English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 14 Cors Geirch


Rhyd y Clafdy


Wern Fawr

Cefndir hanesyddol

Mae dau loc amddiffynnol posibl o’r cyfnod cynhanesyddol, un bob ochr i’r gors, y naill ar dir ychydig yn uwch ym Mwlch Gwyn, 600m i’r de o Rydyclafdy, a’r llall ar esgair sy’n edrych dros y gors yn Nhyddyn Bychan (PRN 43382, 4381).

Yn ystod y canol oesoedd adwaenid y gors fel Ystrad Geirch neu Nant Geirch. Enwau eraill oedd y rhain ar y drefgordd rydd ar ochr orllewinol y ffen. Roedd gan chwe gwely a oedd yn ddisgynyddion i Dywrig dir ac eiddo yn Ystradgeirch, ynghyd ag etifeddion gwely Wyrion Eigion a nifer o aelodau o dylwyth Cenythlin yn y 14eg ganrif. Roedd gan rydd-ddeiliaid gwely Dywrig ganolbwynt penodol yn Ystrad Geirch â lleoliad daearyddol yn ymestyn ar draws y gors o Fodfel i Langian. Roedd eu melinau yn Werthyr, i’r de o Nanhoron, a Kirgh (?Ceirch, yng nghyffiniau Rhydyclafdy efallai). Mae prisiadau o’r 13eg ganrif yn cofnodi 18 o deuluoedd a oedd yn denantiaid yn Ystrad Geirch, yn meddu ar 187 o wartheg, 24 o geffylau, 30 o ddefaid, 39 o anifeiliaid gwedd, a chanddynt y potensial i gynhyrchu 67 crynnog o flawd a 14 crynnog o rawn.

Roedd rhan ddeheuol yr ardal hon yn cael ei hanheddu, yn rhannol, gan drefgordd gaeth Wystnyn a phentrefan Bachellyn, ar y gorlifdir, ychydig i’r gogledd o Lanbedrog. Roedd dwy ran o dair o Fachellyn wedi ei ryddfreinio, drwy gonsesiwn cyn Dywysog Cymru. Roedd y rhan arall, a gweddill y drefgordd, yn dal yn gaeth.

Ym mhen gorllewinol y gors arfordirol roedd trefgorddau canoloesol Penyberth a Phenrhos. Roedd Penrhos yn un o drefgorddau caeth Esgob Bangor, ac roedd yno 22 tenant mewn dau wely, yn dal tua 60 acer o dir âr a oedd yn cael ei amaethu ar y cyd. Roedd Penyberth, â’i ganolbwynt yn nhroad afon Geirch, heb fod ymhell, tua’r gorllewin. Trefgordd gaeth fechan oedd Penyberth a saith teulu ar y mwyaf oedd ag unrhyw eiddo symudol sylweddol yno. Er hynny, erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd Penyberth yn ffermio 300 acer. Rhyngddynt, roedd y ddwy drefgordd ganoloesol hyn yn dal 42 o wartheg, 10 o geffylau a 7 anifail gwedd. Roedd defaid hefyd ym Mhenyberth ac roeddent yn cynaeafu ac yn malu ceirch, gwenith a rhywfaint o haidd. Cyn i’r llafur a oedd yn ddyledus ganddynt gael ei gyfnewid am arian, roedd yn arferol i’r tenantiaid hyn gyflawni gwaith ym maenor y cyn Dywysog ym Mhwllheli a gweithio yn y caeau yn ystod cynhaeaf yr hydref a llyfnu yn ystod y Grawys. Roeddent hefyd yn nôl a chario ac yn gwneud gwaith atgyweirio i’r felin ddwr a oedd yn malu yd. Yn ychwanegol at diroedd y gwely, roedd 40 acer o ddemên brenhinol Pwllheli yn y lle hwnnw. Mae enw pentref presennol Rhydyclafdy yn cynnwys y cysyniad o ‘glafdy’ neu dy gwahangleifion. Mae tai gwahangleifion o’r fath weithiau’n cael eu cofnodi mewn cysylltiad â maerdrefi cymudol brenhinol, fel arfer ar gyrion y faerdref, ac nid yn ei chanol. Mae’n bosibl, ond nid yn bendant, bod y cyfeiriad hwn at ‘glafdy’ yn dangos bod sefydliad o’r fath yn y cyffiniau.

I’r gogledd o Benrhos a Phenyberth roedd gafael rhydd bychan Gellidara, oedd yn gysylltiedig ag Elernion yng nghantref Arfon, beth pellter i’r gogledd.

Yn nechrau’r 19eg ganrif, cafodd tua dwy ran o dair o’r morlin rhwng Llanbedrog a Phwllheli ei gau, ei ddraenio a’i adennill.

Ym 1936 penderfynwyd sefydlu ysgol fomio i’r llu awyr ym Mhenyberth, ar y llwyfandir isel yn y tro yn yr afon lle mae afon Penrhos yn ymuno ag afon Geirch. Roedd gwrthwynebiad cryf, yn enwedig gan fod ty Penyberth, a oedd yn dyddio o’r 16eg ganrif, yn cael ei ystyried gan bobl fel Saunders Lewis fel un o gadarnleoedd yr iaith a’r diwylliant Cymreig. Ar ôl i’r gwaith ddechrau, bu ymgais i losgi’r ysgol fomio. Er hynny, agorwyd y ganolfan yn Chwefror 1937. Yn ystod Gorffennaf a Hydref 1940 ymosodwyd ar y ganolfan chwe gwaith gan y Luftwaffe. O ganlyniad, daethpwyd â Sgwadron 312 (Tsieciaid) i amddiffyn Penrhos. Roedd maes awyr arall (RAF Hell’s Mouth) wedi ei sefydlu’n barod fel maes glanio atgyfnerthol i Benrhos, bum milltir i’r de a chafodd ei uwchraddio ar ôl ymosodiadau 1940. Roedd RAF Penrhos yn dal i fodoli tan Hydref 1946, gan ddarparu arfogaeth, gwyliadwriaeth o’r awyr, hyfforddiant bomio a gynyddiaeth.

Mae ugain acer o safle Penrhos bellach yn eiddo i Gymdeithas Dai’r Pwyliaid, yn dilyn yr angen i gartrefu milwyr o Ddwyrain Ewrop a oedd dan awdurdod Prydain ar ddiwedd y rhyfel, ar ôl i’r ganolfan gael ei phrydlesu ac yna’i gwerthu gan Weinyddiaeth yr Awyr.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Ardal o ffen alcalïaidd, sy’n bwysig oherwydd ei harwyddocâd amgylcheddol.
• Arwyddion clir o lociau ac adennill tir ar hyd yr ymyl arfordirol, a lle pwysig i groesi’r ffeniau ar sarnau a phontydd cerrig ym Mhenrhos a Rhydyclafdy.

Corstir isel yw’r Gors Geirch. Mae’n ymestyn o Edern yn y gogledd i forlin Bae Ceredigion, i’r dwyrain o Lanbedrog. Dynodir terfyn yr ardal gymeriad, nad yw’n union yr un fath â dynodiadau amgylcheddol y Gors Geirch, gan y gyfuchlin 30-40m sy’n ymestyn o’r de i Edern a Morfa Nefyn, gan ffinio â Cheidio, Madryn a llethrau dwyreiniol Carneddol tua’r gorllewin a chodiad tir graddol Boduan a Bodfel tua’r dwyrain. Mae hefyd yn cynnwys corsydd arfordirol Penrhos rhwng Llanbedrog a phen gorllewinol Pwllheli.

Un o brif nodweddion ardal gymeriad y Gors Geirch yw pwysigrwydd amgylcheddol y ffen alcalïaidd a’i lystyfiant, sy’n cynnwys helyg Mair, glaswellt y gweunydd, brwyn blaendwn, cyrs, corsfrwyn llym a phlanhigion prin plu’r gweunydd eiddil. Y gors hefyd yw’r unig fan yng Nghymru lle mae malwod troellog Desmoulin wedi eu cofnodi.

Er hyn, bydd gan yr hanesydd fwy o ddiddordeb yn y dirwedd, yr economi a’r cysylltiadau cymdeithasol a breninllinol syn dod ynghyd yng nghanol a de’r Gors Geirch. Mae’r rhain yn cyffwrdd â buddiannau helaeth arglwyddiaethau rhydd-ddaliadol Esgob Bangor, a maerdref gyfagos Afloegion ym Mhwllheli, gan gynnwys y posibilrwydd, yn ychwanegol at ddemên y Tywysog ym Mhenyberth, bod ‘clafdy’ neu dy gwahangleifion ger Rhydyclafdy fel ategiad maenorol.

Mae’r ardal yn wlyb a chorsiog ac ychydig o ffyrdd sy’n ei chroesi, ac eithrio ym mhen mwyaf gogleddol yr ardal ym Mhlasyngheidio ac, yn bwysig iawn, yn y de yn Rhydyclafdy lle mae pont o’r 19eg ganrif, ac ar afon Rhyd-hir, sy’n cael ei chroesi gan bont sarn ym Mhont Rhyd-hir, lle ceir melin hefyd.

Cafodd y morlin rhwng Penrhos a phen gorllewinol Pwllheli, fel y nodwyd yn yr adran Hanes, ei gau a’i ddraenio ar ddechrau’r 19eg ganrif. Mae patrwm y dirwedd hon yn nodweddiadol o’r cyfnod hwn o geisio gwella’r amgylchedd a’r dirwedd. Mae ffosydd draenio’n torri drwy’r ardal leol hon ond mae’n dal yn wlyb yn y gaeaf. Mae’r llystyfiant yn fras a garw ac mae prysgoed yn tyfu yma. Mae’r ffordd bresennol o Lanbedrog i Bwllheli, sy’n cyfateb i linell ffordd y 19eg ganrif, yn cael ei chario ar sarn uwchben y tir gwlyb ac mae waliau cerrig isel o bobtu iddi. Mae cwrs golff wedi’i greu yn y pen gorllewinol ac ar hyd yr ymyl arfordirol.

Mae hanes llwyfandir isel Penrhos yn bwysig, ac mae’n rhoi cymeriad i’r rhan hon o’r dirwedd. Yr unig gefndir canoloesol a geir i ddigwyddiadau diweddarach yw cloddiau’r caeau bychain afreolaidd ym Mhenyberth a Phenrhos, sydd â’u hamlinellau crwm achlysurol a’u dimensiynau cul yn dangos bod yma barseli o erddi âr ar un adeg. Mae tirwedd Ail Ryfel Byd canolfan y llu awyr o 1936 i 1946 i’w gweld o hyd ac wedi ei gorchuddio bellach gan y pentref a sefydlwyd ar ddiwedd y Rhyfel ar gyfer milwyr alltud o wlad Pwyl. Mae’r dimensiwn gwleidyddol sy’n gysylltiedig ag adeiladu canolfan yr awyrlu ym 1936 yn dal i gael ei gofio yng ngwleidyddiaeth Cenedlaetholwyr Cymru.

Mae fferm Crugan, ar gwr dwyreiniol Llanbedrog, yn bwysig oherwydd y nodweddion a’r adeiladau sydd wedi goroesi o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif, gan gynnwys yr ysgubor o’r 18fed ganrif. Mae Wern Fawr, ar gwr gorllewinol y gors, yn ffermdy pwysig yn hanes y boneddigion lleol. Priododd Geoffrey Parry Rhydolion â Margaret Hughes, aeres Cefn Llanfair a Wern Fawr yn yr 17eg ganrif, gan ddod â Wern Fawr yn rhan o gylch dylanwad Love-Parry, Madryn yn ddiweddarach. Mae’r ty, sy’n dyddio o’r 16eg ganrif, wedi ei adeiladu o rwbel di-gwrs ar ddau lawr ond, yn ôl pob golwg, roedd ffenestr neu ffenestri dormer yn y 18fed ganrif. Yn y ffasâd blaen mae drws bwaog pedwar canolbwynt â mowldin chwarter crwn llydan, wedi treulio’n ddrwg ar yr ystlysbyst, a mowldin capan cyfatebol. Mae agoriadau’r ffenestri (â chasmentau modern sy’n troi) yn dal ac yn gul a heb fod yn union gymesur. Mae un ffenestr wedi ei llenwi. Mae ffliwiau simnai yn nhrwch pob wal dalcen, ac mae’r cyrn yn uchel. Mae’r corn gogleddol wedi ei osod yn groes gongl.

Ar wahân i’r gymuned Bwylaidd yng Nghartref Penrhos a’r anheddiad gwasgaredig ym Mhenrhos ei hun, nid oes ond un pentref cnewyllol yn yr ardal gymeriad hon, sef Rhydyclafdy. Mae afon Geirch yn cael ei chroesi gan bont tri bwa o ddechrau’r 19eg ganrif. Yn y 19eg ganrif roedd tafarn, ‘Tu Hwnt i’r Afon’, 300m i’r dwyrain o’r bont. Roedd craidd y pentref yn glwstwr ger yr afon ac roedd gefail yn agos at y bont ar yr ochr orllewinol. Ar draws y ffordd, ar yr ochr ogleddol, roedd rhes o chwe thy deulawr a chapel mawr, mewn cyflwr da, ynghyd â thy capel, wedi ei adeiladu ym 1881. Mae adeilad yr efail i’w weld o hyd ynghyd â rhes o fythynnod deulawr cyfagos o ddechrau’r 19eg ganrif sy’n rhoi cymeriad i’r pentref. Mae’r waliau wedi eu codi o rwbel lleol a’r cyrn simnai o gerrig.

Gwelwyd rhagor o ehangu ar draws y ffordd yn Oes Fictoria. Mae’r tai teras deulawr Fictoraidd, diweddarach hyn ar yr ochr ogleddol yn amrywio o ran maint a chyfrannedd ond mae pob un wedi ei godi â waliau cerrig, o chwarel mae’n debyg, a’r rhan fwyaf wedi eu rendro, â chyrn simnai o frics. Yn ystod yr 20fed ganrif, mae’r ardal i’r de o’r ffordd, y ddwy ochr i’r afon, wedi gweld rhagor o fewnlenwi, yn fwyaf arbennig ar ffurf ystâd dai fodern, i’r de-ddwyrain o’r capel.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol