English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Creuddyn and Arllechwedd – Ardal 23 Bae Penrhyn PRN 15802


SH 814814 yn edrych tua'r gogledd. Yn dangos nodweddion gwahanol Bae Penrhyn, gyda'r annedd sydd wedi esblygu'n naturiol ar ben y gefnen a'r ystadau tai diweddar wedi'u cynllunio islaw.


 

 

Cefndir Hanesyddol

Ardal adeiledig sy'n ymestyn dros lethrau Mynydd Pant a'r gwastatir wrth droed Trwyn y Fuwch/Mynydd Pant/cefnen Nant y Gamar (ardal 3). Er y gwelir nodweddion adeiladau sy'n dyddio i gyfnodau amrywiol ac a ddatblygodd o sawl canolbwynt ar wahân, mae eu terfynau wedi'u huno.

Y canolbwynt canoloesol yw Penrhyn Old Hall wrth droed y gefnen. Dyma gartref teulu reciwsant y Puwiaid y cyfeiriodd Leland ato fel tŷ ‘hynafol' ym 1536-9. Ym 1910, sefydlwyd amgueddfa o greiriau Cymreig yma, ac erbyn 1987 roedd yn glwb nos. Mae bellach yn fwyty. Cafodd y capel cysylltiedig sy'n dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg ei adfer at ddibenion crefyddol tua 1930, ond mae wedi mynd yn segur ers hynny.

Mae'r annedd ar Fynydd Pant yn dyddio yn ôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe'i hadeiladwyd ar gyfer cymuned o weithwyr chwarel y galchfaen ar Drwyn y Fuwch. Rhwng 1894 a 1900, codwyd 16 annedd ‘dau i fyny, dau i lawr' ar Ffordd Maesgwm ger y gefnen, ar gyfer y gweithwyr a'u teuluoedd. Mae'r rhain wedi goroesi i bob golwg, a mwy o dai wedi'u codi ar y llethrau is o'r fan hon. Mae tai deulawr â thu blaen dwbl yn nodwedd, tai mwy na rhan fwyaf y tai chwarel ond yn llai nag anheddau pobl ddosbarth canol y cyfnod. Mae'r rhain wedi'u gwneud o galchfaen yn bennaf, a llechi sydd ar y toeau. Maent wedi eu codi ar hyd lonydd bach troellog ac arddelir eu henwau Cymraeg gwreiddiol. Cofnodwyd swyddfa bost, un Capel y Bedyddwyr a dau gapel Methodistiaid Calfinaidd.

Y datblygiadau mwyaf diweddar yw tai a godwyd wedi'r rhyfel ar y llethrau isaf sy'n eu huno â'r annedd ar y gwastatir llifwaddodol. Ar wahân i Penrhyn Old Hall a llond llaw o adeiladau sy'n dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae hwn yn llwyr berthyn i'r ugeinfed ganrif ac fe dyfodd ar hyd ochrau rheilffordd y Llandudno and Colwyn Bay Electric Railway, a agorwyd ym 1907.

Ni nodwyd olion y byngalos pren a haearn rhychog gwreiddiol a adeiladwyd ar y briffordd ac ar Ffordd y Morfa ym 1920. Mae adeiladau sydd wedi goroesi'n dangos amrywiaeth y bensaernïaeth faestrefol oedd yn amlwg o ganol y 1920au ymlaen ac mae'n cynnwys o leiaf un ymgais ar Foderniaeth y 1930au. Er mai teils coch yw deunydd y toeau yn bennaf, nodwedd amlwg yw'r defnydd o lechi gwyrdd, yma a thraw. Mae'n debygol eu bod yn tarddu o Ardal y Llynnoedd yn hytrach nag Arfon. Maent wedi'u gosod ar hyd strydoedd llydan, syth. Ceir amrywiaeth o siopau ac addoldai, wedi'u hadeiladu i gyd yn ystod canol neu ddiwedd yr ugeinfed ganrif yn yr ardal nodwedd hon.

 

Prif nodweddion tirweddau hanesyddol

Annedd brodorol, datblygiad maestrefol

Tirwedd oedd yn cysylltu â'r cyfnod Canoloesol gyda Penrhyn Old Hall a'i gapel cysylltiedig. Fe'i cuddiwyd gan ddau annedd nodweddiadol ond cydberthynol, y naill yn cynrychioli cyfnod olaf annedd naturiol, brodorol a'r llall yn gwbl faestrefol.

 

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Creuddyn ac Arllechwedd

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol