English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 10 Carn Fadryn


Carn Fadryn


Carn Fadryn, caeau caeëdig

Cefndir hanesyddol

Mae Carn Fadryn yn fynydd amlwg iawn sy’n codi ar y copa i 371m uwchben llwyfandir caeëdig tua 350m o uchder. Mae Moel Caerau i’r dwyrain yn 200m a Garn Bach i’r de-ddwyrain yn 280m.

Mae posibilrwydd o weithgaredd cynnar ar gopa Carn Fadryn, sy’n cael ei gynrychioli gan garnedd a chistgladdiad ar y llwyfandir ac un palstaf o’r Oes Efydd a ddarganfuwyd gerllaw. Y dystiolaeth fwyaf gweladwy a dramatig o weithgaredd, fodd bynnag, yw’r amddiffynfeydd sydd wedi’u codi ar y mynydd hwn yn ystod nifer o gyfnodau gwahanol yn y gorffennol. Mae’r amddiffynfa o’r is-gyfnod cyntaf ar y llwyfandir sydd rhwng tua 340m a 350m uwchlaw’r Seilnod Ordnans, ac mae’n cael ei diffinio gan ragfur o gerrig sychion, yn cau o amgylch arwynebedd o tua 5ha. Mae dwy fynedfa; y naill yn wal ogleddol y darn caeëdig, a’r llall yn y wal ddeheuol. Mae’r amddiffynfa o’r ail is-gyfnod ar ffurf estyniad o’r ardal gaeëdig i’r llethrau tua’r gogledd ac estyniad llai i’r de. Mae traciau sydd wedi eu diffinio’n dda yn arwain at y mynedfeydd, ac mae’n debygol iawn bod y rhain yn hynafol ac o’r un cyfnod â’r amddiffynfeydd. Ceir clystyrau o adeileddau crwn a phetryal yng nghanol padogau bychain yn erbyn y sgri a’r wal o graig sy’n codi ar ochr orllewinol y llwyfandir. Mae’r adeileddau hyn yn ddiweddarach na’r is-gyfnod cyntaf a gallent fod yn ddiweddarach na’r ail is-gyfnod. Mae tebygrwydd rhwng yr adeileddau hyn ac adeileddau’r is-gyfnod Brythonig-Rufeinig yn Nhre’r Ceiri. Cafodd mynedffyrdd lletraws Carn Fadryn a Thre’r Ceiri eu hail-linellu yn ystod yr ail ganrif OC, neu o gwmpas y cyfnod hwnnw. Mae cylchoedd cytiau ar y llethrau gogleddol a deheuol a allai fod yn cyfoesi â’r amddiffynfeydd o is-gyfnodau cynharach (PRN 1021). Dim ond un cylch cytiau pendant sydd wedi ei gofnodi yn y darn caeëdig ar y llwyfandir, ac mae hwnnw ar yr ochr ddeheuol.

Mae trydydd is-gyfnod yr amddiffynfa’n dipyn o enigma. Mae darn caeëdig siâp trapesoid, 75m wrth 16m, wedi ei adeiladu ar y gefnen, ac ar ei hyd, o’r pigyn sydd ar y copa. Mae’r wal, lle mae wedi goroesi, yn fertigol, ac mae awgrym bod iddi drwch dwbl mewn rhai mannau. Wal gerrig sychion ydyw. Ar ôl croesi’r Traeth Mawr o Ardudwy i Eifionydd ac ymlaen i Lyn ym 1188, gwelodd Gerallt Gymro gastell cerrig o’r enw Karnmadrun a oedd wedi ei adeiladu yn ddiweddar ac a oedd yn eiddo i feibion Owain Gwynedd. Mae’n bosibl mai’r cadarnle waliau cerrig sychion ar y copa oedd hwn.

Mae nifer o gylchoedd cytiau eraill ar lethrau de-ddwyreiniol Garn Bach (PRN 4019, 416) ac ym Mhen y Caerau (4027, 4028, 4030). Mae ty llwyfan ar lethrau gorllewinol Carn Fadryn lle mae’r caeau caeëdig.

Ym 1812, caewyd 230ha (568 acer) o Garn Fadryn a Garn Bach drwy amgaead Seneddol. Roedd yr ardal dan sylw’n cynnwys y llwyfandir ar gopa Carn Fadryn yn ei gyfanrwydd a hanner gorllewinol copa Garn Bach. Caewyd llethrau gorllewinol a de-orllewinol y ddau fynydd yr un pryd. Y rhai a fanteisiodd fwyaf o ganlyniad i hyn oedd yr Arglwydd Newborough a William Harvey.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Bryngaer fawr â rhagfuriau wedi eu codi ar ddwy adeg wahanol yn ystod y cyfnod cynhanesyddol diweddar.
• Cadarnle â waliau cerrig ar y copa yn dyddio o’r 12fed ganrif o bosibl. Ceir cofnod credadwy ohono gan Gerallt Gymro ym 1188.
• Tirwedd nodweddiadol o Amgaead Seneddol â lleiniau bychain unionlin a chlwstwr gwasgaredig o fythynnod ar y llethrau isaf.

Mae cadwyn o fewnwthiadau igneaidd a thir uchel yn ymestyn o’r gogledd-orllewin i’r de-ddwyrain o Garn Fadryn ym mhlwyf Llaniestyn i’r môr yn Llanbedrog. Mae’r ardal gymeriad hon yn disgrifio’r Amgaead Seneddol yng Ngharn Fadryn a thir uchel cyfagos Moel Caerau a Garn Bach.

Mewnwthiadau igneaidd creigiog yw’r tri bryn sy’n rhan o ardal gymeriad tirwedd Carn Fadryn. Yr uchaf ohonynt, yn 371m, yw Carn Fadryn. Mae esgeiriau isel yn cysylltu’r bryniau llai. Rhostir yw llwyfandir copa Carn Fadryn, a Garn Bach yn rhannol hefyd. Mae Moel Caerau yn greigiog ond yn cael ei phori. Gwelir dwy thema hollol wrthgyferbyniol yma. Un thema yw’r amddiffynfeydd o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar, drwy ddau is-gyfnod o godi rhagfuriau â llwybrau mynediad clir a hynafol, yn enwedig ar yr ochr ddeheuol. Sefydlwyd amddiffynfa o gyfnod cryn dipyn yn ddiweddarach o bosibl ar y copa ac mae lle i gredu mai’r cadarnle waliau cerrig ar y copa yw Karnmadrun, y castell cerrig a welwyd ac a gofnodwyd gan Gerallt Gymro ym 1188, wedi ei adeiladu yn ddiweddar, a phryd hynny yn nwylo meibion Owain Gwynedd. Y drydedd thema yw amgaead Seneddol. Er bod y tir wedi ei gau, ni fu unrhyw ddatblygiad ar gopa Carn Fadryn. Rhyddhawyd rhan helaeth o’r tir fel tir tanwydd, ond mae’r lleiniau unionlin bychain a’r clwstwr gwasgaredig o fythynnod ar y llethrau isaf sydd o fewn terfynau’r Amgaead yn arwydd o’r broses honno yn nechrau’r 19eg ganrif.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol