Cefndir hanesyddol
Mae pentref Bryncrug wedi ei nodi fel trefgordd Ganoloesol ac
wedi ei leoli ar bwynt ble mae ffordd Rufeinig Cefn Gaer i Bennal
a'i ragflaenydd, y ffordd Ganoloesol heibio Domen Dreiniog, yn
croesi'r Afon Fathew. Mae wedi ei nodi ar fap degwm Tywyn yn
1842 ac ar fap yr ystâd yn 1860 fel tri setliad bychan, wedi
ei leoli ym Mhont Fathew (SH 6089 0333), Perthi Citiau (SH 6089
0311) a Phont y Felindre (SH 6138 0309), sy'n debygol o fod wedi
ehangu yn dilyn agor Rheilffordd Tal-y-llyn yn 1866, a fyddai
wedi ei alluogi i fod yn setliad noswylio ar gyfer chwarelwyr
Bryneglwys a'u teuluoedd. Mae wedi parhau i ehangu fel un o faestrefi
Tywyn tua diwedd yr ugeinfed ganrif a dechrau'r unfed ganrif
ar hugain.
Roedd y rhan fwyaf o'r tir yn perthyn i Ynysymaengwyn ond ymddengys
ei fod hefyd wedi mwynhau nawdd ystâd Peniarth yn ôl tystiolaeth
y gwesty ‘Peniarth' mawr yn 1901. Mae'r pentref i weld wedi datblygu
mewn ffordd i'r diben heb fawr o synnwyr o batrwm ystâd na phensaernïaeth
yn cael ei ddilyn.
Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol
Pentref o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg
Mae Bryncrug wedi ei leoli ar y brif ffordd arfordirol ar yr
Afon Fathew, ger y man mae'n llifo i'r Dysynni, ac mae'n cynnwys
adeiladau sy'n dyddio'n bennaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg
a'r ugeinfed ganrif, ac felly mae'n gwrthdaro cryn dipyn gyda
chymeriad mwy gwerinol Llanegryn. Gwesty Peniarth Arms yw'r adeilad
mwyaf amlwg yn y pentref, wedi ei adeiladu'n bennaf o gerrig
wedi'u sgwario ond gyda simneiau brics a chyrn simneiau ceramig.
Ar bob ochr mae tai teras bach Fictoraidd. Mae'r eglwys hefyd
o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Un o nodweddion y pentref yw'r siop bob dim a phapur newydd
ddeniadol yn wynebu'r bont ar gyfer teithwyr sy'n gadael Tywyn.
Mae'r meintiau yn werinol, ac mae'n cynnwys pum ffenestr dormer
nodweddiadol i Feirionnydd ar y llawr uchaf, ond mae wedi ei
adeiladu'n bennaf o lechi breision, sy'n awgrymu dyddiad yn y
1840au, pan ddechreuodd chwarel Bryneglwys gynhyrchu, neu'n ddiweddarach.
Mae anheddau eraill o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y pentref
wedi eu gorchuddio â gro chwipio ac nid yw'n bosibl nodi beth
yw'r deunydd adeiladu.
Mae yna rai stadau tai o'r ugeinfed ganrif yn y pentref.