English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 11 Carn Saethon, Carneddol, Mynytho a Mynydd Tir-y-cwmwd


Mynytho


Foel Gron, Mynytho


Mynydd Tirycwmwd

Cefndir hanesyddol

Ceir tystiolaeth o weithgaredd cynnar ar ffurf beddrod siambr ar wddf pentir Mynydd Tir-y-cwmwd ac i’r gorllewin o Fynytho yn yr Hen Efail (PRN 445, 1250). Mae Carnedd y Brenin Engan ac olion claddu posibl yn Hen Fynwent, i’r dwyrain o Foel Gron, yn awgrymu rhagor o weithgaredd claddu o’r Oes Efydd Gynnar yn yr ardal honno, ynghyd â chladdiadau yn union i’r de ym Mhen-y-Graigwen (PRN 1249, 1796, 3657). Cofnodwyd corfflosgiadau ger Nant y Castell (PRN 3656).

Mae lloc consentrig yng Nghefn Deuddwr, i’r de o Fynytho (PRN 1241), a lloc amddiffynnol yn y Gadlys (PRN 1240) yn arwyddion o anheddu yn ystod y cyfnod cynhanesyddol diweddar. Cofnodwyd cylchoedd cytiau i’r de o Dir Comin Mynytho (PRN 1244, 6885) a hefyd ger y Gadlys. Gwyddom am fryngaerau ar Garn Saethon lle mae rhagfur cerrig bychan yn defnyddio’r brigiad creigiog fel amddiffynfa (PRN 415), ym mhen deheuol Tir Comin Mynytho (PRN 5795) ac o bobtu’r ddyfnant rhwng Mynytho a Mynydd Tir-y-cwmwd yn Nant y Castell a Phen y Gaer (PRN 442, 443).

Mae nifer o ffynhonnau a tharddellau’n tarddu o’r dirwedd greigiog. Mae dwy ffynnon yn yr ardal gymeriad yn rhai y credid bod iddynt briodweddau arbennig, sef Ffynnon Arian, i’r dwyrain o Foel Gron, a Ffynnon Fyw ger y Gadlys (PRN 409, 1251).

Ym 1808 pasiwyd Deddf Amgaead ar gyfer Tir Comin Mynytho a Mynydd Tir-y-cwmwd. Ceir olion llechfeddiannu hynafol, yn y Gadlys a’r Hen Efail ac ar ochr orllewinol y Foel Gron, a llechfeddiannu mwy diweddar cyn 1808. Caewyd pum can hectar o Fynydd Mynytho (1236 acer) a 122 hectar o Fynydd Tir-y-cwmwd (302 acer). Unwaith eto, daeth colli’r hawl i dorri mawn fel tanwydd yn bwnc llosg a dyrannwyd rhandir afreolaidd ar y Foel Gron er mwyn i bobl gael mynd i dorri mawn.

Dyrannwyd rhandiroedd ar gyfer tyddynnod a lleiniau ar gyfer tai, ac erbyn canol y 19eg ganrif roedd tua 100 o dai yma ac acw yn ardal Mynytho. Ychydig iawn o ddatblygu a welwyd ar ôl hynny yn ystod dechrau’r 20fed ganrif. Erbyn diwedd yr 20fed ganrif, fodd bynnag, roedd newid i’w weld yn y patrwm anheddu. Newidiodd y patrwm gwasgaredig a oedd yn nodweddiadol o’r 19eg ganrif. Dyblodd nifer y tai ym Mynytho a datblygodd dau gnewyllyn penodol o anheddau ym Mhen Lôn, i’r de o’r Foel Gron (dros 100 o dai), ac ar y groesffordd ym Mhen y Groeslon (tua 60 o dai).

Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif agorwyd chwareli ar y pentir ithfaen. Roedd llawer o drigolion Llanbedrog a phobl a oedd yn byw yn y clystyrau bychain o fythynnod o amgylch gwddf y pentir yn gweithio yn y chwareli cerrig. Symudodd pobl i’r ardal o Nefyn a Phenmaenmawr, lle’r oedd bri mawr ar gynhyrchu sets.

Ychydig iawn o newidiadau sydd wedi digwydd ar Fynydd Tir-y-cwmwd ers i’r chwareli gau ym 1949, ar wahân i ddatblygiad anorfod maes carafanau a chabanau gwyliau ar ochr ddeheuol gwddf y pentir, a mwy o garafanau tua’r gogledd.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Ymgartrefu ar y tir comin ym Mynytho cyn amgaeadau rheolaidd. Mae tystiolaeth o lechfeddiannu cynharach i’w weld o hyd yn yr ardal cau tiroedd ar ffurf amlinelliad afreolaidd.
• Amgaead Seneddol ar ddechrau’r 19eg ganrif â lleiniau a phadogau unionlin.
• Mae nifer o fythynnod traddodiadol yn adlewyrchu cymeriad y cyfnod llechfeddiannu a chyfnod yr Amgaead.

Mae cadwyn o fewnwthiadau igneaidd a thir uchel yn ymestyn o’r gogledd-orllewin i’r de-ddwyrain, o Garn Fadryn ym mhlwyf Llaniestyn i’r môr yn Llanbedrog. Mae’r ardal gymeriad hon yn disgrifio’r Amgaeadau Seneddol ym Mynytho a Mynydd Tir-y-cwmwd a thir uchel cyfagos Carn Saethon, Carneddol a Foel Fawr.

Mae Carn Saethon a Charneddol wedi eu cynnwys yn yr ardal gymeriad hon, ynghyd â Mynytho, gan eu bod yn rhan o’r rhes o fewnwthiadau folcanig o Garn Fadryn i Fynydd Tir-y-cwmwd. Mae Carn Saethon a Charneddol rhwng Carn Fadryn a Mynytho. Mae Mynydd Tir-y-cwmwd yn ymestyn fel pentir i’r môr yn Llanbedrog.

Mae tirwedd Mynytho’n donnog a cheir llawer o dir garw, tua 80m i 140m uwchlaw’r Seilnod Ordnans, sy’n wlyb ac yn gorsiog mewn mannau ac yn cynnwys llawer o darddellau. Mae mewnwthiadau igneaidd yn y Foel Fawr (179m uwchlaw’r Seilnod Ordnans), ar Dir Comin Mynytho (170m uwchlaw’r Seilnod Ordnans) ac ar y Foel Gron (170m uwchlaw’r Seilnod Ordnans) yn gwanu’r dirwedd â brigiadau creigiog.

Estyniad o’r cadwyn hwn o greigiau igneaidd yw Mynydd Tir-y-Cwmwd. Mae’n ymestyn allan i’r môr fel pentir crwn, moel, trawiadol ac yn codi i 132m uwchlaw’r Seilnod Ordnans ger y glannau.

Roedd pobl wedi dechrau codi tai ar dir comin Mynytho cyn Deddf Amgaead dechrau’r 19eg ganrif a daliasant i godi tai yno ar ôl hynny. Mae cymeriad y dirwedd yn adlewyrchu’r broses anheddu hon erbyn heddiw, â’r lleiniau a’r padogau unionlin, sy’n nodweddiadol o ddechrau’r 19eg ganrif, mewn gwrthgyferbyniad â phatrwm afreolaidd y caeau yn y dirwedd ehangach. Er hynny, mae tystiolaeth o lechfeddiannu afreolaidd hyn i’w weld o hyd ym mhatrwm anheddu Mynytho, ac mae amlinelliad afreolaidd y caeau hyn i’w weld o fewn yr ardal cau tiroedd.

Er bod llawer o dai newydd wedi cael eu hadeiladu ym Mynytho yn ddiweddar, ac er eu bod wedi eu codi mewn dau le penodol, sef Pen Lôn a Phen y Groeslon, gan newid y patrwm gwasgaredig gwreiddiol, mae digon o fythynnod traddodiadol yn yr ardal o hyd sy’n adlewyrchu cymeriad y cyfnod llechfeddiannu a’r cyfnod Cau Tiroedd. Mae nifer o’r rhain yn Adeiladau Rhestredig oherwydd eu cyd-destun a’u cymeriad. Mae enghreifftiau da i’w gweld yn Rhedyn a Thyn y Mynydd, y naill a’r llall yn enghreifftiau o lechfeddiannu ar gwr y comin, ac ym Mryn yr Efail, bwthyn unllawr â chroglofft, wedi ei adeiladu â waliau cerrig rwbel lleol. To llechi sydd i bob un o’r bythynnod hyn, ond mae’n werth cofio mai gwellt oedd yn cael ei ddefnyddio i doi gan amlaf yn ardal Llanbedrog ar droad y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif.

Mae adfeilion melin wynt ar gopa’r Foel Fawr. Roedd y felin yn adfail ym 1810 pan welodd Hyde Hall hi. Mae’n amlwg bod y lleoliad uchel yn addas i felin wynt, ond yng ngeiriau’r croniclydd cryno, ‘with the general supply of water in this part of the country, it is not so much surprising that a mill of this sort should be permitted to go to ruin, or that one should ever have been built’.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol