English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Creuddyn ac Arllechwedd – Ardal 24 mynydd-dir agored (y gogledd) PRN 15810


SH 7207 4 7 yn edrych i'r dwyrain. Yn dangos natur y dirwedd heb ei hamgáu y tu ôl i chwarel Penmaenmawr, gan gynnwys y cyfadeilad cynhanesyddol defodol ar Gefn Coch


 

 

Cefndir Hanesyddol

Cefnen o ucheldir sy'n ymestyn o Fynydd y Dref yn y gogledd ddwyrain i'r mynydd-dir ger Bwlch y Ddeufaen yn y de orllewin. Ceir olion annedd dynol o'r Oes Efydd i'r ugeinfed ganrif yma.

Yn union i'r de ddwyrain o frigiad Penmaenmawr mae cwlwm o henebion defodol seremonïo, gyda chylch cerrig y Derwyddon ar y llethr yn ganolbwynt iddynt. Saif yr henebion ger llwybr sy'n tarddu fe awgrymir, o'r Oes Efydd. Mae'n arwain dros y llwyfandir o ddyffryn y Ddu yn y gorllewin i ddyffryn Conwy yn y dwyrain. Yn union o dan y llwyfandir mae'r ffordd sy'n rhannu mynwent fechan o feddrodau adfeiliedig. Mae ail lwybr o'r Oes Efydd yn cysylltu Aber â dyffryn Conwy drwy Fwlch y Ddeufaen. Unir y ddau drac ymhellach i ffwrdd gan o leiaf dau croes-lwybr o'r gogledd i'r de. Mae'r croes-lwybr mwyaf gorllewinol yn mynd heibio i gae carneddi Bryniau Bugeilydd, clwstwr o gerrig isel a thomenni beddrodol wedi'u gorchuddio gan bridd. Yn yr un lle ceir nifer o gylchoedd cutiau tai crwn heb eu hamgáu ac wedi'u hamgáu. Gallai'r ffordd terfynau balc a chyfundrefnau caeau fod yn gyn-Oes Haearn. Defnyddiwyd y ffordd drwy Fwlch y Ddeufaen yn ystod y cyfnod Rhufeinig, ac roedd yma ffordd drwy'r bwlch tan ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

Mae'r fryngaer yng Nghastell Caer Lleion ar Fynydd y Dref yn perthyn i'r Oes Haearn.

Yma gwelir olion dull traddodiadol tymhorol o ffermio hafod a hendre, pan symudwyd anifeiliaid o'r iseldir yn y gaeaf i borfeydd uwch yn ystod yr haf yn ystod y canol oesoedd a'r cyfnod modern. Ceir tystiolaeth o dynnu mawn a chwarelu diorite ar raddfa fechan, fel y gwelir ym Mhenmaenbach o tua 1873 tan y 1940au; maen melin ar Fynydd y Dref yn ystod Rhyfeloedd Napoleon a llechi yn Nhal y Fan, safle anghysbell efallai yn tarddu o'r Canoloesoedd a hepiodd ymlaen tan 1914 yn bennaf oherwydd i'r pensaer H.L. North ddefnyddio llechi gwyrdd-frown nodweddiadol ar ei adeiladau.

 

Prif Nodweddion tirweddau hanesyddol

Archeoleg creiriol, ffyrdd cyfathrebu

Ucheldir heb ei amg á u wedi ildio yn ystod y cyfnodau canoloesol a modern i economi fugeiliol ac echdynnu mwynau, ar raddfa fach. Ceir tirwedd archeolegol creiriol cynhanesyddol cyfoethog yma.

 

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Creuddyn ac Arllechwedd

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol