English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Creuddyn ac Arllechwedd – Ardal 7 Conwy PRN 15808


SH 781776 yn edrych i'r de-orllewin. Yn dangos y castell Edward a thref gaerog Conwy, gyda chynllun grid gwreiddiol y strydoedd ac eglwys y Santes Fair yn y canol.


 

 

Cefndir Hanesyddol

Ym 1186, rhoddodd Llywelyn Fawr safle presennol tref Conwy i Urdd y Mynaich Gwynion (y Sistersiaid) er mwyn sefydlu cymuned; yn bentir anghysbell, fe weddai i bwyslais y Sistersaidd ar lafur corfforol a'u harfer o dorri ymaith o'r byd, delfrydau na oroesodd rym gwleidyddol ac economaidd cynyddol yr abaty o dan y Dywysoges.

Wedi'r goncwest, fe adleoliwyd y myneich i safle newydd ym Maenan, ar lannau dwyreiniol y Conwy, saith milltir i fyny'r afon, a daeth yr Abaty blaenorol yn safle'r fwrdeistref newydd a'r castell. Ei fwriad oedd gwarchod y foryd a chyflwyno economi arian a threfn ddinesig i gantref Arllechwedd. Caniatawyd ei siarter ym 1284, a symudodd canolfan cwmwd Arllechwedd Isaf yno. (Credwyd mai yn Nhal y Cafn yr oedd gynt).

Yn ei rhinwedd ei hun, roedd y Conwy'n parhau'n gyfrwng cludiant pwysig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn cario plwm, llechi a choed mewn llongau o ddyffryn Conwy. Amlygir hyn ym 1823 pan adeiladodd William Provis, cynorthwyydd Telford chwarel newydd. Fodd bynnag, roedd yr afon yn peri rhwystr difrifol i drafnidiaeth dwyrain-orllewinol tan y codwyd pont o'r diwedd yn cysylltu'r tafod o dir ar lan ddwyreiniol yr afon gyda'r trwyn o garreg, lle codwyd y castell, gan ddisodli'r fferi. Ym 1826 y cwblhawyd hon sef pont ffordd grog Telford . Mae ganddi ddau dŵr cadarn maen nadd (ashlar) sy'n dal y cadwyni. Agorwyd pont reilffordd Stephenson i drafnidiaeth ym 1848, ac mae'n cynnwys dau diwb haearn bwrw cyfochrog hirsgwar. Fe adeiladwyd y tiwbiau ar y lan, eu harnofio a'u codi i'w safle. Fel ei rhagflaenydd, roedd yn arwydd o gynnydd sylweddol yn y gallu i adeiladu pontydd.

Arweiniodd dyfodiad y rheilffordd at ehangu tref Conwy y tu hwnt i'w ffiniau Canoloesol, ac roedd y dref yn parhau i ddatblygu tan y 1960au.

 

Prif Nodweddion tirweddau hanesyddol

Tref ganoloesol o fewn muriau wedi'i chynllunio, patrwm strydoedd, tai allan furol maestrefol

Mae'r dref yn parhau'n enghraifft eithriadol o gymuned cyn-fodernaidd wedi ei chynllunio, er nad oes adeiladau wedi goroesi o gyfnod cynharach na'r bymthegfed ganrif, ar wahân i'r castell ei hun a muriau'r dref. Mae Tŷ Aberconwy a Phlas Mawr yn adeiladau o ddiddordeb hanesyddol ac archeolegol eithriadol, yn eu rhinwedd eu hunain, ond mae nifer o adeiladau eraill o'r unfed ganrif ar bymtheg wedi goroesi, tebyg i'r Hen Goleg, ac eraill a chanddynt wedd allanol mwy modern. Mae Conwy wedi cadw at batrwm grid gwreiddiol y strydoedd ac yn creu cyferbyniad â Llandudno a'i chynllun bwriadol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ceir enghreifftiau eithriadol o gyfleusterau cludiant hanesyddol yma.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Creuddyn ac Arllechwedd

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol