English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 18 Llanengan ac Abersoch


Abersoch


Eglwys Sant Engan


Llanengan: Bryngaer a hen waith plwm


Abersoch, Penmaen Bennar

Cefndir hanesyddol

Darganfuwyd fflintiau yn Abersoch (PRN 5074) a bwyell garreg, i’r gogledd o Sarn Bach yng ngwaith plwm Deugoch (PRN 4004). Mae dwy fryngaer o’r Oes Haearn yn edrych dros wastadedd Neigwl o’r tir uwch uwchben troad afon Soch, y naill ger Llangian a’r llall ar esgair 60m uwchlaw’r seilnod ordnans i’r de o Lanengan. Mae’r ardal yng nghyffiniau’r ddwy fryngaer wedi dioddef o ganlyniad i gloddio’r graig gyfagos. Haearn oedd y mwyn ym Mhen y Gaer (Creigir Uchaf) ac ychydig o waith a wnaethpwyd yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif. Yn Castell, ger Llanengan, plwm oedd y mwyn, ac roedd yn cael ei gloddio ym mwynglawdd Port Nigel (Porth Neigwl) yn niwedd y 19eg ganrif.

Yn ystod y Canol Oesoedd, roedd Llanengan yn drefgordd rydd yn cael ei hanheddu gan ddau wely, sef gwely Madog ap Sawyll’ a gwely Wyrion Utot. Roedd Llanengan hefyd yn cynnwys pentrefan ym Mhenygogo (neu Penygogof = pen yr ogof) a oedd yn cael ei anheddu gan wely arall, a oedd yn dal y tir drwy ddaliadaeth gaeth. Roedd y rhyddfreinwyr a’r taeogion i gyd yn gorfod malu eu hyd ym melin yr arglwydd yn Nhowyn, ar afon Soch, ym mhen dwyreiniol llwyfandir Neigwl. Roedd pentrefan Penygogo 1km i’r de o Eglwys Llanengan ac yn rhannol ar wastadedd Neigwl.

Mae gwaith maen cynnar wedi goroesi yn eglwys Engan Sant ond mae’r eglwys yn dyddio’n bennaf o’r 16eg ganrif, o ran ymddangosiad ac adeiladwaith. Mae ffynnon sanctaidd o’r enw Ffynnon Engan wedi ei lleoli 100m i’r gogledd-orllewin o’r eglwys.

Y prif alwedigaethau o hyd yn yr ardal hon, rhwng trwyn Cilan ac afon Soch yn Abersoch, tan ganol y 19eg ganrif oedd galwedigaethau a oedd yn gysylltiedig â ffermio. Roedd rhywfaint o gloddio i chwilio am fwynau o amgylch Pen y Dinas yn y 1830au ond ni fu llawer o gynnydd yno. Roedd ffermwyr, llafurwyr amaethyddol, masnachwyr anifeiliaid, certmyn, gweision a morynion domestig a rhai gofaint, seiri a chrefftwyr eraill yn byw yn yr ardal hon a oedd yn ardal wledig gan mwyaf. Yn ystod rhan olaf y ganrif ail-agorodd gweithfeydd plwm Penrhyn Du ym Marchros a sefydlwyd gweithfeydd newydd; rhai’n fawr a rhai’n fach iawn. Agorwyd gwaith Port Nigel (Porth Neigwl) yn Llanengan, ar y bryn lle safai’r hen gaer o’r Oes Haearn, yn Castell. Mae adfeilion rhai o adeiladau’r gweithfeydd plwm i’w gweld o hyd yn Nhan yr Allt. Adeiladwyd pwerdy a gosodwyd simnai uchel a thrawiadol ar ben y bryn ac i lawr i ganol y bryn. Mae’r simnai, a adnewyddwyd yn y 1990au, yn dirnod lleol. Crëwyd llawer iawn o swyddi.

Symudodd llawer o weithwyr i’r ardal, llawer ohonynt o ardaloedd a oedd eisoes yn ardaloedd mwyngloddio, yn enwedig Cernyw. Daeth gwragedd a phlant gyda’u gwyr. Roedd yn anorfod y byddai angen gwasanaethau newydd a thai newydd. Adeiladwyd rhesi o fythynnod gweithwyr. Yn Bay View Terrace, ar ochr ogleddol afon Soch, roedd naw o’r deg ty’n cael eu dal gan fwyngloddwyr. O’r holl deuluoedd mwyngloddio a oedd yn byw yn Bay View Terrace, dim ond un mwyngloddiwr oedd wedi cael ei eni’n lleol. Roedd y gweddill yn dod o Gernyw, Dinas Mawddwy, Minera, Dolgellau a Swydd Amwythig.

Roedd Llanengan, pentref bach ym 1800, yn dechrau tyfu. Cofnododd Hyde Hall naw ty newydd yn Llanengan rhwng 1800 a 1810, ond mae’n debyg bod nifer o’r rhain yn cael eu hadeiladu ar drwyn Bennar, gan fod Abersoch yn dechrau ehangu hefyd. Erbyn 1860 roedd pymtheg teulu yng nghraidd pentref Llanengan. Ugain mlynedd yn ddiweddarach roedd 29 teulu yn byw yn y pentref, ac ynghyd â’r lletywyr, roedd y pentref yn cynnal 133 o unigolion. Roedd pedwar ar hugain o’r rhain wedi dod i Lanengan i weithio yn y mwyngloddiau, gan ddod â’u teuluoedd gyda hwy.


I’r gogledd o Lanengan, yn nhroad afon Soch, roedd chwe ffermwr a 18 o feibion fferm neu weithwyr amaethyddol yn cael eu cyflogi. Roedd un ar ddeg o fwyngloddwyr plwm a thri saer maen yn byw neu’n lletya yn yr un ardal. I’r dwyrain o Lanengan roedd tair fferm yn amaethu 267 o aceri gydag un brawd i ffermwr a 12 o weithwyr amaethyddol cyflogedig. Yn yr un ardal honno roedd 15 o fwyngloddwyr plwm. Yng Nghors Lleferin roedd yr unig dai oedd â phobl yn byw ynddynt yn cael eu dal gan fwyngloddwyr plwm.

Caeodd y mwyngloddiau ar ddiwedd y ganrif ac ychydig iawn o ddatblygiadau go iawn sydd wedi digwydd ers hynny. Cafodd y datblygiadau hyn yn Llanengan ac Abersoch effaith ar y dirwedd ehangach.

Abersoch
Nid oedd llawer o ddatblygiadau wedi digwydd ar drwyn Bennar (Penbennar erbyn heddiw) cyn dechrau’r 19eg ganrif. Mae’n codi uwchben aber afon Soch. Mae’r enw’n hen iawn, ac mae’n golygu pentir â llethrau serth. Yn y 1770au dim ond dau eiddo oedd ar y trwyn, y ty a adwaenir heddiw fel Bryn Tirion, 400m i’r de o’r afon, a thy arall yn agos at y swyddfa bost bresennol, ym mhen gogleddol y pentir. Ar draws yr afon safai Melin Soch, adeiladau’r felin a thy’r melinydd a thri bwthyn a gerddi.

Roedd caeau wedi eu cynllunio o Fryn Tirion i’r aber, ond roedd ardal helaeth o dwyni a thywod ar hyd y morlin. Roedd cyfrifiad 1861 yn nodi 25 o deuluoedd. Genhedlaeth yn ddiweddarach nid oedd llawer yno ar wahân i gaeau a thwyni. Roedd y caeau, fodd bynnag, wedi eu rhannu’n lleiniau llai, a gwelwyd datblygiadau o amgylch yr aber ar y ddwy ochr i’r afon erbyn 1890. Safai rhes o fythynnod a gerddi yn agos at yr aber, islaw’r felin yn Bay View Terrace. Roedd ysgol wedi ei hadeiladu, ychydig i’r dwyrain, ar ochr ogleddol yr afon. Roedd cwt y bad achub ger y traeth islaw Bennar a safai gwesty (St. Tudwal’s), capel Anghydffurfwyr a chlwstwr bach o dai ar ochr ddeheuol yr afon ger y bont. Daeth y pentref bach i gael ei adwaen fel Abersoch.

Erbyn y 1920au roedd nifer y tai a’r adeiladau eraill wedi dyblu. Roedd Bryn Hyfryd a St. Tudwal’s Terrace wedi eu hadeiladu yn niwedd y 19eg ganrif, ger Bryn Tirion. Roedd tai yn cael eu hadeiladu yn awr ar y tir a arferai fod yn gaeau ar y pentir. Pentref bach oedd Abersoch o hyd â dim ond tua 50 o dai ac adeiladau ar ochr ddeheuol yr afon. Yn ystod yr ugeinfed ganrif, fodd bynnag, mae Abersoch wedi ehangu y tu hwnt i bob rheswm oherwydd y traeth braf a’r dyfroedd hwylio da i fod yn gymuned o tua 500 o dai ar ochr ddeheuol yr afon a 100 arall i’r gogledd ohoni.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Mae craidd pentref Llanengan wedi cadw cymeriad y 19eg ganrif, a rhoddir lle amlwg i’r eglwys sy’n dyddio o’r 16eg ganrif.
• Mae trwyn Bennar ac aber afon Soch yn dirwedd arfordirol sydd wedi ei thrawsnewid o gymuned fechan yn troi o amgylch y felin ac un neu ddau o dai yn niwedd y 18fed ganrif i gyrchfan brysur i ymwelwyr â 600 o dai yn yr 20fed ganrif.
• Trawsnewidiwyd tirwedd leol Llanengan, a oedd yn wledig gan mwyaf, gan weithfeydd plwm yn niwedd y 19eg ganrif, ac mae tystiolaeth o weithgaredd diwydiannol i’w gweld o hyd.

Mae afon Soch yn llifo i’r môr ar ochr ogleddol pentir amlwg Penbennar. Mae’r ardal gymeriad hon yn cynnwys glannau rhan isaf afon Soch, gan ddilyn afon Soch i’r gorllewin cyn belled â Llanengan, yna ar hyd y sgarp yn yr Allt, i’r de-de-orllewin i Benygogo a fferm y Nant. Mae’r terfyn deheuol yr un fath â therfyn gogleddol ardal gymeriad Cilan a’r terfyn dwyreiniol yw’r môr. O ran topograffeg, mae’r dirwedd yn donnog, yn cael ei thorri o’r gorllewin i’r dwyrain gan ddyffrynnoedd llydan bas tua 20-30m uwchlaw’r seilnod ordnans i’r de o Langian ac i’r de a’r dwyrain o Lanengan. Mae llethrau serth yn amlwg ar yr ochr orllewinol ar hyd sgarp gogledd-de, sy’n cael ei ddilyn yn ei waelod gan afon Soch. Tua’r dwyrain, mae’r tir yn gostwng i’r môr rhwng 10m a lefel y môr yng Nghors Lleferin.

Saif eglwys Llanengan yng nghanol y pentref, o dan y gefnen sydd ar ochr ddwyreiniol afon Soch. Pentref bychan ydyw, ond mae’n cynnwys nifer o adeiladau â chymeriad cyfnod, gan gynnwys yr ysgol o’r 19eg ganrif, yn agos at yr eglwys, a thai o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif ar ochr dde-ddwyreiniol yr eglwys.

Mae’r eglwys yn eithriadol. Mae gwaith maen cynnar wedi goroesi ym mhen gorllewinol y wal ogleddol. Fel arall, mae’r rhan fwyaf o’r eglwys yn dyddio o ddechrau’r 16eg ganrif. Ehangwyd yr eglwys hyn drwy ymestyn ei hyd tua’r dwyrain a thrwy ychwanegu ail eil tua’r de, gan hwyluso cysylltiad rhwng y ddwy drwy chwe bwa pedwar canolbwynt. Roedd pedwar o’r bwâu hyn yn caniatáu mynediad rhwng canol yr eglwys; mae’r bwâu dwyreiniol yn y ddwy gangell. Mae sgriniau pren addurnedig iawn yn dangos y rhaniadau rhwng canol yr eglwys a’r gangell. Mae deuddeg o gyplau to yn yr eil ogleddol ac un ar ddeg o gyplau yn yr eil ddeheuol. Maent i gyd yn gyplau trawstiau croes â chleddau bwaog ond mae amrywiadau rhwng yr eiliau gogleddol a deheuol ac ar hyd pob un. Mae’r twr gorllewinol hefyd yn dyddio o hanner cyntaf yr 16eg ganrif, ynghyd â’r cyntedd ar yr ochr ddeheuol, y credir iddo gael ei adeiladu tua 1534. Mae arddull sythlin y ffenestr ddwyreiniol fawr yn y gangell ogleddol yn dangos bod y rhan fwyaf o’r eglwys yn dyddio o ddechrau’r 16eg ganrif.

Mae’r dystiolaeth o fwyngloddio yn niwedd y 19eg ganrif sydd wedi goroesi i’w gweld o hyd, yn enwedig ar ochr ddeheuol pentref Llanengan.

Ar drwyn Bennar yn Abersoch gallwn gofnodi datblygiad y dirwedd hon o denement amaethyddol a melin yn eiddo i ystâd y Faenol yn y 18fed ganrif, i bentref bychan, a oedd yn gartref i longwyr a phobl a oedd yn ymwneud â’r môr gan mwyaf, ac yna’n bentref yn y 1860au i’r tenantiaid a’r lletywyr a oedd yn gweithio yn y gweithfeydd plwm. Erbyn troad y ganrif dechreuodd Abersoch weld ymwelwyr, ond yn ail hanner yr ugeinfed ganrif y datblygodd y pentref i fod gyrchfan hynod boblogaidd ar gyfer ymwelwyr.

Ychydig o adeiladau traddodiadol sydd wedi goroesi o ddechrau’r 19eg ganrif. Er hynny, mae tai arwyddocaol o ddechrau’r ugeinfed ganrif ar y pentir. Mae’r rhain yn cynnwys ty neo-Sioraidd y Garth, a thy helaeth Haulfryn â’i gabanau, ei deras a’i gwrt tenis rhanedig. Mae yno hefyd nodweddion diddorol megis y bythynnod modern niferus hynny sy’n clwydo ar lwyfannau, wedi eu cerfio o graig y pentir a’r morlin gyferbyn.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol