English

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Creuddyn ac Arllechwedd – Ardal 15 Dolydd bryniog, i'r gorllewin o'r Conwy PRN 15809


SH 768735 yn edrych i'r de-orllewin. Yn dangos bryniau wedi'i hamgáu, gydag annedd gwasgaredig a golwg mwy coediog sy'n cynnwys gwrychoedd a choetiroedd


 

 

Cefndir Hanesyddol

Mae tir pori wedi'i wella ar lethrau bryniog, caeau corn, nifer o gymunedau bach cnewyllol fel Ro Wen a Henryd, a ffermydd mawr yn nodweddu'r dirwedd i'r de o'r Conwy. Ar un adeg, roedd llawer o drefgorddau Canoloesol Arllechwedd Isaf a chanolfan y cwmwd yn yr ardal hon, yn Nhal y Cafn, mwy na thebyg.1

Mae pwysigrwydd tyfu corn a llif yr afonydd sy'n croesi'r ardal hon wedi sicrhau traddodiad hir o felino ac mae adeiladau Melin Bulkeley, Melin Gwenddar a Melin Pont Wgan wedi goroesi. Bellach fe'u hail-ddefnyddir oll yn anheddau. Bu cloddio am blwm yn Nhrecastell. Efallai bod y gweithfeydd hyn yn dyddio yn ôl i'r cyfnod canoloesol, neu hyd yn oed cynhanesyddol, ond fel sy'n wir am fwynglawdd Pwllycochion, ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roeddynt yn gweithredu ar raddfa fach. Dechreuodd y gwaith ym 1892, ac roedd y pwll yn cynhyrchu 6,425 tunnell o fwyn plwm a 12,554 o flend erbyn 1913, gan ei wneud yn un o'r gweithfeydd mwyaf proffidiol o'i bath yng Nghymru.2 Fe'i caewyd ym 1920, a'i hailagor ym 1948, ond ar ôl cynnal archwiliad o'r lefel isaf ym 1956,3 fe'i gadawyd yn segur. Mae'r safle wedi'i dirlunio'n helaeth ond mae simnai mwyndoddwr a simnai cynllun sgwâr wedi goroesi, yn dyddio rhwng 1913 a 1920 mwy na thebyg, ynghyd â thair lefel yn union i'r de.

 

Prif nodweddion tirweddau hanesyddol

Caeau wedi dirywio, annedd gwasgarog, pentrefi, llwybrau ffordd

Ardal sy'n cynnwys annedd hynafol, ‘pentrefi', anheddau gwasgarog (ffermydd yn bennaf ond yn cynnwys mathau eraill), â thai teras, y mae pobl fwy cefnog yn gynyddol yn eu ffafrio (nifer fawr y ceffylau yn y caeau a datblygiadau tai annodweddiadol yn arwydd o hyn).

Chwalodd patrymau caeau i bob pwrpas am eu bod wedi'u cyfuno: nifer fawr o ffensiau postyn a weiren.

Sawl dull tramwy, o lwybrau troed i brif ffordd yn arwain o'r gogledd i'r de (yn disodli'r traciau cynharach o'r dwyrain i'r gorllewin dros y mynyddoedd o'r dyffryn y gellir eu holrhain o hyd.

 

1 C. Gresham, ‘The Commotal Centre of Arllechwedd Isaf' TCHS 40 (1979), pp. 11-16.

2W.J. Lewis, Lead Mining in Wales (UWP Cardiff, 1967), pp. 238-40.

3 C.J. Williams, Metal Mines of North Wales (Rhuddlan, 1980).

 

 

 

Yn ôl i Nodweddion Tirwedd Hanesyddol Creuddyn ac Arllechwedd

Visit our social network sites
Ymwelwch a'n safleoedd rhwydwaith cymdeithasol