English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 12 Y Mynnyddoedd Gogleddol o'r Eifl i Garn Boduan


Tre'r Ceiri


Pistyll a Bodeilias


Llithfaen


Nant Gwrtheyrn


Trefor


Carnguwch

Cefndir hanesyddol

Mae anheddu a gweithgaredd defodol wedi bod yn digwydd ar y tirweddau uchel hyn ers miloedd o flynyddoedd. Nid yw gwasgariadau digysylltiad o arfau fflint bob amser yn arwydd o anheddu. Gwyddys am fannau darganfod ar gopaon uchel yr Eifl. Cofnodwyd bwyeill cerrig Neolithig ar y gwastadedd arfordirol yn Nhrefor 50m uwchlaw’r seilnod ordnans (PRN 2203) a bwyell forthwyl, bwyell fflat a phen saeth fflint o’r Oes Efydd Gynnar yn agos at y fryngaer yn Nhre’r Ceiri ar gopa mwyaf deheuol yr Eifl. Cofnodwyd ail ben saeth yn Nghaergribin, parhad o’r gwar y saif Tre’r Ceiri arno.

Mae carneddau o’r Oes Efydd Gynnar i’w gweld ar bob un o dri chopa’r Eifl ar uchder o 430m, 560m a 480m. Mae carnedd pen mynydd arall i’w gweld yn glir ar y copa cyfagos, i’r de, sef Carnguwch, sydd 350m uwchlaw’r seilnod ordnans. Mae tystiolaeth dda o wrthgloddiau fertigol neu braidd yn guredig ar gyfer y cofebion angladdol hyn yn Nhre’r Ceiri a Charnguwch.

Mae amddiffynfeydd trawiadol a helaeth ar ben mynyddoedd Tre’r Ceiri a Garn Boduan. Disgrifiwyd Tre’r Ceiri fel un o’r enghreifftiau gorau o fryngaerau waliau cerrig yn Ynysoedd Prydain, ac mae hefyd yn un o’r rhai uchaf - 480m. Mae’r prif wahanfur yn ymestyn yn ddi-dor ar hyd cefnen estynedig y copa, gan amgáu dwy hectar o fewn rhagfur cerrig sy’n cyrraedd 3.5m o uchder a 2.3 i 3m o drwch. Mae wal ychwanegol ar yr ochr ogledd-orllewinol yn cryfhau amddiffyniadau’r rhan gaeëdig. Nid oes angen waliau ychwanegol ar yr ochrau dwyreiniol a de-ddwyreiniol. Mae’r mynedfeydd gwreiddiol i’w gweld o hyd. Mae’r brif fynedfa ar yr ochr ogledd-orllewinol yn dilyn llwybr lletraws drwy’r rhagfuriau allanol a mewnol, ac yn y fan hon mae’r wal yn fwy trwchus a cheir waliau gydag ochrau’r llwybr sy’n arwain at y fynedfa fel bod modd cael mynediad i’r fryngaer ar hyd tramwyfa 15m. Mae nifer o gylchoedd cytiau yn y rhan fewnol. Mae rhai cytiau mwy, a chynharach wedi cael eu rhannu’n gydrannau drwy ychwanegu croesfuriau mewnol i greu ystafelloedd afreolaidd llai. Mae’n debygol iawn bod anheddu wedi dechrau yn Nhre’r Ceiri yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar a’i bod yn dal i gael ei hanheddu yn ystod y cyfnod Brythonig-Rufeinig ac, efallai, hyd yn oed yn ddiweddarach. Mae Garn Boduan yn fynydd amlwg iawn uwchben bwrdeistref ganoloesol Nefyn, 1km oddi yno, a chaer bentir arfordirol ym Mhorth Dinllaen, tua 4km i ffwrdd. Yn ystod Oes y Tywysogion roedd Garn Boduan yn nhrefgordd gaeth Boduan.

Mae Garn Boduan yn fynydd amlwg iawn uwchben bwrdeistref ganoloesol Nefyn, 1km oddi yno, a chaer bentir arfordirol ym Mhorth Dinllaen, tua 4km i ffwrdd. Yn ystod Oes y Tywysogion roedd Garn Boduan yn nhrefgordd gaeth Boduan.

Llwyfandir yw copa Garn Boduan. Mae tua 250m uwchlaw’r seilnod ordnans, ac mae ardal o tua 10ha wedi ei chau gan ragfur cerrig sy’n adfail erbyn hyn. Ar yr ochr orllewinol mae darn o graig yn codi uwchben y llwyfandir i 270m uwchlaw’r seilnod ordnans. Cofnodwyd tua 170 o sylfeini cerrig cytiau crwn, rhai ohonynt yn weddol fawr, â diamedr o tua 8m. Cynrychiolir trydydd is-gyfnod adeiladu, sy’n un pur wahanol, ar y darn creigiog sydd ar ochr ddwyreiniol y mynydd. Adeiladwyd ‘cadarnle’ cryf i gau ardal fechan 60m wrth 30m, â waliau 3.5m o drwch. Mae’r waliau’n gadarn ac mae ôl curo ar eu hochrau allanol. Un awgrym credadwy yw bod y ‘cadarnle’ yn cynrychioli cyfnod anheddu ac amddiffyn llawer diweddarach, yn ystod y canol oesoedd cynnar efallai. Mae’r dilyniant a’r cynllun yn ddigon tebyg i’r gaer ar gopa Carn Fadryn.

Mae aneddiadau tai crynion ar lethrau isaf Garn Boduan, ar yr ochr ddwyreiniol a’r ochr ddeheuol. Yng Ngherniog, tua’r gogledd-ddwyrain, mae nifer o glystyrau o gylchoedd cytiau, ar lethrau de-ddwyreiniol Mynydd Nefyn tua 160m uwchlaw’r seilnod ordnans; ar lethr de-ddwyreiniol Moel Ty Gwyn sy’n edrych dros ddyffryn a blaenddyfroedd afon Rhyd-hir ar ddechrau ei thaith hir i’r môr ym Mhwllheli; ar ysgwydd ddeheuol Moel Gwynus ac yn y cyfrwy rhwng Moel Cerniog a Charreg Lefain (PRN 447, 448, 449, 3441, 1264, 1265, 1266, 1269, 1272, 1273, 1337, 2228, 2229, 4398). Mae’r rhan fwyaf o’r aneddiadau hyn yn ffermydd o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar a’r cyfnod Brythonig-Rufeinig ac yn cynnwys nifer o dai. Byddai’r lleoliad sy’n wynebu’r de-ddwyrain a’r uchder cymedrol rhwng 125m a 190m uwchlaw’r seilnod ordnans (Carreg Lefain yn 210m), yn edrych dros y llethrau ar lwyfandir isel Boduan yn addas iawn i anheddiad amaethyddol.

Adnabuwyd llociau a nodweddion crwn hefyd ar y llethrau gogledd-orllewinol sy’n arwain i lawr at y glannau ym Mhistyll ac ar lethr de-orllewinol Carreg y Llam. Roedd bryngaer fechan ym mhen gogleddol cefnen greigiog, yn edrych tua’r môr yng Ngharreg y Llam, ond mae wedi ei dinistrio erbyn hyn gan chwarelyddiaeth. Gwyddys am fwy o gylchoedd cytiau ger y Bwlch, heb fod yn bell o’r ffordd bresennol o Lithfaen i Bistyll (PRN 909, 911, 1267, 2215, 2218, 2220, 1274, 1537, 2223, 2224, 2225). Cytiau unigol yw llawer o’r rhain, ond mae cyfran sylweddol yn grwpiau cnewyllol ac, unwaith eto, yn awgrymu ffermydd.

Ceir grwp pwysig o aneddiadau o’r un cyfnod yn Nant Gwrtheyrn â grwpiau cnewyllol ar y tir uchel uwchben y chwareli ac ar lethrau gorllewinol yr Eifl ac yn y dyffryn ei hun (PRN 612, 619, 2242, 620, 2221).

Cofnodir anheddiad cylch cytiau cnewyllol yng Ngallt y Ceiliog ar lethrau gogledd-ddwyreiniol yr Eifl tua 160m uwchlaw’r seilnod ordnans a chyfres o aneddiadau cnewyllol ar ochr ddwyreiniol a de-ddwyreiniol Mynydd Carnguwch rhwng 120m a 190m uwchlaw’r seilnod ordnans (PRN 602, 1279, 1280, 1282, 1283).

Cofnodir tai llwyfan canoloesol ac ôl-ganoloesol a ‘chytiau hirion’ fel y’u gelwir yn yr un lleoliadau i raddau helaeth ag aneddiadau’r cyfnod cynhanesyddol diweddar a’r cyfnod Brythonig-Rufeinig. Gwyddys am lawer ar y llethrau sy’n wynebu’r môr rhwng Pistyll a Charreg y Llam (PRN 1268, 914, 907, 905, 1270, 2216, 2217, 910, 912). Cofnodwyd eraill yng Ngallt y Bwlch, i’r de o Nant Gwrtheyrn (PRN 6738, 2222).

Yn ystod Oes y Tywysogion ac ar ôl gorchfygu Gwynedd, cyffyrddid yr ardal gymeriad hon gan dair trefgordd a phentrefannau dwy drefgordd arall. Roedd Garn Boduan yn nhrefgordd tir cyfrif Boduan ac roedd gan y tywysog diroedd demên yn y drefgordd honno. Mae’n debyg bod llethrau a chopa Garn Boduan yn darparu porfa i anifeiliaid y tywysog ond nid oes sicrwydd o hyn. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif roedd llawer o goed wedi eu plannu ar y mynydd. Fodd bynnag, yn y canol oesoedd, roedd yn ofynnol i denantiaid caeth cwmwd Dinllaen gario porthiant y tywysog ‘i’r Mynydd’, rhwymedigaeth y cyfeirir ati fel Gwaith Tai Mynydd. Ond, gan fod y gwaith cario hwn yn cael ei nodi dan bentrefan Bodeilias, i’r gogledd-ddwyrain o Nefyn, mae’n debyg mai Mynydd Nefyn a Mynydd y Gwylwyr sydd dan sylw.

Gwynus
Roedd Gwynus yn drefgordd ganoloesol. Mae Moel Gwynus, a’r fferm sy’n dwyn yr un enw, rhwng Pistyll a Llithfaen. Yn y 14eg ganrif roedd y drefgordd yn nwylo Thomas Missenden, a’i rhoddodd ar brydles i wyr Sant Ioan Fedyddiwr, neu’r ysbytwyr. Roedd pum hafod yn Gwynus a thair arall yn Hafod Bleiddiog gerllaw. Dyma ransh wartheg y tywysog yn y cwmwd hwn. Roedd yn adnodd gwerthfawr ar dir a oedd yn fwy addas fel tir pori nag fel tir âr. Ar ôl y goncwest cafodd llawer o’r hafodydd a’r ffriddoedd hyn a oedd yn nwylo’r tywysogion yng Ngwynedd eu rhoi ar brydles i ffefrynnau a deisyfwyr Coron Lloegr. Fel hyn y cafodd Thomas Brereley brydles ar diroedd pori ym mhentrefan Rhoswyniasa, ychydig i’r dwyrain o Gwynus.

Mynydd Carnguwch
Yn rhan ogledd-ddwyreiniol yr ardal gymeriad hon mae copaon uchel yr Eifl ac, i’r de ar draws y cyfrwy lle mae llwybr y ffordd o Lanaelhaearn i Nefyn, saif Mynydd Carnguwch. Roedd Carnguwch yn drefgordd â ffiniau diffiniedig, ond roedd yn cael ei hanheddu gan welyau a oedd yn rhannu’r un hynafiaid, a chanddynt eiddo mewn llawer o drefgorddau ar hyd a lled cantref Llyn. Er enghraifft, roedd gan wely Cen’ ap Cenythlin eiddo tiriog yn nhrefgorddau Carnguwch, Bodfel a Llangian. Roedd gan aelodau eraill o’r un teulu etifeddol eiddo yng Ngharnguwch hefyd, ond, yn ehangach – roedd rhai wedi setlo yn Ystradgeirch, ac eraill yng Nghilan a Bryn Celyn. Mae’r patrymau cysylltiad hyn a’r cyrhaeddiad tiriogaethol helaeth yn arwydd o faenol freninllinol rydd-ddaliadol, a oedd yn sail i rym arglwyddiaeth mewn oes gynharach.

Mae mynydd cromennog Carnguwch, sydd â’i gopa’n 350m, yn dir anhydrin, garw, uchel a chreigiog. Yr unig derfynau uwchben y gyfuchlin 200m yw waliau’r Amgaead Seneddol. Byddai’r tir uchel, fodd bynnag, yn darparu tir pori uchel, ac os oedd y drefgordd a’r plwyf eglwysig yn rhannu’r un ffiniau, roedd y drefgordd yn cyrraedd copa uchaf yr Eifl, ac roedd pobman ar wahân i’r llethrau uchaf a serthaf yn cael ei bori. Roedd eglwys Carnguwch yn nwylo abad Clynnog yn y canol oesoedd. Cafodd yr eglwys, a ddisgrifiwyd gan Hyde Hall fel adeilad croesffurf, ‘in a condition utterly disgraceful to a Christian community’, ei hailadeiladu’n gyfan gwbl gan Henry Kennedy, y pensaer adnabyddus o Fangor, ym 1882. Roedd yr hen eglwys yn bodoli, erbyn canol y 13eg ganrif o leiaf, ac eglwys Carnguwch, a oedd yn werth 20d., ac eglwys Botwnnog, oedd y ddwy eglwys dlotaf yn neoniaeth Llyn. Er hyn, roedd gan Garnguwch felin ddwr, yn y cyfnod diweddaraf o leiaf, ychydig i’r de-ddwyrain, ar derfyn Gwyniasa.

Yr Eifl
Roedd y rhan fwyaf o’r Eifl yng nghantref Arfon yn y canol oesoedd ac yn cynnwys rhan helaeth o drefgordd Elernion. Roedd y drefgordd yn rhydd ac roedd ganddi ddwy felin. Roedd rhai tiroedd, ym 1352, wedi eu siedu i’r Goron fodd bynnag, o ganlyniad i’r Pla Du efallai. Roedd un parsel o dir yn sicr wedi ei ddychwelyd i’r brenin oherwydd diffyg tenantiaid. Tyddyn Newydd oedd hwn, fel y nodir yn y rhôl gyfrifon, ond roedd hefyd yn cael ei adwaen fel Ffridd Fawr, parsel a oedd yn rhan o ddemên y brenin. Mae’r amgylchiadau’n awgrymu porfa i wartheg ar lethrau’r Eifl, a byddai hynny’n sicr yn gyson â’r prif ddefnydd tir yn yr ardal hon mewn cyfnod cynharach.

Ar ddechrau’r 19eg ganrif roedd llawer o’r ucheldiroedd hyn yn cael eu hystyried yn dir comin. Roedd tai wedi cael eu hadeiladu ar y comin ac roedd tanwydd yn cael ei gario o’r comin yn rheolaidd. Ym 1812 pasiwyd Deddf Amgaead Seneddol gyda’r bwriad o gau tiroedd comin ym Mynydd Nefyn, Mynydd y Gwylwyr, Comins Rhos, Mynydd Carnguwch, yr Eifl yn Llithfaen a Bwlch Mawr. Caewyd dros 600ha i gyd ar ddechrau’r 19eg ganrif rhwng Llanaelhaearn a Nefyn.

Roedd llechfeddiannu wedi digwydd ym Mynydd Nefyn ar derfynau’r tir comin ym Mhen y Graig a Phen y Garnedd; yng Ngherniog Uchaf ac yn Llain Hir a Fron Dirion. Ar Fynydd y Gwylwyr roedd llechfeddiannu wedi digwydd yn Fron Deg a ger Ty’n y Mynydd a Llwyn Ysgaw. Roedd yn rhaid i’r problemau a oedd yn ymwneud â llechfeddiannu a chau hynafol, a hawl i dorri mawn a chasglu adnoddau eraill, gael eu datrys neu eu hysgubo o’r neilltu. Pan basiwyd y Ddeddf, gwnaethpwyd darpariaeth ar gyfer tiroedd tanwydd a mynediad i chwareli cerrig. Yn yr un modd, yng Ngharnguwch, gwnaethpwyd darpariaeth ar gyfer yr arferion a oedd yn bodoli ar y pryd ac roedd rhannu’r mynydd â waliau cerrig sych unionsyth yn adlewyrchu gofynion pori’r ffermydd a oedd yn dal y llethrau is (gweler y cyflwyniad hanesyddol ar gyfer y broses o gau tiroedd).

Bodeilias, Pistyll, Nant Gwrtheyrn a Llithfaen
Mae gan bentrefi a chymunedau arfordirol Bodeilias, Pistyll, Nant Gwrtheyrn a Llithfaen i gyd wreiddiau hynafol. Roedd Bodeilias, yn union i’r gogledd o Nefyn, yn bentrefan i gymuned glas, neu led-fynachaidd Llannor yn yr un cwmwd. Daeth yn rhan o gylch dylanwad Llannor ar ôl i’r pentrefan fynd yn siêd drwy ffeloniaeth rhywun o’r enw Cocyn Annon. Roedd Bodeilias a Phistyll, fel pentrefannau Llannor, yn y pen draw yn naliadaeth Clynnog yng nghantref Arfon. Mae’r enw Bodeilias wedi goroesi fel enw eiddo ar y silff arfordirol islaw chwareli’r Gwylwyr, 850m i’r gorllewin o bentref presennol Pistyll ac 1.2km o eglwys Pistyll.

Mae eglwys Beuno Sant ym Mhistyll yn edrych allan dros geunant cul a serth ar silff ar oleddf uwchben gelltydd môr serth sy’n erydu, ac mae’n debyg mai yma yr oedd canolbwynt y pentrefan canoloesol. Roedd gan Bistyll ei felin ei hun yn y pentrefan. Mae pentref presennol Pistyll 500m i’r de-orllewin, uwchben porthladd bychan Porth Bodeilias sy’n awgrymu bod y nant sy’n llifo i’r môr yn y fan honno yn nodi’r ffin rhwng Bodeilias a Phistyll yn y canol oesoedd.

Mae’n bosibl bod eglwys Pistyll yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif ond ni all yr adeiladwaith gwreiddiol sydd wedi goroesi gadarnhau hyn. Ceir bedyddfaen cynnar wedi ei addurno â chadwyn o glymau dolennog, y tybir ei fod yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif, ond a allai fod yn hyn. Mae cyplau’r to ar ffurf trawstiau croes â chleddau bwaog a gallent fod o’r 15fed ganrif. Mae yno hefyd ddrws gorllewinol brodorol iawn o’r 15fed ganrif. Mae’r waliau o rwbel lleol.

Nid oedd pentref gwerth sôn amdano ym Modeilias nac ym Mhistyll cyn canol y 19eg ganrif. Mae ffermydd gwasgaredig yn Lôn Cae Newydd, Ty Mawr, Minffordd, Tyddyn Pantwr, Fferm Pistyll a Bwlch y Gwynt. Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, fodd bynnag, agorodd chwarel yn Foel Gwyn. Gosodwyd tramffordd o’r mynydd at bier ar y traeth a chodwyd rhes o dai (Pistyll Terrace) ar ochr y ffordd. Adeiladwyd capel Methodistiaid Calfinaidd Bethania, ynghyd â thy capel ar draws y ffordd.

Roedd Nant Gwrtheyrn a Llithfaen ill dau’n bentrefannau yn nhrefgordd Trefgoed. Cofnodir y ddau ym 1281 yng nghyswllt tir a roddwyd gan y Tywysog, Llywelyn ap Gruffydd, yn y pentrefannau hynny. Gellir bwrw amcan o leoliad pentrefan canoloesol Llithfaen, nid yn gymaint ar sail y pentref ochr ffordd, ond ar sail maint daliadau hyn Llithfaen, sef Llithfaen Fawr, Llithfaen Isaf a Llithfaen Uchaf. Erbyn y 1840au roedd pentref wedi dechrau tyfu ar hyd y ffordd o Lanaelhaearn i Nefyn ym mhen deheuol Amgaead Seneddol diweddar Bwlch Mawr.

Roedd tir wedi ei lechfeddiannu ym mhen gogleddol y comin, i gyfeiriad Trefor, yng Nghae’r Foty, Llwyd y Brig a Nant y Cwm ar uchder o tua 160m. Roedd tir wedi ei adennill yn y pen deheuol hefyd, ac yn y pen deheuol y datblygodd yr anheddiad, ar y rhandiroedd a amlinellwyd yn yr Amgaead Seneddol. Mae’n bosibl bod Llithfaen Bach wedi ei lechfeddiannu o dir comin y pentrefan gwreiddiol ers llawer dydd gan mai hwn oedd yr enw a roddwyd yn wreiddiol ar y rhes o fythynnod ar ochr y ffordd. Mae gan leiniau cyfagos eraill enwau caeau fel: ‘Cae’r Mynydd’, ‘allotment on Rivals’ a ‘one patch’ a gelwir y tenementau yn ‘Ty’n y Mynydd’ (daliad wedi ei lechfeddiannu mae’n debyg), Mynydd Reifl a Cottage. Tyfodd y pentref ar ochr y ffordd yn bennaf, â rhywfaint o ehangu bob ochr iddi ac, yn fwyaf arbennig, ar y lleiniau a neilltuwyd gan y Ddeddf Cau Tiroedd. Erbyn 1890 roedd tua 90 o dai yn Llithfaen, ynghyd â thafarn, tri chapel ac eglwys Anglicanaidd. Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif roedd tua 140 o dai yno. Y chwarel gerrig yn Nant Gwrtheyrn, i’r gogledd, oedd y prif reswm dros ddatblygiad Llithfaen yn ystod ail hanner y 19eg ganrif.

Mae Nant Gwrtheyrn wedi ei enwi ar ôl y nant sy’n llifo drwy’r dyffryn serth o’r Graig Ddu ar lethrau’r Eifl i’r traeth ym Mhorth y Nant. Mae clwstwr o sylfeini a phadogau petryal yn awgrymu anheddiad o’r cyfnod canoloesol neu’r cyfnod canoloesol diweddar, yn uchel uwchben y nant. Tua 400m i’r de oddi yno mae’r dyffryn yn lledu ychydig wrth i’r nant gyrraedd y môr, ond mae wedi ei gyfyngu gan gopa mwyaf gorllewinol yr Eifl tua’r gogledd a’r Bwlch tua’r de. Mae ffermydd bychain Ty Canol, Ty Uchaf a Thy Hen, a ddymchwelwyd ac a chwalwyd rywdro, yn glystyrau cnewyllol o gyfnod cynharach.

Roedd y chwareli ithfaen ym Mhorth y Nant yn gweithio mewn chwech o bonciau, neu lefelau, ar lethrau Gallt y Bwlch, gan gynhyrchu sets ithfaen yn ystod y 19eg ganrif ac allforio cerrig mâl ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd tramffordd yn cario’r cerrig i lawr at bier pren ar lan y môr. Darperid cyfleusterau gan farics chwarelwyr, a oedd wedi eu trefnu o amgylch dwy ochr i gwrt petryal, siop a becws, ac roedd ty rheolwr y chwarel, y Plas, yn y pen deheuol. Caewyd y gwaith yn y 1950au a phlannwyd llawer o goed coniffer yn y 1970au, mewn coridor gydag ochrau’r nant o gopa Gallt y Bwlch ar uchder o 280m uwchlaw’r seilnod ordnans i 20m uwchben y draethlin. Ym 1978 adnewyddwyd barics y chwarelwyr a daeth yr adeiladau’n gartref i Ganolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn.

Trefor
Mae Chwarel yr Eifl ar lethrau gogleddol copa mwyaf gogleddol yr Eifl, sef Garn Fôr. Agorwyd y chwarel ym 1850, i wneud sets i balmantu ffyrdd. Agorwyd Chwarel y Gwylwyr yn Nefyn ym 1835 a chwarel Porth y Nant tua 1860. Daeth y chwareli hyn, a chwareli bach eraill yn ardal Trefor, at ei gilydd i ffurfio’r Welsh Granite Company. Tua diwedd y 19eg ganrif roedd llai o alw am sets a mwy o alw am gerrig mâl i wneud ffyrdd, mewn tarmacadam ac fel agreg ar gyfer concrid.

Roedd tramffordd yn cario’r deunydd o’r bonciau. Ym 1870 adeiladwyd cei a chyflwynwyd trenau stêm bychain i weithio rhan isaf y dramffordd i’r pier.

Yn niwedd y 19eg ganrif roedd bron i 100 o dai mewn cnewyllyn clos o dai teras ar waelod inclein y chwarel ger y gweithdai. Roedd y pentref yn cynnwys tri chapel Anghydffurfiol ac un eglwys Anglicanaidd, wedi ei hadeiladu gan brif beiriannydd y Welsh Granite Company er budd y gweithwyr. Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif, roedd dwywaith gymaint o adeiladau yn y pentref, ac roedd y pentref wedi ehangu ar hyd y ddwy briff ffordd i Drefor o’r A499 o Glynnog i Lanaelhaearn. Y ffordd fwyaf deheuol o’r ddwy oedd y ffordd wreiddiol i’r pentref; adeiladwyd y ffordd ogleddol er mwyn hwyluso mynediad i’r chwarel.

Roedd craidd y pentref ar lan nant a oedd yn draenio’r cyfrwy rhwng Moel Penllechog a Moelfre yn Llanaelhaearn. Mae rhai pobl wedi awgrymu mai’r chwareli a greodd bentref Trefor. Er hynny, roedd modd adnabod rhannau o dirwedd gynharach yn y 19eg ganrif hefyd. Roedd y nant a lifai drwy bentref Trefor ar un adeg yn troi olwyn ddwr i falu yd ym Melin Penllechog, tua’r de-ddwyrain, ac yn pweru ffatri wlân, yn nes at y pentref. Mae’r un nant yn llifo heibio fferm Elernion, sy’n dal i ddwyn enw hynafol y drefgordd ganoloesol. Mae Lleiniau Hirion yn ein hatgoffa o bwysigrwydd amaethu âr ac aceri hir rhandiroedd âr y canol oesoedd. Ar lethrau’r Eifl mae tyddynnod Cae’r Foty, Uwch y Foty a Hendre Gawr unwaith eto’n adlewyrchu system ffermio gynharach ac yn dangos pwysigrwydd defnyddio trawstoriad o’r dirwedd.

 

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Tirwedd ffisegol drawiadol, hardd a rhamantaidd yn ystyr y 19eg ganrif.
• Ardal bwysig ar gyfer pori anifeiliaid a ransio gwartheg yn y Canol Oesoedd.
• Ardal yn cynnwys nifer o flociau o dir comin wedi’u cau drwy Amgaead Seneddol sydd wedi gadael eu hôl ar y dirwedd.
• Toreth o archaeoleg greiriol, gan gynnwys nifer o ardaloedd lle ceir aneddiadau cylchoedd cytiau, bryngaerau a thai llwyfan.
• Pedair chwarel ithfaen bwysig a drawsnewidiodd y glannau ac a arweiniodd at greu nifer o gymunedau cnewyllol.

Mae mynyddoedd y gogledd yn cynnwys tri chopa’r Eifl, Mynydd Carnguwch, Moel Gwynus, Moel Ty Gwyn, Mynydd y Gwylwyr, Carreg Lefain, Mynydd Nefyn a Garn Boduan. Mae gan gydrannau’r ardal gymeriad hon lawer o bethau sy’n gyffredin iddynt, oherwydd maent wedi gweld llawer o Amgaeadau Seneddol, mae ganddynt nodweddion tirwedd tebyg a’r un defnydd a wneir o’r tir, sef tir pori gan mwyaf, a chwareli cerrig yn ddiweddarach. Mae terfyn deheuol yr ardal hon yn ffinio ar yr ochr dde-ddwyreiniol â thir isel Llwyndyrys a Boduan; â Threfor tua’r gogledd ac â Nefyn a llethrau deheuol Garn Boduan tua’r de.

Elfen fwyaf trawiadol y dirwedd hon yw’r dirwedd ffisegol, sy’n hardd ac yn rhamantaidd yn ystyr y 19eg ganrif. Mae grym dramatig ym mhroffil copaon uchel yr Eifl, sy’n disgyn yn syth i’r môr o 564m uwchlaw’r seilnod ordnans. Y tu draw i’r Eifl mae mynyddoedd is Gwynus, Gwylfa a Moel Ty Gwyn sy’n rhaeadru i lawr i Fynydd y Gwylwyr, Carreg Lefain a Mynydd Nefyn, sy’n greigiog ac yn codi eto i 250m. Mae Garn Boduan, sydd â choed wedi eu plannu ar ei hochr ogleddol, ond sydd fel arall yn foel â brigiadau niferus, yn amlwg iawn ym mhen deheuol yr ardal gymeriad. Mae’r morlin yn gyfres o faeau cilfachog o Drwyn y Gorlech ar ochr orllewinol yr Eifl i Benrhyn Bodeilas. Rhwng pentiroedd creigiog Trwyn y Gorlech a Phenrhyn Glas mae Porth y Nant, a rhwng Penrhyn Glas a Phenrhyn Bodeilias mae Porth Pistyll a Porth Bodeilias. Mae’r baeau hyn yn erydu’n ddrwg. Yn Nant Gwrtheyrn mae’r silff arfordirol ger barics y chwarel yn disgyn 40m i’r traeth; ym Mhorth Pistyll mae’n disgyn 50m. Yn y naill leoliad a’r llall mae nentydd o’r tir uwch wedi ffurfio ceunentydd dwfn ar eu taith i’r môr.

Nodwedd arall o’r dirwedd, nad yw mor amlwg ond sy’n dal yn bwysig, ac sy’n gyson drwy’r ardal gyfan yw thema tirwedd hanesyddol pori ucheldir. Mae’n debyg bod Garn Boduan, a oedd yn rhan o diroedd demên y Tywysog ym Moduan, ond a oedd yn gwbl anaddas ar gyfer amaethu âr, yn cael ei gwerthfawrogi fel adnodd i bori anifeiliaid ar fynydd-dir. Yn yr un modd, mae tystiolaeth ddogfennol cofnodion swyddwyr y 14eg ganrif yn cyfeirio at rent Gwaith Tai Mynydd sy’n ymwneud mae’n debyg â nôl a chario porthiant i heusorion y mynyddoedd o amgylch Nefyn, sef Mynydd Nefyn, Carreg Lefain a’r Gwylwyr, tiroedd a ddogfennwyd yn ddiweddarach fel tir comin ar gyfer pori. Mae Mynydd Carnguwch a Bwlch Du, ar yr Eifl hefyd yn cael eu cofnodi fel tiroedd comin, a oedd yn adnodd gwerthfawr ar gyfer pori mewn cyd-destun anaddas ar gyfer aredig.

Ni fu Moel Gwynus, i’r de-orllewin o Lithfaen, erioed yn dir comin. I’r gwrthwyneb, roedd y mynydd cromennog hwn, sy’n codi i 230m, yn y Canol Oesoedd, yn rhan o drefgordd Gwynus, a oedd yn eiddo i’r Tywysog, ac ynghyd â rhan o bentrefannau Bleiddiog a Chastell Mawr, yn gweithredu fel ransh wartheg, yn cynnwys o leiaf wyth hafod. Ar ôl y goncwest roedd yr hafodydd hyn yn eiddo i Syr Thomas Missenden. Roedd Syr Thomas Brereley, ym 1351, yn dal prydles bori ym mhentrefan cyfagos Rhoswyniasa.

Elfen arall o gymeriad tirwedd hanesyddol yr ardal yw’r symudiad tuag at gau tiroedd comin drwy Ddeddf Seneddol, a hynny yn ôl pob tebyg er mwyn gwella tir a gwneud defnydd mwy effeithlon ohono. Mae’r tiroedd comin a gaewyd drwy’r Ddeddf hon yn cynnwys Mynydd Nefyn, Mynydd y Gwylwyr, Comins Rhos, Mynydd Carnguwch a Bwlch Du. Yng Ngharnguwch gwnaethpwyd rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer anghenion rhai o leiaf o ffermwyr y plwyf hwn, yr oedd eu heiddo’n amgylchynu godre’r mynydd a’i dir comin. Roedd waliau cerrig yn rhannu’r mynydd a dyrannwyd rhandiroedd i bob fferm. Dyrannwyd 27 acer ar y mynydd i’r Hafod, yn y gogledd-orllewin; dyrannwyd 34 acer ar y mynydd i Garnguwch Mawr, fferm 226 acer ar yr ochr ddwyreiniol; cafodd Cefn ‘Rhafod 40 acer a dyrannwyd 55 acer i Flaenau Isaf. Neilltuwyd saith acer ar hugain ar gyfer tanwydd.

Mae’r amgaeadau Seneddol yn hawdd i’w hadnabod, nid yn gymaint oherwydd terfynau’r Amgaeadau, ond oherwydd y waliau cerrig sy’n dynodi terfynau rhandiroedd petryal, bychain yr Amgaeadau ac, mewn rhai achosion, terfynau llai rheolaidd tiroedd a lechfeddiannwyd. Mae’r lleiniau a lechfeddiannwyd i’w gweld o hyd ym mhen gogleddol Amgaead Bwlch Du a nifer o leiniau’r Amgaead yn y pen deheuol, yn Llithfaen.

Mae Mynydd Carnguwch, a arferai fod yn fynydd agored, ac sydd bellach wedi ei drawstorri gan waliau cerrig sych, unionlin, yn hollol wahanol i gaeau a phadogau afreolaidd gan mwyaf y ffermydd sydd ar odre’r mynydd, lle ceir hefyd sylfeini creiriol aneddiadau cylchoedd cytiau a thai llwyfan. Ym Mynydd Nefyn mae clwstwr o randiroedd Seneddol petryal gyda’i gilydd ar ochr orllewinol yr hen dir comin, heb fod ymhell o Nefyn. Mae rhaniadau mewnol hir a syth yr Amgaead yn hollol wahanol i gaeau Cerniog a Chastell Mawr tua’r de-ddwyrain.

Mae un thema bwysig sy’n berthnasol i’r dirwedd gyfan, sef toreth o archaeoleg greiriol. Gan fod rhan helaeth o’r ardal gymeriad yn ucheldir, a’i bod oherwydd ei rhinweddau a’i dyluniad wedi datblygu system amaethu yn y gorffennol a oedd yn rhoi pwyslais ar yr economi fugeiliol, mae sawl elfen o dirweddau cynharach, o’r cyfnod cynhanesyddol ac o gyfnod cynnar mewn hanes, wedi goroesi. Mae’r rhain yn cynnwys aneddiadau cylchoedd cytiau o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar, gwasgaredig a chnewyllol, mewn tyddynnod a thystiolaeth o ‘gytiau hirion’ a thai llwyfan o’r cyfnod canoloesol ac ôl-ganoloesol. Disgrifir y lleoliadau lle ceir clystyrau o rai o’r nodweddion hyn yn y disgrifiad hanesyddol o’r ardal gymeriad hon. Yn fwyaf arbennig, mae’r ardal gymeriad yn cynnwys dwy amddiffynfa fawr â waliau cerrig, o wahanol is-gyfnodau, ar gopa Tre’r Ceiri, un o fynyddoedd yr Eifl, ac ar gopa Garn Boduan.

Agorwyd chwareli ar yr arfordir lle’r oedd yr ithfaen caled yn brigo. Roedd rhai’n fach iawn, ond roedd eraill yn fawr ac yn llwyddiannus, yn enwedig o ganol y 19eg ganrif ymlaen, pan ddaeth y chwareli lleol at ei gilydd i ffurfio’r Welsh Granite Company. Y Gwylwyr, Moel Ty Gwyn ym Mhistyll , Carreg y Llam, Porth y Nant a’r Eifl yn Nhrefor oedd y chwareli mwyaf. Datblygodd cymunedau o’u cwmpas, gyda thai a barics i’r gweithwyr, a chrëwyd cymeriad diwydiannol a thirwedd greithiog ar hyd yr arfordir o Drefor i Nefyn.

Mae cysylltiadau diwylliannol tirwedd benodol yn yr ardal gymeriad hon yn cyfeirio at greu cymunedau lle ceir un alwedigaeth amlwg iawn. Yma mae diwylliant cymunedau’r chwarel a phresenoldeb amlwg y diwydiant chwarelyddiaeth yn dod at ei gilydd i ddylanwadu ar gymeriad y dirwedd.

Mai ailddefnyddio barics y chwarelwyr ym Mhorth y Nant, yn Nant Gwrtheyrn i greu Canolfan Iaith a Threftadaeth yn cael ei ystyried yn elfen ddiwylliannol o hanes tirwedd y cwm hwn.

Mae’r cwm hwn hefyd yn gysylltiedig â chwedl sy’n cael ei hadleisio mewn rhannau eraill o Gymru. Mae’r chwedl o’r cyfnod canoloesol cynnar yn sôn am y gwrthdaro rhwng Emrys Wledig a Gwrtheyrn. Roedd Gwrtheyrn yn bwriadu adeiladu amddiffynfa ar y mynydd a ddaeth i gael ei adnabod yn ddiweddarach fel Dinas Emrys. Cafodd ei atal, fodd bynnag, gan bwerau proffwydol Emrys, ac fe’i gorfodwyd i adael Dinas Emrys a symud i le o’r enw Caer Gwrtheyrn, yn ôl y ddogfen o’r nawfed ganrif sy’n adrodd hanes y digwyddiadau hyn. Mae’n bosibl mai cysylltiad onomastig yw hwn rhwng Caer Gwrtheyrn a Nant Gwrtheyrn, ond mae’n ddiddorol sylwi bod Caer Gwrtheyrn yn rhan o diriogaeth Gwynessi – Gwynus, neu Wyniasa mae’n debyg, sy’n cael ei gofnodi yn y dogfennau hanesyddol fel ransh wartheg a thir pori’r Tywysog yng nghwmwd Dinllaen yn y 13eg ganrif. Yr hyn sy’n gwneud y stori’n fwy diddorol yw mai hwn yw’r cofnod cyntaf o’r ddraig goch fel un o symbolau Cymru.




Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol