English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Creuddyn ac Arllechwedd – Ardal 2 Llandudno PRN 15824


SH 796805 yn edrych i'r de-orllewin. Yn dangos tref arfordirol isel Llandudno yng nghanol y ffotograff, gyda'r caeau mawr sy'n nodweddiadol o Greuddyn (ardal 6) yn y blaendir a phentir Pen y Gogarth yn codi tu cefn (ardal 1).


 

 

Cefndir Hanesyddol

Saif yr anheddle cynharaf yn yr ardal nodwedd ar lethrau dwyreiniol y Gogarth lle sefydlwyd anheddau i fwynwyr a'u teuluoedd erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif a bymtheg. Roedd pobl yn gweithio'r mwynau copr ar y Gogarth, ac o bosibl yn ychwanegu at eu hincwm drwy bysgota a ffermio. Mae cymeriad yr ardal hon yn wahanol i weddill datblygiad trefol Llandudno. Ceir yma anheddau llai, wedi'u hadeiladu o'r galchfaen lleol ar hyd llinellau troellog sy'n dilyn y cyfuchlinau a thopograffi naturiol y bryniau.

Corstir oedd y rhan fwyaf o safle tref bresennol Llandudno tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ddraeniwyd y tir; roedd Deddf Cau Tiroedd 1843, a weithredwyd yn 1847, wedi dosbarthu 832 erw o 955 erw o gomin y plwyf i Edward Mostyn o Gloddaeth. Roedd e'n benderfynol o greu cyrchfan glan môr a chynhaliwyd yr ocsiwn cyntaf o blotiau adeiladu ar les yn Ebrill 1849.

Mabwysiadwyd polisi o lesio wedi ei reoli, pan gai'r math o adeilad y gellid ei adeiladu ei benderfynu gan ei leoliad. Yr ystâd oedd yn pennu patrwm y strydoedd, a gallai les ddeiliaid gyflwyno cynlluniau adeiladau arfaethedig i'r ystâd i'w cymeradwyo. Dyma sydd i'w gyfrif am yr amrywiaeth anhygoel o bensaernïaeth Fictoraidd a geir yn Llandudno, a'i chydrywiaeth hynod fel tref.

Adeiladwyd y gwestyau sylweddol ar hyd Rhodfeydd y Gogledd a'r De o'r 1850au ymlaen, gan ddechrau gyda Gwesty'r Queen's ym 1853. Buan y codwyd datblygiadau ar raddfa lai ar hyd y strydoedd tua'r tir o lan y môr. Datblygwyd Stryd Mostyn, y brif echel fasnachol dwyrain-orllewinol i raddau helaeth erbyn y 1870au. Ym 1876 adeiladodd John Dixon y pier 2295' o hyd i gynlluniau James Brunlees a Alexander McKerrow. Mae iddo ddau ran, desg â phedwar ciosg sy'n arwain at dri chiosg llai ar y trwyn.

Ceir nifer o enghreifftiau eithriadol o addoldai, parciau a gerddi o'r cyfnod Fictoraidd ac o ddechrau'r ugeinfed ganrif yn Llandudno. Mae'n cynnwys mwynderau dinesig eraill fel Oriel Gelf Mostyn, adeiladwaith bric gwydrog sylweddol a'r llyfrgell ar Stryd Mostyn.

Mae datblygiadau wedi parhau tan ddiwedd yr ugeinfed ganrif ond nid ydynt wedi amharu ar gymeriad y dref.

Ym 1858, roedd modd cyrraedd Llandudno ar reilffordd. Roedd yn cynnwys llinell leol fer o'r brif lein reilffordd o Gaer i Gaergybi. Arweiniodd twf y siarabáng a thrafnidiaeth cerbydau eraill ar ddechrau'r ugeinfed ganrif at adeiladu'r brif ffordd bresennol, a elwir bellach yn Wormhout Way , o'r dwyrain yn y 1930au. Ceidw at ei nodwedd rhwng y rhyfeloedd, ac mae'n cyferbynnu'n braf gyda phatrwm y strydoedd cynlluniedig, Fictoraidd yn rhan gynharaf y dref.

Llwyddodd Llandudno i ddenu cwsmeriaid élite yn ystod y 1850au a'r 60au, ond erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y dref yn apelio mwy at weithwyr coler wen goludog gogledd a chanolbarth Lloegr, fel yr oedd ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif mewn gwirionedd.

 

Prif Nodweddion tirweddau hanesyddol allweddol

Pensaernïaeth Fictoraidd, cynllun bwriadol, tref glan y môr

Enghraifft eithriadol o dref glan môr Fictoraidd ac o dreflun wedi'i reoli. Mae Llandudno'n dref hynod am ei bod wedi cadw ei chymeriad o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n cynnwys gwaith haearn addurniadol ar adeiladau'r prif westyau, sefydliadau hydro a dodrefn stryd. Gwrthodwyd cynnig diweddar i adeiladu gorsaf Bad Achub ar Rodfa'r Gogledd ar sail esthetig.

Mae Llandudno'n enwog am safon a chysondeb ei phensaernïaeth faestrefol ac mae'n parhau i ddatblygu ac ehangu hyd heddiw. Ceir ymron i bob steil a datblygiad tai yma, o derasau tai gweithwyr rheilffordd y cyfnod Fictoraidd, tai nodwedd ‘Celf a Chrefft', tai pâr o'r 1920au a'r 1930au ac Art Deco hyd at ddatblygiadau modern Barret a thai Tuduraidd ffug.

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Creuddyn ac Arllechwedd

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol