English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 19 Pwllheli, Deneio a Phenmaen


Pwllheli


Deneio a Phwllheli


West End, Pwllheli


Canol y Dref, Pwllheli

Cefndir hanesyddol

Prin yw’r dystiolaeth o weithgaredd yn yr ardal gymeriad hon yn ystod y cyfnod cynhanesyddol. Darganfuwyd sidell ac arf carreg (PRN 2212, 2213) ger Carreg yr Imbill. Cofnodwyd pedwar orthostat eithriadol o fawr, mewn clawdd cae ger Pont Pensarn. Awgrymwyd bod y cerrig hyn ar un adeg yn rhan o feddrod siambr Neolithig, sydd wedi ei dymchwel erbyn heddiw (PRN 438).

Roedd Pwllheli’n dref lewyrchus yn ystod y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Roedd yn faerdref frenhinol dan Dywysogion Gwynedd. Trefgordd sydd yn nwylo’r Tywysog yw maerdref ac roedd wedi ei threfnu yn debyg i ‘faenor’. Dyma lle’r oedd canolbwynt tiroedd demên y Tywysog yng nghwmwd Afloegion. Byddai yno neuadd frenhinol ac adeiladau eraill a oedd yn briodol i’r swyddogion brenhinol a oedd yn goruchwylio’r gwaith o reoli a chasglu trethi eiddo’r Tywysog yn y cwmwd hwnnw. Byddai yno weithwyr ystâd, tenantiaid caeth clwm, y byddai ganddynt eu llain fechan eu hunain o dir ac a fyddai hefyd yn gweithio am nifer penodol o ddiwrnodiau yn gwneud gwaith amaethyddol ar ddemên yr Arglwydd. Oherwydd natur gaeth daliadaeth yr ystâd roedd tuedd o bosibl i fythynnod tenantiaid caeth y tir cyfrif fod wedi eu clystyru mewn pentrefan. Byddai’r canlyniad yn edrych yn debyg iawn i bentref.

Rywbryd cyn y goncwest ym 1283, rhoddwyd statws bwrdeistref i Bwllheli. Yn y cofnodion cynharaf sydd ar gael gwelwn 20 bwrdeisiwr yn y dref.

Saif trefgordd fechan Penmaen i’r gorllewin o Bwllheli, mewn tro yn afon Rhyd-hir. Roedd y drefgordd hon hefyd yn cael ei dal drwy ddaliadaeth ystâd tir cyfrif a byddai’r tenantiaid yno’n cyflawni’r dyletswyddau yr oedd yn ofynnol i denantiaid caeth Pwllheli eu cyflawni. Drigain mlynedd yn ddiweddarach, o ganlyniad i’r Pla Du, roedd Penmaen yn wag a’r tir heb ei drin gan nad oedd yno denantiaid. Ar ddiwedd y 13eg ganrif, fodd bynnag, cynhaliwyd asesiad o drethi neu gymorthdaliadau ym Mhwllheli a Phenmaen, ac mae’n rhoi syniad da o allu cynhyrchiol Pwllheli yn y cyfnod hwnnw. Cymuned fechan iawn oedd Penmaen, a dim ond tri thenant oedd ag unrhyw gyfoeth symudol yno. Roedd gan un o’r tenantiaid, fodd bynnag, sef Teg’ ap Philip, 8 buwch a 4 dafad, o gymharu â’r ddau denant arall a oedd â 3 buwch rhyngddynt.

Ym Mhwllheli, rhoddwyd cyfrif am 21 o drethdalwyr. Roedd gan y tenantiaid hyn gyda’i gilydd 78 buwch, 24 ceffyl, 44 dafad ac 11 anifail gwedd. Gallai’r tenantiaid gynhyrchu 46 crynnog o flawd a grawn y flwyddyn.

Roedd gan 9 o’r 21 tenant rwydi pysgota (cyfanswm o 26 rhwyd) ac roedd gan ddau o’r tenantiaid gychod. Un gydran o rent tir ym Mhwllheli oedd gwerth ariannol mwys o benwaig. Rhaid oedd talu symiau o arian hefyd i gynnal neuadd a thai’r Tywysog. Yn ychwanegol at hyn, roedd yn ofynnol i’r tenantiaid falu eu hyd ym melin yr arglwydd yn Neneio, yn union i’r gogledd o graidd Pwllheli ac ar y tir uwch y tu ôl i’r dref.

Rhoddwyd bwrdeistref Pwllheli i Edmund Dynieton fel ffi fferm ym 1317. Ym 1349, rhoddwyd Pwllheli i Nigel Loryng, ynghyd â Nefyn, a £50 oedd ei gwerth. Chwe blynedd yn ddiweddarach rhyddfreiniwyd Pwllheli yn fwrdeistref rydd.

Roedd cnewyllyn y fwrdeistref Ganoloesol ar ochr ogleddol y pwll llanw, lle mae’r basn neu’r harbwr mewnol heddiw, a lle mae rhai o’r adeiladau cynharaf ym Mhwllheli wedi goroesi; ar hyd Strand Street (parhad o’r Stryd Fawr erbyn heddiw), Stryd Kingshead a Stryd Penlan. Byddai’r tenementau wedi ymestyn i’r draethlin, a oedd yn ymestyn cyn cau’r tir a chodi’r arglawdd o ardal bresennol capel Penmount, ar dro tuag at y gylchfan ger y Maes.

Yn y ‘Pwll’ ei hun roedd eangderau mawr o dywod, a banciau tywod helaeth yn cau amdanynt ar eu hochr orllewinol a’u hochr ddwyreiniol. Mae tair afon yn uno ym Mhenmaen, sef afon Dwyryd, afon Penrhos ac afon Rhyd-hir. Mae afon Erch o’r dwyrain wedi ymuno ag afon Rhyd-hir ychydig i’r de o’r Fwrdeistref. (Gweler map Lewis Morris, dyddiedig 1748, sy’n rhoi syniad da o dopograffeg gynharach yr ardal hon.)

Yn ystod gwrthryfel Glyndwr disgrifiwyd Pwllheli fel ‘destroyed and laid waste’ (Jones Pierce, 1972, 156). Roedd hyn yn ergyd i Bwllheli, ac ni chafodd ei chefn ati ar ôl hynny tan ddiwedd y 15fed ganrif.

Roedd y tiroedd bwrdais yn agos at y môr, ac roedd arc o godiad tir yn cau amdanynt tua’r gogledd. Uwchben hyn roedd elfennau gweddilliol o’r tir maenorol, gyda’r canolbwynt, yn ôl awgrym yr Athro Jones Pierce, yn lleoliad Henllys, 350m i’r gogledd-ddwyrain o eglwys Deneio. Roedd yr eglwys yn hynafol ond ychydig a wyddom am ei chronoleg a’i manylion. Roedd yr eglwys tua 14m o hyd ar aliniad gorllewin-dwyrain, ac yn 6m o led. Roedd capel ystlysol ar yr ochr ogleddol yn y pen dwyreiniol. Adeiladwyd eglwys newydd, eglwys Sant Pedr, i’r gogledd o’r Stryd Fawr ym 1834 a dymchwelwyd yr hen eglwys yn Neneio ym 1859. Codwyd eglwys arall yn lle eglwys y 19eg ganrif ar yr un safle ger y Stryd Fawr ym 1887.

Tua 1550 rhoddwyd prydles tref Pwllheli i David Lloyd ap Thomas. Rhoddwyd Penmaen i John Wynne ap Hugh o Fodfel. Yn ystod yr 16eg ganrif daeth yn haws i foneddigion lleol gael tiroedd y Goron a chyn diroedd mynachaidd ar brydles. Roedd rhydd-ddeiliaid, o’r 15fed ganrif ymlaen, yn ymwneud â’r farchnad eiddo, yn uno parseli o dir ac yn creu ystadau cyfnerthedig, ac yn trawsnewid y dirwedd yr un pryd.

Un siop oedd ym Mhwllheli ym 1580 (Jones Pierce, 1972, 180). Genhedlaeth yn ddiweddarach roedd pump. Pan ymwelodd Pennant â Phwllheli yn y 1770au disgrifiodd y dref fel ‘the best town in this county’ a ‘the magazine of goods which supplies all this tract’. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach cyfeiriodd Hyde Hall at y grawn oedd yn cael ei allforio. Dim ond ers 25 mlynedd yr oedd grawn wedi dechrau cael ei ystyried yn nwydd i’w allforio. Cyfeiriodd hefyd at welliannau arwyddocaol mewn amaethyddiaeth yn yr ardal. Roedd prisiau’r farchnad yn rhesymol, nid yn unig o ran yd, ond hefyd o ran moch, gwartheg a cheffylau, ieir ac wyau. Cynhelid nifer o ffeiriau ym Mhwllheli yn nechrau’r 19eg ganrif. Ffair mis Awst oedd yr un fwyaf; nid oedd yn anarferol gweld tri chant o wartheg (Hyde Hall, 281).

Roedd adeiladu llongau yn grefft a diwydiant pwysig. Adeiladwyd dros 400 o longau ym Mhwllheli yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Mae map Wood o Bwllheli ym 1834 yn dangos iardiau adeiladu llongau ar ochr ogleddol y basn rhwng Penlan a Strand Street.

Ym 1808 pasiwyd Deddf Seneddol ar gyfer cau tua 3000 o aceri yn Neneio a’r plwyfi cyfagos. Gweithredwyd y Ddeddf ym 1816. Roedd y gwaith yn cynnwys draenio tir ar y draethlin ym Mhenrhos, Talcymerau ac Abererch a chodi dau arglawdd o bobtu’r basn.

Drwy’r 19eg ganrif fwy neu lai ymestynnodd y rhan fwyaf o’r gwaith datblygu ym Mhwllheli tua’r dwyrain ar lan ogleddol afon Erch ac i’r gogledd a’r gorllewin o amgylch eglwys Sant Pedr. Ar yr ochr orllewinol, yr unig adeiladau a oedd ar ochr ddeheuol y ffordd i Benrhos oedd y Wyrcws a rhes o dai teras. Nododd Hyde Hall, ym 1810, fod 104 o dai newydd wedi cael eu hadeiladu yn y deng mlynedd diwethaf, ond tai wedi eu hailadeiladu ar safleoedd a oedd yn bodoli’n barod oedd llawer ohonynt.

Ym 1869 daeth y rheilffordd i Bwllheli. Cafodd y digwyddiad hwn effaith fawr ar y gymuned. Cyfrannodd tuag at dranc masnachu ar y môr a theithiau i borthladdoedd fel Lerpwl, ac yn fuan iawn daeth i chwarae rhan allweddol drwy gludo pobl a ddeuai ar eu gwyliau i’r penrhyn. Ym 1909 ymestynnwyd y rheilffordd tua’r gorllewin i leoliad presennol yr orsaf, a rhaid oedd adennill y rhimyn o dir ar ochr ogleddol y basn. Roedd dwy reilffordd i Bwllheli, y Cambrian Coast Express drwy Fachynlleth, Amwythig a gorsaf Paddington yn Llundain a’r llall drwy Afon Wen i Gaernarfon a Crewe.

Ym 1890 dechreuodd Solomon Andrews, entrepreneur o Gaerdydd, ddatblygu cyrchfan wyliau ar far tywod Morfa Garreg, rhwng Talcymerau Isaf a’r Cob (yr arglawdd). Dywedir ei fod yn cario’r cerrig o chwareli Llanbedrog ar y dramffordd a gynlluniwyd gan ei gwmni (roedd ganddo gwmni cynhyrchu coetsys) ac yn cludo teithwyr i oriel Plas Glyn y Weddw, a brynwyd gan Solomon Andrews fel canolfan ar gyfer y celfyddydau, diwylliant ac adloniant. Roedd y datblygiadau yn ardal West End, Pwllheli yn cynnwys tai, cwrs golff a Gwesty’r West End. Mae llawer mwy o fewnlenwi wedi digwydd yn ystod yr ugeinfed ganrif: ystadau tai i’r dwyrain o’r tafod tywod ym Morfa Garreg ac i’r gorllewin, ar ffordd Talcymerau ac, i’r gogledd o afon Rhyd-hir, ar hyd y ffordd i Lanbedrog.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Trawsnewidiwyd tirwedd yn cynnwys cymerau tair afon, afon Rhyd-hir, afon Penrhos ac afon Erch, a’u corsydd arfordirol a morydol a bariau tywod, drwy Amgaead Seneddol a gwaith draenio i greu’r harbwr presennol ym Mhwllheli.
• Mae elfennau o ganolfan faenorol y Tywysogion Cymreig yn y 13eg ganrif wedi eu cadw mewn enwau lleoedd sy’n ymwneud â’r lleoliad, yn agos at eglwys Deneio ar y gefnen uwchben y draethlin.
• Mae’r dirwedd drefol ym Mhwllheli wedi datblygu o fwrdeistref yn y 13eg ganrif ar yr un safle, a gellir gweld tystiolaeth o gyfosodiad y fwrdeistref o hyd yng nghynllun presennol y strydoedd.
• Sbardunwyd gwaith ehangu a datblygu ym Mhwllheli yn niwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif yn ardal y West End gan ffyniant newydd twristiaeth.

Diffinnir terfyn gorllewinol yr ardal gymeriad hon gan rannau isaf afon Penrhos o Dowyn i gymer yr afon yn Rhyd-hir wrth iddi lifo i harbwr Pwllheli a’r môr. Mae’r terfyn yn dilyn llinell yr afon gan ddechrau ychydig i’r de-orllewin o Yoke House, troi tua’r de-ddwyrain ac i’r de eto i’r fan lle mae afon Erch yn ymuno â dwr yr harbwr. Terfyn mwyaf dwyreiniol yr ardal hon yw’r tafod o dywod sy’n ymestyn tua’r dwyrain o Garreg yr Imbill.

Mae nifer o afonydd, Penrhos, Dwyryd a Rhyd-hir yn y gorllewin ac Erch yn y dwyrain, yn uno yn y Pwll ym Mhwllheli (pwll halen y môr). Ceir bar tywod hir i’r de o afon Rhyd-hir a thafod byrrach, ond sylweddol er hynny, yn ymestyn i’r de o gymer afon Erch. Ar lanw isel byddai traethau helaeth yn y Pwll ac ar hyd glannau’r afonydd. Yr enw a roddir ar gydlifiad ac aber yr afonydd hyn yw Talcymerau (= pen y cymerau) a Sarnau (= rhydau), sy’n disgrifio’r ffordd y llwyddid i deithio yn yr ardal arfordirol hon. Canlyniad Deddf Amgaead dechrau’r 19eg ganrif yw tirwedd bresennol basn neu harbwr Pwllheli a’r morlin i’r dwyrain a’r gorllewin. Codwyd argloddiau o amgylch y basn a draeniwyd y lleiniau arfordirol.

Pwllheli oedd maerdref Ganoloesol cwmwd Afloegion yn y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Cyn y goncwest ym 1283 rhoddwyd statws bwrdeistref i ran o’r drefgordd ac, yng nghanol yr 16eg ganrif, cafodd ei rhyddfreinio a daeth yn fwrdeistref rydd. Roedd tiroedd y fwrdeistref wedi eu grwpio yn agos at ei gilydd rhwng y Pwll a’r sgarp islaw’r Garn. Yn uwch i fyny, mae’n debyg, roedd cydrannau gweddilliol yr elfennau maenorol, sy’n cynnwys eglwys Deneio, sydd wedi ei dymchwel erbyn heddiw. Mae mapiau cynnar ac adeiladau sydd wedi goroesi’n caniatáu i ni nodi craidd y dref yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, sydd bron yn ddi-os ar safle’r fwrdeistref Ganoloesol. Credai’r Parch. Bingley, ym 1814, fod Pwllheli yn dref annymunol iawn gan fod y tai a’r strydoedd mor afreolaidd. Mae’r nodweddion hyn, fodd bynnag, yn gliwiau i ddarganfod ei gwreiddiau.

Mae’n rhesymol tybio bod y triongl a ffurfir gan ran ddwyreiniol y Stryd Fawr, Stryd Whitehall (Gaol Street yn ddiweddarach, a Stryd Moch erbyn heddiw, yn agos at safle’r farchnad foch), Stryd Penlan a New Street (Lôn Dywod erbyn heddiw), yn cyfateb, fwy neu lai, i’r draethlin hynafol a heb gael ei ddatblygu, ac eithrio er mwyn cael mynediad i’r basn a’r gwaith adeiladu llongau, tan y 19eg ganrif. Mae’r adeiladau sy’n rhoi cymeriad a dyfnder hanesyddol i’r rhan hon o’r dref yn cynnwys: grwp o fythynnod deulawr, un ffenestr, wedi eu hadeiladu â rwbel ar Strand Street yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif; ty Sioraidd tri llawr gyferbyn â neuadd y dref ar Stryd Penlan a thy tri llawr arall yn dyddio o tua 1800, tua hanner ffordd i lawr Stryd Penlan ar yr ochr ddeheuol. Mae tri adeilad ar ochr ogleddol Penlan a adwaenid unwaith fel yr Eagles Hotel, yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif neu ddechrau’r 18fed ganrif, â chyrn simnai cerrig tal. Mae Penlan Fawr yn dy tafarn o ddechrau’r 17eg ganrif â chyrn simnai talcen ac ysgubor yn y cefn yn dyddio o’r 17eg ganrif neu’r 18fed ganrif. Codwyd waliau’r dafarn yn y 19eg ganrif.

Ym mhen gogledd-ddwyreiniol y Stryd Fawr, ar gornel yr hen Strand Street mae tri adeilad, yn weddol agos at ei gilydd. Ar yr hen Strand Street saif rhan o Madryn House, ty o ddiwedd y 18fed ganrif a ddaeth yn westy ac yna’n fanc. Yn y 1890au newidiwyd tu blaen yr adeilad i gael ffasâd clasurol. Ar y gornel, mae adeilad arall o ddiwedd y 18fed ganrif – adeilad tri llawr, â chorn o frics coch. Gerllaw saif cyn blasty trefol teulu Madryn. Yn ddiweddarach daeth yn dy tafarn, y Madryn Arms, ac yna’n Swyddfa Bost yn y 1890au. Mae King’s Head Street yn estyniad o Strand Street, ac yn arwain i’r gogledd tuag at y sgarp. Mae grwp o bum bwthyn un llawr ac atig, wedi eu hadeiladu o rwbel â chyrn rwbel tal, mewn rhes, ar ochr dde-orllewinol y stryd, 50m o’r gornel â’r Stryd Fawr.

Mae’r dystiolaeth orau er mwyn adnabod a nodi lleoliad lleiniau tiroedd bwrdais i’w gweld ar gynllun John Wood yn 1834. Gwelir y rhain ar ochr ogleddol a deheuol y Stryd Fawr ar y gyffordd â Gaol Street, ac ar ochr ogleddol Penlan yn y pen de-orllewinol. Mae’r dimensiynau’n cyfateb yn weddol agos i rai Biwmares, sef tua 80tr (24m) o hyd a 40tr (12m) o led, ond rhaid cofio y byddai llawer o newidiadau ac addasiadau wedi eu gwneud i’r ffiniau hyn rhwng y 13eg ganrif a’r 19eg ganrif. Mae’n bosibl bod John Wood wedi gorsythu’r lleiniau cefn yn y pen dwyreiniol o gymharu â dehongliad mwy troellog a ddarperir gan fap Arolwg Ordnans 1:2500 y 1890au. Mae’n debyg, fodd bynnag, na ellir gwadu bod y fwrdeistref Ganoloesol, a thref ddiweddarach Pwllheli, wedi eu sefydlu ar y gerddi âr troellog a oedd yn rhan o drefniant amaethu maes agored. Mae llawer o’r dystiolaeth yn y dirwedd ar gyfer y trawsnewidiad hwn wedi ei cholli o ganlyniad i ddatblygiadau yn niwedd y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Mae enghraifft arall o osod bwrdeistref ar leoliad caeau âr a oedd yn bodoli cyn hynny a defnyddio eu ffiniau i’w gweld yn Rhosyr, yn Niwbwrch, ym Môn.

Mae agweddau eraill ar y dirwedd hanesyddol yn yr ardal hon yn ymwneud â:

• Pwllheli’n dod i’r amlwg fel ‘the best town in this county’ a ‘the magazine of goods which supplies all this tract’, gan ei galluogi i ehangu yn ystod y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.
• Y cysylltiad morwrol, i’w weld yn hanesyddol yn y diwydiant adeiladu llongau a barhaodd hyd ddiwedd y 19eg ganrif ac a olynwyd gan gychod pleser.
• Tystiolaeth Amgaead Seneddol a arweiniodd at ddraenio tiroedd gwlyb Penrhos ac Abererch a chodi argloddiau o amgylch yr harbwr.
• Datblygiad diwydiant ymwelwyr a darparu cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr o’r 1890au ymlaen, yn fwyaf arbennig drwy ddatblygiadau Solomon Andrews yn ardal y West End.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol