English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 13 Llannor a Boduan


Llanaelhaearn


Y Ffor


Abererch


Llwyndyrys


Bodfel

Cefndir hanesyddol

Cofnodwyd siambr gladdu o’r cyfnod Neolithig ar fferm y Gromlech i’r de o’r Ffôr ac un arall ger Pont Pensarn ym mhen gogledd-ddwyreiniol Pwllheli (PRN 437, 438). Gwyddys am faen hir 500m i’r de-ddwyrain o Eglwys Carnguwch; un arall ym Mhencaenewydd ger afon Erch i’r gogledd o’r Ffôr ac un arall yn y Ffôr ei hun (PRN 1286, 1308, 1333). Gwyddys am ddau faen hir a oedd ar dir Tir Gwyn, 174m oddi wrth ei gilydd ar echelin gogledd-de (PRN 1553, 1534). Mae cysylltiadau angladdol eraill yn Nhir Gwyn sy’n berthnasol i’r Canol Oesoedd Cynnar. Ceir cofnod o dri chrug o’r Oes Efydd o fewn radiws o 25m ger ty Cefn Mine, 600m i’r gorllewin o afon Rhyd-hir. Gwyddys am fynwent gorfflosgi o’r un cyfnod fwy neu lai i’r de o Gefn Mine, 300m o’r crugiau (PRN 16620, 16621, 1167, 3650).

Gallai gwrthglawdd bychan, Castell Gwgan, tua 65m ar draws, fod yn lloc amddiffynnol o’r Oes Haearn ddiweddar mewn lleoliad uchel yn lleol, 160m o afon Erch, ger Pont Rhyd-goch (PRN 2256). Tan 2006 ychydig iawn a wyddid am anheddu yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar yn yr ardal hon. Fodd bynnag, yn ystod y flwyddyn honno dangosodd archwiliadau o’r awyr, a gwblhawyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, dri lloc ôl cnwd sy’n arwydd o anheddau amddiffynnol bychain yn y Ffôr, Efailnewydd a Phont Rhyd-hir. Yn dilyn y darganfyddiadau hyn cynhaliwyd arolwg geoffisegol gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Ym Mwlch y Ffordd Isa, 700m i’r gogledd-ddwyrain o’r Ffôr, nodwyd lloc crwn, 40m ar draws â chlawdd allanol anghymesur ar godiad tir bychan 60m uwchlaw’r seilnod ordnans yn union uwchben glan orllewinol afon Erch. Yng nghae’r Brenin Siôr yn Efailnewydd, ar ochr ddeheuol y pentref, dynodwyd lloc ffosog crwn, 35m ar draws, ar dir gwastad isel tua12m uwchlaw’r seilnod ordnans. Ym Mhont Rhyd-hir safai lloc deuglawdd, is-amlonglog 55m wrth 35m, ar lan ddwyreiniol afon Rhyd-hir, 170m i’r de o’r bont a’r sarn, 10m uwchlaw’r seilnod ordnans.

Mae dau loc arall wedi cael eu cofnodi ond heb gael eu harchwilio. Mae un yn ymddangos fel ôl cnwd cromlinog, yn Nhraian, rhwng Mathan Isaf a Chefn Mine, 50m uwchlaw’r seilnod ordnans. Mae’r llall, sy’n lloc unionlin, ym Mela, ger Moel y Penmaen, 80m uwchlaw’r seilnod ordnans. Mae’n bosibl bod y naill loc a’r llall yn cael eu defnyddio yn ystod y cyfnod cynhanesyddol diweddar neu’r cyfnod Brythonig-Rufeinig (PRN 1156, 4383).

Cofnodwyd aneddiadau cylchoedd cytiau i’r gogledd ac i’r dwyrain o Yoke House, ger Pwllheli ar godiad tir creigiog ar gyrion tir âr rhwng 60m ac 80m uwchlaw’r seilnod ordnans. Mae tri o’r aneddiadau hyn yn rhai cnewyllol ac mae llociau amlonglog o leiaf ddau o’r grwpiau hyn o gytiau’n awgrymu eu bod yn cael eu defnyddio yn y cyfnod Brythonig-Rufeinig (PRN 432, 433, 434, 435).

Cynrychiolir gweithgaredd o’r cyfnod canoloesol cynnar gan gysylltiadau angladdol a chrefyddol yn hytrach na thystiolaeth uniongyrchol o anheddu. Gwyddys am gerrig coffa arysgrifenedig yn dyddio o’r bumed neu’r chweched ganrif o Lanaelhaearn, Penprys a Llannor. Mae tair carreg erbyn hyn yn yr eglwys neu’r fynwent yn Llanaelhaearn. Darganfuwyd cofeb Aliortus (ALIORTUS ELMETIACO / HIC IACET) yn y 19eg ganrif mewn cae cyfagos o’r enw Gardd y Sant a oedd wedi cael ei gau yn ddiweddar er mwyn cael mwy o le i’r fynwent. Darganfuwyd ail garreg, cofeb i Melitus, wrth dorri bedd yn y fynwent. Mae’r ffaith fod un o’r cerrig wedi cael ei darganfod y tu allan i’r fynwent fel yr oedd bryd hynny, yn codi’r cwestiwn a oedd yno cyn i eglwys gael ei sefydlu ar y safle hwnnw ynteu a oedd y cyffin neu’r noddfa eglwysig wreiddiol yn fwy ar un adeg.

Yn Llannor cofnodwyd cofeb i Figulinus (FIGULINI FILI LOCULITI HIC IACIT = Yma y gorwedd Figulinus fab Loculitus) yn cael ei defnyddio fel cilbost i adwy’r fynwent yn y 19eg ganrif.

Ym Mhenprys darganfuwyd dau fedd ag ochrau cerrig yn nechrau’r 19eg ganrif, wrth ddymchwel bwthyn o’r enw Beudy’r Mynydd, ger Tir Gwyn. Roedd y beddau rhwng y ddau faen hir y cyfeiriwyd atynt eisoes ac roedd o leiaf un o’r beddau wedi ei osod ar aliniad gogledd-de, ar yr un llinell, mae’n siwr â’r ddau orthostat. Yn un o’r beddau roedd dwy garreg arysgrifenedig wedi eu hailddefnyddio fel llechfeini ochr. Roedd carreg arysgrifenedig arall wedi ei hailddefnyddio mewn lleoliad amhenodol yn y bedd arall. Yr arysgrifau ar y cofebau gwreiddiol oedd VENDESETLI (bedd VENDESETLUS = Gwynhoedl (o bosibl)) ac IOVENALI FILI ETERNI HIC IACIT (bedd Iovenalis, mab Eternus, yma y gorwedd). Yn yr ail fedd daethpwyd o hyd i gofeb a oedd wedi ei hailddefnyddio, sef cofeb Devorus (DEVORI HIC IACET). Ni allwn fod yn sicr bod y cerrig o’r bumed a’r chweched ganrif wedi eu lleoli yn agos at leoliad y beddi yn wreiddiol. Er hyn, mae’n debyg eu bod yn cynrychioli gwyr o statws uchel yn yr ardal.

Ni wyddom i sicrwydd beth yw gwreiddiau’r eglwysi sydd yn yr ardal gymeriad hon. Er hynny, roedd eglwys Llannor mewn bodolaeth erbyn diwedd y 13eg ganrif ac mae’n cael ei dynodi fel eglwys ym meddiant Clynnog erbyn canol y 14eg ganrif. Roedd eglwys Clynnog wedi bod yn eglwys glas ac, fel Llannor, roedd yn drefgordd eglwysig â phentrefannau dibynnol, Mae’n debyg bod gan Lannor wreiddiau clas hefyd. Roedd Abererch hefyd wedi bod yn gymuned glas. Yn Abererch, ym 1308, roedd gan Esgob Bangor 85 o denantiaid rhydd-ddaliadol (gweddill y claswyr).

Mae nifer o ffynhonnau sanctaidd yn yr ardal: Ffynnon Aelhaearn, Llanaelhaearn; Ffynnon Gwynedd i’r de o Lwyndyrys; Ffynnon Gadfarch, i’r de-ddwyrain o Bont Rhyd Goch a Ffynnon Cawrdaf, i’r gogledd-ddwyrain o Abererch. Roedd dewiniaeth yn cael ei hymarfer yn Ffynnon Gwynedd. Er ei bod beth pellter o eglwys y plwyf yn Abererch (3.3km) roedd dwr yn cael ei gario o’r ffynnon i’r eglwys ar gyfer bedyddiadau. Credid y gallai dwr o Ffynnon Cawrdaf wella pob clwyf. Dywedir bod Cawrdaf Sant a Chadfarch Sant yn ddau frawd (Jones 1954, 148). Mae’n bosibl bod presenoldeb ffynnon sanctaidd yn Llanaelhaearn wedi bod yn fodd i sefydlu eglwys yno (PRN 2232, 2254, 2255, 2262).

Adeiladwyd mwnt castell a gwrthglawdd ger Moelypenmaen yn niwedd yr 11eg ganrif neu’r 12fed ganrif ond nid oes unrhyw gofnod pwy â’i hadeiladodd (PRN 1532). Roedd Penmaen Beuno ym Moelypenmaen yn bentrefan yn nhrefgordd Llannor yn nechrau’r 14eg ganrif.

Mae’r rhan fwyaf o’r ardal gymeriad hon ym mhlwyfi Llannor ac Abererch a chyn drefgorddau Llannor, Abererch a rhan o Lasfryn yn Eifionydd. Roedd y trefgorddau canoloesol hyn yn rhai mawr. Roedd tenantiaid Glasfryn yn rhydd-ddeiliaid yng ngwely Wyrion David. Roedd eu tirfeddianwyr wedi ymgartrefu yng Nglasfryn ei hun, Chwilog, Cadairelwa, Llecheiddion a Phenarth. Roedd pentrefannau Llannor yn ymestyn o Bodfaelion, uwchben Penprys yn y gogledd, i Benmaen Beuno a Bodegroes ger Pwllheli yn y de ac i’r arfordir ym Mhistyll a Bodeilas. Roedd Abererch, i’r gorllewin o afon Erch, yn cynnwys 85 o denantiaid rhydd-ddaliadol mewn dau wely ag oddeutu 720 acer o dir âr a 21 o denantiaid caeth.

Bodfel a Boduan
Yn rhan ddeheuol yr ardal gymeriad hon, yn ffinio â’r Gors Geirch, roedd dwy drefgordd seciwlar bwysig, sef Boduan a Bodfel. Roedd Boduan yn y 14eg ganrif yn drefgordd gaeth yn cynnwys tir demên y cyn Dywysog yng nghwmwd Dinllaen. Roedd Bodfel, gerllaw, yn drefgordd rydd yng nghwmwd Afloegion, ac roedd ganddi ei melin ei hun. Ym 1293, ddeng mlynedd ar ôl concwest Gwynedd, aseswyd gwerth asedau symudol y trefgorddau er mwyn codi arian ar gyfer ymgyrch Albanaidd Edward I. Canfuwyd un ar hugain o denantiaid ym Modfel, ag asedau symudol a oedd yn werth mwy na 15d, (gwerth dwy ddafad neu dwy neu dair crynnog o geirch). Gyda’i gilydd, roedd y trethdalwyr hyn, un ar hugain ohonynt, yn berchen ar 70 tarw, 117 buwch a 24 ceffyl. Roedd ganddynt hefyd ddefaid a 39 anifail gwedd ac roeddent yn malu ceirch a gwenith a rhywfaint o haidd.

Daw teulu Bodfel i’r amlwg am y tro cyntaf yn y 1530au drwy John ap Madog ap Howell o Bennarth. Mae Leland yn disgrifio John fel yr un a oedd yn byw ym Modfel. Gwnaeth ei wyr, John Wyn ap Hugh, enw da i’w hun tra’n gwasanaethu John Dudley, Iarll Warwick a rhoddwyd Enlli a Chwrt, Aberdaron, yn rhodd iddo i gydnabod ei wasanaeth. Pechodd mab John Wyn, Hugh Gwyn, yn niwedd yr 16eg ganrif pan wrthwynebodd ymgais Robert Dudley, Iarll Caerlyr i atafaelu tiroedd yr honnid eu bod wedi cael eu llechfeddiannu yng nghoedwig Eryri. Ymgartrefodd ei frawd iau, Thomas Wynn, ym Moduan.

Roedd gor-wyr Hugh, Cyrnol John Bodfel, yn cefnogi’r Piwritaniaid yn wreiddiol ar ddechrau’r Rhyfel Cartref ond yn fuan wedyn newidiodd i gefnogi’r Brenhinwyr. Roedd ei wraig, fodd bynnag, yn Biwritan pybyr, ac arweiniodd gwahaniaethau athronyddol na ellid dod i gyfaddawd arnynt yn y pen draw at werthu tiroedd Bodfel yn niwedd yr 17eg ganrif. Roedd ystadau Bodfel a Boduan yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn ystod yr 17eg ganrif. Bodfel oedd yn rhagori ar y dechrau ond erbyn diwedd yr 17eg ganrif a dechrau’r 18fed ganrif roedd Boduan ar y brig. Priododd Thomas Wynn o Foduan, gor-or-or-wyr John Wyn ap Hugh Bodfel â Frances Glynne, aeres Glynllifon. Crëwyd wyr Frances, Sir Thomas Wynn, yn Farwn Newborough cyntaf ym 1776.

Llanaelhaearn
Mae eglwys a chymuned hynafol yn Llanaelhaearn. Mae canol yr eglwys yn dyddio o’r 12fed ganrif, neu efallai’r 13eg ganrif, ac mae ffenestr o’r 14eg ganrif yn nhalcen dwyreiniol y gangell. Gwnaethpwyd llawer o waith ailadeiladu yn y pen dwyreiniol yn yr 16eg ganrif neu’r 17eg ganrif pan ychwanegwyd transeptau, i’r gogledd ac i’r de. Gosodwyd ffenestri o’r cyfnod hwn yn y pen gorllewinol ac ar ochr ddeheuol y gwaith cerrig cynnar bryd hynny. Yn niwedd y 19eg ganrif adnewyddwyd yr eglwys ac ymestynnwyd y gangell a oedd yn dyddio o’r 14eg ganrif.

During the second half of the eighteenth century road improvements were being made across North Wales in response to the requirements of commerce and industry. New roads along the North Wales coast to Bangor and Caernarfon were carried south to Pwllheli, through Clynnog and Llanaelhaearn. After 1802, William Maddocks’ venture to create an Irish Sea crossing from Porthdinllaen required good communications. These were achieved via routes through Pwllheli and, further north, through Chwilog. The northernmost of these two east-west routes crossed the north-south route to Pwllheli between Bwlch y Ffordd and Plas Gwyn, creating, or certainly leading to the development of, the crossroads which came to be known as Four Crosses.

Y Ffôr
Datblygodd y Ffôr ar y groesffordd lle mae dwy ffordd dyrpeg a adeiladwyd ar ddechrau’r 19eg ganrif yn cyfarfod. Roedd llwybrau gogledd-de a gorllewin-dwyrain yn croesi ei gilydd cyn 1800 ond gwnaeth y ffyrdd tyrpeg wahaniaeth mawr. Erbyn 1840 roedd tafarn y ‘Four Crosses’, buarth stablau ac ychydig o dai ar gornel dde-ddwyreiniol y groesffordd. Roedd rhes o bedwar ty teras sylweddol ynghlwm wrth y dafarn ar ochr ddwyreiniol ffordd Pwllheli ac maent yn ddatblygiad o’r un cyfnod. Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif roedd rhywfaint o lenwi wedi digwydd yn y gornel dde-ddwyreiniol, a allai fod wedi cynnwys rhes o ddeg ty teras deulawr llai ar ffordd Chwilog. Roedd mwy o ddatblygu wedi digwydd yng nghorneli gogledd-orllewinol a gogledd-ddwyreiniol y groesffordd, gan gynnwys adeiladu capel Methodistiaid Calfinaidd Ebenezer ar y groesffordd, gefail gerllaw a rhes o tua dwsin o dai ar ochr orllewinol ffyrdd Llanaelhaearn a Chwilog, ynghyd â thy tafarn a chapel arall (Capel Annibynwyr, Salem).

Erbyn heddiw mae’r datblygiad ochr ffordd gwreiddiol wedi ehangu i gymuned breswyl o faint cymedrol â ffyrdd yn arwain i ardaloedd cyflogaeth. Yn y 1830au mae’n bosibl bod dwsin o dai yn agos at dafarn y ‘Four Crosses’. Erbyn y 1880au, roedd y pentref wedi ehangu i tua 50 o dai, ynghyd â dau gapel, tafarn y ‘Four Crosses’, tafarn arall, gefail a swyddfa bost. Ar ddechrau’r 21ain ganrif mae yno 160 o dai, gan gynnwys siop leol, garej ochr ffordd, ffatri, warws, siop cyfarpar amaethyddol a dwy ysgol.

Abererch
Roedd Abererch yn bur sicr yn gymuned glas hynafol a oedd wedi dod yn un o ddaliadau Esgob Bangor erbyn dechrau’r 14eg ganrif. Roedd yno lawer o dir ond roedd canolbwynt y gymuned, yn ysbrydol, os nad yn ddaearyddol, ar droad afon Erch ger ei haber. Mae’r cofnod cyntaf am eglwys Cawrdaf Sant yn dyddio o’r 13eg ganrif. Mae rhan gynharaf yr eglwys bresennol ym mhen gorllewinol canol yr eglwys. Ychwanegwyd pedair cilfach arall at ganol yr eglwys yn niwedd y 15fed ganrif i’w hymestyn tua’r dwyrain ac yn ystod y ganrif ddilynol ychwanegwyd eil ogleddol a oedd yn cysylltu â chanol yr eglwys drwy arcêd o fwâu pedwar canolbwynt o’r 16eg ganrif. Mae’r to’n cynnwys ugain o gyplau trawstiau croes â chleddau bwaog a phwyslathau ar ogwydd. Mae’r saith cyntaf o ben gorllewinol canol yr eglwys yn dyddio o’r 14eg ganrif neu’r 15fed ganrif; mae’r gweddill yn dyddio o’r 16eg ganrif, ac yn gysylltiedig ag ehangu’r eglwys. Gosodwyd ffenestr fawr arddull sythlin o’r 16eg ganrif yn nhalcen dwyreiniol canol yr eglwys i oleuo’r gangell.

Yn y 1830au roedd Abererch yn cynnwys tua 30 i 40 o dai, wedi eu clystyru ym mhen gorllewinol y fynwent ac yn ymestyn ar hyd y brif stryd, ar ochr ogleddol y fynwent, o’r eglwys i Bont Abererch. Roedd melin wrth yr afon ar yr ochr orllewinol. Ychydig iawn o ehangu oedd wedi digwydd erbyn diwedd y 19eg ganrif. Roedd capel Methodistiaid Calfinaidd wedi ei adeiladu eisoes, ac ychwanegwyd capel Annibynwyr Ebenezer ym 1868, ger adwy orllewinol yr eglwys. Erbyn yr 21ain ganrif, fodd bynnag, mae 70 o dai wedi eu hychwanegu mewn ystadau dros y bont yn
Ger-y-Bont a Lôn Glen Elen; 20 arall ger yr hen felin yd a chwech yn Nhan yr Eglwys, ger y fynwent.

Llannor
Mae eglwys Llannor yn fawr (Llannor = Llan Fawr), ond mae’n ymddangos bod y pentref wedi bod yn gymharol fach erioed. Arwyddocâd eglwys Llannor yw ei bod yn darparu symbol a chanolbwynt cyd-destunol yn y dirwedd i’w thenantiaid a’i heiddo mewn ardal eang yn y canol oesoedd er eu bod yn cael eu dal yn y pen draw gan eglwys Clynnog Fawr. Mewn geiriau eraill, dyma dirwedd daliadaeth eglwysig fel y’i gwelid o bersbectif cymunedau clas lled-fynachaidd.

Mae’r pentref yn glwstwr o amgylch yr eglwys. Mae’r eglwys wedi ei chysegru i’r Groes Sanctaidd, sy’n awgrymu o bosibl nad yw’r eglwys wedi bod yn gysylltiedig â Chlynnog erioed. Mae canol yr eglwys yn hir, ac nid oes rhaniad adeileddol i wahanu’r gangell. Mae’n debyg ei bod yn dyddio o’r 13eg ganrif. Ychwanegwyd twr yn y pen gorllewinol yn y 15fed ganrif neu’r 16eg ganrif.

Mae’r fynwent yn gromlinog. Mae ei hochr orllewinol a’i hochr ddeheuol ar ochr ffordd, ac mae croesffordd groesgam ar ei therfyn de-orllewinol. Yn y 1830au roedd tua 20 o dai yn y pentref, y rhan fwyaf ar ochr y ffordd ynghlwm wrth leiniau o erddi hir a chul. Nid oedd y pentref wedi tyfu prin ddim erbyn y 1880au. Erbyn heddiw mae tua 50 o dai yn y pentref, y rhan fwyaf o ganlyniad i ddatblygu ystâd dai fechan ar ochr ddwyreiniol y pentref ac i’r gogledd-orllewin o’r eglwys. Mae llawer o denementau dechrau’r 19eg ganrif, a oedd i’w gweld ar fap Arolwg y Degwm, wedi diflannu.

Efailnewydd
Mae Efailnewydd mewn lleoliad lle roedd hen lwybrau’n cydgyfarfod. Defnyddid y ffyrdd hyn gan borthmyn a oedd yn gyrru gwartheg o dde Llyn. Roedd ffyrdd y porthmyn yn mynd drwy Sarn, drwy Fotwnnog ac o Langian a Llanengan, gan groesi’r Gors Geirch yn Rhydyclafdy, neu heb fod ymhell oddi yno, i gyrraedd Efailnewydd. Yma, yn yr efail gellid pedoli’r gwartheg i arbed rhywfaint ar eu carnau ar y daith hir i farchnadoedd Lloegr.

Roedd 16 neu 17 o dai yn Efailnewydd yn y 1830au, pob un bron i’r gorllewin o ffordd Pwllheli-Nefyn. Gellir adnabod y tenementau cynnar drwy’r lleiniau hir a chul sydd yng nghefn y tai. Mae’r tai teras deulawr o bobtu ffordd Rhydyclafdy yn dyddio o’r cyfnod Fictoraidd diweddarach. Mae bythynnod unllawr o’r 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif ar gornel ddeheuol y groesffordd, a rhai eraill ar yr ochr ogleddol. Saif hen dafarndy mawr y Farmer’s Arms gyferbyn â hwy, gan feddiannu’r gornel gyfan. Safai yno ar ei ben ei hun yn nechrau’r 19eg ganrif; mae tai diweddarach wedi eu hadeiladu yno erbyn heddiw. Erbyn chwarter olaf y 19eg ganrif roedd 24 o deuluoedd yn Efailnewydd; roedd pedwar adeilad heb neb yn byw ynddynt. Ar ddechrau’r 21ain ganrif mae tua 115 o dai yn Efailnewydd ac mae’r rhan fwyaf o’r datblygiad preswyl i’r de ac i’r dwyrain o’r pentref.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Tirwedd amaethyddol, yn cynnwys tir pori gan mwyaf erbyn hyn, gyda ffermydd gwasgaredig, ac afonydd a nentydd yn cael eu croesi gan bontydd cerrig.
• Tirwedd o gaeau afreolaidd wedi eu diffinio gan gloddiau, a waliau cerrig ar dir uwch.
• Tirwedd sy’n cael ei chroesi gan ffyrdd tyrpeg pwysig o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif a arweiniodd at ddatblygu cymunedau ochr ffordd.
• Pentrefi bychain â gwreiddiau Eglwysig hynafol.
• Echelin o ddatblygiad tirwedd addurnol o Foduan i Bwllheli.

Mae’r ardal gymeriad hon yn isel, ac mae’n terfynu tua’r gogledd-orllewin â chodiad tir yr Eifl a’r cadwyn o fryniau a mynyddoedd igneaidd sy’n ymestyn i lawr i gyfeiriad Garn Boduan; ag afon Erch ar yr ochr ddwyreiniol wrth iddi ddilyn llwybr deheuol i’r môr ym Mhwllheli, ac â’r Gors Geirch i’r de-orllewin.

Mae cymeriad ffisegol y dirwedd yn cynnwys tir isel gan mwyaf, ychydig yn donnog a heb lawer o fryniau. Mae’r ardal yn gostwng yn raddol o 140m uwchlaw’r seilnod ordnans yn Llanaelhaearn yn y gogledd i 20m yn y Gors Geirch. Yr eithriad yw’r mewnwthiad igneaidd unig ym Moelypenmaen ar dir Boduan, sy’n codi i 150m. Mae nifer o nentydd yn llifo drwy’r ardal gan gario dwr o’r mynyddoedd a’r tir uwch yn y gogledd, a bwydo dwy afon fwy sy’n ymuno â’r môr ym Mhwllheli. Yr afonydd hyn yw afon Erch, sy’n ffurfio terfyn dwyreiniol yr ardal gymeriad hon, ac afon Rhyd-hir
sy’n troelli drwy ganol yr ardal fwy neu lai. Mae’r ardal yn wlyb ac yn gorsiog mewn mannau ac mae arwyneb y dirwedd i’w weld yn frith lle mae tir a arferai gael ei groesi gan welyau afonydd ar un adeg wedi ei adennill. Mae’r tir cymharol wastad yn ffafriol i gyfathrebu ac mae dwy gyn ffordd dyrpeg yn rhedeg yn syth fwy neu lai ar draws yr ardal gymeriad hon. Mae nifer o bontydd pwysig o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, megis Pont Bodfel a Phont Penprys, yn hwyluso cyfathrebu ac yn rhoi cymeriad i’r ardal.

Tirwedd amaethyddol sydd yma gan mwyaf, a thir pori’n bennaf. Mae’r caeau’n afreolaidd, ac wedi eu gwneud yn fwy yn aml o lociau bach cynharach ac, yn fwyaf arbennig, ond nid yn gyfan gwbl, ar ystâd Boduan, ar ffurf petryal. Ambell waith, mae cromlinau troellog a chaeau main yn dangos bod gerddi di-ffens mewn caeau âr yma ar un adeg.

Mae’r ffermydd yn wasgaredig ac nid oes trefi mawr yn yr ardal helaeth hon. Trafodwyd tarddiad y pentrefi, sy’n cynnwys Llanaelhaearn, y Ffôr, Llannor, Abererch ac Efailnewydd, yn yr adran hanes. Mae gan bob un ei gymeriad ei hun.

Llanaelhaearn
Mae’r eglwys, â’i chysylltiad â’r ffynnon sanctaidd a’i lleoliad dramatig ar odre un o gopaon yr Eifl, lle codwyd bryngaer Tre’r Ceiri, ynghyd â’r cysylltiad â henebion angladdol arysgrifenedig o’r bumed a’r chweched ganrif, yn rhoi cryn dipyn o gymeriad i’r dirwedd hon. Ganrifoedd yn ddiweddarach datblygodd cysylltiadau gwahanol wrth i’r ffordd dyrpeg ail-greu Llanaelhaearn fel pentref ochr ffordd ar un o’r llinellau cyfathrebu gorau yn Llyn yn niwedd y 18fed ganrif ac, ar y llaw arall, wrth i’r gymuned ddatblygu cysylltiad â’r chwareli arfordirol yn Nhrefor.

Y Ffôr
Mae’r Ffôr yn enghraifft ragorol o ddatblygiad ochr ffordd ar gyffordd dwy ffordd dyrpeg bwysig. Mae tafarn y ‘Four Crosses’, a adeiladwyd cyn 1840, a’r rhes o bedwar ty teras sylweddol sydd ynghlwm wrthi ar ochr ddwyreiniol ffordd Pwllheli yn ddatblygiad o’r un cyfnod. Mae’r cyntedd pilastr a phediment gwreiddiol i’w weld o hyd ar bob drws ond un. Mae’n ymddangos bod y ffenestri dalennog di-gorn gwreiddiol (12 cwarel, chwech uwchben chwech) wedi eu cadw ar ochr ogleddol y dafarn, sy’n cynnwys y talcen. Mae’r waliau allanol wedi eu rendro. Mae gan res o ddeg ty teras deulawr llai ar ffordd Chwilog waliau o gerrig rwbel lleol wedi eu gosod ar hap ac mae’n bosibl eu bod wedi eu hadeiladu yn lle’r adeiladau a oedd ger y dafarn ar yr ochr honno. Mae un o’r tai sydd ar ffordd Llanaelhaearn, heb enw yn ôl pob tebyg, yn ddeniadol iawn. Mae’n dyddio o ganol y ganrif ac mae ganddo fynedfa dalcen sy’n ymwthio allan ychydig a ffenestri dalennog di-gorn gwreiddiol.

Abererch
Mae cryn dipyn o gymeriad yn perthyn i graidd y pentref o hyd er gwaetha’r gwaith addasu, adnewyddu ac adeiladu a welwyd yn ystod y ganrif ddiwethaf. Mae’r tai teras sydd o bobtu’r brif stryd yn dai deulawr. Mae llawer o’r tai teras hyn wedi eu rhestru gan eu bod yn dangos cymeriad y pentref ar ddechrau’r 19eg ganrif. Mae’r rhesi sydd ar ochr ddeheuol y ffordd nid nepell o’r bont wedi eu hadeiladu o gerrig chwarel wedi eu gosod mewn cyrsiau. Mae ffenestri a drysau modern wedi eu gosod yn y rhan fwyaf o’r agoriadau. Mae grwp o ddau fwthyn, ger yr ysgol bresennol, ar yr ochr ddwyreiniol, wedi eu hadeiladu o rwbel ar hap ac mae’r ffenestri dalennog di-gorn i’w gweld o hyd yn nifer o’r agoriadau. Mae ffermdy Ty Gwyn, yng nghanol y pentref, yn agos at derfyn gogledd-ddwyreiniol y fynwent yn ein hatgoffa o gyswllt amaethyddol Abererch. Mae’r ty, sy’n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif, yn dy deulawr, a chanddo ffenestri dormer ar y llawr cyntaf ac adeilad fferm unllawr mewn rhes ynghlwm wrtho. Mae’r waliau o rwbel ar hap ac mae ganddo do llechi sy’n defnyddio llechi bychain sy’n mynd yn llai tua’r grib. Ceir ffenestri sy’n llithro’n llorweddog ar y ddau lawr. Mae’r rhan fwyaf o dai’r ugeinfed ganrif yn dai isel tebyg i fyngalos, â ffenestri dormer. Mae’r rhain mewn gwrthgyferbyniad â’r tai teras deulawr traddodiadol sydd yn y pentref.

Mae Llannor, Abererch a Llanaelhaearn i gyd yn bentrefi bychain ag eglwysi hynafol yn graidd iddynt. Mae’n bosibl eu bod wedi bod yn gymunedau clas ar un adeg; roedd Abererch a Llannor yn gymunedau helaeth ac roedd llawer o dir yn perthyn i’r naill a’r llall. Gallai Llannor a Llanaelhaearn honni bod cofebau angladdol o’r bumed neu’r chweched ganrif a ddarganfuwyd yn agos at eu heglwysi perthynol yn cefnogi eu hynafiaeth.

Mae gan eglwys bresennol Abererch, yng nghanol y pentref, fanylion pensaernïol arwyddocaol iawn, yn fwyaf arbennig, yr arcêd o’r 16eg ganrif, yr ugain o gyplau to trawstiau croes a’r ffenestr sythlin o’r 16eg ganrif yn nhalcen dwyreiniol canol yr eglwys.

Efailnewydd
Mae Efailnewydd yn rhoi cymeriad hanesyddol i’r ardal dirwedd hon fel lleoliad gefail bwysig ar ochr ffordd lle’r oedd llwybrau porthmyn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn cydgyfarfod. Gellir adnabod tenementau cynnar o’r lleiniau hir a chul sydd yn eu cefnau. Mae bythynnod unllawr o’r 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif wedi goroesi mewn rhes ar gornel ddeheuol y groesffordd, a rhai eraill ar yr ochr ogleddol. Roedd y Farmer’s Arms, sy’n dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif, yn sefyll ar ei ben ei hun ar un adeg, gan feddiannu cornel gyfan y groesffordd ar yr ochr ddwyreiniol, ac roedd yn nodwedd amlwg yn y pentref ar un adeg. Mae wedi ei adeiladu o rwbel lleol ar hap, wedi ei rendro ar ffasâd y stryd, ac mae ganddo ddau lawr ac atig.

Mae’r eiddo unigol sy’n rhoi cymeriad i’r dirwedd hon yn cynnwys:

Llwyndyrys. Ffermdy deulawr o ddechrau’r 17eg ganrif yn agos at rannau uchaf afon Erch. Mae gan y ty gorn ymestynnol yn y talcen dwyreiniol ac mae nodweddion addurnol cynnar pwysig y tu mewn iddo. Mae’r waliau o rwbel lleol â chonglfeini mawr;

Plas Gwyn, ger y Ffôr. Ty o’r 16eg ganrif â chyntedd croes, wedi ei ailfodelu yn gynnar yn yr 17eg ganrif â thalcenni grisiau brain a simneiau tal yn y waliau pen. Mae’r waliau o rwbel ar hap â chonglfeini anferth. Mae’r ffenestri’n ffenestri dalennog di-gorn o ddechrau’r 19eg ganrif;

Bodfel. Mae Bodfel yn dy anarferol sydd â’i wreiddiau yn yr 17eg ganrif. Cafodd ei adeiladu fel porthdy croesffurf a’i droi’n annedd gan ychwanegu grisiau allanol yn y cefn. Mae’n adeilad tri llawr ac atig ac mae gan y ffasâd blaen golofnau Dorig sy’n cynnal goruwchadail sy’n ffrâm i fynedfa fwaog lydan i’r drws presennol. Mae’r ffenestri’n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif.

Parciau a Gerddi
Mae gwaith plannu a dylunio ar ystadau Boduan, Bodfel a Bodegroes wedi creu echelin o dirwedd addurnol o Garn Boduan i Bwllheli. Ar ochr ogledd-ddwyreiniol Pwllheli, mae nifer o nodweddion ystâd fechan o’r 19eg ganrif i’w gweld yn Yoke House, gan gynnwys cwt dyfrgwn, a ddefnyddid i hyfforddi cwn hela, cartws, stabl a rhes o gerbytai.

Rhestrir y parciau a’r gerddi wedi eu dylunio y bernir eu bod wedi cyfrannu’n sylweddol at gymeriad tirwedd hanesyddol yr ardal hon yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS ac maent yn cynnwys Glasfryn, Boduan a Bodegroes. Daw’r wybodaeth isod o’r cofnodion ar gyfer Boduan a Bodegroes yn y gofrestr.

Boduan
Disgrifiad o’r safle

Mae’r ty yn adeilad mawr, trillawr a leolir yn agos i big ei driongl o dir. Mae’n wynebu’r de, gan edrych dros lawntiau ac ar hyd y rhodfa goed sy’n cysgodi’r brif lôn. Mae’r lôn yn ymestyn o borthdy bron iawn i’r de o’r ty gan ddilyn trywydd sy’n troelli’n raddol i gyrraedd y ty ar yr ochr orllewinol. Mae’r rhan fwyaf o’r hyn sydd i’w weld yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, ond mae cnewyllyn ty hyn (1736) yno hefyd. Mae’r bloc stablau yn dyddio o 1850. Ehangwyd y ty yn niwedd y 19eg ganrif gan yr Anrhydeddus F. G. Wynn, a etifeddodd Foduan a Glynllifon. Adferwyd y ty yn ddiweddar, ac mae wedi’i rendro a’i baentio’n wyn. Mae deial haul uwchben y brif fynedfa, wedi’i ddyddio 1898, a dyddir y colofnau dwr glaw, pob un â’r llythrennau blaen FGW arnynt, rhwng 1892 a 1909. Disgrifiwyd Boduan gan Hyde Hall, a ysgrifennai ym 1810, fel ‘a building of small pretension’, a hwn mae’n debyg oedd ty 1736.

Mae rhes ddeheuol o adeiladau, a arferai fod yn gerbytai, wedi eu rendro a’u paentio i gydweddu â’r ty, ac mae iddynt ffenestri tebyg. Llenwyd y pyrth bwaog mawr ar ochr yr iard a gosodwyd drysau a ffenestri cyffredin yn eu lle, ac mae’r man hwn yn amlwg yn estyniad o’r ty bellach. Saif capel mawr gyferbyn â’r bloc stablau, i’r gorllewin, ac mae ei arddull yn debyg. Fe’i hadeiladwyd rhwng 1889 a 1918 ac mae bellach wedi’i addasu’n dy.

Amgaewyd yr iard gefn â waliau castellog, a thrwy’r rhain mae dwy fynedfa fwaog fawr â giatiau haearn, yn y cefn (gogledd) a’r blaen (de).

Mae’n debyg bod y parc wedi cael ei gynllunio’n gyntaf pan adeiladwyd ty’r ddeunawfed ganrif (1736) ond mae llawer o newidiadau wedi eu gwneud. Ar fap Arolwg Ordnans 1889 gwelir parc anferth yn ymestyn ar bob ochr i’r ty, â chadwynau o blanhigfeydd o’i gwmpas, coed unigol yma ac acw a rhesi o goed ar hyd ffiniau’r caeau. Erbyn y cyfnod arolygu ar gyfer map 1918, roedd llawer o hyn eisoes wedi diflannu, gan gynnwys rhai o’r planhigfeydd. Rhan ddwyreiniol yr ardd, sy’n cynnwys y nant, yw’r rhan isaf, ac mae yno dri phwll pysgod mawr, pob un â phontydd addurnol a llwybrau ar hyd yr ymylon. Mae pwll mwy ffurfiol â rhaeadr, ychydig i’r gorllewin o’r brif nant. Mae adeilad diddorol i’w weld yn y man lle mae’r ddwy ardd yn cyfarfod. Mae’n adeilad bychan, deulawr, wythonglog, wedi ei adeiladu â cherrig, a chanddo do llechi a simnai ganolog, ynghyd â cheiliog y gwynt. Hwn mae’n debyg oedd bwthyn y garddwr.

Bodegroes
Lleolir Bodegroes ar dir gwastad ychydig i’r gogledd-orllewin o Bwllheli, nid nepell o’r arfordir ac mewn ardal â hinsawdd ffafriol. Adeiladwyd y ty ym 1780, gan ymgorffori rhan o dy cynharach o bosibl, a dyma’r cyntaf o dri thy yn Llyn y credir iddynt gael eu cynllunio gan Joseph Broomfield. Fel y ddau dy arall, sef Broom Hall a Nanhoron, mae ganddo feranda ar bileri haearn ar hyd wyneb yr ardd, gan ddod yn ôl i fyny’r ochrau, a lôn nad yw’n arwain yn uniongyrchol at wyneb blaen y ty, ond sy’n dod ato o’r ochr ogledd-ddwyreiniol yn lle hynny. Mae’r porthdy wedi ei leoli rhwng lôn y fferm i’r gorllewin a lôn y ty i’r dwyrain.

Mae’r ty wedi’i rendro a’i baentio’n wyn ac mae iddo ddau lawr ac atigau. Nid yw’r ffasâd cymesurol mor foel â ffasâd tai eraill Broomfield; mae gan bob ffenestr ar y llawr cyntaf bedimentau crymion, ac mae ffenestri’r llawr isaf i gyd yn faint llawn. Mae’r pileri haearn sy’n cynnal y feranda’n cynnwys grwp o bedwar piler tenau iawn wedi’u gwasgu at ei gilydd.

Yn ysgrifennu tua 1813, disgrifiodd Hyde Hall y ty fel eiddo’n perthyn i wr o’r enw Mr Griffiths, William Griffith (1748-1816) yn ôl pob tebyg, ac iddo ef yr adeiladwyd y ty yn ddiamau. Ar yr adeg hon roedd coed ‘amddiffynnol’ o gwmpas y ty eisoes, ond cafwyd sôn gan Hyde Hall am blannu a ffensio newydd hefyd.

Mae’r llyn, i’r gogledd-orllewin o’r ardd lysiau, yn fychan ac mae rhan ohono’n llawn llaid, ag ynys wneud yn y pen gogledd-ddwyreiniol. Mae perllan, ar ochr dde-orllewinol yr ardd lysiau, wedi tyfu’n hollol wyllt ag isdyfiant trwchus iawn. Mae lawnt wastad i’r de-orllewin o’r ty, ac oddi yma y ceir y fista i lawr y rhodfa. Ffosglawdd yw ffin ddeheuol yr ardd, o bobtu rhodfa ffawydd sy’n arwain at y ty. Gwelir y ty gwydr hir, â bondo crwm, am y tro cyntaf ar fap Arolwg Ordnans 25 modfedd 1917, ond nid felly yn achos y boelerdy cerrig bach, y tu allan i’r wal dde-ddwyreiniol yn y gornel ddwyreiniol. Mae llawer o’r gwydr yn y ty gwydr o hyd, ac mae pibelli gwresogi yno a pheiriannau’r system wyntyllu.

Ar un adeg roedd y parc o amgylch y ty a’r ardd yn weddol eang ac fe’i cynlluniwyd pan adeiladwyd y ty yn ôl pob tebyg. Mae cyfeiriad Hyde Hall at ‘new planting and fencing’ ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif yn awgrymu bod gwaith yn dal i gael ei wneud yr adeg honno, ond roedd y cynllun yn gyfan erbyn 1836. Er bod llawer o’r planhigfeydd a rhai o goed y parcdir wedi goroesi, fel llawer o’r wal derfyn, mae gan yr ardal hon bellach gymeriad a golwg ffermdir yn hytrach na pharcdir.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol