Cefndir hanesyddol
Ardal iseldir helaeth sy'n ymestyn o lan y môr ym Mae Ceredigion
i odre'r mynyddoedd yn Gwastadfryn tu hwnt i eglwys Llanfihangel
y Pennant, ac sy'n cynnwys llwybr yr Afon Dysynni ac Aber Dysynni,
yr ehangder o ddŵr y mae'r Dysynni yn llifo iddi ger y pwynt
ble mae'n gwagio i mewn i'r môr a rhan is llednant y Dysynni,
yr Afon Fathew.
Roedd llawer o'r ardal hon yn amlwg yn ddŵr agored tan gyfnodau
hanesyddol. Awgrymwyd bod Aber Dysynni yn fan cychwyn a glanio
yn y cyfnod Cynhanes, ac mae'n debygol iawn bod sefydlu tref
Tywyn (ardal 3) a'r anheddau statws uchel ym Mheniarth (ardal
7) ac Ynysymaengwyn yn y cyfnod Canoloesol yn adlewyrchu traethlin
oedd yn cyrraedd yn llawer pellach . Yn ogystal ag Aber Dysynni,
roedd llyn mawr yn parhau yn y corsydd ym Mhenllyn, i'r de o
Dywyn tan wedi 1860. Adeiladwyd argloddiau o amgylch Ynysymaengwyn
a Thywyn yn dilyn Deddf Cau Tiroedd 1805. Gosodwyd systemau rheoli
dŵr o ran uchaf y dyffryn o amgylch Craig yr Aderyn i'r môr yn
y 1860au.
Mae'r setliad fferm yn Nhalybont wedi cadw enw'r ganolfan neu
lys gantrefol cyn y Goncwest, sy'n debygol o fod yn gysylltiedig
gyda mwnt y Domen Ddreiniog 250m i'r de. Roedd y llys a'i diriogaeth
yn agos at yr afon, ble roedd yn croesi ym Mhont Dysynni, a ble
nodwyd yn 1284 bod yna gored bysgod. Nid oes unrhyw arwyddion
gweladwy o'r llys bellach yn na ger yr adeiladau fferm yn Nhalybont,
er bod castell gwrthglawdd bychan yn sefyll ar lan yr afon, 250m
i'r de. Mae'n bosibl fod hyn yn elfen o adeiladau'r llys, ond
nid yw wedi ei ddogfennu.
Byddai
adeiladu castell brenhinol brodorol Castell y Bere (yn ardal
14) yn gyson gyda'r defnydd hwyr hwn o'r llys. Byddai'r Castell
wedi diogelu tiroedd pori ucheldir a fyddai wedi bod yn rhan
o'r dirwedd weinyddol Ganoloesol a ddarparwyd yn Nhalybont.
Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol
Tir adferedig; cilfach arfordirol
Mae'r ardal hon yn cynnwys SoDdGA Aber Dysynni a SoDdGA Dyfi.
Yn ei hanfod, er bod yr ardal gymeriad hon yn cynnwys Aber Dysynni,
mae'n ehangder o dir gwastad, gyda llawer wedi ei adfer o'r môr
mewn cyfnodau hanesyddol. Nid yw'n glir a fyddai llawer, neu
rywfaint, wedi bod yn forfa heli yn y cyfnod Canoloesol gan ei
wella'n raddol, neu a wnaeth strategaethau gweithredol iawn eraill
yn ymwneud ag adeiladau morgloddiau ac amddiffynfeydd eraill
rhag y môr wedi amgáu ardaloedd o ddŵr agored blaenorol. Mae
afon Dysynni yn gloddiog, ac mae argloddiau sylweddol hefyd yn
amlwg wedi eu codi yng nghyffiniau Ynysymaengwyn, o ganlyniad
i Ddeddf Cau Tiroedd 1805-9. Mae hyn yn atodol i lawer o dystiolaeth
o systemau rheoli dŵr, amddiffynfeydd môr a gwelliannau eraill
mor bell oddi wrth y lan â Phont y Garth (SH 6355 0708), yn dynodi
strategaethau gweithredol ar ran tirfeddianwyr lleol i reoli
a datblygu'r tir hwn.
Mewn mannau mae yna nodwedd bron fel parcdir i'r ardal gymeriad
hon, gyda chlystyrau o goed llarwydd a phinwydd wedi eu dotio
o gwmpas, yn arwydd o blannu bwriadol. Mae'n haws gwerthfawrogi'r
synnwyr o ‘barcdir' o dir uchel i'r gogledd a'r de o'r ardal
hon, er ei fod yn llai amlwg tuag at ben y dyffryn, o amgylch
Gwastadfryn, ble mae'r dirwedd yn fwy gwyllt, ac i'r de. Bron
nad yw hi'n teimlo fel tirwedd gwladweinwyr Ardal y Llynnoedd
yn yr ardal hon, gan fod ffermydd yn fawr, ac fel arfer wedi
eu hadeiladu islaw toriad llethr, ac mae ffermdai i weld yn amrywio
o ran dyddiad adeiladu o'r ail ganrif ar bymtheg i'r bedwaredd
ganrif ar bymtheg. Mae rhai o'r ffermdai yn strwythurau is-Ganoloesol
sylweddol, eraill yn ymdebygu i adeiladau sy'n ymdebygu i filâu
bron o'r cyfnod Fictoraidd, neu hyd yn oed yn hwyrach. Mae rhai
adeiladau fferm yn hynod drawiadol, fel y beudy o'r ail ganrif
ar bymtheg yn Llanllwyda, gyda'i do o lechi graddedig cynnar
a'i ffenestr gromen llithren. Mae terfynau yn amrywio o bostyn
a gwifren, gwrychoedd, waliau cerrig a rhywfaint o ffensys llechfaen
ger y rheilffordd.
Mae'r ardal cymeriad yn cynnwys gardd yn Ynysymaengwyn, sydd
wedi ei ddatblygu fel parc carafanau. Nid oes llawer o dystiolaeth
o'r ardd hanesyddol a llai fyth o'r tŷ. Mae'r wal derfyn yn llunio
nodwedd bwysig ar hyd ffordd Tywyn, fel y mae'r cilbyst addurniadol
o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda motif eliffant yn
y brif fynedfa.
Mae'r rhan o'r ardal hon sy'n cynnwys safleoedd milwrol o'r
ugeinfed ganrif yn gwarchod ategweithiau pont beili yn SH 5667
0292.