English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Creuddyn ac Arllechwedd – Ardal 9 Mynydd-dir wedi ei Gau PRN 15817


SH 750694 yn edrych i'r de. Yn dangos bryngaer Pen-y-gaer yn eistedd ar ymyl yr ucheldiroedd sydd heb ei rannu'n gaeau, gyda llechweddau'r bryniau wedi'u cau (ardal 16) yn y canol, chwith.


 

 

Cefndir Hanesyddol

Mae'r mynydd-dir sy'n ffurfio rhan de-orllewiniol y tir astudiaeth yn cynnwys rhostir lle ceir tystiolaeth o annedd dynol o'r cyfnod Neolithig. Saif siambr gladdu o bosibl mor gynnar â'r bedwaredd mileniwm CC nesaf at lwybr hynafol dwyrain-orllewinol a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid. Roedd y llwybr o Ro Wen i Fwlch y Ddeufaen yn parhau i gael ei defnyddio tan y ddeunawfed ganrif, a'r llwybr ym Maen y Bardd tan yr ugeinfed ganrif. Gerllaw, ym Mwlch y Ddeufaen mae yna dirwedd eithriadol o feini hirion a charneddi o'r ail fileniwm CC.

Saif bryngaer drawiadol chevaux de frise o'r Oes Haearn uwchlaw Llanbedr y Cennin ac mae cutiau a chyfundrefnau caeau hefyd yn perthyn i'r Oes Haearn neu'r cyfnod Rhufeinig-Brydeinig.

Gellir cysylltu'r defnydd o fynydd-dir yn ystod y cyfnod Canoloesol gyda system ‘hafod a hendre' o symud anifeiliaid yn dymhorol o'r iseldir yn ystod y gaeaf i'r porfeydd uwch yn ystod yr haf. O'r chweched ganrif ymlaen, yn nyffrynnoedd crog y Ddulyn a'r Porth Llwyd, datblygodd llociau ac anheddau parhaol ar safleoedd yr hafodydd Canoloesol hyn – system a gychwynnwyd gan yr iwmyn ac y bu iddynt a theuluoedd bonedd yr ardal gweryla yn ei chylch1. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd llawer o'r tir yn nwylo teuluoedd amlycaf y gogledd orllewin - Arglwyddi Niwbwrch o Lynllifon, yr Assheton-Smiths o'r Faenol, y Williams-Wynn o Wynnstay a'r Bulkeleys o Beaumaris. Arweiniodd amgáu tiroedd o 18562 â sêl bendith deddf seneddol at brotestio helaeth a chwalu'r waliau cerrig dro ar ôl tro.

Hefyd, gweithiwyd y mynydd-dir ar gyfer eu mawn a'u mwynau. Mae'r ardal yn frith o fwyngloddiau prawf bach ond aflwyddiannus, ond llwyddodd llawer i ddatblygu'n chwareli masnachol. Gweithiwyd y gwythiennau llechi yn Nhal y Fan er 1553 o leiaf. Roedd chwarel yn parhau i gynhyrchu'r “hen lechi” garw ffasiynol bryd hynny, hyd at 1913, y gellir eu gweld ar doeau amrywiol yn Neganwy a Chonwy. Cafodd dwy chwarel ychydig yn fwy yng Nghwm Eigiau oes frith o tua 1827 hyd 1874. Yn ystod y 1860au gosodwyd y peiriannau mwyaf modern ynddynt, a chodwyd tramffordd hir i'r Conwy, ond ni allai'r un o'r ddwy chwarel fod wedi talu eu ffordd. 3

 

Prif Nodweddion tirweddau hanesyddol

Archeoleg creiriol, tiroedd anghysbell, tir helaeth wedi ei gau

Tir pori ar y mynydd-dir, y mae ei batrwm o dyddynnod gwag a llociau'n ganlyniad datblygu amaethyddol o'r bymthegfed ganrif ymlaen yn bennaf (er y ceir olion cynhanesyddol amlwg mewn sawl man).

Un o'i phrif nodweddion yw cyfoeth yr olion archeolegol sy'n sefyll (cofadeiliau angladdol, aneddiadau, corlannau, cyfundrefnau caeau ac yn y blaen) o'r cyfnodau cyn hanesyddol, y canol oesol a'r ôl-ganoloesol. Mae'r rhain yn arwyddocaol iawn mewn dau le, o gwmpas Maen y Bardd (yn y gogledd), a Phen y Gaer (ar hyd yr ochr ddwyreiniol).

Chwarelwyd y tirlun diwydiannol ar gyfer llechi, ei fwyngloddio ar gyfer haearn sylffid a gwasanaethwyd yr ardal gan rhwydwaith helaeth o reilffyrdd. Prin yw'r ffyrdd (yn arbennig rhai modern) ynddi.

Mae addasu llif naturiol afonydd a llynnoedd er mwyn casglu dŵr o'r 1890au ymlaen wedi cael effaith amlwg ar y dirwedd.

 

 

1R.E. Hughes, ‘Environment and Human Settlement in the Commotte of Arlechwedd Isaf' TCHS 2 (1940) pp. 1-25; E. Davies, ‘Hendre and Hafod in Caernarvonshire' TCHS 40 (1979), pp. 17-46.

2CRO, Caerhun Enclosure Apportionment, 1856.

3UWB Baron Hill Mss, CRO Glynllifon.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Creuddyn ac Arllechwedd

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol