English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Ffestiniog - Ardal 9 Harbwr Porthmadog

 

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005

Cefndir hanesyddol

Harbwr dwr dwfn a grëwyd yn anfwriadol o ganlyniad i adeiladu’r Cob ym 1808-1813, a sianelodd ddyfroedd Afon Glaslyn rhwng Ynys Towyn a’r Grîn. Mae’r cei cyhoeddus (SH 5688 3838) yn dyddio o 1824 pan ddechreuwyd defnyddio’r ardal hon i drosglwyddo llechi o’r cychod afon i longau mordeithiol, yn hytrach nag Ynys Cyngar i’r dwyrain, oedd yn fwy agored. Adeiladwyd harbwrs eraill yn Ynys y Tywyn a thua Borth y Gest hyd yr 1870au, ac fe’u gwasanaethid gan reilffordd yn dilyn adeiladu Rheilffordd Ffestiniog ym 1836. Ni fwriwyd ymlaen â chynllun i ddatblygu Llyn Bach (SH 5720 3873 C - yr ardal yn union i fyny’r afon o bont Britannia yn SH 5707 3847) yn harbwr ym1851.

Yn ogystal â bod yn harbwr llechi sylweddol, yr oedd Porthmadog hefyd yn safle i nifer o iardiau llongau a oedd yn cynhyrchu'r ‘Western Ocean Yachts’ unigryw â dau hwylbren iddynt. Parhaodd hwn yn safle blaenllaw ym myd hwylio hyd at ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Ychydig o ddefnydd a wnaed o'r harbwr o 1940 ymlaen, ac ers yr 1960au fe'i defnyddiwyd bron yn llwyr ar gyfer cychod pleser. Codwyd maisonettes ar nifer o’r ceiau ar ddiwedd yr 1960au.

 

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Harbwr mwynol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a seiri llongau

Mae’r harbwr yn cynnwys cyfres o geiau a adeiladwyd o garreg gan ddefnyddio’r blociau mawr a gloddiwyd yn yr ardal o gwmpas mae’n debyg. Mae nifer o adeiladau a oedd yn gysylltiedig ag oes aur yr harbwr wedi goroesi, megis y llofft hwyliau, y Genhadaeth i Forwyr, a’r tai, y swyddfeydd a’r warysau sylweddol ym Mhencei (Cornhill), y rhan fwyaf ohonynt bellach yn rhestredig ac wedi’u disgrifio’n fanwl yn y disgrifiadau rhestru. Mae sawl datblygiad wedi ychwanegu at dirwedd yr harbwr – y maisonettes ger yr orsaf yn SH 5706 3829 a 5708 3845 a enillodd wobr yr Ymddiriedolaeth Ddinesig yn yr 1960au, a swyddfa Cyllid y Wlad ar Ynys y Tywyn (SH 5722 3844). Mae rhai adeiladau wedi goroesi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, megis yr un sied sydd ar ôl, sydd bellach yn gartref i’r Amgueddfa Forwrol, a Bron Guallt a adeiladwyd ym 1895, cartref a swyddfa asiant llongau Chwarel yr Oakeley (hefyd yn rhestredig).

Mae Ynys Lewis (SH 5704 3791C) yn anarferol gan y ffurfiwyd hi’n gyfan gwbl o falast a ollyngwyd gan longau oedd yn ymweld; o’r herwydd mae’n ffurfio safle daearegol unigryw, yn cynnwys cerrig o bob rhan o’r byd.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Ffestiniog

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol