English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Creuddyn ac Arllechwedd – Ardal 5 Deganwy/Cyffordd Llandudno Datblygiad trefol PRN 15806


SH 779791 yn edrych i'r dwyrain. Yn dangos rhai o du blaen siopau a'u haearn bwrw Fictoraidd hyfryd yn Neganwy sy'n wynebu aber y Conwy.

 

 

Cefndir Hanesyddol

Mae nodweddion y dirwedd isel yn ei ffurf bresennol yn bennaf yn ganlyniad y twf yn y rhwydwaith rheilffyrdd. Gwyddis fod Llywelyn wedi rhoi tir yn ne-orllewin y Penrhyn y Creuddyn i fynachlog Sistersaidd Aberconwy, tir sydd lle bellach yn cynnwys anheddau Deganwy a Chyffordd Llandudno o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Mae Sarn y Mynach, sef yr enw a roddir ar yr A47 yn gofnod o bresenoldeb y myneich, ar y pwynt lle mae'n croesi'r brif lein reilffordd a'r Ganol. Echel arall sy'n dyddio yn ôl i'r cyfnod cyn-Fodernaidd yw'r ffordd gogledd-de drwy Gyffordd Llandudno a elwir ym Marl Lane . Yn flaenorol roedd hon yn cysylltu annedd y Marl (2021) gyda'r fferi. Mae ffordd bost Telford yn mynd drwy'r ardal nodwedd. Mae'n cynnwys yr arglawdd dros y Conwy y mae pont grog Telford a phont diwbaidd Stephenson wedi'u hadeiladu drosti.

Ym 1848 yr agorwyd prif lein reilffordd Caer i Fangor, a'r llinell leol i Landudno ym 1858; agorwyd gorsaf Cyffordd Llandudno ym 1860, fe'i huwchraddiwyd sawl gwaith, ac yn ystod y 1880au, fe adeiladwyd shed locomotif. Ym 1858, agorwyd llinell leol i Landudno drwy ddatblygiad tref wyliau ar lannau gorllewinol y penrhyn yn Neganwy; agorwyd gorsaf ym 1866. Wedi agor y llinell leol i Flaenau Ffestiniog ym 1879, dechreuodd y cwmni rheilffordd adeiladau glanfa i allu llwytho'r llechi ar longau yn Neganwy yn 1882, gan ddefnyddio rwbel o dwnnel Belmont ym Mangor. Prin oedd y defnydd arno , a bellach mae'n rhedeg teithiau cychod pleser.

Parhaodd yr anheddau i dyfu tan yr ugeinfed ganrif. Tra bu Deganwy yn bennaf yn gyrchfan i bobl ar wyliau ac i bobl wedi ymddeol, roedd Cyffordd Llandudno yn gartref i nifer fawr o weithwyr rheilffordd ac yn fwy diweddar i weithwyr y ffatri Hotpoint. Mae adeilad y North Wales Weekly News hefyd yn dirnod nodweddiadol.

 

 

Prif Nodweddion tirweddau hanesyddol

Tai o'r 19eg a'r 20fed ganrif, siopau, capeli, llwybrau teithio

Stoc tai maestrefol wedi'u gwneud yn bennaf o fric, sy'n dyddio bron yn gyfan gwbl o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg neu'r ugeinfed ganrif sy'n nodweddu'r ardal. Cymysgedd o deiliau a llechi yw deunydd y toeau. Nodwedd amlwg yw'r rhes tai a adeiladwyd gan y pensaer North o Lanfairfechan yn SH 781 804, sy'n gwneud defnydd trawiadol o hen lechi, rhai ohonynt o chwarel Tal y Fan (ardal 24). Hwnt ac yma, gwelir tai neu gapeli cynharach wedi'u hadeiladu o galchfaen lleol a chanddynt doeau llechi cyffredin a geir yn fasnachol. Mae gan flaen y siopau yn Neganwy'n ganopi o haearn bwrw dros y palmant.

Mae'r ffyrdd cludiant yn cynnwys ffordd Telford , y rheilffordd, ffordd fodern yr A55T sy'n mynd drwy dwnnel y Conwy, y glanfeydd yn Neganwy a phont Conwy yn nodwedd o'r ardal. Yn ogystal â'r ddwy bont dros y Conwy, ceir nifer o eitemau eraill o isadeiledd trafnidiaeth, tebyg i'r bocs signalau yn Neganwy, y siediau locomotif yng Nghyffordd Llandudno a phontydd amrywiol. Mae gorsaf Cyffordd Llandudno'n enghraifft anarferol o adeilad gorsaf Fictoraidd gydag ychwanegiadau Modernaidd. Gwelir yr arddull Fodernaidd hefyd yn y ffatri Hotpoint helaeth yn SH 803 777 sy'n segur bellach.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Creuddyn ac Arllechwedd

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol