English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Creuddyn and Arllechwedd – Ardal 21 Alltwyllt PRN 15822


SH 767677 yn edrych i'r gorllewin. Yn dangos tirwedd goediog drwchus, wedi ei hamgáu ar lethr serth, gydag anheddau gwasgarog prin yn y coed.


 

 

Cefndir hanesyddol

Roedd y llethrau dwyreiniol rhwng Coed Dolgarrog a Llanbedr y Cennin yn flaenorol yn cynnwys poblogaethau dwys o dyddynnod, afreolaidd eu siâp, rhwng y cyfuchlinau 250m a 40m. Mae pobl yn parhau i fyw yn y tyddynnod isaf ac uchaf, ond mae'r rhai yn y canol a ganolwyd ar Arddgron a Hengae yn adfeilion ac mae coed trwchus yn gorchuddio'r dirwedd. Mae'r anheddau segur adfeiliedig wedi'u gwneud o gerrig caeau lleol, maent wedi colli eu toeon. Ceir olion cyfundrefnau caeau yn y prysgwydd.

Mae cyfres o draciau a llwybrau igam ogam yn cysylltu'r daliadau. Maent yn rhannol adeiledig a cheir waliau o'u cwmpas. Yn ôl y traddodiad, yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg roedd goroeswyr Gwylliaid Cochion Mawddwy yn byw yma. Roedd eu disgynyddion yn amaethu mewn dull garddwriaethol, yn cadw gwartheg ar y comin ac yn pysgota o bosibl.1

Cyhoeddodd yr hanesydd John Owen o Lanbedr y Cennin sawl cofnod am Alltwyllt mewn papurau newydd lleol yn ystod y 1930au, sy'n awgrymu bod pobl yn byw yma ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Disgrifia'r tyddynwyr yn defnyddio mulod i gario tanwydd a nwyddau angenrheidiol eraill ar hyd y llwybrau. Roedden nhw'n ennill eu bywoliaeth mewn sawl modd - yn gweu sanau, yn nyddu basgedi, yn cludo nwyddau, yn chwarelu cerrig hogi, yn fwynwyr sylffwr, yn weision tŷ, yn gapten ar gwch afon, yn bysgotwyr, a thalwyd allan o Arian y plwyf, lle'r oedd angen.2

Mae Alltwyllt yn dirwedd greiriol unigryw, yn debyg i anheddau economi ddeuol Arfon (chwarelu a bugeilio), tebyg i Fethel a Deiniolen, a thiroedd blaenorol y goron rhwng Cilgwyn a Rhostryfan.

 

Prif nodweddion tirweddau hanesyddol

Annedd economi ddeuol, caeau afreolaidd, bythynnod

Llociau afreolaidd a bythynnod annedd. Mae'n enghraifft o annedd economi ddeuol sydd wedi denu astudiaeth nifer o ysgolheigion. 

 

 

1 R.E. Hughes, op. cit ., t. 24.

2 Erthyglau papaur newydd gan John Owen, copiau mewn meddiant personol.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Creuddyn ac Arllechwedd

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol