English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Dysynni – Ardal 8 Llanegryn PRN 28657


Pont a phentref Llanegryn

 

 

Cefndir hanesyddol

Eglwys Llanegryn yw canol un o blwyfi hanesyddol ardal y Gofrestr, er ei bod ychydig bellter i ffwrdd o brif gnewyllyn pentref Llanegryn. Mae'r eglwys ei hun, a restrir yn Taxatio 1253, yn Ganoloesol; mae rhan fwyaf o'r adeilad yn debygol o ddyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n debygol wrth i Lanegryn dyfu fel setliad hirfain heb ei gynllunio ble mae ffordd eilaidd yn croesi nant, er fel y nodir isod mae'n ymddangos i fod yn debygol bod ystâd Peniarth wedi adeiladu rhai o'r anheddau yma. Cyfeiriad dogfennau o'r unfed ganrif ar bymtheg at adeiladu melin newydd ym mhlwyf Llanegryn ac at ddinistrio'r hen felin yn ystod gwrthryfel Glyndwr; mae'n bosibl bod y rhain wedi eu lleoli yn y pentref presennol, gan ei fod yn safle manteisiol ar gyfer pŵer dŵr. Mae map degwm Llanegryn yn 1842 yn pwysleisio ffrydiau melinau ac yn dynodi setliad hirfain bach. Mae yna awgrym o bentref cnewyllol yn 1627, ac yn 1761 roedd siop Llanegryn yn gwerthu snisin a thybaco a gludwyd o Gaernarfon. Awgryma'r hanesydd lleol David Williams fod y rhan fwyaf o'r tai o fewn cnewyllyn y pentref yn dyddio o 1815 i 1870. Mae'n nodi i'r bythynnod ystâd nodweddiadol a adeiladwyd gan Beniarth ar ben dwyreiniol y pentref (Preswylfa, Bryn Meirion a Maes yr Haf) gael eu hadeiladu yn fuan wedi 1870.

 

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Pentref hanesyddol

Mae'r eglwys wedi ei lleoli ychydig o bellter o'r pentref, sydd yn ei hanfod yn ymledu bob ochr i ffordd eilaidd yn arwain at Beniarth a Phont y Garth ar bwynt ble mae'n croesi llednant fechan i'r Dysynni. Mae cymeriad Llanegryn yn sylfaenol werinol. Mae'r tai yn rhai cerrig a dau lawr yn bennaf, wedi eu hadeiladu'n unigol ond yn ymddangos i ddyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Nodwedd anarferol yn y pentref yw creu sgwâr bychan ar y pen dwyreiniol, wedi ei ffurfio gan ddau gapel o wahanol enwadau a festri a rennir. Mae neuadd bentref o'r 1950au, ‘Neuadd Egryn', yn cwblhau'r naws sgwâr, er ei fod yn gwrthdaro gyda phensaernïaeth Fictoraidd yr adeiladau crefyddol, bellach wedi dyddio ac yn dirywio.

Eithriad i natur digynllun y pentref yw'r ddwy res o dai a noddwyd gan ystâd Peniarth ar ben dwyreiniol y pentref yn SH 6035 0559, gyda'u harddull ffug werinol hunanymwybodol a ffenestri haearn bwrw nodweddiadol. Mae'r anheddau modern i'r dwyrain o'r rhain yn sefyll ar safle'r tai pridd, tai a adeiladwyd gyda waliau pridd.

 

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Dysynni

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol