English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Creuddyn ac Arllechwedd – Ardal 3 Trwyn y Fuwch/Mynydd Pant/Nant y Gamar PRN 15801


SH 811815 yn edrych tua'r de orllewin. Yn dangos natur cefnen galchfaen y tir, gydag anheddau gwasgarog a rhai caeau wedi'u gwella yn y pocedi tir isel.


 

 

Cefndir Hanesyddol

Mae'r ardal hon yn ffurfio cefnen galchfaen ar bwynt eithaf gogledd-ddwyreiniol y Creuddyn. Cafodd y tir ei gloddio'n helaeth yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae'n codi o iseldir y Creuddyn lle saif Penrhyn Old Hall a Gloddaeth. Saif plasdy Gloddaeth, cartref teulu'r Mostyn ers y bymthegfed ganrif, St David's College erbyn hyn, ysgol fonedd, yn union o dan doriad y llechwedd de-ddwyreinio l wrth droed y gefnen. Annedd yr Hen Dwr a adeiladwyd rhwng 1617 a 1642 ar gopa Nant y Gamar oedd melin wynt yr ystâd ac roedd hi'n gweithio tan y 1830au. Credir i nifer o anheddau'r ffermydd bach gael eu sefydlu o ganlyniad i sgwatwyr yn tresmasu yn ystod diwedd y ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Derbyniwyd eu hawl i anheddu pan amgaewyd tiroedd ym 1843.

Mae'r tir sydd ar les gan deulu ystâd Mostyn, wedi'i gloddio'n helaeth am galchfaen. Roedd mwyngloddio'n digwydd ar Drwyn y Fuwch (SH 819 823) cyn 1862 a pharhaodd hyd 193l. Cludwyd y galchfaen yn uniongyrchol at y môr ar system o incleiniau. Dim ond ym 1987 y chwalwyd yr hoprannau. Fe weithiwyd y chwareli llai ar Nant y Gamar efallai o'r 1850au i'r 1970au, ac fe gloddiwyd tywod gwyn silicaidd o 1856 hyd 1887.

Symudwyd y Coastal Artillery School i Drwyn y Fuwch o Shoeburyness ym Medi 1940, ac fe sefydlwyd magnelfa gynnau.

 

Prif Nodweddon tirweddau hanesyddol

Cymysgedd o dir heb ei amgáu ac unedau fferm bychain sy'n nodweddu'r ardal, ac mewn sawl man, mae eu tai wedi dod yn dai haf. Yn gyffredinol, mae'r rhain yn anheddau cynhennid mawr, er y newidiwyd llawer ohonynt yn sylweddol gan eu perchnogion diweddar. Mae'r felin wynt flaenorol, Hen Dŵr, bellach yn annedd, yn nodwedd amlwg. Yr unig ffordd ac iddi fynediad cyhoeddus yw lôn droellog i fyny rhan ogledd-orllewinol y gefnen. Mae waliau cerrig, perthi a chloddiau pridd yn ffurfio terfynau caeau.

Er bod y gefnen yn rhannu dau brif gytrefiad trefol, mae'n hynod o anghysbell; mae'r llwybrau drwy chwarel galchfaen Trwyn y Fuwch yn boblogaidd gan breswylwyr Bae Penrhyn, ond prin yw'r bobl sy'n mynd i rannau uchaf y gefnen.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Creuddyn ac Arllechwedd

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol