English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 15 Llanbedrog, Bachellaeth, Madryn a Cheidio


Ardal Carneddol


Ty'r gat Madryn


Llanbedrog


Llanbedrog, tai un-llawr

 

Cefndir hanesyddol

Ceir cofnod o gorfflosgiad wrn ar godiad tir ar ochr ogledd-ddwyreiniol Llanbedrog, mewn ardal lle mae gweithgaredd o’r cyfnod cynhanesyddol cynnar wedi ei grynhoi. Cofnodwyd mynwent gorfflosgi yn y Bwlch rhwng Mynydd Tir-y-cwmwd a Nant Castell. I’r gogledd o’r ardal gymeriad hon mae maen hir uwchben Nant y Gledrydd, ar godiad tir ger Madryn.

Mae bryngaer bosibl ar esgair isel yn edrych dros y Gors Geirch yn Nhyddyn Bychan, i’r de-orllewin o Rydyclafdy, a chaer bentir o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar yn yr Wyddgrug, i’r gogledd o Fadryn.

Ceidio
Yn ystod y canol oesoedd, roedd tair trefgordd rydd yn ymestyn ar draws rhan ogleddol yr ardal gymeriad hon. Yn y gogledd roedd Ceidio, darn ychydig yn uwch o dir 50-60m uwchlaw’r seilnod ordnans sy’n ymestyn i’r Gors Geirch ger Garn Boduan ac sydd â’i ran ddeheuol wedi ei gyfyngu gan y corsydd i’r de o Edern a chan y Gors Geirch ger Mochras. Roedd gan Geidio bentrefan ar wahân yn y mynydd-dir pori gwartheg ger Gwynus yn Rhoswyniasa, a oedd erbyn y 14eg ganrif wedi dod i law Thomas Brereley. Nid oedd gan drefgordd Ceidio ei melin ei hun ac roedd yn malu yn Kirgh (Ceirch). Roedd pentrefan Rhoswyniasa yn malu yng Ngwynus. Roedd eglwys yng Ngheidio yn y 13eg ganrif. Mae’r rhan uchaf a’r talcen gorllewinol wedi cael eu hailadeiladu ond mae’r cyplau sy’n dyddio o’r 15fed ganrif neu’r 16eg ganrif wedi goroesi.

Bachellaeth
I’r de roedd Bachellaeth a thri gwely wyrion Rhys, Einion a Reon. Roedd gwely Wyrion Einion yn malu ym melin yr arglwydd, sef Ceirch. Roedd gwelyau Wyrion Rhys a Wyrion Reon yn rhannu eu melin eu hunain ym Machellaeth. Nodir un ar ddeg o denantiaid (â modd sylweddol) yn y tri gwely yn niwedd y 13eg ganrif. Roedd ganddynt 68 o wartheg ond dim ond 6 ceffyl rhyngddynt, ac un ar ddeg o anifeiliaid gwedd. Roedd yno hefyd 47 o ddefaid, ond roedd y rhan fwyaf ohonynt (20 dafad) yn eiddo i un unigolyn, sef Gwyn ap Ririt, a chanddo ef yr oedd y rhan fwyaf o’r gwartheg.

Mae eglwys Llanfihangel Bachellaeth, ar odre Carn Saethon, ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol, wedi ei chofnodi yn y 13eg ganrif, ond mae’r adeiladwaith presennol yn dyddio o’r 19eg ganrif, ond efallai ar graidd eglwys o’r ddeunawfed ganrif. Ni ellir dweud i sicrwydd mai’r lleoliad presennol yw lleoliad yr eglwys gynharach ac mae traddodiad yn cofnodi safle posibl, â’r enw ‘Cae Hen Fynwent’, 2km i’r gogledd-orllewin.

Ym mhen deheuol yr ardal gymeriad deuwn i drefgordd gaeth Wystnin, â phentrefan Bachellyn yn ymestyn i’r gors ac i’r de, a chymuned fechan Bodwrog, â dim ond dau deulu o denantiaid yn niwedd y 13eg ganrif.

Madryn a Llanbedrog
Ymddengys bod Madryn, a’i ddau bentrefan, â’i ddwy felin ei hun, Madryn a Fochras, ar un adeg yn rhydd-ddaliad yn nwylo gwelyau Wyrion Ririt ac Wyrion Heilin ond eu bod wedi eu siedu i’r Goron.

Roedd Llanbedrog yn drefgordd ganoloesol yn naliadaeth Esgob Bangor. Roedd y gymuned yn cynnwys dau wely a oedd yn cael eu dal gan 27 o deuluoedd a oedd yn trin tua 60 acer o erddi âr fel rhandir. Mae’n rhaid mai canolbwynt y gymuned oedd eglwys Pedrog Sant ar waelod y codiad tir lle mae’r pentref erbyn hyn, ac yng nghysgod tir comin Mynydd Tir-y-cwmwd. Roedd yr eglwys yn bodoli yn y 13eg ganrif ac ymestynnwyd ei phen dwyreiniol yn y 15fed ganrif neu’r 16eg ganrif. Mae’r waliau wedi cael eu hatgyweirio a’u hailadeiladu’n helaeth ac mae ffenestri eraill wedi eu gosod yn lle’r rhai gwreiddiol. Er hynny, mae modd adnabod y gwaith cynharach o hyd. Cwblhawyd gwaith atgyweirio ym 1865 ac ychwanegwyd twr de-orllewinol bryd hynny.

Mae hanes hir i frenhinllin Madryn, a honnai y gallai olrhain ei achau i Gollwyn ap Tangno, Arglwydd Eifionydd yn yr 11eg ganrif. Mae’r llinach yn ddigon clir, o ddiwedd y 14eg ganrif, i leoli Ifan ap Rhys, ym Madryn, yn nechrau’r 15fed ganrif. Roedd cyrhaeddiad cysylltiadau Madryn yn eang, ar ôl priodi i deuluoedd Castellmarch, Bryn Euryn yng Nghreuddyn, Bodfel, Plas Du a’r Wynniaid yng Nghonwy ac yn y blaen. Roedd Thomas Madryn, Uchel Siryf Caernarfon ym 1586-7, yn un o’r wyth gwr o Lyn, ynghyd â Hugh Gwyn Bodfel, a gafodd eu cadw yn Nhwr Llundain am wrthwynebu cynlluniau Dudley, Iarll Caerlyr, ar gyfer Coedwig Eryri. Llwyddodd hen-daid Thomas, Cyrnol Thomas Madryn, brenhinwr yn nwfn ei galon yn ystod y Rhyfel Cartref ond a oedd yn ochri’n ddoeth â’r Senedd, i oroesi, er bod drylliau wedi cael eu darganfod ynghudd yn ei gartref (nid ef oedd yr unig un) ar ôl i’r elyniaeth ddod i ben. Daeth yr ystâd yn eiddo i’w ail fab, William, ar ôl i’w frawd Thomas farw heb etifedd, ac fe’i gwerthwyd i gyfreithiwr cyfoethog o’r enw Owen Hughes o
Fiwmares.

Roedd Geoffrey Parry o Rydolion, yn Neigwl, yn un o gyfoedion Cyrnol Thomas Madryn ac, i’r gwrthwyneb, yn Biwritan pybyr. Priododd Parry â Margaret Hughes a ddaeth ag etifeddiaeth Cefn Llanfair a Wern Fawr gyda hi, dau eiddo pwysig yn agos at ei gilydd ar dir wedi ei adennill o’r Gors Geirch. Oherwydd ei ddaliadau Piwritanaidd enwodd Geoffrey ei fab yn Love-God Parry a chydiodd yr enw. Bu Love-God a’i fab, Love Parry, yn byw yn y Wern Fawr am gyfnod. Fodd bynnag, daeth Pennarth yn eiddo i’r teulu Parry drwy ail wraig Love-God. Priododd Love Parry y trydydd, a oedd yn byw ym Mhennarth, â Sidney, merch y Parch Robert Lewis, Canghellor Bangor. Sidney oedd gor-wyres Jane, chwaer Owen Hughes o Fiwmares a brynodd ystâd Madryn ar ddiwedd yr 17eg ganrif. Daeth Madryn i law Love Parry drwy etifeddiaeth ei wraig a symudodd i Fadryn. Byddai ei ferch, Margaret, yn etifeddu Madryn ynghyd â Chefn Llanfair, Wern Fawr a Rhydolion. Priododd ei chefnder, Thomas Parry Jones (ei dad ef oedd John Jones, Llwyn Onn, Dinbych), a ychwanegodd Parry at ei enw – Thomas Parry Jones Parry. Daeth ef â bywyd newydd i’r ystâd ar adeg pan oedd bri mawr ar ‘welliannau’.

Un o fentrau T P J Parry oedd codi nifer o fythynnod newydd mewn pentrefan o’r enw Pig Street, yn dilyn y cynigion i gau tir comin cyfagos ym Mynytho. Amcangyfrifodd Hyde Hall fod un ar bymtheg o dai newydd wedi cael eu hadeiladu yn y cyffiniau, rhwng 1800 a 1810, er ei fod yn gresynu bod cymaint o ddefnydd yn cael ei wneud o wellt i doi tai mewn ardal a ddylai fod yn manteisio ar fewnforio llechi. Er hynny, tyfodd datblygiad Pig Street i fod yn graidd y pentref a ddechreuodd dyfu ar yr esgair uwchben y canolbwynt cynharach yn eglwys Pedrog Sant ger y traeth yn y 19eg ganrif (gweler Cymeriad Hanesyddol y Dirwedd isod). Datblygodd Llanbedrog yn gyrchfan i ymwelwyr yn nechrau’r ugeinfed ganrif.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Tirwedd donnog a nentydd yn cario dwr ohoni i’r Gors Geirch â chefndir dramatig o fynyddoedd igneaidd ar yr ochr orllewinol.
• Ffermdai sylweddol a sefydledig ar gyrion y Gors Geirch sydd â chysylltiadau â theuluoedd bonedd yr 17eg ganrif.
• Datblygiad Llanbedrog o gymuned bysgota i bentref yn seiliedig ar chwareli cerrig yn niwedd y 19eg ganrif a thwristiaeth yn yr 20fed ganrif; yn cadw nifer o nodweddion y trawsnewidiad gan gynnwys bythynnod unllawr o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif a thai deulawr.
• Datblygiad Llanbedrog fel cyrchfan i ymwelwyr, yn seiliedig ar y morlin o amgylch Plas Glyn y Weddw a’i gysylltiadau â thref gyfagos Pwllheli.
• Ystâd Madryn â’i gwreiddiau hynafol, a’i chysylltiad â datblygiad Llanbedrog ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Mae’r ardal gymeriad hon yn ffinio â llethrau serthach y mewnwthiad igneaidd o Garn Fadryn i Saethon, Carneddol, Foel Fawr a Mynydd Tir-y-cwmwd ar yr ochrau gorllewinol a de-orllewinol, â thir corsiog isel y Gors Geirch ar yr ochr ddwyreiniol, ac ag Edern a Morfa Nefyn ar yr ochr ogleddol. Mae’r tir yn gogwyddo o’r de-orllewin i’r gogledd-ddwyrain, gan ostwng o 100/150m i 30m uwchlaw’r seilnod ordnans yn y Gors Geirch. Mae nifer o nentydd yn draenio o’r tir uchel i lawr i’r gors gan greu tirwedd donnog.

Mae’r tir yn gostwng o’r tir uchel yng ngorllewin yr ardal i’r Gors Geirch yn y dwyrain. Mae’r arwyneb yn donnog ac mae nifer o nentydd yn llifo drwyddo gan ddraenio i’r cyfeiriad hwnnw. Yma ac acw, lle mae craig galetach yn brigo, mae ceunentydd yn cael eu ffurfio, er enghraifft yn Nant y Gledrydd ym Madryn. Mae amlinelliad Carn Fadryn, Carn Bach, Carn Saethon, Carneddol a Foel Fawr yn rhoi cefndir dramatig i’r ardal gymeriad.

Mae’r caeau’n fawr ar y cyfan ac mae’r terfynau’n aml yn rheolaidd, ac eithrio yn yr ardaloedd sy’n agos at y ffermydd gwasgaredig sydd i’w gweld yma ac acw yn y dirwedd, ac mewn ardaloedd o dir corsiog gwlyb lle mae eu natur anhydrin yn cadw terfynau lleiniau afreolaidd llai o gyfnod cynharach. Mae’r caeau ger pentref Llanbedrog hefyd yn fach ac afreolaidd ac mae patrymau troellog gerddi âr cynharach i’w gweld o hyd yn rhai ohonynt.

Cloddiau yw’r rhan fwyaf o’r terfynau yn yr ardal hon ac eithrio lle mae’r creigiau caled yn brigo i’r wyneb, er enghraifft yn y Garn Bach, lle gwelir waliau cerrig sych ar ben cloddiau cynharach. Yn aml iawn mae eithin yn tyfu ar y cloddiau neu mae ffens wedi ei gosod arnynt gan ddefnyddio pyst modern a weiren fochyn.

Mae nifer o ffermdai sylweddol i’w gweld yn yr ardal. Mae Bodgadle wedi ei gofnodi mor gynnar â’r 15fed ganrif. Mae’r ty presennol, o rwbel di-gwrs yn dy deulawr. Mae ei graidd yn deillio o ddechrau’r 17eg ganrif ac mae ganddo risiau cerrig troellog, ger y lle tân, yn nhrwch y wal dalcen orllewinol. Saif Ty’n y Coed, ty deulawr o’r 18fed ganrif, ar gyrion y gors, i’r gogledd-orllewin o Fodgadle. Unwaith eto, mae’r ty hwn wedi’i adeiladu â rwbel, mewn bras gyrsiau, â chlogfeini’n sylfaen iddo. Mae Meillionen, i’r de-ddwyrain o eglwys Ceidio yn ffermdy sylweddol arall â nodweddion o’r 17eg ganrif. Mae Penhyddgan, yng Ngheidio, yn agos at ymyl y gors yng nghysgod Garn Boduan. Mae hwn yn dy pwysig o glogfeini mewn bras gyrsiau, â chonglfeini mawr, wedi ei adeiladu ar ddau lawr, ac yn dyddio o ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg ganrif. Mae twr grisiau ymestynnol ar yr ochr ddwyreiniol a drws yn y wal ddeheuol sy’n darparu mynediad i’r ddau lawr. Mae ffliwiau’r simnai ym mhob talcen o fewn trwch y waliau, ac mae cyrn brics tal ar ben y simneiau. Mae Wern Fawr, i’r gogledd o Lanbedrog, ac ar dir wedi ei adennill o’r amgylchedd corsiog, wedi ei gynnwys yn ardal gymeriad y Gors Geirch. Mae gan y ty deulawr nifer o nodweddion o’r 16eg ganrif. Mae’r ty hwn, a’r tai eraill y cyfeirir atynt, i gyd ar gwr y darn corsiog o ffen yn y Gors Geirch.

Roedd ystâd Madryn cyn gadarned ag unrhyw ystâd yn yr ardal hon. Nid yw’r ty hynafol yn bodoli heddiw ac ni wyddom ddim am ei gymeriad. Goroesodd porthdy o’r 17eg ganrif pan gliriwyd yr hen dy i wneud lle ar gyfer ehangle neo-Gothig, ffug-farnwrol, a adeiladwyd rywbryd ar ôl i T P Jones Parry gyrraedd Madryn a’i alw’n gastell Madryn. Dymchwelwyd y castell yn y 1960au. Mae’r porthdy i’w weld o hyd, er ei fod yn adfeilion. Mae gan ystlysbyst a physt y ffenestri fowldinau chwarter crwn a bargodfeini.

Llanbedrog
Llanbedrog yw’r unig bentref yn yr ardal gymeriad. Ar droad yr 21ain ganrif mae’r pentref yn gyrchfan i ymwelwyr, yn bennaf oherwydd y traeth cysgodol a’r cyfleoedd i hwylio, pysgota a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored. Mae nifer o feysydd gwersylla a charafanio a chalets yn yr ardal. Mae sawl agwedd i gymeriad Llanbedrog, fodd bynnag, ac mae pob un yn amlwg yn y dirwedd bresennol.

Erbyn 1840 roedd datblygiad Jones Parry yn Pig Street wedi tyfu i tua deg ar hugain o adeiladau; tai a dau gapel ar ochr ddeheuol yr allt i fyny i Fynytho. Tyfodd y rhan uchaf hon o Lanbedrog yn araf yn ystod y deugain mlynedd nesaf. Erbyn y 1880au roedd tai teras wedi eu hadeiladu ym mhen gorllewinol Stryd Pedrog, ar ochr ogleddol y ffordd; ailadeiladwyd capel y Methodistiaid Calfinaidd (Peniel) ym 1866, ynghyd â thy capel sylweddol gerllaw ac ymunwyd ag ef mewn lleoliad uchel ar graig Pen-y-Bryn gan gapel y Wesleaid, Reheboth, ym 1871 a Chapel yr Annibynwyr, Seion, ym 1883 ychydig i lawr y ffordd. Roedd pob un o’r tri chapel wedi ei sefydlu cyn hynny, ond nid o reidrwydd ar yr un safle. Sefydlwyd capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanbedrog yn gynnar iawn ym 1791; sefydlwyd capel y Wesleaid ym 1832 a’r Annibynwyr cyn 1840.

Safai ty tafarn y Bachellyn Arms a’r Ship Inn ym mhen gorllewinol Stryd Pedrog, ger yr hen felin wynt, oedd yn segur erbyn hynny. Ar wahân i’r datblygiad cymharol newydd o 18 o dai ym Madryn Terrace ar ochr ogleddol y ffordd a chlofan bychan yn cynnwys capel, ty capel a phedwar ty teras yng Nghapel Seion, nid oedd adeiladau eraill ar yr ochr ogleddol cyn y rhes fach o fythynnod unllawr a safai ar gyffordd y ffordd sy’n arwain i lawr yr allt heibio Bryn y Gro at eglwys Llanbedrog. Roedd yr Hen Efail ar y gyffordd honno.

Bryd hyn, y prif alwedigaethau yn y plwyf oedd ffermio, llafurio a darparu gwasanaeth domestig, ar y ffermydd ac yn nhai pobl. Fodd bynnag, roedd diwydiant chwareli llechi a gwneud sets wedi datblygu, gyda chreigiau caled yn cael eu tynnu o bentir Mynydd Tir-y-cwmwd. Roedd cyfran sylweddol o boblogaeth y pentref yn gweithio yn y chwareli llechi, gan gynnwys pobl a oedd wedi symud yno o Nefyn a Phenmaenmawr, gan ddod â’u profiad a’u harbenigedd gyda hwy.

Adeiladwyd Plas Glyn y Weddw gan y pensaer o Fangor, Henry Kennedy, fel ty agweddi i’r Fonesig Elizabeth Love Jones Parry yn y 1850au. Mae’r ty, y tu allan a’r tu mewn, mewn arddull Gothig-Fictoraidd. Mae’r waliau o gerrig chwarel brown wedi eu sgwario, mewn cyrsiau afreolaidd, â chonglfeini, fframiau ffenestri a physt ffenestri tywodfaen. Mae’r cyntedd yn agored i do trawst gordd cantilifer. Mae grisiau Jacobeaidd canolog mawr yn arwain i oriel llawr cyntaf. Dyluniwyd yr adeilad i arddangos gwaith celf ac ym 1896 gwerthwyd y neuadd i entrepreneur o Gaerdydd o’r enw Solomon Andrews, a’i cadwodd fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau diwylliannol, gan gynnwys celfyddyd. Mae’r plas yn dal i gael ei ddefnyddio fel oriel ac mae’n rhoi cryn gymeriad i gyd-destun eglwys Pedrog Sant, bythynnod pysgotwyr unllawr darluniadol ‘Foxhole’ a’r ‘Cottage’, adeilad o’r 18fed ganrif yr ychwanegwyd ato ac a ddatblygwyd ar ddechrau’r 19eg ganrif; y cyfan o fewn y dirwedd gyfyngedig rhwng y glannau a gwddf pentir Mynydd Tir-y-cwmwd. Erbyn y 1920au nid oedd rhan uchaf Llanbedrog wedi newid llawer. Bu rhagor o ddatblygu ar y gyffordd yng ngwaelod yr allt lle saif tafarndy Glyn y Weddw Arms.

Rhwng 1896 a 1927 roedd tramffordd ceffylau’n cario ymwelwyr o Bwllheli i Lanbedrog. Roedd Pwllheli a chyrchfannau ymhellach i’r de, i gyfeiriad Llanbedrog ac Abersoch, yn dechrau gweld egin diwydiant ymwelwyr yn blaguro. Erbyn diwedd yr 20fed ganrif roedd ystadau tai newydd wedi eu codi yn Nhy’n Pwll ac ar hyd Lôn Pin, hen ffordd heibio Henllys ac ymlaen i Wern Fawr, i’r gogledd-orllewin o Ffordd Pedrog. Mae mwy o dai wedi eu codi, i’r gogledd o Ffordd Pedrog, bob ochr i Gapel Seion ac mewn dwy ystâd dai yn yr ongl rhwng Ffordd Pedrog a’r ffordd sy’n arwain i lawr at Glyn y Weddw Arms a’r eglwys ac, ymhellach i’r dwyrain ar esgair y tu draw i Fryn y Gro. Erbyn hyn mae tua 200 o dai yn rhan uchaf y pentref, i’r gogledd o Glyn y Weddw Arms a thros 100 yn rhagor ar y tir is ger glan y môr ac i’r gogledd-orllewin o’r eglwys. Mae llawer o’r tai yn fyngalos mawr â garejis ynghlwm wrthynt, ac mae eraill, a godwyd ychydig yn gynharach, yn adeiladau deulawr. Er hyn, mae yma ystod eclectig iawn o dai ac, yn fwyaf arbennig, mae hen bentref ‘Pig Street’ yn cadw digon o gymeriad i fod yn ddiddorol ac i allu dangos hanes ei ddatblygiad cynnar.

Mae rhai o’r tai cynharaf yn rhan uchaf y pentref (Pig Street) yn adeiladau unllawr, isel, er enghraifft yn Nhy’n Refail, safle’r hen efail, lle mae pedwar bwthyn yn ffurfio teras, a bwthyn arall wedi ei ychwanegu atynt yn y pen dwyreiniol. Mae’r bondo’n disgyn i uchder y drws, ac mae’r waliau wedi eu rendro, ac eithrio un lle mae’n amlwg eu bod wedi eu hadeiladu â rwbel ar hap. Saif bythynnod tebyg, Gwynant a Gernant, 50m oddi wrth y ffordd, i lawr llwybr sy’n croesi nant fechan. Mae’n debyg bod y rhain, a’r grwp yn Nhy’n Refail, yn dai to gwellt ar un adeg (er mai to llechi sydd ganddynt heddiw). Yma, wrth weld y bythynnod hyn â’u toeau gwellt, y gresynodd Hyde Hall na fyddai’r bobl yn barod i fewnforio llechi i doi’r tai.

Mae Ty Isaf yn dy deulawr sylweddol â lle tân a simneiau ym mhob talcen. Mae’r echelin hir ar ongl sgwâr i’r stryd ac mae adeilad unllawr ynghlwm wrth y talcen deheuol, yn dilyn yr un llinell â’r prif dy. Mae’r ty wedi ei doi â llechi; haearn rhychiog yw to’r rhandy. Mae’n bosibl bod y grwp ar un adeg yn ffermdy bychan o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif. Mae’r waliau i gyd wedi eu rendro. Yn 1861 roedd saer coed trigain oed o’r enw John Parry yn byw yn y ty hwn gyda’i wraig a’i dri phlentyn. Roedd yn dal i fyw yno ugain mlynedd yn ddiweddarach.

Mae ardal Pen y Bryn yn acropolis fechan o demlau. Saif Capel Peniel 35m oddi wrth y ffordd ar godiad tir uwchlaw blaengwrt agored. Roedd y blaengwrt gwreiddiol yn niwedd y 19eg ganrif yn fwy caeëdig nag ydyw heddiw, gydag adeileddau wedi eu lleoli ar yr ochr ogleddol. Mae’r capel yn fawr ac mae ty capel sylweddol yn gysylltiedig ag ef. Ychwanegiad diweddarach yw’r ysgoldy ar yr ochr orllewinol. Yn uwch i fyny’r allt, ar graig Pen y Bryn, saif Rehoboth – y Capel Wesla a’i dy capel. Ar waelod yr allt hon o gapeli saif grwp o adeiladau ar hyd Ffordd Pedrog a chydag ochr y lôn i Ben y Bryn. Mae’n ddigon posibl bod y tai hyn wedi eu hadeiladu yn negawdau cynnar y 19eg ganrif. Mae yma ddau adeilad deulawr mawr. Mae gan yr un sydd ar y gornel wyneb ffasedog lle mae’r ddwy wal ochr yn cyfarfod. Mae’r ddau adeilad wedi eu rendro ac mae’r ffenestri’n fodern. Mae gan hanner isaf tu allan yr eiddo ar y gornel encilfeydd panelog sythlin mewn gwaith plastr cerfwedd isel. Dangosir adeiladau yn y lleoliad hwn yn arolwg degwm Llanbedrog yn y 1830au a gallent fod yn adeiladau masnachol. Mae rhes o bum bwthyn deulawr, llawer llai na’r tai ar y gornel, yn ymestyn tua’r dwyrain ar hyd Ffordd Pedrog.

Yr ochr arall i’r brif ffordd a thua’r gorllewin mae deunaw o dai teras deulawr o’r cyfnod Fictoraidd diweddar â lleiniau hir a chul yn eu cefnau. Mae rhai wedi eu rendro â gro chwipio ond lle mae’r waliau yn y golwg gellir gweld eu bod o rwbel chwarel ar hap â chyrn simnai brics, weithiau wedi eu haddurno â briciau lliw am yn ail. Mae’r rhan fwyaf o’r ffenestri a’r drysau’n fodern. Bythynnod gweithwyr cyfnod y chwareli cerrig a’r gwaith sets yn Llanbedrog oedd y rhain a bu nifer o setswyr yn byw ynddynt. Ym 1881, er enghraifft, roedd James Ginns a’i wraig a’i fab, yn lletya gyda Robert Humphreys a’i wraig yn 2 Madryn Terrace. Roedd James, a’i fab, a elwid hefyd yn James, a Robert i gyd yn gweithio yn y chwareli fel setswyr.

Cynnyrch chwarter olaf y 19eg ganrif yw Holton. Nid yw’r ffasâd yn fawreddog er gwaethaf trefniant cymesur yr agoriadau, y ffenestri crwm a’r cyntedd a’r ffenestr fwaog anarferol uwchben y drws. Mae’r gwaith cerrig, fodd bynnag, yn anarferol, gyda cherrig chwarel mewn cyrsiau, o faint afreolaidd fwy neu lai a ffug gerrig llanw, ag amnaid at Blas Glyn y Weddw. Mae’r ty wedi ei leoli 40m oddi wrth ochr y ffordd ac mae gardd addurniadol o’i flaen. Charles Coldicot, Ysw. a’i wraig a’i ddau blentyn oedd yn byw yn Holton ym 1881.

Daeth dechrau’r ugeinfed ganrif â rhywfaint o newidiadau, sy’n adlewyrchu’r math digon tawel o wyliau a oedd gan Lanbedrog i’w gynnig. Un ty oedd Bwthyn a Dwyfor yn wreiddiol – Swyddfa’r Post, â’i ffasâd addurnedig a oedd yn briodol atyniadol.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol