English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Dysynni – Ardal 11 Llethrau uwch PRN 28660


Mae'r llethrau uwch ar dir caeedig yn weladwy ar draws y dyffryn

 

 

Cefndir hanesyddol

Mae hon yn ardal sy'n gyffredinol debyg i ardal 10, ond yn llai datblygedig, ac wedi ei defnyddio'n hanesyddol fel cynefin defaid. Mae'n cynnwys ffridd hanesyddol y goron (cynefin defaid) Mynydd Pennant, a fyddai wedi bod yn elfen bwysig cyn y Goncwest o'r dirwedd weinyddol ganoloesol yn nwylo'r tywysog, er gweler ardal 14, can ei bod yn bosibl i'r ffridd ymestyn i ran uchaf ardal 1, ac o amgylch Castell y Bere (ardal 14); o ystyried nad oedd y rhain yn adnoddau achlysurol neu dymhorol yn unig, efallai ei bod yn fwy priodol ystyried bod yr hafotai (daliadau ucheldir gyda deiliaid tymhorol) neu ffriddoedd hyn yn ffermydd gwartheg, yn amrywio o lawr y dyffryn i borfeydd haf uchel. Mae'n debygol bod yr un setliad, Hafotty Gwastadfryn, yn cynrychioli tir caeedig o'r unfed ganrif ar bymtheg fel trefedigaeth ucheldir o fferm is Gwastadfryn, sydd ym mhegwn mewndirol ardal 1.

 

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Tirwedd ucheldir o anheddau dynol minimol

Mae'r ardal yn cynnwys rhan o SoDdGA Cader Idris (Cyf. Cyfoeth Naturiol Cymru SoDdGA ‘Cadair Idris' 31WMT). Mae'n cynnwys ucheldir ac yn ymddangos i fod yn rhydd o setliad parhaol yn y cyfnod yn dilyn y Canoloesol, ac eithrio Hafotty Gwastadfryn yn SH 6779 1220. Mae nifer o draciau iseldir yn croesi'r tir a ddefnyddir gan ffermwyr. Mae'n cau i ffwrdd y rhan uchaf o ddyffryn Dysynni uwchben ardal 10 o amgylch eglwys Llanfihangel y Pennant.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Dysynni

 

 

 

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol