English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 16 Nanhoron a Botwnnog


Ceunant Nanhoron


Botwnnog


Efail Botwnnog


Melin Horon


Capel Newydd, Nanhoron


Pont Inkerman

Cefndir hanesyddol

Ceir tystiolaeth o weithgaredd o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar ar gwr yr ardal gymeriad, yn rhan uchaf y ceunant lle mae afon Horon yn llifo rhwng Garn Bach a Charn Saethon. Mae bryngaer fechan ar Garn Saethon a chlwstwr o gylchoedd cytiau ar y teras uwchben y ceunant ym Mhencaerau, rhwng Carn Bach a llethrau serth dyffryn Horon (PRN 4024, 4027, 4028, 4030, 4031) a 300m i’r gogledd-ddwyrain yn y Clogwyn (PRN 4024). Mae anheddiad cylchoedd cytiau amgaeedig a chnewyllol o’r un cyfnod fwy neu lai ar grib llethr uwchben un o lednentydd afon Horon 120m uwchlaw’r seilnod ordnans, 470m o dy Saethon. Ar ochr orllewinol y ceunant mae dau anheddiad cylchoedd cytiau cnewyllol ac amgaeedig ar gopa bryn llyfngrwn Bodlas, neu heb fod ymhell o’r copa (PRN 418, 4017).

Yn ystod y Canol Oesoedd roedd yr ardal gymeriad hon yng nghwmwd Afloegion. Roedd Nanhoron yn bentrefan yn nhrefgordd rydd-ddaliadol Bodnithoedd, a gynrychiolir bellach gan fferm o’r enw hwnnw, ychydig i’r gorllewin o Fotwnnog. Roedd Botwnnog ei hun yn gymuned glas neu led-fynachaidd yn naliadaeth Beuno Sant, heb fod arni ddim i’r Tywysog ar wahân i rent bychan blynyddol o ieir ar Wyl Sant Mihangel (29 Medi), a dalai hefyd ar ran clas Mellteyrn, un arall o eglwysi Beuno, yng nghwmwd cyfagos Cymydmaen. Mae’n bosibl bod gan Fotwnnog lawer o dir ac eiddo. Roedd tri gwely yn y drefgordd eglwysig. Gallai un o’r gwelyau, etifeddion Iorwerth ap Cenythlin, fod yn cael ei gynrychioli gan ran o frenhinlin neu freninllinau mawr a oedd yn cynnwys pum gwely Cenythlin. Mae’n bosibl bod rhan o diroedd treftadol etifeddion Cenythlin wedi cael eu hildio er mwyn sefydlu eglwys ym Motwnnog yn y Canol Oesoedd cynharach. Roedd eglwys yn bodoli yn y 13eg ganrif. Erbyn dechrau’r 16eg ganrif roedd Botwnnog wedi dod yn gapel yn rheithoriaeth Mellteyrn. Ailadeiladwyd yr eglwys yn gyfan gwbl yn y 19eg ganrif.

Botwnnog
Prin y gellid galw Botwnnog yn bentref yn y 1830au. Roedd croesffordd yn rhan ddeheuol y plwyf, rhwng dwy nant, y naill yn llifo i lawr ceunant Llaniestyn i ymuno ag afon Soch a’r llall yn llifo i’r dwyrain gan ddraenio’r tir gwlyb, i’r gogledd o Nanhoron. Roedd capel Methodistiaid Calfinaidd (Capel Rhyd-bach) ger y rhyd neu’r bont i groesi’r nant ddwyreiniol, ac wrth y nant orllewinol roedd rhyd a gefail, a adwaenid fel Efail Pont y Gof. Y ffordd y safai’r capel a’r efail arni oedd y llwybr gorllewin-dwyrain i Sarn Mellteyrn. Roedd y groesffordd tua hanner ffordd rhwng y capel a’r efail. Roedd y ffordd ogleddol yn mynd â’r teithiwr i eglwys Beuno Sant ym Motwnnog, 500m o’r groesffordd ac ymlaen i Laniestyn drwy ardal agored Rhos Botwnnog. Roedd y ffordd tua’r de yn arwain i diroedd ffermydd. Roedd casgliad bychan o adeiladau o amgylch yr eglwys.

Ganwyd Henry Rowlands, Esgob Bangor, ym Mellteyrn. Bu farw ym 1616 a gwnaeth ddarpariaeth yn nhelerau ei ewyllys ar gyfer sefydlu ysgol ym Motwnnog (sicrhaodd hefyd bod elusendai’n cael eu hadeiladu ym Mangor). Llain fechan ar ochr ogleddol eglwys Botwnnog, ger y fynwent, oedd y tir a ddarparwyd. Adeiladwyd yr hen ysgol ramadeg ym 1618. Tua’r gogledd eto roedd ty a stabl fferm Ty Mawr; tua’r dwyrain, roedd ty, ty allan a gardd Ty’n Llan, a 100m tua’r de-ddwyrain roedd ffermdy Tir Du.

Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd ysgol elfennol wedi ei sefydlu ger Pont y Gof ac adeiladwyd ysgol ramadeg newydd (nid ysgoldy gwreiddiol 1618) ar safle newydd, i’r de o’r eglwys. Ar y groesffordd, erbyn y 1880au, roedd dau dy a siop a swyddfa bost ar y gornel. Yn ychwanegol at hyn, roedd tri adeilad arall wedi eu gwasgaru ar hyd y ffordd. Erbyn diwedd yr 20fed ganrif roedd y pentref wedi tyfu llawer. Roedd yr ysgol ramadeg wedi ei hehangu’n sylweddol ac roedd canolbwynt preswyl wedi ei sefydlu ar hyd ffordd Mellteyrn, bob ochr i’r groesffordd. Ar hyn o bryd mae tua hanner cant o adeiladau yn y pentref, sy’n cynnwys dwy ysgol a chanolfan iechyd, eglwys Anglicanaidd (Beuno Sant) a chapel y Methodistiaid Calfinaidd.

Mae’r grwp o ddau dy Fictoraidd, a adeiladwyd fel un datblygiad sylweddol, a’r ty sengl, a’r Swyddfa Bost a siop ar gornel y groesffordd yn bwysig gan eu bod yn dangos yr is-gyfnod hwn yn natblygiad y pentref. Mae arwydd uwchben y drws hefyd yn dangos bod y swyddfa bost wedi bod yn llyfrgell ar un adeg. Mae’r tai’n dai deulawr ag atig. Mae gan un o’r tai gilfach flaen ymestynnol ar ddau lawr. Mae gan y swyddfa bost adain gefn fawr. Mae’r waliau allanol i gyd wedi eu rendro, ac mae tri gris llechen o flaen pob drws. Mae’r cyntedd ym mynedfa ddomestig flaen y ty/swyddfa bost yn wreiddiol, ac mae astell dywydd addurniadol ar do ar oleddf y cyntedd. Mae rheiliau pigau haearn ar ben y wal fechan sydd o amgylch yr ardd flaen a cheir giât haearn debyg yno hefyd. Mae cyrn simnai’r tri adeilad yn uchel a gwelir eu bod o gerrig wedi eu sgwario ar adeilad y swyddfa bost.

Nanhoron
Ym mhentrefan Nanhoron y trigai Gwely Ropp’t ap Wion a byddent hwy, fel llawer o drefgorddau a phentrefannau Afloegion, yn mynd â’u hyd i’w falu ym melin y Tywysog yng Ngwerthyr. Gwerthyr oedd melin yr Arglwydd yn Afloegion ac roedd yn ofynnol i denantiaid yn Llangian, Penllefychan, Botwnnog, Nanhoron a Machros fynd yno i falu.


Pan ymwelodd Hyde Hall â Llangian ym 1810 tynnwyd ei sylw at gapel anwes o’r enw Capel Gwyther (hynny yw, Gwerthyr). Dangoswyd y safle iddo, ond nid oedd dim i’w weld gan fod yr adfeilion wedi eu clirio, a hynny mae’n debyg i ddibenion adeiladu. Ym 1535 cyfeiriodd Valor Ecclesiasticus Harri’r VIII at reithoriaeth Llanbedrog a chapeli Llanfihangel Bachellaeth a ‘Hirverther’ (Y Werthyr efallai) a oedd yn gysylltiedig â hi. Ger yr efail yn Rhydgaled mae hen rostir o’r enw Rhos Gwerthyr.

Ym 1601 caniatawyd gwaddol o fesiweisau a thiroedd yng Ngwerthyr i Susan Thomas ap Hugh, gwraig John Thomas ap William o Werthyr. Ym 1611 cyfeirir at fesiwais o’r enw Tyddyn Cae yng Ngwerthyr ac amgaefa o’r enw Ceirchfryn Bychan a mesiwais o’r enw Tyddyn Robin, i gyd yn Llangian. Mae argraffiad cyntaf map llawysgrif 2 fodfedd yr Arolwg Ordnans yn dangos dau eiddo 700m i’r de o dy Nanhoron yn dwyn yr enw Gwerthyr. Mae arolwg degwm Llangian c.1840 yn dangos y ddau eiddo tua 70m i 140m oddi wrth ei gilydd. Yr un mwyaf gogleddol yw Gwerthyr, a’r eiddo deheuol yw ‘cae tan yr odyn’ ac ysgubor, sy’n cyfateb i Ceirchfryn yn niwedd y 19eg ganrif. Nid yw’r eiddo mwyaf gogleddol o’r ddau yn bodoli mwyach ac mae’r enw wedi ei golli. Mae’n bosibl bod rhyw gysylltiad rhwng Ceirchfryn â melin a oedd yn bodoli ar un adeg. Saif y felin ddiweddarach, Melin Isaf, ger afon Horon 600m i’r gorllewin. Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi cysylltu lloc hirgrwn a llwyfan petryal, wedi bod o dan yr aradr, yn y cae yn union i’r gorllewin sy’n dwyn yr enw ‘Caerau Capel’. Mae Gwerthyr a safle posibl y capel tua 400m i’r de o Nanhoron Isaf.

Canolbwynt Nanhoron yw’r ty ei hun. Adeiladwyd y ty presennol yn chwarter cyntaf y 19eg ganrif. Saif ar esgair, 45m uwchlaw’r seilnod ordnans, ger pen deheuol y ceunant, lle mae’r dirwedd yn lledu ychydig a lle mae un o lednentydd afon Horon, sy’n draenio i lawr o Saethon, yn cyfarfod yr afon yn Rhydgaled. Safai ty cynharach gerllaw, tua 50m i’r dwyrain. Ar rôl rhent ystâd Nanhoron ar gyfer 1684-1704, a oedd yn eiddo i Richard Edwards ar y pryd, gwelir nodyn wedi ei ysgrifennu ym 1773 gan Timothy Edwards sy’n nodi mai hon oedd rôl rhent ei daid [ei hen-daid mewn gwirionedd] ‘who built the house in 1677 and died in July 1704’.

Gellir olrhain llinach teulu Nanhoron, ar y ddwy ochr, yn ôl i’r cyfnod cyn concwest Gwynedd ym 1283. Yn ystod diwedd y 15fed ganrif roedd Madog Fychan, o’r gangen honno o’r teulu a oedd i etifeddu Nanhoron, yn byw yn Llwyndyrys, i’r de o Lanaelhaearn. Priododd Madog Gwenllian o deulu Cochwillan, chwaer William ap Gruffydd a ymladdodd ar ochr Harri’r VIII ym mrwydr Bosworth. Cafodd eu mab hwy, Gruffydd, Nanhoron Uchaf, a daeth ei ferch ef, Annes, aeres Nanhoron, â’r etifeddiaeth gyda hi pan briododd Rhys ap Gruffydd, a oedd yn un o ddeuddeg cenhedlaeth o linach frenhinol Englefield. Etifeddodd Thomas, eu mab hwy, Lwyndyrys a Nanhoron.

Ganwyd mab Edward ap Thomas ap Richard ap Thomas ap Rhys ap Gruffydd, sef Richard, ym 1628. Aeth Richard i Ysbyty Gray, un o bedwar Ysbyty’r Brawdlys yn Llundain, ar ddiwedd yr ail ryfel cartref. Ef oedd y cyntaf i hepgor yr enw teuluol ‘ap Edward’ a dechrau defnyddio Edwards fel ei gyfenw. Daeth yn gyfreithiwr dylanwadol a llwyddiannus ac er iddo fod dan amheuaeth yn ystod yr Adferiad oherwydd ei ddaliadau Piwritanaidd, roedd galw am ei arbenigedd o hyd. Adeiladodd yr hyn a oedd mae’n debyg yn dy newydd yn Nanhoron Ucha, ym 1677, a chodwyd ty arall yn ei le ychydig ar ôl 1800 gan y Cyrnol Richard Edwards. Roedd y cynlluniau wedi eu gwneud yn barod erbyn 1796. Hwn yn y bôn yw’r adeilad a welwn ni heddiw.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Golygfa ddramatig ceunant Nanhoron.
• Ansawdd cydlynol a maint sylweddol adeiladau diwydiannol ac adeiladau eraill o’r 19eg ganrif ar ystâd Nanhoron.
• Cyfres o bandai a melinau dwr i falu yd yn y ceunant, yn cael eu pweru gan afon Horon.
• Safle Gwerthyr, melin frenhinol bwysig yn y Canol Oesoedd.
• Mae patrymau caeau rheolaidd, rhai â gwrychoedd, rhai wedi eu ffensio â gwifren, a waliau cerrig ar ochrau ffyrdd yn arwydd o drefniadau rheoli ystâd; ceir cloddiau â gwrychoedd ar eu pennau yng nghyffiniau Botwnnog.
• Goroesiad a lleoliad pwysig capeli Anghydffurfiol cynnar ar gwr tir comin.

Terfynau’r ardal gymeriad hon yw ochrau gorllewinol serth ceunant Nanhoron tua’r gogledd-orllewin a Charn Saethon a Charneddol ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol. Diffinnir y terfyn de-ddwyreiniol gan Amgaead Seneddol tir comin Mynytho a’r terfyn de-orllewinol gan wastadedd Neigwl. Mae pentref Botwnnog, yng nghwr de-orllewinol yr ardal gymeriad hon, wedi ei gynnwys.

Botwnnog
Er bod y rhan fwyaf o’r adeiladau wedi eu codi yn yr 20fed ganrif, gan gynnwys tai pâr deulawr a byngalos unllawr di-nod, y rhan fwyaf wedi eu gorchuddio â gro chwipio, mae yma nodweddion sy’n rhoi cymeriad i’r pentref ac sy’n dangos sut y mae wedi datblygu.

Roedd adeilad hen ysgol ramadeg 1618 yn mesur 8.5m wrth 5.5m. Adeilad unllawr ydoedd â thy bychan o’r un mesuriadau ac uchder fwy neu lai ynghlwm wrtho. Mae’r waliau o rwbel ar hap, ac mae llechi newydd ar y to erbyn hyn. Codwyd waliau’r ty sydd ynghlwm yn ddiweddarach, â blociau mwy mewn bras gyrsiau. Gosodwyd dwy ffenestr ddormer ar yr ochr ogledd-orllewinol. Mae newidiadau wedi eu gwneud i’r agoriadau, a darparwyd drysau a ffenestri modern. Mae cyntedd ar lefel y llawr gwaelod ar yr ochr ogledd-orllewinol, ond mae drws ar yr ochr ogleddol. Defnyddir yr adeilad yn awr fel dau dy preifat. Er hynny, mae’n adeilad pwysig o safbwynt hanesyddol, ac mae ganddo hefyd gysylltiadau â Moses Griffith, darlunydd Pennant, a fu’n ysgolor yn yr ysgol, a baentiodd lun ohoni ac sydd wedi ei gladdu yn y fynwent.

Bwthyn unllawr traddodiadol â chroglofft yw Efail Pont y Gof. Mae’r efail a’r bwthyn ynghlwm wrth ei gilydd mewn un llinell ddi-dor. Mae’r waliau o rwbel wedi ei sgwario a’i osod mewn cyrsiau; mae olion gwyngalch neu galch pinc ar waliau’r bwthyn ond nid yn yr efail. Mae cyrn simnai cerrig ym mhob talcen ac yn y canol uwchben y wal sydd rhwng y ddwy gydran. Byddai llwybrau’r porthmyn yn mynd o dde Llyn drwy Sarn Mellteyrn a Botwnnog. Mae’n bosibl y byddai anifeiliaid yn cael eu pedoli mewn gefeiliau ochr ffordd ar eu taith tua’r gogledd a’r dwyrain, fel yn Rhydyclafdy. Tybir bod yr adeilad presennol yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif. Os hynny, mae’n rhaid bod y ffenestri un cwarel ar bymtheg â chorn ar y ffrâm wedi eu gosod tua chanol y 19eg ganrif. Roedd gefail, ty, gardd a dyfrfan yno yn y 1830au.

Nanhoron
Mae ceunant serth Nanhoron yn torri cwys ddofn drwy’r dirwedd, o’r cefndeuddwr ychydig i’r gogledd o Garn Bach a Garn Saethon, i’r de tua gwastadedd Neigwl lle mae’r gulffordd yn lledu a’r dirwedd heb fod mor wyllt. Mae dwr afon Horon a’i llednentydd yn ffynhonnell pwer ac roedd nifer o felinau o’r 19eg ganrif yn cael eu pweru gan yr afon.

Saif Ffatri Saethon ar lan afon Horon, 150m i’r de o Bont Inkerman. Mae’n cael ei disgrifio, mewn aseiniad yn erbyn gwarantau morgais, ym 1831, fel ‘manufactuory’ a ddefnyddid fel pandy, a adwaenid wrth yr enw Ffatri, ac a oedd yn rhan o ystâd Saethon, a oedd bryd hynny yn eiddo i Richard Lloyd Edwards o Nanhoron. Roedd pandy arall, sef Pandy Saethon, yn gweithredu ar lednant fechan, 250m i’r de-ddwyrain ac yn uwch i fyny’r llethrau dwyreiniol uwchben y ceunant.

Saif Melin Horon neu’r Felin Newydd 650m i’r de eto, ar y brif afon lle mae pont yn croesi’r afon i fynd i Betris. Mae adeiladau Melin Horon yn cynnwys ffermdy o’r 19eg ganrif ag adain gefn fawr ac adeiladau fferm gerllaw iddo ac ynghlwm wrtho. Mae’n debyg bod y ffermdy’n dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif er gwaetha’r ffenestri diweddarach a’r drws modern. Mae’r grwp o adeiladau sy’n cynnwys adeiladau’r fferm, y bont sy’n croesi’r afon a’r felin fawr yn dyddio o ganol neu ddiwedd y 19eg ganrif, er gwaetha’r plac ar y wal sydd â’r canlynol wedi ei naddu arno - ‘R.E.A. 1823 Na Ladratta’ (Richard ac Annabella Edwards). Roedd y felin ddwr wreiddiol, neu felin ddwr gynnar y 19eg ganrif o leiaf, yn llai ac yn cael ei bwydo gan bynfarch wedi ei ddargyfeirio ar ochr ddwyreiniol y cyfadeiladau. Felly hefyd yr oedd ei holynydd.

Dri chant a hanner o fetrau i’r de o Felin Horon mae pont arall yn croesi’r afon o’r ochr ddwyreiniol i’r gorllewin. Ar ochr ddwyreiniol y bont saif gefail, ty a gardd Rhydgaled. Mae bwthyn gerllaw. Gant saith deg a phump o fetrau i’r gogledd-orllewin ym 1840 roedd ty o’r enw Nant. Yn ddiweddarach yn y ganrif daeth yn Siop y Nant. Yn yr un ardal roedd Capel y Methodistiaid Calfinaidd – Capel Nant. Roedd dau fwthyn ger y capel, i’r gogledd-ddwyrain, ar dir a neilltuwyd o ardal yr Amgaead Seneddol. Sefydlwyd Capel Nant ym 1782 ar dir a oedd, bryd hynny, yn rhan o’r tir comin. Codwyd yr adeilad presennol, adeilad digon diaddurn, â ffasâd o gerrig llwyd, ym 1877. Roedd y bythynnod wedi eu dymchwel erbyn ail hanner y 19eg ganrif. Yr ochr arall i bont Rhydgaled, ar yr ochr orllewinol, gwelir y porthdy a’r giatiau haearn bwrw addurniadol sy’n arwain at Blas Nanhoron. Mae lôn 300m o hyd yn arwain at y ty.

Mae Plas Nanhoron yn adeilad deulawr â ffasâd o gerrig nadd a feranda addurniadol yn cael ei gynnal gan byst haearn bwrw. Mae’r ffenestri wedi eu gosod yn gymesur o amgylch drws canolog. Ceir to llechi talcen slip. Y tu mewn, rhennir y cyntedd gan agoriad bwaog arddull Baladaidd â goruwchadail yn cael ei gynnal gan bennau colofnau Ïonaidd ar golofnau pigfain. Adeiladwyd y ty tua’r flwyddyn 1800 yn lle adeilad cynharach a adeiladwyd gan Richard Edwards ym 1677, ychydig i’r dwyrain. Mae cerbyty ar y dde i’r ty a gardd addurniadol â wal o’i chwmpas yn y cefn, ynghyd â bloc stablau gydag ochr ddwyreiniol yr ardd a lle i gadw moch, 35m i’r dwyrain. Mae ty rhew yn y coed y tu ôl i’r ardd. Mae fferm y plas ar draws y ffordd tua’r gogledd.

Mae Bodlondeb yn enghraifft dda o ffermdy a oedd yn rhan o ystâd yng nghanol Oes Fictoria. Saif 700m i’r dwyrain o Nanhoron, ar lan ddwyreiniol llednant fechan sy’n llifo i afon Horon. Adeiladwyd y ffermdy ar dir lle’r arferai bwthyn Ty Gwrthlyn a’i grofft gysylltiedig fod. Roedd Ty Gwrthlyn o fewn terfynau’r Amgaead Seneddol ac mae’n bosibl mai enghraifft o lechfeddiannu rhan o’r comin ydoedd yn wreiddiol. Mae’r ffermdy’n adeilad deulawr, wedi ei adeiladu â cherrig chwarel wedi eu sgwario a’u gosod mewn cyrsiau. To llechi sydd i’r ffermdy, a cheir talcen slip yn y cefn. Mae’r wal o amgylch buarth y fferm wedi ei hadeiladu â chlogfeini morter.

Saif Capel Newydd 550m i’r de-orllewin o ffermdy Bodlondeb a 700m i’r de-ddwyrain o Nanhoron. Y capel hwn yw’r capel Anghydffurfiol hynaf sydd wedi goroesi yn y gogledd. Prynwyd y tir gan gymuned o Bwllheli ac adeiladwyd a thrwyddedwyd y capel ym 1769. Er bod y dosbarth tirfeddiannol Anglicanaidd yn amau cymhellion yr anghydffurfwyr, roedd cefndir Piwritanaidd Nanhoron yn ddigon caredig tuag at gymunedau Anghydffurfiol (adeiladwyd Capel Nant, ar gyfer y Methodistiaid Calfinaidd, ar ôl Capel Newydd yr Annibynwyr, ym 1782). Roedd Catherine Edwards, gwraig y Capten Timothy Edwards a fu farw wrth ddychwelyd o India’r Gorllewin, yn un o gymwynaswyr Capel Newydd a daeth yn aelod ar ôl marwolaeth ei gwr. Roedd Capel Newydd, a Chapel Nant, fymryn y tu mewn i ffiniau’r tir comin. Mae’r capel yn debyg i ysgubor, â drws mawr llydan gwreiddiol, yng nghanol yr ochr ogleddol, a gaewyd yn ddiweddarach cyn gosod drysau newydd. Mae lle i amau mai ysgubor oedd yr adeilad hwn mewn gwirionedd cyn iddo gae ei addasu’n gapel. Mae’r seddi caeëdig, y pulpud a’r llawr pridd gwreiddiol wedi goroesi. Mae’r waliau wedi eu hadeiladu â rwbel wedi ei osod mewn cyrsiau a’i blastro â morter. Ceir linteri cerrig uwchben agoriadau’r drws a’r ffenestri. Cwblhawyd gwaith cadwraethol yn y 1950au, gan ail-doi’r adeilad ac ailddefnyddio’r llechi gwreiddiol, neu lechi o gyfnod cynnar o leiaf.

Ar un adeg roedd arysgrif a dyddiad ar Bont Inkerman sy’n croesi’r ceunant, lle mae chwarel gerrig Nanhoron i’w gweld ar y llethrau gorllewinol gyferbyn - ‘Inkerman 5th Nov 1854’. Adwaenir y ffordd sy’n mynd i lawr y ceunant, heibio’r bont ac i’r de y tu draw i Rydgaled fel Ffordd Balaclava. Mae’r enwau’n atgof ingol o Ryfel y Crimea a’i effaith ar ystâd a theulu Nanhoron. Ymladdwyd brwydr Balaclava yn niwedd Hydref 1854. Ymladdwyd brwydr Inkerman ar 5 Tachwedd 1854. Parhaodd gwarchae Sebastopol tan 1855 a lladdwyd Capten Richard Lloyd Edwards ‘cyn Sebastopol’ ar yr 11eg o Fai. Roedd yn 22 oed.

Y peth amlycaf am gymeriad yr ardal hon, o amgylch Nanhoron, yw dylanwad a chysylltiad ystâd Nanhoron sy’n cael ei amlygu yn adeiladwaith sylweddol, deunyddiau a manylion yr adeiladau diwydiannol ac amaethyddol, y melinau, y ffermdai a Nanhoron ei hun. Mae dylanwad yr ystâd i’w weld hefyd yn nherfynau unionsyth gan mwyaf y caeau cymharol fawr, mewn cymhariaeth â chaeau troellog llai yn ardaloedd cyfagos Botwnnog a Llaniestyn. Ceir waliau cerrig ar ochrau’r ffyrdd. Gwelir gwrychoedd a therfynau ffens a gwifren ger Melin Horon a gwrychoedd ar gloddiau ger Bodlondeb a Chapel Newydd. Mae planhigfeydd coetir i’w gweld yn aml y ddwy ochr i’r ceunant; o amgylch Plas Nanhoron ac mewn planhigfeydd gydag ochr ogleddol Amgaead Seneddol Mynytho.

Yn ardal Nanhoron yr oedd un o’r melinau pwysicaf yn Llyn yn y Canol Oesoedd. Gallai’r safle fod ger adeilad Ceirchfryn a daliad blaenorol Gwerthyr ac, o ganlyniad, mae gwerth afon Horon drwy’r adeg fel ffynhonnell pwer yn adlewyrchiad parhaus o dirwedd hanesyddol gynharach.

Roedd Nanhoron, yn yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif, yn arddel egwyddorion Piwritanaidd ac Anghydffurfiol ac adlewyrchir y cysylltiad hanesyddol hwn gan y ddau gapel anghydffurfiol cynnar a oedd yn yr ardal. Mae un o’r rhain, sef Capel Newydd, wedi goroesi.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol