English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Creuddyn ac Arllechwedd – Ardal 6 y Creuddyn PRN 15803


SH 702795 yn edrych i'r de. Llun helaeth o'r awyr sy'n canoli ar y Fardre (Castell Deganwy) sydd yn ardal y Creuddyn (ardal 6). Fe'i hamgylchynir gan stadau tai sy'n ffurfio rhan o Ddeganwy/Cyffordd Llandudno (ardal 5), ac yn edrych dros yr afon at dref Conwy (ardal 7) yn y gornel dde uchaf.


 

 

Cefndir Hanesyddol

Tir helaeth sy'n cynnwys parcdir a thir pori , wedi'i diffinio i'r gorllewin gan drefi Deganwy a Chyffordd Llandudno (ardal 5), i'r gogledd gan ddatblygiad trefol Llandudno (ardal 2), a thir uwch Trwyn y Fuwch a Nant y Gamar (ardal 3) ac i'r dwyrain gan Fae Penrhyn (ardal 23). Mae cefnen Bryn Pydew (ardal 22) yn brigo iddo.

Ceir cysylltiadau mytholegol cyfoethog â'r ardal, yn arbennig â chwedl Taliesin a hanes Maelgwn Gwynedd, a gysylltir yn draddodiadol â 'r cyfnod Rhufeinig ac ôl-Rufeinig yn Neganwy. Mae'n cynnwys dau fryncyn serth a'r cyfrwy rhyngddynt. Ym 1080 yr adeiladodd Robert o Ruddlan gastell Deganwy. Daliodd y Cymry a'r Eingl-Normaniaid eu gafael ar y bryn bob yn ail tan 1263, a chaniatawyd i Sistersiaid Aberconwy gael rhan ohono.

Roedd teulu'r Mostyn yn tra-arglwyddiaethu'r ardal o'r cyfnod Canoloesol diweddar ac mae'n cynnwys eu pencadlys yn Neuadd Gloddaeth. Roedd teulu Mostyn hefyd yn berchen ar Fodysgallen, ac roeddent yn allweddol i ddatblygiad Llandudno yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymysg y teuluoedd llai yr oedd y Puwiaid o Benrhyn y Creuddyn, a oedd yn gwarchod offeiriadon cenhadol. Mae Neuadd Gloddaeth yn dyddio'n rhannol yn ôl i'r chweched ganrif ac mae bellach yn ysgol fonedd.

Cafwyd rhywfaint o gloddio carreg siâl yn Pabo rhwng 1911 a 1932.

 

Prif nodweddion tirweddau hanesyddol allweddol

Parcdir, tai bonedd, ffermydd sylweddol, waliau carreg galch

Mae Neuadd Gloddaeth yn tra-arglwyddiaethu'r ardal hon. Yn flaenorol roedd yn gartref i deulu'r Mostyniaid, bellach yn ysgol fonedd a'r ffermydd mawr sy'n gysylltiedig â hi. Er mai Neuadd Gloddaeth yw unig annedd bonedd tirfeddiannol yn yr ardal, mae Bodysgallen, y Penrhyn a'r Marl o fewn milltir iddi. Yma mae eglwysi hynafol Eglwys Rhos a Llangystennin.

Nodwedd hynod o'r dirwedd yw'r t ŵ r gwylio carreg yn Bryniau y tybir ei fod yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg.

Ceir yr unig gymuned gnewyllol o gyfnod cyn yr ugeinfed ganrif yng Nglanwydden ac mae'n cynnwys t ŷ tafarn a chlwstwr o dai o gwmpas croesffordd. Mae'r felin wynt gerllaw yn dyddio i 1704.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Creuddyn ac Arllechwedd

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol