English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Creuddyn ac Arllechwedd – Ardal 16 Llethrau rhyngol wedi'u hamgáu, gorllewin Dyffryn Conwy PRN 15812


SH 740715 yn edrych tua'r gogledd. Yn dangos y diwedd wedi ei hamgáu ond eto'n eang, sy'n cynnwys cyfoeth o olion archeolegol creiriol sy'n sefyll gyda mynydd-dir agored (ardal 9) a thu hwnt


 

 

Cefndir Hanesyddol

Mae'r topograffi nodweddiadol yn cynnwys llethrau ar hyd glan orllewinol y Conwy, nad yw'n rhy fas ar gyfer annedd dwys na'n rhy serth i'w weithio, ac yn hanesyddol mae'r rhain wedi ildio i gyfundrefnau caeau wedi'u hamgáu, ynghyd â rhywfaint o chwarelu a mwyngloddio yn Llechan a choedwigo masnachol ym Mharc Mawr.

Roedd y llethrau serth yn rhwystr i dramwy dwyrain-orllewinol, ond roedd llawer o lwybrau hynafol yn croesi'r tir hwn, gan gynnwys y sarn Rufeinig o Canovium i Segontium, a thrac yn dringo drwy Barc Mawr i'r hen eglwys yn Llangelynnin. Mae'r eglwys ei hun yn tarddu o'r Canoloesoedd a'i rhannau hynaf yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif. Mae'r trac mwy na thebyg yn Ganoloesol neu yn hŷn.

 

Prif nodweddion tirweddau hanesyddol

Annedd cynhanesyddol a chanoloesol sy'n sefyll, cyfundrefn caeau ac olion angladdol, caeau waliau cerrig sych, hen lwybrau.

Mae'r tir yma wedi ei amgáu ymron yn llwyr. Mae datblygiad naturiol y dirwedd amaethyddol, sy'n seiliedig ar dir pori , wedi esblygu dros fil o flynyddoedd ac wedi creu patrymau bach ar y tir. Waliau cerrig sych yw gwneuthuriad mwyafrif y terfynau, er bod gwrychoedd yn fwy cyffredin ar lethrau is, lle ceir clwstwr o goetir. Er na all llawer ohonynt bellach gadw anifeiliaid i mewn, maent yn nodwedd amlwg o'r tir: mewn mannau, gellir creu cronoleg berthynol wrth graffu'n ofalus. Er bod rhai o'r terfynau a'r patrymau mwy yn gymharol ddiweddar, mae eraill yn ymwneud ag arferion ffermio sy'n dyddio yn ôl i'r cyfnod cynhanesyddol ac yn gysylltiedig ag anheddau creiriol, llawer ohonynt yn henebion cofrestredig. Yn gyffredinol, mae'r safleoedd a'r cyfundrefnau cynharaf wedi'u cadw orau ar y llethrau uwch.

Mae'r ardal yn bwysig, yn bennaf am gyfoeth y safleoedd annedd creiriol (yn bennaf yn gynhanesyddol ond mae olion canoloesol yn amlwg yn eu gorchuddio), wedi'u lleoli'n rhannol o leiaf ar eu tirwedd amaethyddol gyfoes. Er bod llawer o'r tir yn gofrestredig, mae'r gallu i ddarganfod trysorau pellach yn gryf, a bwrw bod rhaglen hedfan a thirfesur manwl ar waith. Yn wahanol i lawer o fynydd-dir arall sy'n dangos olion ‘trefnu' yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, does fawr o ‘ychwanegolion' yma.

Mae llawer o'r tir heb ei amgáu, yn agored ac yn cynnwys ychydig o dyddynnod hwnt ac yma. Ar lethrau'r dyffryn mae'r patrwm gwasgaredig yn amlwg eto, er y ceir cnewyllyn bach (yn arbennig o gwmpas Llanbedr-y-Cennin). Maent yn amrywio o ffermydd bach, neu hendre ar y mynydd-dir i ffermydd ysblennydd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg â'u cyfres o dai allan, modern.

Mae sawl prif ffordd flaenorol yn arwain drwy'r ardal (gan gysylltu dyffryn Conwy â'r gwastatir arfordirol, cyn i ffordd yr arfordir gael ei hadeiladu ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif). Gellir dilyn olion y sarn Rufeinig o Gaerhun mewn mannau; daeth y ffordd o Ro Wen heibio Rhiw (os nad oedd yn dilyn) i gymryd ei lle: mae'n debyg fod ffordd i'r de yn ddiweddarach wedi dod yn lle hon. Yn ddiddorol, mae'r llwybrau uchaf (bellach yn ffordd a llwybr troed) yn dilyn ymyl y tir hŷn sydd wedi ei amgáu (sy'n dyddio yn ôl i'r cyfnod cyn y gweithgarwch mawr cau tiroedd yng Nghaerhun yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg). Prin yw'r llwybrau troed sy'n dilyn llwybrau troellog fel y disgwylid, ond maent yn torri ar draws patrymau caeau a chyfundrefnau caeau cynharach. Mae lonydd dwfn yn arwain o ochr y prif ddyffryn i fynydd-dir sy'n cynnwys waliau cerrig. Yma mae'r llwybrau'n fwy llydan ac agored, er yn cadw eu nodweddion.

 

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Creuddyn ac Arllechwedd

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol