English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 17 Llangian a Chastellmarch


Llangian



Llangian


Pentref Llangian


Pentref Llangian

Cefndir hanesyddol

Nid oes llawer o dystiolaeth o weithgaredd cynhanesyddol yng nghyffiniau Castellmarch a Llangian, i’r gogledd o afon Soch, ar wahân i dystiolaeth ôl cnwd o loc crwn â diamedr o 30m ar y codiad tir uwchben Castellmarch a thri chylch cytiau heb fod ymhell (PRN 1248, 1745).

Mae colofn fechan unionsyth ym mynwent Llangian, ychydig fetrau o wal ddeheuol yr eglwys, yn gofeb angladdol arysgrifenedig o’r bumed neu’r chweched ganrif. Ni wyddom i sicrwydd a yw’r garreg yn ei lleoliad gwreiddiol. Erbyn hyn mae ychydig o gerrig wedi eu gosod o amgylch ei gwaelod ac ar un adeg roedd deial haul wedi ei osod ar ei phen, lle mae tri thwll gosod i’w gweld.

Ceir arysgrif Ladin ar y garreg i goffáu Melus y meddyg, fab Martinus (yma y gorwedd). Mae’r gair Cymraeg cyfoes ‘meddyg’ yn tarddu o’r gair Lladin ‘medicus’. Mae ffurf yr arysgrif yn nhraddodiad Cristnogaeth Rufeinig Orllewinol ddiweddar, ond mae dylanwadau eraill i’w gweld hefyd. Mae’r arysgrif yn darllen ar i lawr ar wyneb y garreg, yn hytrach nag ar draws – dull a fenthycwyd o arysgrifau ogam Iwerddon, ac mae’r dull o fynegi perthynas, Melus fab Martinus, yn nes at y meddylfryd Gorllewinol Prydeinig a Gwyddelig nag at yr enghreifftiau cyfandirol.

Mae carreg Llangian, ac eraill fel hi, yn dystiolaeth eithriadol o gyswllt â Christnogaeth Orllewinol brif ffrwd yn ystod y canrifoedd Canoloesol cynnar. Maent hefyd yn adlewyrchu’r holl wahanol ddylanwadau a oedd yn cyffwrdd ardaloedd ar arfordir Môr Iwerddon yn y Canol Oesoedd cynnar. Cyfeirir at offeiriaid, ond mae’r cyfeiriad at feddyg neu broffesiwn seciwlar, yn anarferol iawn mewn cyd-destun Prydeinig. Llond dwrn yn unig o enghreifftiau o’r fath sydd ar gael o feddargraffiadau cyfandirol y cyfnod hwn.

Cofnodir melin yng Nghastellmarch ym 1352. Roedd gan ddisgynyddion Cenythlin yng ngwely Iorwerth ap Cenythlin, oedd â’i eiddo’n ymestyn drwy drefgorddau Cilan, Ystradgeirch, Llangian, Carnguwch a Bodfel, gyfranddaliadau yn y felin honno a hefyd ym Melin Bodfel. Roedd gan aelodau eraill o’r clan pellgyrhaeddol hwn dir ac eiddo yn Llangian, sef etifeddion gwely Cen’ ap Cenythlin ac aelodau o chwe gwely disgynyddion Dywrig, a oedd efallai’n un o’r hynafiaid yr etifeddwyd eiddo ganddo. Mae Llangian yn yr ystyr hwn yn cyfeirio at diroedd helaeth trefgordd Llangian, a byddai’r grwpiau gwaedoliaeth hynny, y cyfeiriwyd atynt uchod, wedi bod yn trin lleiniau neu gyfrannau gwasgaredig yn y meysydd âr agored. O ran Nefyn, a oedd yn achos arbennig, roedd trefgordd Llangian yn un o’r cymunedau mwyaf poblog yng nghwmwd Afloegion yn niwedd y 13eg ganrif. Roedd deg ar hugain o denantiaid â modd sylweddol yn y drefgordd, yn berchen ar 135 o wartheg a 24 o geffylau. Roedd gan Farchros, Cilan a Bryn Celyn fwy o ddefaid, ac roedd gan Fodfel fwy o wartheg, ond roedd gan Langian a Bodfel ill dwy 39 anifail gwedd ac roedd y ddwy’n cynhyrchu 82 crynnog o flawd a grawn (328 bwysel yr un). Mae cofnodion 1352, fodd bynnag, yn cyfeirio hefyd at bentrefan Llangian, anheddiad cnewyllol neu glwstwr o dai yn y lle hwnnw. Gallwn adnabod aelodau gwely Madog ap Gron’ yno. Roedd gan un o’r perthnasau hyn ei felin ei hun yn Llangian, ac roedd yn ofynnol i’r lleill falu eu hyd ym melin yr Arglwydd Dywysog yng Ngwerthyr, ger Nanhoron. Roedd yno hefyd afael, neu ddaliad, o’r enw Gafael Gron yn Llangian a oedd hefyd yn malu yng Ngwerthyr.

Mae eglwys Llangian yn hynafol. Mae wedi ei lleoli ar lan afon, ar odre llethrau serth tua’r gogledd a’r dwyrain. Mae’r cofnod cyntaf ohoni yn dyddio o’r 13eg ganrif ond gallai fod yn hyn. Mae rhan helaeth o’r waliau gogleddol a deheuol, yn y pen gorllewinol, â’u drysau caeëdig, yn perthyn i’r cyfnod hwn. Mae’n bosibl bod y gwaith maen o arddull gwahanol yn y pen dwyreiniol yn dyddio o’r 15fed ganrif. Cynhelir y to gan ddeg cwpl o’r math a ddefnyddid yn y 15fed ganrif - trawstiau croes â chleddau bwaog. Mae gan yr wyth cwpl gorllewinol bwyslathau pigfain ar ogwydd ond mae’r ddau gwpl mwyaf dwyreiniol yn wahanol, sy’n awgrymu bod y to uwchben pen y gangell wedi cael sylw arbennig. Mae’r eglwys bresennol wedi cael ei hatgyweirio, ac mae ffenestri newydd wedi eu gosod, ynghyd â drws ar yr ochr orllewinol a chyntedd a festri ar yr ochr ogleddol cyn diwedd y 19eg ganrif.

Roedd y fynwent wreiddiol bron yn grwn, a’i therfyn yn dilyn y nant ar ei hochr dde-orllewinol. Mae olion y cylch i’w weld o hyd yn y clawdd isel ychydig fetrau i’r dwyrain o’r eglwys. Yr ochr arall i hwn, roedd lloc allanol ar un adeg, yn gonsentrig â’r fynwent. Gallai hwn gynrychioli’r noddfa o amgylch yr eglwys hynafol. Gellid codi adeiladau yma, a allai ffurfio cnewyllyn anheddiad y pentrefan. Ym 1994, wrth atgyweirio wal y fynwent gydag ochr y nant daethpwyd o hyd i ddilyniant o ddyddodion wedi eu claddu yn y trawstoriad agored. Cofnododd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd y dilyniant a chafodd sampl i ddibenion dyddio radiocarbon o bren, siarcol a malurion adeileddol llosgedig yn y gwaelod. Mae’r dyddiad, sef tua 550OC, yn awgrymu gweithgaredd cynnar iawn ar y safle ond nid yw’n cadarnhau presenoldeb eglwys.

 

Ym 1625 gosododd Syr William Jones, Prif Ustus Mainc y Brenin, y garreg sylfaen ar gyfer ei dy newydd yng Nghastellmarch, ar waelod y sgarp sy’n wynebu’r môr. Mae’r ty’n bwysig, ond mae’r dyluniad yn anarferol, gydag un adain ar y pen a drws heb fod yn y canol. Roedd mab Syr William, sef Grifith Jones, wedi cefnogi achos y Piwritaniaid gan fod hynny o fudd iddo. Cafodd Syr John Owen o Glenennau, Cadfridog brenhinol dan Byron yn y Rhyfel Cartref, yr adnewyddwyd ei gomisiwn yn yr ail ryfel cartref, ei roi ar brawf ar gyhuddiad o frad a’i draddodi i farwolaeth. Ymhlith yr ymdrechion i atal ei ddienyddiad roedd ymgais feiddgar gan gapten llong o’r enw Bartlett a hwyliodd o Wexford i’r arfordir ger Castellmarch, gan ysbeilio’r ty a chymryd Griffith Jones yn wystl, am fywyd Syr John. Arbedwyd bywyd Owen drwy asiantaethau amrywiol (Dodd, 1968, 134).

Erbyn diwedd yr 17eg ganrif, roedd llawer o denementau ac eiddo yn Llyn wedi dod i feddiant ystâd y Faenol, i Syr William Williams i ddechrau ac yna i Syr Bourchier Wray. Roedd daliadau’r Faenol yn Llyn wedi eu crynhoi yn y de-ddwyrain ac, yn fwyaf arbennig, ar Drwyn Cilan ac ym mhlwyf Llangian, o amgylch Castellmarch a gwastadedd Neigwl. Yn ystod y 18fed ganrif a hyd at drydydd chwarter y 19eg ganrif, yr alwedigaeth fwyaf cyffredin oedd ffermio a gwasanaethau a oedd yn gysylltiedig â ffermio.

Yng Nghastellmarch a Llangian, i’r gogledd o afon Soch, roedd un ar ddeg o ffermydd; rhai ffermydd mawr iawn, eraill yn llai, ond dim mor dlawd â’r tyddynnod tair acer a welir yng ngweddill y plwyf. Yn Llangian yn niwedd y 19eg ganrif, roedd 17 fferm ag arwynebedd o lai na 10 acer.

Yn ystod y cyfnod o ddau gan mlynedd o ddiwedd yr 17eg ganrif ymlaen, ni fu llawer o newid ym maint y ffermydd i’r gogledd o afon Soch. Castellmarch oedd y fferm fwyaf ar y gwastadedd arfordirol, yn ffermio 291 acer ym 1770 â 51 acer arall o dywod a gwastraff. Roedd Castellmarch hefyd yn dal ynysoedd Tudwal. Roedd fferm y Fach, 500m i’r de, yn amaethu 138 o aceri ac yn dal 13 acer arall o dywod arfordirol. I’r gorllewin o’r ceunant sy’n haneru’r ardal hon, roedd Rhandir yn ffermio 100 acer, Bodwi 140 acer a Nant 40 acer. Roedd Bryn Cethin Mawr a Bryn Cethin Bach rhyngddynt yn dal 30 acer rhwng afon Soch a’r nant ogleddol a oedd yn troi Melin Soch.

Ym 1800 rhannwyd Castellmarch yn ddau ddaliad. Roedd yr hen dy mewn cyflwr gwael iawn. Roedd y nenfydau wedi disgyn ac roedd y grisiau mewn cyflwr gwael. Roedd angen llechi newydd ar y to. Er hynny, roedd stabl a beudy newydd wedi eu hadeiladu ynghyd â sied newydd i fwydo lloi. Roedd storfa datws wedi ei hadeiladu ac roedd lle mewn beudy a oedd yn bodoli’n barod i gadw 43 o wartheg dan do. Roedd yr adeiladau amaethyddol wedi eu codi o gerrig, â tho gwellt, ac eithrio’r storfa datws, a oedd â tho llechi. Roedd un o’r tenantiaid wedi adeiladu bythynnod i weithwyr yn ddiweddar. Roedd y tai hyn wedi eu hadeiladu â waliau mwd ac roedd ganddynt doeau gwellt (Roberts, 1973, 43- 4). Genhedlaeth yn ddiweddarach, roedd dau denant a oedd yn gweithio mewn partneriaeth yn dal Castellmarch. Y gwyn unwaith eto gan arolygwr y Faenol oedd bod to’r ty mewn cyflwr gwael iawn a bod dwr yn dod i mewn mewn llawer o leoedd. Roedd y coed yn pydru ac roedd angen llechi newydd yn ddi-oed. Roedd y system gnydau ym 1823 yn cynnwys Gwenith, Haidd a Cheirch, Tatws, Porfa a Gwair (Archifdy Caernarfon, Vaynol 4065). Roedd y Rhandir, ym 1800, ar y llaw arall, mewn cyflwr da ac yn daclus iawn, â thy a beudy dan un to, â waliau cerrig a tho gwellt; stabl, beudy a hofel dan un to, unwaith eto â waliau cerrig a tho gwellt. Roedd yr ysgubor a’r storfa mewn cyflwr rhagorol ac roedd pwmp dwr wedi ei osod er mwyn cael dwr.

Yn ystod diwedd y 19eg ganrif gwelwyd rhywfaint o newid yng nghydbwysedd y galwedigaethau. Y catalydd oedd ailddechrau gweithgareddau cloddio yn lleol. Ym mhlwyfi Llanengan a Llangian, yng nghanol y 19eg ganrif, dim ond tri unigolyn oedd yn gweithio fel mwyngloddwyr plwm. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd 208 o weithwyr plwm ym mhlwyf Llanengan a 31 o fwyngloddwyr plwm yn Llangian. Roedd 12 o deuluoedd mwyngloddio’n byw yn y 10 ty a elwir yn Bay View Terrace ar ochr ogleddol afon Soch. Ystyrir y ffenomen hon isod yng nghyd-destun datblygiad ardal Abersoch yn ei chyfanrwydd.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Eglwys gynnar bwysig yn Llangian, ag olion mynwent gromlinog wreiddiol a charreg goffa o’r bumed neu’r chweched ganrif. Mae cymeriad y 19eg ganrif i’w weld ym mhentref Llangian o hyd.
• Ategir cymeriad y dirwedd gan gofnodion manwl arolygon ffermydd o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif ar adeg pan oedd athroniaeth gwelliannau amaethyddol ar gynnydd.
• Ffermydd mawr - Castellmarch oedd y fwyaf – mewn tirwedd donnog uwchben y sgarp 50m, â cheunant Nant Mawr yn torri drwyddo. Mae ty Castellmarch yn bwysig am resymau pensaernïol.

Mae’r ardal gymeriad hon yn cael ei diffinio tua’r gogledd gan bentir ithfaen Mynydd Tir-y-cwmwd ac Amgaead Seneddol Mynytho sy’n ymestyn i ben deheuol Ffordd Balaclava, Nanhoron. Ei therfyn gorllewinol yw gwastadedd Neigwl a’i therfyn gorllewinol yw pentref Llangian. Nodir y terfyn deheuol gan ran isaf afon Soch ar ei ffordd i’r aber, ond mae’r ardal ddatblygedig ar ochr ogleddol yr aber wedi ei chynnwys yn ardal gymeriad Abersoch a Llanengan.

O ran topograffeg, mae’r tir yn isel ac yn wastad ar hyd y gwastadedd arfordirol o Fynydd Tir-y-cwmwd at afon Soch. Bum can metr o’r arfordir mae’r tir yn codi’n sydyn yng nghyffiniau Castellmarch. Mae ceunant serth wedi ei dorri, o’r gogledd i’r de, o rostir Mynytho, ar hyd trywydd y nant sy’n troi peiriannau Melin Soch, cyn llifo i’r môr yn yr aber. Mae’r ardal i’r gorllewin, ger Bodwi, yn llwyfandir tonnog 70-80m uwchlaw’r seilnod ordnans ac yn debyg i’r dirwedd uwchben Castellmarch. Ceir llethrau serth tua’r dwyrain, tua’r de a thua’r ceunant.

Llangian yw’r unig bentref yn yr ardal gymeriad hon. Ei eglwys hynafol yw ei gnewyllyn. Mae un o lednentydd afon Soch yn ymuno â’r brif afon 400m i’r de. Mae’r nant yn dolennu gydag ochr y fynwent ac yn y 1990au achosodd fwlch a roddodd gyfle i wneud cofnod archaeolegol o’r drefn anheddu o dan arwyneb presennol y ddaear. Bylchwyd wal y fynwent gron wreiddiol ar yr ochr ddwyreiniol i ganiatáu ehangu’r fynwent mewn cyfnod diweddar, hyd at yr hyn a oedd mae’n bosibl yn lloc consentrig allanol a rhan o safle mynachaidd y Canol Oesoedd Cynnar. Nid yw’n amhosibl bod craidd y pentref yn yr ardal honno mewn cyfnod diweddarach, er bod yr enwau llain a gardd hefyd yn awgrymu bod yr ardal hon yn cael ei haredig fel rhan o faes agored. Mae’r lloc bychan a elwir yn ‘llain gyd’ yn cyfeirio at lain âr yn rhandir y gymuned.

Mae cnewyllyn y pentref presennol yn union i’r de-orllewin o’r eglwys ac mae’r lleiniau petryal a’r bythynnod deulawr yn nodweddiadol o hanner cyntaf y 19eg ganrif. Ym mhen y datblygiad hynod betryal hwn, gydag ochr y ffordd ac yn nesaf at yr eglwys, saif yr hen bersondy. Mae’n adeilad deulawr wedi ei adeiladu o rwbel mewn bras gyrsiau, wedi eu pwyntio’n wastad, a chanddo do llechi. Roedd yr adeilad gwreiddiol, yn cynnwys dwy annedd, fel y gwelwn o’r pâr canolog o gyrn simnai brics wedi eu gosod yn groeslinol, heb fod yn union yng nghanol crib y to. Mae simneiau yn nhrwch y ddwy wal dalcen ac mae’r rhain yn cynnwys tair simnai yr un, o frics, ac eto wedi eu gosod yn groeslinol. Mae’r ffenestri dalennog di-gorn un cwarel ar bymtheg (8 dros 8) sydd wedi eu trefnu’n rheolaidd yn rhai gwreiddiol. Mewn gwrthgyferbyniad, ceir rhes o dai unllawr gydag ochr y ffordd i Landygwnning.

Adeiladwyd rhagor o dai yn y 19eg ganrif ar ochr yr allt serth ac islaw’r allt ger y fynedfa ogleddol i Langian. Er hynny, ychydig iawn o adeiladau ychwanegol sydd wedi eu hychwanegu yng nghyffiniau’r pentref ei hun. Mae Llangian yn cyfleu cymeriad pentref o ddechrau i ganol y 19eg ganrif. Yr eglwys hynafol yw canolbwynt y pentref ac mae ganddo gysylltiad maith, os nad gwreiddiol o reidrwydd, â chofeb bwysig Melus y Meddyg o’r bumed neu’r chweched ganrif. Mae’r persondy mawr yn ychwanegu at gymeriad y pentref, ynghyd â’r clwstwr o dai o’r 19eg ganrif ger y bont fechan lle mae’r ffordd yn disgyn o’r tir uchel i’r eglwys. Yn hanesyddol, mae gan bentrefan Llangian gysylltiadau ag un o’r claniau helaethaf a mwyaf pwerus yn Llyn yn y Canol Oesoedd.

Mae’r ardal i’r gogledd o afon Soch a’i haber yn isel ac yn wastad ar hyd y morlin, gyda’r sgarp 50m yng Nghastellmarch yn torri ar ei thraws, ac yn codi i dirwedd llwyfandir tonnog, yn cael ei hollti o’r gogledd i’r de gan geunant Nant Mawr. Mae’r caeau’n fawr ac yn rheolaidd ar y cyfan, ac eithrio yng nghyffiniau’r Rhandir a Nant. Daeth y ffermydd mwyaf dwyreiniol o’r rhain, o’r Rhandir i Gastellmarch, yn rhan o ystâd y Faenol yn niwedd yr 17eg ganrif ac mae hanes y ffermydd hyn a’u datblygiad wedi’i gofnodi yng nghofnodion manwl arolygwyr y Faenol yn ystod diwedd y 18fed ganrif a chwarter cyntaf y 19eg ganrif. Roedd hwn yn gyfnod pan oedd athroniaeth gwelliannau amaethyddol ar gynnydd, ac yn gyfnod hefyd pan oedd tai waliau mwd a tho gwellt yn arferol i lafurwyr amaethyddol a ffermwyr bychain.

Mewn gwrthgyferbyniad, gwelwn Gastellmarch a oedd yn ffermio 300 acer yng nghanol cyn ystâd fonedd sy’n bwysig o safbwynt hanesyddol a phensaernïol. Er gwaethaf cyflwr gwael yr adeilad ar ddechrau’r 19eg ganrif: nenfydau wedi disgyn, grisiau mewn cyflwr gwael, to’n gollwng a choed wedi pydru, mae Castellmarch wedi goroesi. Mae’r dyluniad yn anarferol. Mae’n cynnwys rhes ogledd-de â dau lawr ac atig ac adain ddeheuol yr un mor uchel, ar ongl sgwâr i’r brif res. Nid yw’r drws yn y ffasâd dwyreiniol wedi ei osod yn y canol. Mae grisiau cerrig yn arwain at y drws ac mae’r drws yn cael ei amddiffyn gan gyntedd Dorig â cholofnau sy’n cynnal goruwchadail a phediment ag arfbeisiau arno. Mae gan y ffrâm drws cerrig ben pedwar canolbwynt ffug â bargodfaen. Mae’r ffenestri yn y prif ffasâd dwyreiniol wedi eu gosod yn fertigol; mae’r ffenestri yn nhalcen dwyreiniol yr adain ddeheuol wedi eu gosod yn llorweddol. Mae gan fyliynau a thrawslathau’r ffenestri tywodfaen fowldin ofolo. Mae gan bob ffenestr fargodfaen llorweddol. Rwbel heb fod mewn cyrsiau â chonglfeini mwy yw’r gwaith maen.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol