English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Creuddyn ac Arllechwedd – Ardal 19 Coed Dolgarrog PRN 15821


SH 765668 yn edrych i'r gogledd-orllewin. Yn dangos ochr orllewinol serth dyffryn Conwy, a Choed Dolgarrog (ardal 19) yng nghanol y llun, annedd Dolgarrog (ardal18) ar waelod y llethr, yr Alltwyllt (ardal 21) tua'r canol de, y dyffryn gwaelod fflat (ardal 17) yn y blaendir a'r mynydd-dir wedi'i amgáu (2008 yn bennaf) y tu hwnt.


 

 

Cefndir Hanesyddol

Cafodd llethrau coediog serth Coed Dolgarrog o bosibl eu defnyddio'n fasnachol er cyfnod y mynachod o leiaf. ‘Coyde Imynoghe' (Coed y Mynach) oedd un o'r parseli tir oedd ar werth wedi diddymu'r mynachlogydd, ac mae dogfennau sy'n deillio o deyrnasiad Elizabeth I yn cyfeirio at goed ger Abaty Maenan. Ym 1855, adeiladwyd melin goed wrth droed rhaeadr y Ddu. Roedd pandy'n bodoli yma - o'r cyfnod mynachaidd, erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg o bosibl, a sefydlwyd ffatri decstilau ym 1808.

 

Prif nodweddion tirweddau hanesyddol

Coedlan hynafol, nodweddion rheoli dŵr, llwybr

Llethr sy'n wynebu'r dwyrain, wedi'i gorchuddio gan goetir llydanddail. Mae nifer o nodweddion sy'n gysylltiedig â dalgylchoedd dŵr yn ystod yr ugeinfed ganrif wedi goroesi, gan gynnwys ffrydiau, pib linellau a rheilffordd. Efallai mai tarddiad mynachaidd sydd i'r llwybr igam ogam drwy'r rhan ddeheuol o Bont Dolgarrog.

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Creuddyn ac Arllechwedd

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol