English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Llŷn - Ardal 1 Ynys Enlli


Ynys Enlli


Cefndir hanesyddol

Ceir arwyddion o anheddu cynnar ar ffurf gwasgariadau fflint digysylltiad ac, yn fwy uniongyrchol, cylchoedd cytiau o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar, i gyd ar Fynydd Enlli, a chaer bentir bosibl ym mhen deheuol yr ynys (PRN 782, 783, 784, 4534, 4535, 4536, 4538, caer: 3277). Ceir arwyddion hefyd o lwyfannau tai petryal, y rhan fwyaf yn amhosibl i’w dyddio, ond tybir bod rhai’n Ganoloesol o leiaf. (PRN 16786 - 16789, 16795, 16838, 16840, 16844 - 16851, 2760, 2761, 4529 - 4531, 4533).

Mae’r traddodiadau sy’n ymwneud â sefydliadau mynachaidd Enlli wedi’u dogfennu’n gymharol ddiweddar. Mae Llywelyn Fardd, a oedd yn ysgrifennu yn y 12fed ganrif, yn cyfeirio at y sefydliad yn y 6ed ganrif a ffurfiwyd gan Cadfan a Lleuddad. Honnir hefyd bod Beuno o Glynnog, Dyfrig o Went a Phadarn o Arfon yn gorwedd yno. Roedd Gerallt Gymro wedi clywed bod Deiniol o Fangor hefyd wedi’i gladdu ar Enlli, a Gerallt, yn y 1180au, sy’n rhoi adroddiad cynnar o’r traddodiad bod myrdd o saint wedi’u claddu yno; 20,000 yn ôl adroddiadau diweddarach.

Ceir tystiolaeth benodol mewn dwy gofeb gladdu a ddarganfuwyd: darn o groesfaen â llun corff arni uwchben panel o glymau yn plethu drwy’i gilydd, ag arysgrif yn coffáu ‘Esyllt’, neu enw tebyg, ar un o’r ochrau byr; a charreg â siâp croes arni yn dyddio o’r un cyfnod fwy neu lai. Ym 1012 (s.a. 1011) mae Brut y Tywysogion yn cofnodi marwolaeth Iarddur, un o fynachod Enlli. Ym 1995, datgloddiwyd beddau gan Chris Arnold, o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ar y pryd, ac roedd un ohonynt yn cynnwys penglog â darn o aur yn ei geg yn dyddio o c.1070.

Yn ystod y cyfnod cynnar hwn yn hanes y fynachlog mae bron yn sicr bod y sefydliad ar Enlli’n rhan gysylltiedig ac annatod o glas, neu gymuned led-fynachaidd, Aberdaron. Erbyn diwedd y 12fed ganrif credid bod adeiledd y clas, ynghyd â llawer o eglwysi hynafol tebyg, yn dirywio a bod angen eu diwygio. Yn gynnar iawn yn y 13eg ganrif ildiodd clas Aberdaron lawer o’i hawliau i’w abadaeth ac ail-gorfforwyd yr eglwys ar Enlli fel cymuned o ganonau Awstinaidd, dan anogaeth neb llai na Llywelyn ap Iorwerth ei hun. Gwnaethpwyd gwaith adeiladu newydd ar yr ynys a throsglwyddwyd rhan sylweddol o’r hen abadaeth i Abaty’r Santes Fair. Rhoddwyd rhagor o dir ym 1254 ac roedd ‘cwrt’ a ‘siecr’ ar y tir mawr yn rheoli tiroedd y canonau yno. Yn ogystal â thai, ysguboriau, gweirgloddiau a thiroedd pori ar yr ynys, ceid arian parod yn rhent am eiddo ar y tir mawr, basgedi o rawn a haidd a gwlân wyn neu beth bynnag oedd yn cyfateb i werth yr arian parod.

Yn y 1530au cynhaliwyd arolwg o asedau tymhorol ac ysbrydol pob mynachdy, ac yna fe’u darostyngwyd. Diddymwyd mynachdy Enlli, er ei fod yn un o’r tai tlotaf, ym 1537. Cafodd yr ynys a phopeth a oedd yn perthyn iddi, gan gynnwys yr adeiladau cwfeiniol, ei rhoi a’i his-osod gan Edward VI i Thomas Seymor ac, ym 1549, fe’i gwerthwyd i John, Iarll Warwick. Bedair blynedd yn ddiweddarach, trosglwyddodd Iarll Warwick Enlli i John Wyn ap Huw o Fodfel. Yn ystod teyrnasiad Elizabeth, cyhuddwyd John Bodfel o fod yn ben capten môr-ladron Ynys Enlli. Dywedir ei fod yn defnyddio’r ynys i storio nwyddau wedi’u dwyn ac yn eu hanfon ymlaen wedyn i Gaer i’w gwerthu yn y ffeiriau a’r marchnadoedd yno. Bu Enlli’n eiddo i deulu Bodfel, fodd bynnag, tan 1722. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach daeth Enlli’n eiddo i Syr John Wynn o Lynllifon a bu yn y teulu am dros ddau gan mlynedd.

Ymwelodd Pennant ag Enlli ym 1773, a chanfu fod modd byw yn llety’r abadau o hyd. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, disgrifiodd Fenton y lle fel hen dy truenus. Er hynny, hwn oedd y ty mwyaf ar yr ynys ac roedd tri o’r pedwar teulu’n byw yno. Gwelodd Fenton ddwsin neu fwy o dai eraill â phobl yn byw ynddynt, ac roedd cyfanswm y boblogaeth oddeutu’r 60. Erbyn 1850 roedd y boblogaeth wedi cynyddu i 90. Yn ogystal â’r hyn a ddisgrifiwyd fel gwastadedd ffrwythlon yn niwedd y 18fed ganrif, roedd y môr o amgylch Enlli’n doreithiog o bysgod, cimychiaid a chrancod. Roedd y pysgod cregyn yn cael eu cario o’r ynys mewn cychod agored i farchnadoedd Lerpwl.

Ym 1821 adeiladwyd goleudy ar yr orynys ddeheuol. Yn y 1870au ailadeiladwyd yr adeiladau fferm ar sail rhaglen ac arddull bensaernïol benodol, y rhan fwyaf yn cynnwys parau o dai unedig â buarth a rennid gerllaw. Mae yno ddeg ffermdy, pob un ohonynt wedi’i leoli ar hyd y ffordd echelinol gogledd-de, ar wahân i Carreg Fawr, sydd ychydig i’r gorllewin ohoni. Dim ond un ty, bwthyn croglofft Carreg Bach, ychydig i’r de o adfeilion yr Abaty, oroesodd y gwaith ailadeiladu. Mae pob un o’r deg ty yn adeilad rhestredig, ag enghreifftiau o gyrtiau fferm cysylltiedig, tai allan a waliau llociau. Adeiladwyd capel (Methodistiaid) â thy capel gerllaw gan yr Arglwydd Newborough, ar gais y tenantiaid, ym 1875. Mae bellach yn darparu gwasanaeth eciwmenaidd. Mae’r ddwy garreg goffa o’r cyfnod canoloesol cynnar a ddisgrifiwyd uchod yn cael eu cadw yn y capel.

Er gwaethaf disgrifiad Pennant yn y 18fed ganrif o dy’r abad, a’r hyn a fyddai mae’n debyg yn elfennau o eglwys y Priordy ac olion gwasgaredig, yr unig ran adeileddol o’r adeiladau cwfeiniol sydd wedi goroesi yw adfail twr o’r 13eg ganrif ar safle’r priordy, ym mhen gogleddol yr ynys.

Ym 1960, roedd poblogaeth barhaol yr ynys wedi gostwng i saith. Ym 1979 prynwyd yr ynys gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, a bellach mae’n cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolaeth ar y cyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru a Cadw. Mae’r adlais o ddiwedd y 19eg ganrif yn nyluniad y ffermdai a adeiladwyd ar sail cynlluniau’r ystâd, ynghyd â’r capel Methodistaidd cyfoes a’r system caeau gymharol ddiweddar, wedi ailddiffinio tirwedd gwneud Enlli. Mae cymeriad tirwedd Enlli, o ganlyniad, yn dangos arwahanrwydd ynysol ond, yr un pryd, ceir llawer o arwyddion o waith cynllunio ystâd a rheoli treftadaeth.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

• Tystiolaeth ddogfennol ac ychydig o olion gweladwy cymuned fynachaidd bwysig o’r Canol Oesoedd a’r Canol Oesoedd cynnar, rhan o glas mynachaidd Aberdaron ac, ar ôl 1200, tir ac eiddo sylweddol ar y tir mawr.
• Tirwedd yn cynnwys gwrthgyferbyniadau dramatig rhwng y mynydd creigiog sydd heb ei drin a’r caeau amaethyddol caeëdig, taclus a’r ffermdai cysylltiedig ar y gwastadedd gorllewinol.
• Ymarferiad cynhwysfawr mewn rheolaeth ystadau Fictoraidd.

Mae Enlli’n ynys hir, yn ymestyn dros 190ha, ar echelin gogledd-ddwyrain – de-orllewin. Mae’n 1km o led ac 1.6km o hyd yn ei rhan ogleddol, ac yn culhau i guldir yn y de, sy’n cysylltu â gorynys yn ei ben deheuol. Mae’r ynys 3km o bentir Pen y Cil a 6km o draeth Aberdaron. Mae’r rhan ogleddol yn llawn gwrthgyferbyniadau dramatig. Mae’r ochr orllewinol yn isel ac yn gymharol wastad, ac mae’r ochr ddwyreiniol yn codi’n serth o lefel y môr i 160m. Mae’r mynydd yn agored, yn greigiog ac wedi’i orchuddi â phrysg. Mae’r gwastadedd gorllewinol yn dir amaeth wedi’i drin, yn cael ei rannu gan gloddiau unionsyth ar y cyfan, â ffermdai wedi’u lleoli gan mwyaf ar hyd y rhan lle mae’r gwastadedd yn cwrdd â’r mynydd. Mae goleudy ar yr orynys ddeheuol.

Mae Enlli, y cyfeirir ati yn Saesneg wrth yr enw Sgandinafaidd, Bardsey, yn adnabyddus am ei chysylltiadau mynachaidd. Ychydig iawn a wyddom fodd bynnag am hanes cynnar yr ynys. Mae naws ddwyfol i’r ynysoedd gorllewinol sydd, mewn cyd-destun paganaidd ac mewn traddodiad diweddarach, yn cael eu cysylltu â duwiau, adfywio, ieuenctid parhaol a bywyd tragwyddol. Mae testun o’r 15fed ganrif yn cyfeirio at draddodiad bod Myrddin yn gysylltiedig â’r ynys ar un adeg (Clas Merddin) ar ôl iddo guddio tri thlws ar ddeg Ynys Prydain yno. Mae’r tlysau hyn yn cynnwys swyndlysau aileni a digonedd. Nid yw’n anghyffredin i fangre a ystyrid yn sanctaidd mewn cyd-destun Paganaidd, yn enwedig ynys, gael ei holynu gan gymuned Gristnogol.

Mae gwrthgyferbyniad dramatig rhwng y mynydd creigiog sydd heb ei drin a’r caeau amaethyddol caeëdig, taclus a’r ffermydd cysylltiedig ar wastadedd y gorllewin. Er gwaetha’r gwaith cynhwysfawr yn seiliedig ar ddulliau rheoli ystadau Fictoraidd a gwblhawyd yn y 1870au, mae mân olion gweladwy’r gymuned fynachaidd bwysig o’r Canol Oesoedd a’r Canol Oesoedd cynnar, a thystiolaeth o dai crwn, a thai llwyfan canoloesol posibl, yn dangos ffased cyferbyniol i batrwm tiroedd amaethu diweddarach.

Mae’r cysylltiad rhwng yr ynys ac eglwys clas mynachaidd Aberdaron ar y tir mawr, a thir ac eiddo helaeth Abaty’r Santes Fair ar y tir mawr ar ôl 1200, yn bwysig.


Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Llŷn

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol