan ddiddymwyd y mynachlogydd, chwalwyd yr Abaty a’i diroedd a daeth ei ddaliadau ar y tir mawr, yng nghefnwlad Aberdaron yn eiddo preifat. Ym 1581, rhoddwyd tiroedd yn Is ac Uwch Sely, a arferai fod yn perthyn i fynachlog Enlli, ac a oedd yn cael eu dal drwy renti yd, i Robert Dudley, Iarll Caerlyr.

Yn ogystal â’r eiddo mynachaidd, roedd darn helaeth o dir rhydd yn cael ei ddal yn nhrefgordd Bodrydd. Roedd hefyd yn cynnwys trefgordd gaeth fechan Penarfynydd, yr unig glofan mewn arglwyddiaeth seciwlar a oedd ar ôl yn hanner gorllewinol cwmwd Cymydmaen, ar ôl y Goncwest. Roedd Bodrydd yn drefgordd helaeth o dros 1000 o aceri, yn union i’r dwyrain o Is Sely ac i’r gogledd o diroedd mynachaidd arfordirol Uwch Daron. Mae afon Daron yn rhedeg mewn hafn gul drwy ganol y drefgordd, gan lifo i’r môr yn Aberdaron. Nid oes gan Fodrydd, fodd bynnag, fynediad uniongyrchol i’r arfordir. Er hynny, roedd tair melin yd a dau bandy ar afon Daron ym 1800.

Yn ystod y Canol Oesoedd roedd dwy gangen, neu wely, o’r un teulu breninlinol ym Modrydd, Gwely Rhys ap Seisyll a Gwely Goridir ap Seisyll. Roedd yno hefyd bentrefan yn y drefgordd o’r enw Gafael Trefabaythyan. Roedd y rhydd-ddeiliaid hyn yn dal eu tir heb fawr o rwymedigaethau i’r Tywysog, ar wahân i daliadau wedi eu cymudo ar gyfer cynnal cwn hela dyfrgwn y Tywysog, mynychu’r llys ac, yn achos Gafael Trefabaythyan, roedd yn ofynnol i bob tenant fynd â’i yd i’w falu ym melin y Tywysog yn Neigwl. Roedd gan ddisgynyddion Seisyllt eu melinau eu hunain ac roedd rhyddid iddynt eu defnyddio. Roedd Gwely Rhys yn gallu defnyddio melinau Bodwrdda, Facheys a Melin Newydd. Roedd gan ddisgynyddion Goridir eu melin eu hunain, sef Melin Wyrion Goridir. Ceir cyfeiriad hefyd at felin Bodrydd, sy’n awgrymu bod pum melin yn y drefgordd gyfan ym 1352.

Mae’n bosibl y gallwn daflu ychydig bach mwy o oleuni ar drefniadaeth gymdeithasol y drefgordd, a helpu drwy hynny i ddeall datblygiad diweddarach y dirwedd. Mae’n debyg mai pentrefan yng Ngwely Rhys oedd Bodwrdda. Mae map John Evans o’r 18fed ganrif yn dangos y ty o’r 16eg ganrif a oedd yn dwyn yr enw hwnnw a’r felin gerllaw. Cyfeirir at Bandy Bodwrdda (pandy erbyn hynny) yn Atodlen Degwm 1845. Roedd tiroedd Bodwrdda, erbyn canol y 19eg ganrif, wedi eu rhannu’n ddau ddaliad perchnogol, yn ymestyn dros bron i 600 acer ac mae’n rhaid eu bod, drwy uniad efallai, wedi dod i ddal tua hanner y drefgordd. Mae Bodrydd, sydd bellach yn fferm â’r un enw â’r drefgordd, yn yr hanner arall. Mae Melin Uchaf gerllaw, ar rannau uchaf afon Daron. Mae’n bosibl bod Bodwrdda wedi dod i gynrychioli eiddo tiriog disgynyddion Rhys ap Seisyll, sef Gwely Rhys. Mae’n bosibl bod Bodrydd a’i bentrefannau eraill, er enghraifft Pencaerau, yn cynrychioli tiroedd Gwely Goridir. Cynigir yma fod y defnydd tir a datblygiad y dirwedd yn y ddau wely wedi mynd i ddau gyfeiriad gwahanol. Mae caeau Bodwrdda’n fawr a’r terfynau’n syth, sy’n awgrymu rheolaeth ystâd. Roedd yr eiddo, mewn gwirionedd, yn perthyn i Richard Edwards o Nanhoron yn nechrau’r 19eg ganrif, ac roedd wedi bod yn y teulu er 1749. Roedd ei denant, Hugh Griffiths, yn ffermio’r 465 acer yn y gogledd, a William Griffiths yn ffermio’r gweddill. Mewn gwrthgyferbyniad, roedd gweddill Bodrydd yn wasgaredig, ac maent yn dal i fod felly. Mae’r caeau a’u terfynau’n diroedd caeëdig afreolaidd bychain a throellog. Hyd yn oed o fewn gweddill Bodrydd mae gwahaniaeth amlwg rhwng y tiroedd caeëdig bychain yn y rhan ogleddol a’r caeau mwy agored ym Mhencaerau, yn y de.

Mae dau lwybr pererinion pwysig o’r Canol Oesoedd yn croesi’r ardal gymeriad hon ar y ffordd i Enlli. Mae’r llwybr deheuol yn dilyn arfordir y de o Abererch i Aberdaron. Mae’n ddigon posibl bod y llwybr gogleddol, o Glynnog, yn dilyn ffordd arfordir y gogledd o Langwnnadl i Aberdaron yn hytrach na’r llwybr sythach drwy Roshirwaun, oedd yn croesi’r rhostir. Mae map John Evans o’r 18fed ganrif yn dangos y ddau lwybr yn glir.

Saif eglwys blwyf Maelrhys Sant yng nghornel de-ddwyreiniol yr ardal gymeriad, yn nhrefgordd Uwch Daron. Mae’r eglwys yn tarddu o’r Canol Oesoedd a cheir estyniad diweddarach yn y pen dwyreiniol. Mae’r ffenestri’n fodern. Ym 1841 darparwyd eglwys newydd ar gyfer plwyf Aberdaron ar safle newydd ym Modernabwy, a arferai fod yn un o bentrefannau Is Sely. Mae’r hen reithordy, Plas yr Wylan ym Modernabwy, heb fod ymhell, ac ar un adeg roedd yn gartref i’r ficer a’r bardd, R S Thomas. Mae dau o’r capeli Anghydffurfiol cynharaf ym mhenrhyn Llyn yn yr ardal gymeriad hon, Uwchmynydd a adeiladwyd ym 1770 a Phencaerau a adeiladwyd ym 1768.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Nifer o adeiladau fferm a bythynnod traddodiadol, gan gynnwys enghreifftiau da o fythynnod unllawr a bythynnod croglofft.
• Caeau o faint a phatrymau gwrthgyferbyniol, yn adlewyrchu gwahanol fathau o gysylltiadau deiliadol a rheolaeth amaethyddol.
• Parselu gerddi mewn meysydd agored, a goroesiad terfynau caeau troellog sy’n adlewyrchu bodolaeth flaenorol caeau âr.
• Tystiolaeth ddogfennol ar gyfer y patrwm o waddol mynachaidd yn nhrefgorddau cefnwlad Aberdaron.
• Rhannu trefgorddau a chyfuno’r cydrannau i greu ffermydd unigol.
• Cysylltiad ffyrdd a thraciau cynnar â mannau aros ar lwybr y pererinion i Enlli.
• Mae Bodwrdda’n adeilad arwyddocaol yn yr ardal gymeriad hon.

Mae’r rhanbarth hwn o fryniau sy’n codi a disgyn yn raddol, yn cynnwys cefnwlad Aberdaron, sy’n ymestyn o bentir Mynydd Gwyddel yn y de-orllewin. Mae’n ffinio â Mynydd Mawr a Mynydd Anelog yn Uwchmynydd i’r gorllewin, ac yn ymestyn o draeth llydan Bae Aberdaron ar arfordir y de at dir uwch Penarfynydd a’r Rhiw yn y dwyrain a chyn diroedd caeëdig corsiog Rhoshirwaun tua’r gogledd. Mae’r dirwedd yn glytwaith o gaeau afreolaidd a chrwm yn aml, wedi’u cau gan gloddiau pridd ag eithin a rhedyn ar eu pennau, a ffens weiren mewn llawer o achosion. Torrir drwy’r patrwm hwn gan ffyrdd a thraciau sydd i gyd yn cyfarfod ym mhentref Aberdaron. Prin iawn y mae’r dopograffeg yn cyrraedd 100m uwchlaw’r seilnod ordnans. Yr unig eithriad yw Mynydd Ystum, tirnod llyfngrwn ag amddiffynfa o’r Oes Haearn ar ei ben, sef Castell Odo, sydd 140m uwchlaw’r seilnod ordnans, 2.5km i’r gogledd-ddwyrain o Aberdaron.

Mae llwybrau’r pererinion o Glynnog i Enlli’n bwysig. Mae’r llwybr arfordirol yn mynd heibio capel Anelog, sydd wedi’i ddinistrio erbyn heddiw. Pentrefan yn Is Sely oedd Anelog ac yno y canfuwyd y cerrig coffa o’r chweched ganrif i Senacus a Veracius, yr offeiriaid. Mae Evans hefyd yn cyfeirio at Eglwys Fair, capel islaw Mynydd Mawr, ym mhen draw’r pentir yn edrych draw tuag Enlli, sydd hefyd wedi’i ddinistrio. Mae’n bosibl bod y capel, a oedd yn nwylo canoniaid Enlli yn fan aros ar lwybr y pererinion. Mae Ffynnon Fair, ffynnon sy’n codi o’r graig, ar y clogwyni arfordirol islaw’r capel (trafodir y safle hwn eto yng nghyd-destun ardal gymeriad Mynydd Mawr).

Mae Bodwrdda yn adeilad seciwlar arwyddocaol iawn yng nghefnwlad Aberdaron. Mae bron yn sicr bod y ty yn sefyll yng nghraidd y pentrefan o’r un enw, yn nhrefgordd rydd Bodrydd, fel y nodwyd uchod. Mae’r ty presennol yn cynnwys rhes dwyrain-gorllewin gynharach o ddechrau’r 16eg ganrif, wedi’i hadeiladu â cherrig a’i hymestyn i’r dwyrain yn fuan wedyn. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd dwy asgell fawr wedi’u hadeiladu â brics, yn dod allan o bob pen i’r ty cynharach estynedig i gyflwyno ffasâd mawreddog ar dri llawr. Mae’r ffenestri’n drawiadol ac yn unffurf ar y cyfan, mewn dwy neu dair rhan, yn cael eu gwahanu gan byst cerrig, ac â bwâu gwastad ar eu pennau dan fargodfaen llorweddog. Mae gan yr ystlysbyst, y pyst cerrig a’r bwâu i gyd fowldin ofolo yn arddull diwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg ganrif.

Bu Richard Edwards o Nanhoron hefyd yn dal Penrhyn Mawr, a chyfanswm o 300 acer ar yr arfordir i’r dwyrain o Aberdaron yn ogystal â nifer o leoedd ym Mhencaerau a Bodwyddog. Mae Penrhyn Mawr yn ffermdy talcen blaen sylweddol ac anarferol o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif.

Yng ngogledd-orllewin yr ardal gymeriad, rhwng Rhoshirwaun a’r arfordir, mae Methlan yn ffermdy sylweddol yn arddull dechrau’r 19eg ganrif. Mae wedi gweld llawer o newidiadau. Roedd Methlan, yn y 19eg ganrif, yn ganolbwynt ystâd o dros 500 o aceri. Tua’r de saif Carreg, yn swatio islaw’r brigiad craig amlwg sy’n rhoi i’r ty ei enw. Mae’r ty’n ymddangos fel pe bai’n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif ond yn cuddio nodweddion mewnol o’r 17eg a’r 18fed ganrif. Roedd ystâd Carreg yn ymestyn dros 800 acer yn y 19eg ganrif, a theulu Carreg a gychwynnodd ac a gefnogodd y gwaith atgyweirio yr oedd angen ei wneud er mwyn ailagor Eglwys Hywyn Sant ym 1906.

Y rhain oedd y prif ddeiliaid tir yng nghefnwlad Aberdaron ac mae eu tai’n adlewyrchu arwyddocâd eu hystadau. Mae rhan helaeth o gymeriad yr ardal i’w weld yng ngoroesiad nifer cymharol fawr o adeiladau fferm a bythynnod traddodiadol. Ceir enghreifftiau arbennig o dda o fythynnod unllawr, bythynnod croglofft ac adeiladau fferm traddodiadol sydd mewn rhes ar lethrau dwyreiniol is Mynydd Anelog ger y Gors a Bryn Mawr ac yn Uwchmynydd.

Ar wahân i gaeau mawr â chloddiau pridd unionsyth sydd, ar y cyfan, yn gynnyrch gwelliannau dechrau’r 19eg ganrif, mae gan y rhan fwyaf o’r tiroedd caeëdig sydd yn yr ardal gymeriad hon derfynau sy’n adlewyrchu siâp a llinellau terfyn deiliadol cyfnodau cynharach. Roedd rhan helaeth o’r dirwedd hon yn cael ei hamaethu fel tir âr yn ystod y Canol Oesoedd. Roedd meysydd agored y rhandiroedd âr yn droellog o reidrwydd er mwyn i’r ych oedd yn tynnu’r aradr gael lle i droi. Rhannwyd yr aceri hir yn erddi gwasgaredig yn ôl cyfran y tenantiaid yn y gymuned. Fodd bynnag, wrth barselu gerddi yn y broses o rannu system hyn o ddefnyddio tir i ffurfio tenantiaethau unigolion cadwyd siâp caeau cynharach mewn llawer o achosion. Gwelir enghreifftiau eithriadol ar bentir Uwchmynydd. Gant a hanner o flynyddoedd yn ôl roedd modd gwahaniaethu rhwng gerddi agored o fewn cloddiau caeëdig a oedd yn nwylo nifer o denantiaid, er enghraifft, yn Solfach ger Mynydd Bychestyn. Yn fwy cyffredinol, mae crymedd terfynau’r caeau, ni waeth faint o raniadau sydd wedi’u gwneud, yn dangos bod y terfynau hyn dros gaeau âr cynharach a bod rhan helaeth o’r ardal gymeriad hon yn cael ei haredig yn y gorffennol.

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol