English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Dysynni – Ardal 3 Tywyn PRN 18349


Tywyn gyferbyn i'r eglwys, o bosibl ar safle'r dref ganoloesol

 

 

Cefndir hanesyddol

Tref farchnad a chyrchfan wyliau sydd nawr yn llunio canolfan isranbarthol ar gyfer de Gwynedd. Ymddengys ei fod yn tarddu o eglwys y plwyf, ac fel yr awgryma'r enw ‘Tywyn' (glan y môr neu dwyn tywod), mae'n debygol pan y'i sefydlwyd ei fod ar lan y dŵr. Efallai mai dyma oedd prif ganolfan eglwysig rhan de-orllewinol Gwynedd. Ceir cofnod o Villa de Tewyn yn 1283, sy'n awgrym o ddechreuad bywyd trefol, ond nid oedd erioed yn dref bwrdeistref blanedig ac fe ymddengys i fod wedi esblygu o amgylch yr eglwys. Fe ymddengys fod y farchnad wedi tyfu o amgylch yr eglwys a Sgwâr Corbett. Mae ymwelwyr yn cofnodi argraff cwbl negyddol o'r lle tan ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ddechreuodd ehangu dan nawdd teulu Corbet (ac o 1878, Corbett) o Ynysymaengwyn. O'r 1860au roedd wedi ei wasanaethu gan y rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol, ac yn brolio seilwaith dinesig ar ffurf cyflenwad nwy. Erbyn hyn, roedd yn ymhonni i fod yn datblygu fel cyrchfan wyliau, gyda thai llety yn ymddangos.

Wedi i John Corbett brynu ystâd Ynysymaengwyn yn 1878, cafwyd buddsoddi pellach yn y dref, yn cynnwys datblygu'r system ddŵr a charthffosiaeth, adeiladu'r promenâd, ystafelloedd cynnull 1893 (bellach yn sinema), Ysgol Ganolradd 1894 a neuadd y farchnad yn 1897. Datblygwyd y Stryd Fawr yn raddol o'r 1860au i'r 1960au, ac yna dechreuwyd gweld tai ar ffurf filâu, yn arbennig felly yn rhan ddeheuol y dref.

O Awst 1941 a Mai 1945 sefydlwyd gwersyll RAF yn Nhywyn, gyda'r fyddin yn cymryd drosodd ar ddiwedd y rhyfel. Mae'r rhedfeydd wedi diflannu, ond mae nifer o'r adeiladau yn dal i sefyll, gyda llety ar gyfer personél priod y lluoedd, anheddau un talcen yng ngogledd y gwersyll, bellach mewn dwylo preifat.

Wedi ailgychwyn Rheilffordd Tal-y-llyn yn 1951 roedd Tywyn yn ôl ar y map twristaidd unwaith eto. Cafodd y dref archfarchnad ar safle hen iard nwyddau'r brif linell tua diwedd yr ugeinfed ganrif, ysbyty, canolfan hamdden ac ystâd ddiwydiannol ar y ffordd ger Pendre. Gwrthodwyd cynnig ar gyfer datblygiad marina ar lan y môr, ond mae yna gryn dipyn o adeiladau newydd wedi codi yn ardal y Promenâd.

 

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Mae Tywyn yn dref gyda chryn amrywiaeth pensaernïol, a ble mae gwahanol batrymau strydoedd yn amlwg. Mae craidd hanesyddol y dref wedi ei nodweddu gan dai dau lawr bychan, o bosibl yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ogystal â rhai strwythurau mwy â ffrynt dwbl yng nghyffiniau'r eglwys a'r farchnad. Yr eglwys ei hun, gyda chorff o'r ddeuddegfed ganrif ac adenydd, côr a thŵr o gyfnod Fictoria, yn amlwg yw canol hanesyddol y rhan o'r setliad, ac mae'r tŵr yn weladwy o gryn bellter. Fodd bynnag, mae adeilad sylweddol Gwesty Corbett Arms yn cau'r ardal farchnad hanesyddol ac yn dominyddu'r rhan hon o'r dref. Mae rhai o'r adeiladau yn wynebu'r eglwys yn wag, gan gynnwys Geufron House gyda'i ffenestr driphlyg Eidalaidd ddeniadol.

Oddi wrth yr ardal hon, mae'r bensaernïaeth yn amrywio'n sylweddol. Ar hyd y Stryd Fawr, sy'n ymestyn o'r craidd Canoloesol tua'r gorllewin, , gellir gweld anheddau ffrynt dwbl o faint Hanoferaidd yn agos at anheddau teras o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a bon marché o frics, Paige's Furnishings yn 1903. Fodd bynnag, mae naws Fictoraidd ac Edwardaidd pen gorllewinol y Stryd Fawr wedi ei leihau braidd gan ganolfan hamdden fodernaidd. Mae clwstwr o dai llety ‘Idris Villas' o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ar Pier Road yn gwneud defnydd o batrymau brics amryliw. O amgylch Gorsaf y Cei Tywyn, ble mae Ffordd yr Orsaf/Ffordd Brynhyfryd a Ffordd Neptune yn cwrdd, mae'r adeiladau'n hwyrach, yn fwy addurniadol o arddull ‘fila' ac yn dueddol o wneud mwy o ddefnydd o frics.

Mae yna ardaloedd helaeth o dai ugeinfed ganrif yn y dref.

Mae'r adeiladau ar lan y môr (yn yr ardal rhwng rheilffordd y brif linell a'r promenâd) yn cynnwys rhai anheddau carreg brodorol o'r cyfnod cyn y rheilffordd, o bosibl yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif, a rhai gwestyau sylweddol a blociau o fflatiau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae'r anheddau yn bennaf yn ‘fewnlenwad' wedi'r rhyfel, byngalos ac ystadau tai. Mae'r bloc o fflatiau ‘Trem Enlli' yn arbennig o drawiadol, ac yn dal i fod â rhywfaint o'r manylion gwreiddiol ar ffurf gwaith haearn a balconïau pren deniadol.

Mae'r ardal hon yn cynnwys gwersylloedd milwrol yr ugeinfed ganrif yn Nhywyn.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Dysynni

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol