English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Dysynni – Ardal 7 Gerddi a Thŷ Peniarth PRN 28656


Y fynedfa i Beniarth

 

 

Cefndir hanesyddol

Annedd ar lannau gogleddol yr Afon Dysynni, yn gartref i'r teulu Owen am gyfnod maith, gyda gwreiddiau mewn trefgordd Ganoloesol. Mae Rhôl Cymorth lleyg 1292-3 yn dynodi bod yna boblogaeth helaeth yma'n barod, fel canolbwynt arglwyddiaeth freninlinol seciwlar rhydd. Roedd yna 62 o deuluoedd rhydd-ddaliol ym Mheniarth ar y pryd, oedd ag adnoddau digonol i orfod talu treth. Roedd gan chwech o'r 62 o denantiaid asedau symudol gyda gwerth mwy na 10/-, sy'n cyfateb i ddau geffyl neu dair buwch. Erbyn 1418 roedd yna dŷ ar y safle y cyfeiriwyd ato fel y ‘plas', dan berchnogaeth y teulu Llwyd/Lloyd, ac fe ymddengys eu bod wedi ei sefydlu fel parc yn yr unfed ganrif ar bymtheg, gan fod Syr Owain ap Gwylim yn canmol Dafydd Llwyd am ei ‘Percydd, mynydd uwch minion, Pysgod, ŷd, cig is brig bron Gwar cwmwd, goror cymwys, Gweirglodd-dir, coetir bod cwys' (Parciau a mynydd uwch y terfyn/Pysgod, ŷd, cig islaw llethr y bryn, Mae'r cantref yn eang gyda therfyn addas, Pob cwys yn ddôl neu goetir).

Yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg, basiodd yr eiddo trwy briodas i'r teulu Owen ac mae'n debyg mai Richard Owen a gwblhaodd ehangiad y tŷ, gan o bosibl ymestyn y tiroedd ymhellach erbyn 1700. Mae'r rhan hynaf o'r tŷ yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg, o flociau carreg enfawr, gydag ychwanegiadau hwyrach, yn cynnwys darn hwyrach o'r ail ganrif ar bymtheg a wnaeth y tŷ yn gynllun sgwâr. Os yw'r tiroedd yn hŷn, maent yn debygol o darddu o gyfnod mab Richard, Lewis. Beth bynnag, mae dyddiad tua diwedd yr ail ganrif ar bymtheg neu ddechrau'r ddeunawfed ganrif yn ymddangos i fod yn debygol.

Cafwyd addasiadau i'r tŷ a'r tiroedd ers hynny. Mae gan floc swyddfa'r ystâd garreg ddyddio o 1727, ac fe gredir y cafodd ei godi'n wreiddiol fel ffoli; mae gan ffasâd brics ar y pen gogledd-ddwyreiniol bortico o 1858.

Roedd y dramwyfa i'r tŷ yn dod o'r de tan yr Ail Ryfel Byd, pan gafodd y bont dros yr Afon Dysynni ei dinistrio. Bellach fe ddefnyddir yr hen fynedfa gwasanaeth.

Mae Peniarth yn dal i fod yn gartref preifat.

 

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Parc tirwedd gradd II*, annedd rhestredig gradd II*

Mae'r tŷ ei hun a'r parc yn dal mewn dwylo preifat. Nid oes modd gweld y tŷ o'r ffordd nac o unrhyw le arall gyda mynediad i'r cyhoedd, gan ei fod wedi ei guddio mewn clwstwr o goed.

Mae'r tiroedd pleser yn amgylchynu'r tŷ ac yn rhedeg i lawr i'r afon, gyda golygfeydd o Gader Idris. Coetir yw'n bennaf, gyda nifer o goed aeddfed wedi eu haddurno gyda llwybrau, hafdai a thŷ cychod. Ceir disgrifiad manwl o'r gerddi yn y Gofrestr o Barciau a Gerddi, ond i grynhoi fe ymddengys bod y tiroedd ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg/dechrau'r ddeunawfed ganrif wedi meddiannu ardal drionglog yn bennaf tua gogledd y tŷ, tra'i bod yn bosibl mai'r ardd gynharaf oedd ble mae gardd y gegin nawr. Gellir hefyd gweld olion adeiladau milwrol a godwyd yn ystod rhyfel 1939-1945 ar y tiroedd hefyd, mewn mannau wedi eu gorchuddio'n rhannol gan goedwigaeth, ynghyd â llawr caled concrid a thraciau cysylltiedig.

Y nodwedd gyhoeddus fwyaf amlwg yw'r porth addurniadol hyfryd ar ben gogleddol y parc ar ffordd Llanegryn i Bont y Garth, a godwyd pan gafodd y dramwyfa hon ei dyrchafu i'r brif fynedfa i'r parc yn 1945. Mae'r pileri sgwâr o garreg grut nadd lliw golau, gyda phaneli ar y blaen a therfyniad pêl a chylch a phêl ar y brig. Mae'r waliau terfyn gyda'u copinau ceiliog ac iâr yn nodwedd amlwg ar hyd y ffordd o Lanegryn i Bont y Garth.

Nodir yma fod y fferm gartref sy'n gysylltiedig i Beniarth wedi ei lleoli yn ardal 09 yn SH 6105 0604.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Dysynni

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol